Neidio i'r prif gynnwy

Mae swm yr Ardoll Ymwelwyr sy'n deillio o arhosiad dros nos yn seiliedig ar nifer y nosweithiau y mae gan ymwelwyr hawl i aros o dan y contract.

Bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr gyfrifo'r atebolrwydd ar gyfer pob arhosiad dros nos, a bydd yr atebolrwydd yn codi pan fydd y contract gyda'r ymwelydd yn dod i ben a’u hawl i aros yn y lleoliad yn darfod.

Cyfrifo'r ardoll

Mae swm yr ardoll sy’n ddyledus am arhosiad dros nos yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • yn gyntaf, rhaid pennu nifer y nosweithiau y codir yr ardoll amdanynt, ac yna
  • lluosi cyfanswm y nosweithiau y codir yr ardoll amdanynt gyda’r gyfradd ardoll sy’n berthnasol i'r llety lle mae'r arhosiad dros nos yn digwydd

Nosweithiau y codir yr ardoll

Er mwyn pennu sawl noson y codir yr ardoll amdanynt, rhaid edrych yn gyntaf ar faint o bobl oedd â hawl o dan y contract i aros dros nos yn y llety.

Dim ond un person â hawl i aros

Os mai dim ond un person sydd â hawl i breswylio dros nos yn y llety o dan y contract, bydd cyfanswm y nosweithiau y gellir codi’r ardoll amdanynt yr un fath â nifer y nosweithiau yr oedd gan y person hawl i aros o dan y contract.

Er enghraifft, mae Bert yn archebu ystafell i’w hun mewn gwesty ac yn aros am 6 noson. Gan mai contract am ystafell ar gyfer un person ydyw, sef Bert, a’i fod â hawl i aros am 6 noson, nifer y nosweithiau y gellir codi’r ardoll amdanynt yw 6.

Mwy nag un person â hawl i aros

Os yw’r contract yn rhoi hawl i fwy nag un person breswylio dros nos yn y llety, mae cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • cyfrifo sawl noson yr oedd gan bob person hawl i aros dros nos yn ôl y contract, ac yna
  • adio’r rhifau hynny at ei gilydd

Er enghraifft, mae Richard a Susan yn archebu lle i aros mewn bwthyn am 5 noson. Dyma sut mae pennu nifer y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt:

  • roedd gan Richard hawl i aros am 5 noson
  • roedd gan Susan hawl i aros am 5 noson
  • gyda’i gilydd, cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt yr 10

Person sydd o dan 18 oed

Dylid diystyru person sydd o dan 18 oed ar y noson gyntaf y mae ganddynt hawl i aros mewn llety ymwelwyr, neu mewn llety ymwelwyr lle mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys, wrth gyfrifo swm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â'r contract hwnnw.

O ganlyniad, nid yw eu hawl i breswylio yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo swm yr ardoll, ac nid yw’r nosweithiau pan oedd ganddynt hawl i aros yn cyfrif fel nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt.

Pan fydd rhywun yn troi'n 18 oed tra byddant yn aros mewn llety ymwelwyr lle mae cyfradd isaf yr ardoll yn berthnasol, byddant yn parhau i gael eu diystyru wrth gyfrifo swm yr ardoll sy'n daladwy am y contract dan sylw.

Cyfrifo'r ardoll ar arosiadau dros nos lle mae cyfradd is yr ardoll yn berthnasol

Enghraifft 1

Mae Amy wedi archebu llain ar gyfer ei phabell mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol, a bydd yn gwersylla yno am 7 diwrnod. Gan ei bod yn aros mewn pabell, cyfradd is yr ardoll sy’n berthnasol.

I gyfrifo'r ardoll sy'n daladwy am ei harhosiad dros nos:

  1. pennwch sawl noson y gellir codi ardoll amdanynt, sef 7
  2. lluoswch y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â'r gyfradd berthnasol, 7 × £0.75 sef £5.25

Cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas ag arhosiad Amy yw £5.25.

Enghraifft 2

Mae teulu o 5, sy'n cynnwys 2 oedolyn a 3 o blant, yn archebu llain i wersylla am 3 noson mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol. Mae’r plant i gyd dan 18 oed. Gan eu bod yn aros mewn pabell, cyfradd is yr ardoll sy’n berthnasol.

