Neidio i'r prif gynnwy

Mae dwy gyfradd ardoll a all fod yn berthnasol i arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr sy'n digwydd o dan gontract ac o fewn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll. Rhaid i'r arhosiad dros nos gael ei darparu trwy fasnach neu fusnes a gynhelir gan y darparwr llety ymwelwyr.

Dyma’r ddwy gyfradd:

  • cyfradd is yr ardoll yw 75 ceiniog
  • y gyfradd uwch yw £1.30

Gall Gweinidogion Cymru ddiwygio cyfradd is a chyfradd uwch yr ardoll yn y dyfodol.

Penderfynu pa gyfradd sy'n berthnasol: cyfradd is

Mae'r gyfradd is o 75 ceiniog yn berthnasol pan fo ymwelwyr yn aros dros nos mewn llety ymwelwyr sydd:

  • yn llain neu ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla
  • yn ystafell aml-wely, ystafell a rennir, neu’n ardal a rennir sy’n cael ei darparu fel arfer ar y sail y bod eraill yn gallu aros yno hefyd o dan gontract gwahanol

Mae'r gyfradd hon yn adlewyrchu bod llety yn debygol o fod â chyfleusterau sy’n cael eu rhannu gan yr ymwelwyr, megis ystafelloedd ymolchi, gofod cegin ac ardaloedd cymunedol eraill.

Dylid diystyru person sydd o dan 18 oed ar y noson gyntaf y mae ganddynt hawl i aros mewn llety ymwelwyr, neu mewn llety ymwelwyr lle mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys, wrth gyfrifo swm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â'r contract hwnnw.

Llain neu ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla

Mae cyfradd is yr ardoll yn berthnasol i leiniau neu ardaloedd ar gyfer gwersylla.

Mae'r gyfradd is yn berthnasol i leiniau pebyll a ddefnyddir ar gyfer gwersylla, ond nid yw'n cynnwys lleiniau neu ardaloedd a ddarperir ar gyfer cartrefi symudol, megis carafannau a faniau gwersylla. Bydd cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol i leiniau neu ardaloedd a ddarperir ar gyfer cartrefi modur, neu lety tebyg.

Ystafell aml-wely neu fath arall o ystafell neu ardal sy’n cael ei rannu

Mae'r gyfradd is hefyd yn berthnasol i lety ymwelwyr lle mae'r contract ar gyfer lle i gysgu mewn ystafell neu ardal sy’n cael ei rhannu. Byddai hyn yn gyffredinol yn cynnwys ystafelloedd aml-wely, cytiau, tai bync, hosteli a thai bothy.

Yr egwyddor allweddol yw bod yr archeb a'r contract ar gyfer lle mewn ystafell neu ardal lle gall eraill sydd wedi archebu lle o dan gontract gwahanol fod yn ei rannu hefyd.

Ni fyddai ystafelloedd preifat mewn hosteli neu lety tebyg sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ar y gyfradd is gan y bydd yr archeb a'r contract ar gyfer yr ystafell gyfan. Gan na allai eraill archebu lle yn yr ystafell breifat honno o dan gontract ar wahân, ni all cyfradd is yr ardoll fod yn berthnasol.

Fodd bynnag, pan fo lleoliad llety ymwelwyr ar y gyfradd is fel arfer, ond mae clwb, cymdeithas neu grŵp arall yn archebu'r llety ymwelwyr cyfan, bydd y gyfradd is yn parhau i fod yn berthnasol. Mae hyn oherwydd bod y llety ymwelwyr fel arfer yn cael ei ddarparu ar y sail y gall unigolion eraill o dan gontractau gwahanol aros yno hefyd.

Enghraifft 1

Mae clwb mynydda wedi archebu cwt cyfan dros benwythnos fel rhan o'u taith gerdded. Mae'r cwt fel arfer yn cael ei archebu gan unigolion sydd eisiau gwely mewn ystafell aml-wely a rennir. Gan fod y llety fel arfer yn cael ei ddarparu ar y sail y gallai eraill rannu’r ystafell hefyd, cyfradd is yr ardoll fydd yn berthnasol i’r archeb grŵp gan y clwb mynydda.

Enghraifft 2

Mae hostel ieuenctid fel arfer yn cael ei archebu fesul gwely, ond weithiau maent yn caniatáu i grwpiau mwy archebu'r llety cyfan ar gyfer digwyddiadau. Gan mai cyfradd is yr ardoll sydd fel arfer yn berthnasol i hosteli ieuenctid, mae'n parhau i fod yn berthnasol pan fo archebion mwy a phreifat yn digwydd o bryd i'w gilydd.

Penderfynu pa gyfradd sy'n berthnasol: cyfradd uwch

Mae'r gyfradd uwch o £1.30 yn berthnasol i arosiadau dros nos ym mhob math arall o lety ymwelwyr.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn amlwg pryd fydd y gyfradd uwch o'r ardoll yn berthnasol, o ystyried mai dim ond i ddau fath o lety y mae’r gyfradd is yn berthnasol, sef lleiniau pebyll a llety mewn ystafelloedd aml-wely.

Felly, bydd cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol i lety sy’n cynnwys:

  • gwestai, gwely a brecwast, tai llety a llety tebyg
  • lleiniau neu ardaloedd a ddarperir ar gyfer carafannau, cartrefi modur a faniau gwersylla
  • llety hunanarlwyo, gan gynnwys:
    • cabanau
    • chalets
    • bythynnod
    • tai gosod
    • parciau carafannau
    • cytiau bugail
    • safleoedd glampio
    • arosiadau yng nghartrefi neu ystafelloedd sbâr pobl, er enghraifft Airbnb
  • llety dros dro mewn digwyddiadau, cyn belled nad ydynt yn lleiniau pebyll ar gyfer gwersylla

Lleiniau neu ardaloedd a ddarperir ar gyfer carafannau, cartrefi modur a faniau gwersylla

Pan fo llain neu ardal yn cael ei harchebu a phan fo’r contract ar gyfer cartref symudol neu debyg, bydd cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol. Pan fo gan gartref symudol adlen neu babell gerllaw iddo, bydd y gyfradd uwch yn parhau i fod yn berthnasol gan fod y contract ar gyfer y llain neu'r ardal wedi’i wneud ar y sail y bydd cartref symudol yno.

Unedau hunanarlwyo penodol

Bydd cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol pan fo'r contract i aros dros nos yn ymwneud â lleoliad hunanarlwyo y mae darparwr llety yn ei gynnig i ymwelwyr, er enghraifft pod glampio, cwt bugail, yurt neu lety arall o’r fath. Er y gall llawer o'r mathau hyn o lety fod â lleiniau neu ardaloedd cyfagos ar gyfer pebyll, nid yw’r ymwelydd wedi dewis aros yn un o’r rhain, ond yn hytrach wedi contractio i aros mewn math penodol o lety y mae’r darparwr llety ymwelwyr yn ei gynnig. Felly, bydd y gyfradd uwch yn berthnasol pan fo pobl yn aros dros nos yn y mathau hyn o lety.

Gallai Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau yn y dyfodol, ychwanegu, amrywio neu ddileu mathau neu ddisgrifiadau o lety ymwelwyr at ddibenion pennu pa gyfradd yr ardoll sy'n gymwys.