Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Os oes gan ddarparwr llety ymwelwyr leoliad llety sy'n croesi ffiniau mwy nag un ardal prif gyngor, yr ardal lle mae'r rhan fwyaf, neu'r rhannau mwyaf o’r lleoliad a ddefnyddir at ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr.

Pan fo llety ymwelwyr mewn mwy nag un prif ardal cyngor ac yn cael ei drin fel pe bai mewn ardal lle nad yw'r ardoll yn berthnasol, ni fydd yr ardoll yn daladwy am y llety hwnnw.

Enghraifft o safle gwersylla sydd mewn mwy nag un ardal cyngor

Mae gan wersyll 7 saith o gaeau 1 erw yr un ar gyfer gwersylla. O’r caeau hynny:

  • mae 4 o fewn ardal prif gyngor lle mae'r ardoll wedi’i chyflwyno (cyfanswm o 4 erw)
  • mae 2 o fewn ardal cyngor cyfagos lle nad yw'r ardoll wedi’i chyflwyno (cyfanswm o 2 erw), a
  • mae 1 cae ar draws y ffin rhwng y cynghorau, gyda thua hanner (0.5 erw) ym mhob un

Gan fod y rhannau mwyaf o'r lleoliad, sef 4.5 erw, o fewn ardal prif cyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr gydymffurfio â rheolau'r Ardoll Ymwelwyr a chyfrif am arosiadau dros nos ym mhob un o'i 7 cae.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen