Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ACC yn gwneud mwy o waith ar ad-daliadau cyn i unrhyw ardoll gael ei chyflwyno. Bydd canllawiau pellach ar ad-daliadau yn cael eu darparu, gan gynnwys:

  • sut y bydd hawliadau'n cael eu cyflwyno
  • pa dystiolaeth a fydd yn ofynnol i gyd-fynd â hawliad
  • amseru hawliadau, a pha wybodaeth fydd yn angenrheidiol ar gyfer gwneud hawliad
  • enghreifftiau o achosion pan all ad-daliadau ddod yn ddyledus

Ad-dalu'r ardoll ar archebion sy’n cael eu canslo

Dim ond ar arosiadau dros nos y mae'r Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol. Pan fydd archeb wedi'i wneud ar gyfer arhosiad dros nos, ac mae'r archeb hwnnw'n cael ei ganslo, ni fydd ardoll yn daladwy. Mae hyn am na fydd unrhyw arhosiad dros nos wedi digwydd.

Felly, nid yw darparwyr llety ymwelwyr yn talu'r ardoll ar archebion sy’n cael eu canslo nac ar archebion lle nad oes unrhyw un o'r ymwelwyr yn cyrraedd eu llety.

Pan fo darparwr llety ymwelwyr wedi casglu swm ar gyfer yr ardoll cyn i'r arhosiad dros nos ddigwydd, er enghraifft pan wnaed yr archeb, yna eu cyfrifoldeb nhw yw ad-dalu’r ymwelydd am unrhyw symiau ardoll a gasglwyd, p'un ai yw elfennau eraill o'r archeb yn cae; boed rhannau eraill o’r archeb yn ad-daladwy neu’n rhannol ad-daladwy neu beidio.

Pan fo archeb yn cael ei chanslo ac nad oes unrhyw swm wedi’i chasglu i dalu’r ardoll, nid oes angen unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ardoll.

Ad-dalu symiau sy'n cyfateb i'r ardoll

Mewn rhai amgylchiadau, gall person wneud cais i ACC am 'ad-daliad o’r ardoll', naill ai yn ei chyfanrwydd neu’n rhannol, a dalwyd ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn y gorffennol. Pan fydd ymgeisydd yn gofyn am ad-daliad ardoll gan ACC, bydd hynny am yr elfen ardoll yn unig, felly £0.75 neu £1.30 yn dibynnu ar y gyfradd ar gyfer y llety ymwelwyr dan sylw.

Iechyd, diogelwch neu les

Gellir ad-dalu’r ardoll os bydd person wedi gorfod aros dros nos mewn llety ymwelwyr o dan gontract am nad oeddent yn gallu preswylio yn ei unig breswylfa neu eu prif breswylfa oherwydd risg i'w iechyd, diogelwch neu les.

Digartrefedd

Gellir ad-dalu’r ardoll pan fo person wedi aros dros nos mewn llety ymwelwyr o dan gontract am eu bod yn ddigartref ar adeg yr arhosiad (o fewn ystyr adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014).

Gofalu neu gefnogi person ag anabledd

Gellir ad-dalu’r ardoll pan fo person (Person P):

  • wedi aros dros nos mewn llety ymwelwyr o dan gontract
  • yn ystod yr arhosiad, roedd Person P yng nghwmni person (Person A) a oedd yn cael budd-dal anabledd ar adeg yr arhosiad, ac roedd Person P yn darparu gofal neu gymorth i Berson A, a
  • roedd Person P yn aros yn yr un lleoliad â Pherson A

Er mwyn i ACC allu ad-dalu’r ardoll a godwyd ar arhosiad dros nos, mae’n rhaid gwneud cais i ACC am ad-daliad, a hynny:

  • gan y person sydd, o dan y contract, wedi darparu cydnabyddiaeth (megis taliad) mewn perthynas â'r arhosiad dros nos
  • o fewn 90 diwrnod i'r hawl a roddwyd mewn contract i aros yn y lleoliad llety ymwelwyr ddod i ben

Er enghraifft, os oedd gan berson hawl i aros mewn lleoliad llety ymwelwyr ar 31 Awst, rhaid iddynt fod wedi gwneud eu cais erbyn 28 Tachwedd.

Bydd ACC yn ystyried unrhyw gais a wneir, ac yna bydd yn penderfynu a ddylid gwneud yr ad-dalu neu beidio. Gall ad-daliad fod yn rhannol neu'n llawn.

Pan fo ACC o'r farn na ddylid ad-dalu pob person a arhosodd dros nos o dan y contract a/neu am bob noson o'r arhosiad o dan y contract, bydd yn ad-dalu'r swm y maent yn ystyried sy’n gywir i'r ymgeisydd.

Ystyr budd-dal anabledd

At ddibenion ad-daliadau ardoll, ystyr ‘budd-dal anabledd’ yw:

  • lwfans byw i'r anabl o dan adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (c. 4) neu adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992 (c. 7)
  • taliad annibyniaeth bersonol o dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (c. 5) neu Ran 5 o Orchymyn Diwygio Lles (Gogledd Iwerddon) 2015 (S.I. 2015/2006 (N.I. 1))
  • lwfans presenoldeb o dan adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992
  • lwfans presenoldeb cyson o dan adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992
  • taliad anabledd i oedolion o dan Reoliadau Cymorth Anabledd i Bobl o Oedran Gweithio (Yr Alban) 2022 (S.S.I. 2022/54) neu Reoliadau Cymorth Anabledd i Bobl o Oedran Gweithio (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Yr Alban) 2022 (S.S.I. 2022/217)
  • taliad anabledd plant o dan Reoliadau Cymorth Anabledd i Blant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2021 (S.S.I 2021/174)
  • taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan erthygl 24A o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011 (S.I 2011/517)
  • lwfans presenoldeb cyson o dan:
    • erthygl 14 neu 43 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (S.I 1983/686)
    • erthygl 8 o'r Lluoedd Llynges, Milwrol ac Awyr ac ati. (Anabledd a Marwolaeth) Gorchymyn Pensiynau Gwasanaeth 2006 (S.I 2006/606)
  • taliad atodol symudedd o dan: 
    • erthygl 25A neu 48A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (S.I. 1983/686)
    • erthygl 20 o'r Lluoedd Llynges, Milwrol ac Awyr ac ati. (Anabledd a Marwolaeth) Gorchymyn Pensiynau Gwasanaeth 2006 (S.I 2006/606)