I gyfrifo'r ardoll sy'n daladwy am eu harhosiad dros nos:

  1. pennwch sawl noson y gellir codi ardoll amdanynt, sydd yn 6 (cyfrifir hyn trwy adio’r holl nosweithiau y mae gan bob rhiant hawl i aros dros nos, gan hepgor nosweithiau’r plant gan eu bod yn iau na 18)
  2. lluoswch y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â'r gyfradd, 6 × £0.75 sef £4.50

Cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas ag arhosiad y teulu yw £4.50.

Cyfrifo'r ardoll ar arosiadau dros nos lle mae cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol

Enghraifft 1

Mae Zachary yn archebu lle mewn pod glampio am 4 noson mewn ardal lle mae’r Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol. Cyfradd uwch yr ardoll sy’n berthnasol pan fo rhywun yn aros mewn pod glampio.

I gyfrifo'r ardoll sy'n daladwy am eu harhosiad dros nos:

  1. pennwch sawl noson y gellir codi ardoll amdanynt, sydd yn 4
  2. lluoswch y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â'r gyfradd, 4 × £1.30 sef £5.20

Cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â hawl Zachary i aros yw £5.20.

Enghraifft 2

Mae Jeremy a Karen a'u mab, Gary, yn archebu chalet i aros ynddo am 10 diwrnod mewn ardal lle mae’r Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol. Mae cyfradd uwch yr ardoll yn berthnasol i arosiadau mewn chalet.

I gyfrifo'r ardoll sy'n daladwy am eu harhosiad dros nos:

  1. pennwch sawl noson y gellir codi ardoll amdanynt, sydd yn 30 (cyfrifir hyn trwy ychwanegu nifer y nosweithiau y mae gan Jeremy, Karen a Gary hawl i aros dros nos)
  2. lluoswch y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â'r gyfradd, 30 × £1.30 sef £39.00

Cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â hawl y teulu i aros yw £39.00.

Arhosiad dros nos lle mae cyfradd is a chyfradd uwch o'r ardoll yn berthnasol

Pan wneir contract sy’n caniatáu:

  • I o leiaf un person aros mewn llety ymwelwyr y mae'r gyfradd uwch yn berthnasol iddo, ac
  • I o leiaf un person aros mewn llety ymwelwyr y mae'r gyfradd is yn berthnasol iddo

Yna, cyfrifir swm yr ardoll sy'n daladwy fel a ganlyn:

  1. cyfrifo’r ardoll mewn perthynas â'r llety ymwelwyr cyfradd uwch yn unig, yna
  2. cyfrifo’r ardoll mewn perthynas â'r llety ymwelwyr cyfradd is
  3. adio’r ddau swm hyn at ei gilydd

Enghraifft

Mae Penny, Ophelia a Florence yn archebu lle mewn parc gwyliau sy'n cynnig gwahanol fathau o lety, gan gynnwys cabanau a lleiniau ar gyfer pebyll. Er eu bod yn archebu eu hymweliad o dan un contract, bydd Penny yn treulio 4 noson mewn pabell ar un o leiniau’r llety ymwelwyr, tra bydd Ophelia a Florence yn aros mewn caban am 4 noson.

I gyfrifo'r ardoll sy'n ddyledus, rhaid:

  • ystyried Ophelia a Florence yn gyntaf, sy’n aros mewn llety ymwelwyr ar y gyfradd uwch
  • cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt yw 8, gan fod gan y ddwy hawl i aros 4 noson
  • cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â'r caban yw 8 × £1.30 sef £10.40
  • yna, ystyriwch Penny sy'n gwersylla mewn pabell
  • gan mai hi yw'r unig un sy'n aros yn y babell, cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt yw 4
  • cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â'r babell yw 4 × £0.75 sef £3.00
  • gan adio £10.40 a £3.00 at ei gilydd, cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy yw £13.40

Cyfrifo swm yr ardoll sy'n ddyledus am gyfnod cyfrifyddu

Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn cwblhau'r ffurflen Ardoll Ymwelwyr, boed hynny’n chwarterol neu'n flynyddol, bydd angen iddynt wneud y canlynol:

  1. cyfrifo'r ardoll sy'n daladwy fesul contract
  2. adio’r symiau hyn at ei gilydd i gael y swm y mae angen iddynt hunanasesu yn eu ffurflen

Enghraifft

Mae Marge yn defnyddio ei hanecs fel llety ymwelwyr, y gall pobl ei archebu ar gyfer arosiadau tymor byr. Mae'n ffeilio ei ffurflenni Ardoll Ymwelwyr bob chwarter. Dros y chwarter diwethaf, mae 5 gwahanol barti wedi aros dros nos, ac mae hi wedi cyfrifo'r ardoll sy'n daladwy fesul contract fel a ganlyn: 

  • archeb 1: £15.60
  • archeb 2: £23.40
  • archeb 3: £6.50
  • archeb 4: £33.80
  • archeb 5: £54.60

Cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy am y chwarter hwn yw'r symiau ar gyfer pob arhosiad dros nos wedi'u hadio at ei gilydd, sef £133.90.

