Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Dyletswydd i lenwi ffurflenni Ardoll Ymwelwyr
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfrifoldeb y darparwr llety ymwelwyr yw ffeilio eu ffurflen ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr gydag ACC.
Gan fod yr Ardoll Ymwelwyr yn dreth sy’n cael ei hunanasesu, rhaid i'r ffurflen a ffeiliwyd gan y darparwr llety ymwelwyr gynnwys hunanasesiad o swm yr ardoll sy'n daladwy ganddynt i ACC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Bydd angen i'r ffurflen hefyd gynnwys datganiad gan y darparwr llety ymwelwyr bod y ffurflen a'r wybodaeth arni, ac ar unrhyw ddogfen a gyflwynir gyda'r ffurflen, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eu gwybodaeth.
Pan fo darparwr llety ymwelwyr wedi awdurdodi asiant, cyfrifydd neu drydydd parti arall i gwblhau'r ffurflen Ardoll Ymwelwyr ar eu rhan, bydd angen i'r trydydd parti ardystio bod y darparwr llety ymwelwyr wedi gwneud datganiad bod y ffurflen yn wir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y darparwr llety ymwelwyr.
Talu’r Ardoll i ACC
Bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr dalu’r ardoll sydd wedi'i hunanasesu yn y ffurflen Ardoll Ymwelwyr i ACC ar neu cyn y dyddiad ffeilio.
Bydd y dyddiad ffeilio yn dibynnu ar a yw darparwr llety ymwelwyr yn ffeilio eu ffurflen dreth yn flynyddol neu'n chwarterol.
Ffurflenni blynyddol neu chwarterol
Mae ffurflenni Ardoll Ymwelwyr yn cael eu ffeilio yn chwarterol neu'n flynyddol.
Bydd canllawiau pellach ar gael ar sut i gwblhau ffurflen Ardoll Ymwelwyr maes o law.
Yn flynyddol
Gall darparwyr llety ymwelwyr ffeilio’n flynyddol ar yr amod eu bod:
- yn disgwyl y byddant yn atebol am dalu £1,000 neu lai o ardoll am y flwyddyn ariannol, a
- nad oeddent yn atebol am dalu mwy na £1,000 o ardoll yn y flwyddyn ariannol flaenorol
Mae'r flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth.
Enghraifft
Mae Claudette newydd ddechrau darparu llety ymwelwyr. Mae'n dechrau masnachu ym mis Ionawr 2028, ac mae'n disgwyl y bydd yn atebol am lai na £1,000 o ardoll am weddill y flwyddyn ariannol, a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2028. Gan fod Claudette yn ddarparwr llety ymwelwyr newydd, nid oes ganddi flwyddyn ariannol flaenorol i'w hystyried pan fydd yn penderfynu sut y dylai ffeilio a thalu ei ffurflen Ardoll Ymwelwyr. O ganlyniad, gall ddewis ffeilio’n flynyddol.
Gall darparwr llety ymwelwyr sy'n gymwys i ffeilio’n flynyddol benderfynu ffeilio ffurflenni a thalu unrhyw ardoll y maent yn atebol amdani i ACC bob chwarter.
Cyfnod cyfrifyddu blynyddol
Yn gyffredinol, ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr sy'n ffeilio’n flynyddol, mae'r flwyddyn ariannol yr un fath â'r cyfnod cyfrifyddu. Sef 1 Ebrill hyd 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn.
Fodd bynnag, gall y cyfnod cyfrifyddu fod yn fyrrach yn y flwyddyn gyntaf o ddod yn ddarparwr llety ymwelwyr a dechrau gweithrediadau y gellir codi ardoll amdanynt. Mae darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau y gellir codi ardoll amdanynt ar y diwrnod cyntaf y maent yn dechrau darparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r gorau i ddarparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol, ac yna'n penderfynu ailgychwyn eu gweithgaredd. Mae'r darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau y gellir codi ardoll amdanynt ar y diwrnod y maent yn ailddechrau darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn yr ardal lle cyflwynwyd yr ardoll.
Os bydd prif gyngor yn penderfynu cyflwyno'r ardoll yn eu hardal o 1 Hydref ymlaen, mae'r darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau y gellir codi ardoll amdanynt ar yr un dyddiad, hyd yn oed os oeddent eisoes yn darparu neu'n cynnig darparu llety ymwelwyr yn ardal y cyngor cyn y dyddiad hwnnw.
Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau y gellir codi’r ardoll arnynt, bydd y cyfnod cyfrifyddu yn dechrau ar y diwrnod y dechreuwyd y gweithrediadau dan sylw ac yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pan ddechreuodd eu cyfnod cyfrifyddu.
Enghraifft 1
Dechreuodd Claudette gynnig llety ymwelwyr ar 15 Ionawr 2028. Ei chyfnod cyfrifyddu felly yw 15 Ionawr 2028 hyd 31 Mawrth 2028.
Enghraifft 2
Mae Hanna wedi bod yn rhedeg gwesty ers 2024. Mae'r prif gyngor ar gyfer yr ardal lle mae gwesty Hanna wedi penderfynu y bydd yr ardoll ymwelwyr yn dechrau ar 1 Hydref 2028. Er bod Hanna eisoes yn rhedeg ei gwesty cyn i'r ardoll ddechrau yn ei hardal, ei chyfnod cyfrif cyntaf ar gyfer ffurflenni treth blynyddol fydd 1 Hydref 2028 tan 31 Mawrth 2029.