Enghreifftiau penodol

Cyrraedd yn hwyr

Pan fydd ymwelwyr ddiwrnod neu fwy yn hwyr yn cyrraedd y lleoliad lle mae ganddynt gontract i aros, bydd yr ardoll sy'n daladwy o dan y contract yn seiliedig ar yr hawl o dan y contract, er y bydd yr ymwelwyr yn aros am gyfnod byrrach mewn gwirionedd.

Mae hyn oherwydd bod swm yr ardoll sy'n daladwy yn cael ei bennu trwy edrych ar hawl o dan y contract. Os bydd ymwelwyr yn cyrraedd yn hwyr, ni fydd yr hawl o dan y contract yn newid, ond bydd yr ymwelwyr yn colli un neu fwy o ddiwrnodau eu hymweliad.

Pan fo’r darparwr llety ymwelwyr yn amrywio neu'n diwygio'r contract i adlewyrchu'r ffaith bod yr ymwelwyr yn cyrraedd yn hwyr, yna byddai’n rhaid i swm yr atebolrwydd am yr ardoll ystyried y contract diwygiedig.

Enghraifft

Mae Nina a'i 3 ffrind yn teithio o gwmpas Cymru. Maent yn archebu caban mewn ardal lle mae’r ardoll wedi’i chyflwyno ac yn bwriadu cyrraedd ar ddydd Llun ac aros am 7 noson. Wrth archebu, maent yn nodi y bydd 4 oedolyn yn aros yn y caban. Mae Nina a'i 3 ffrind yn cael eu dal yn ôl, ac nid ydynt yn cyrraedd tan ddydd Mawrth. Yna, maen nhw'n treulio gweddill eu gwyliau yn y gwersyll.

Yr hawl dan delerau’r contract yw i 4 person aros am 7 noson, ac er eu bod yn cyrraedd ddiwrnod yn hwyr, nid yw'r hawl hon yn newid. Pennir cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy trwy:

  1. gyfrifo cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt, sy’n 28, sef 4 person â hawl i aros am 7 noson
  2. lluosi'r nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â chyfradd uwch yr ardoll, 28 × £1.30 = £36.40

Gadael yn gynnar

Am yr un rhesymau â’r rhai ar gyfer cyrraedd yn hwyr, pan fydd ymwelwyr yn gadael y lleoliad lle mae ganddynt gontract i aros yn gynnar, bydd yr ardoll sy'n daladwy o dan y contract yn seiliedig ar yr hawl o dan y contract, er bod yr ymwelwyr yn aros am gyfnod byrrach mewn gwirionedd.

Mae hyn oherwydd bod swm yr ardoll sy'n daladwy yn cael ei bennu trwy edrych ar hawl o dan y contract. Os bydd ymwelwyr yn gadael yn gynnar, ni fydd yr hawl o dan y contract wedi newid, ond bydd yr ymwelwyr yn colli un neu fwy o ddiwrnodau eu hymweliad.

Pan fo’r darparwr llety ymwelwyr yn amrywio neu'n diwygio'r contract i adlewyrchu'r ffaith bod yr ymwelwyr yn cyrraedd yn hwyr, yna byddai’n rhaid i swm yr atebolrwydd am yr ardoll ystyried y contract diwygiedig.

Enghraifft

Gan ddefnyddio'r un enghraifft ag uchod. Mae Nina a'i 3 ffrind yn teithio o gwmpas Cymru. Maent yn archebu caban mewn ardal lle mae’r ardoll wedi’i chyflwyno ac yn bwriadu cyrraedd ar ddydd Llun ac aros am 7 noson. Wrth archebu, maent yn nodi y bydd 4 oedolyn yn aros yn y caban. Maent yn cyrraedd ar amser ddydd Llun, ond mae 2 o ffrindiau Nina yn mynd yn sâl ac yn gadael nos Wener, felly dim ond am 4 noson y maent wedi aros.