Enghraifft 3
Mae Norman yn berchen ar fusnes llety hunanarlwyo o fewn ardal prif gyngor yng Nghymru lle nad yw'r ardoll yn berthnasol. Yna, mae'n prynu gwely a brecwast o fewn ardal prif gyngor sydd eisoes wedi cyflwyno’r ardoll. At ddibenion yr Ardoll Ymwelwyr, mae Norman yn dechrau gweithrediadau y gellir codi’r ardoll arnynt ar y diwrnod y mae'n dechrau cynnig darparu neu ddarparu llety ymwelwyr yn y gwesty gwely a brecwast.
Cyfnod ffeilio blynyddol
Rhaid cyflwyno’r ffurflen dreth a thalu’r ardoll ddyledus ar neu cyn y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen. Y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflenni treth blynyddol yw 31 Mai ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
Enghraifft
Mae Claudette yn ffeilio ei ffurflen dreth flynyddol gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2028. Bydd angen iddi ffeilio ei ffurflen Ardoll Ymwelwyr a thalu'r ardoll sy’n ddyledus i ACC erbyn 31 Mai 2028.
Ar sail chwarterol
Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr ffeilio bob chwarter os:
- ydynt yn disgwyl y byddant yn atebol i dalu mwy na £1,000 o ardoll am y flwyddyn ariannol
- oeddent yn atebol i dalu mwy na £1,000 o ardoll yn y flwyddyn ariannol flaenorol, neu
- ydynt yn penderfynu ffeilio bob chwarter, er y gallent ffeilio'n flynyddol
Cyfnod cyfrifyddu chwarterol
Y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr sy'n ffeilio eu ffurflen ardoll yn chwarterol yw'r chwarter calendr. Y chwarteri calendr yw’r cyfnodau 3 mis sy'n dod i ben ar:
- 31 Mawrth
- 30 Mehefin
- 30 Medi
- 31 Rhagfyr
Fodd bynnag, gall y cyfnod cyfrifyddu fod yn fyrrach yn y chwarter calendr pan fo’r darparwr yn dechrau eu gweithrediadau y gellir codi’r ardoll arnynt. Mae darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau lle gellir codi’r ardoll arnynt ar y diwrnod cyntaf y maent yn dechrau darparu neu gynnig darparu llety i ymwelwyr mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol.
Enghraifft
Mae Cordelia wedi bod yn rhedeg ei gwesty gwely a brecwast ers 2022. Mae ei chyngor lleol yn penderfynu cyflwyno'r ardoll yn ei hardal o 1 Ebrill 2029. Y dyddiad y bydd Cordelia yn dechrau gweithrediadau y gellir codi’r ardoll arnynt yw 1 Ebrill 2029. Does dim ots ei bod wedi darparu llety ymwelwyr yn ei gwely a brecwast cyn 1 Ebrill 2029. Y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer ei chwarter cyntaf yw 1 Ebrill 2029 tan 30 Mehefin 2029.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r gorau i ddarparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol, ac yna'n penderfynu ailgychwyn eu gweithgaredd. Mae'r darparwr llety ymwelwyr yn dechrau gweithrediadau y gellir codi’r ardoll arnynt ar y diwrnod y maent yn ailddechrau darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn yr ardal lle cyflwynwyd yr ardoll.
Cyfnod ffeilio chwarterol
Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n ffeilio ar sail chwarterol ffeilio eu ffurflen dreth a thalu unrhyw ardoll sy'n ddyledus ar neu cyn y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen dreth. Y dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen dreth yw 60 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter y mae'r ffurflen dreth yn ymwneud ag ef.
- Chwarter 1 yw 1 Ebrill tan 30 Mehefin, a'r dyddiad ffeilio yw 29 Awst
- Chwarter 2 yw 1 Gorffennaf tan 30 Medi, a'r dyddiad ffeilio yw 29 Tachwedd
- Chwarter 3 yw 1 Hydref tan 31 Rhagfyr, a'r dyddiad ffeilio yw 29 Chwefror mewn blynyddoedd naid, neu 1 Mawrth mewn blynyddoedd nad ydynt yn flynyddoedd naid
- Chwarter 4 yw 1 Ionawr tan 31 Mawrth, a'r dyddiad ffeilio yw 30 Mai
Enghraifft
Mae gwesty newydd yn agor ar 6 Medi 2028 mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol. Bydd y darparwr llety ymwelwyr sy'n rhedeg y gwesty yn ffeilio bob chwarter a’u cyfnod cyfrifyddu cyntaf fydd 6 Awst 2028 tan 30 Medi 2028. Bydd angen iddynt ffeilio eu ffurflen ardoll ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu byrrach hwn, a thalu unrhyw atebolrwydd, erbyn 29 Tachwedd 2028.
Newid amlder
Dim ond ar ddechrau blwyddyn ariannol y gall darparwyr llety ymwelwyr newid pa mor aml y maent yn ffeilio. Fodd bynnag, ni chaniateir i ddarparwyr llety ymwelwyr newid pa mor aml y maent yn ffeilio ffurflenni treth os ydynt wedi cael un neu fwy o bwyntiau cosb am fethu â ffeilio eu ffurflen ardoll yn brydlon.
Ffurflenni treth sero
Rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr ffeilio ffurflen dreth ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu pan oeddent yn darparu llety ymwelwyr mewn ardal lle mae'r Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol. Rhaid iddynt wneud hyn hyd yn oed pan nad oes unrhyw Ardoll Ymwelwyr yn ddyledus i ACC gan na fu unrhyw arosiadau dros nos ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu dan sylw, rhaid iddynt gyflwyno ffurflen dreth beth bynnag.
Er enghraifft, bydd angen i ddarparwr llety ymwelwyr sy'n ffeilio'n chwarterol, ond sydd ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu rhwng 26 Medi a 5 Ionawr, ffeilio ffurflen dreth ar gyfer y chwarter a ddaw i ben 31 Rhagfyr, ac arni’r swm hunanasesu o £0 gan na fu unrhyw arosiadau dros nos.