Mae'r cyfrifiad yr un fath â’r uchod, gan mai'r hawl ar gyfer y contract yw i 4 o bobl aros 7 noson. Er bod 2 o ffrindiau Nina’n gadael yn gynnar, nid yw eu hawl o dan y contract yn newid. Pennir cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy trwy:

  1. gyfrifo cyfanswm y nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt, sy’n 28, sef 4 person â hawl i aros am 7 noson
  2. lluosi'r nosweithiau y gellir codi ardoll amdanynt â chyfradd uwch yr ardoll, 28 × £1.30 = £36.40

Ymwelwyr sydd ddim wedi’u cynnwys yn y contract

Mae'n bwysig bod darparwyr llety ymwelwyr yn cofnodi nifer y bobl sydd â hawl o dan y contract i breswylio yn y lleoliad llety ymwelwyr dros nos. Ni fydd y darparwr llety ymwelwyr yn gallu cyfrifo swm yr ardoll sy'n daladwy heb yr wybodaeth hon, ac os na fydd gwybodaeth archebu fanwl, mae'n debygol y byddai’n rhaid i ACC dybio bod y llety’n llawn ar bob archeb wrth asesu atebolrwydd.

Gwirio niferoedd ymwelwyr

Ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar ddarparwyr llety ymwelwyr i fonitro niferoedd ymwelwyr a all newid dros y cyfnod archebu. Y rhan bwysicaf o ran pennu cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy yw edrych ar yr hyn a gytunwyd yn y contract a greodd yr hawl i'r ymwelydd neu'r ymwelwyr aros. Mae'n fwyaf tebygol y bydd darparwyr llety ymwelwyr yn defnyddio'r archeb a'r contract gwreiddiol i gyfrifo'r ardoll sy'n daladwy ar arhosiad, a byddai tystiolaeth o hyn yn cael ei ddangos drwy'r cais archebu, y contract, y cadarnhad archebu ac unrhyw gofnodion eraill a grëwyd mewn perthynas â'r arhosiad hwnnw y mae'r darparwr llety ymwelwyr yn eu cadw.

Amrywio'r contract

Pan fo gwesteion yn cyrraedd yn hwyr, yn gadael yn gynnar, neu pan fo amgylchiadau eraill sy'n golygu nad yw'r contract gwreiddiol bellach yn adlewyrchu nifer yr ymwelwyr neu hyd eu harhosiad yn gywir, bydd cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy yn dal i gael ei bennu gan yr hawl o dan y contract.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall yr ymwelwyr a'r darparwr llety ymwelwyr amrywio'r contract er mwyn adlewyrchu’r newidiadau mewn amgylchiadau, megis ymweliad byrrach neu newid o ran nifer y gwesteion. Pan fydd contract yn cael ei amrywio, yna bydd cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy yn cael ei gyfrifo ar sail y contract diwygiedig.

Gan y byddai amrywiadau contract yn ymwneud â ffeithiau, ac yn dibynnu ar delerau ac amodau archebu y darparwyr llety ymwelwyr, ar gytundebau rhwng partïon, ar gyfnodau rhybudd ac ystod o newidynnau eraill, byddai’n rhaid i'r ymwelydd a'r darparwr llety ymwelwyr benderfynu a oes amrywiad i'r contract yn digwydd. Os nad yw’r contract yn cael ei amrywio, bydd cyfanswm yr ardoll sy'n daladwy yn dal i gael ei bennu drwy gyfeirio at y contract gwreiddiol a'r hawl i breswylio dros nos oddi tano.

Busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW

Os yw darparwr llety ymwelwyr wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, yna bydd TAW yn ddyledus ar y cyfanswm y mae'r ymwelydd yn ei dalu i'r darparwr llety ymwelwyr, gan gynnwys yr Ardoll Ymwelwyr os yw'r darparwr llety ymwelwyr yn dewis trosglwyddo'r gost hon i'r ymwelydd.

Enghraifft

Mae Dyfed yn archebu lle i aros mewn gwesty am 7 noson. Mae’r gwesty wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, ac o fewn ardal lle cyflwynwyd yr ardoll. Mae'r darparwr llety ymwelwyr sy'n rhedeg y gwesty yn penderfynu trosglwyddo cost yr ardoll i ymwelwyr, a'r pris fesul ystafell, gan gynnwys TAW, yw £150 y noson.

 Pris Net TAW (20%) Cyfanswm Gros 
Pris yr Ystafell £875 £175 £1050 
Ardoll £9.10 £1.82 £10.92 
Cyfanswm bil Dyfed   £1060.92 
Mae’r darparwr llety ymwelwyr yn talu’r canlynol i ACC   £9.10 
TAW a drosglwyddir i CThEF   £176.82 

O'r tabl uchod, gwelwn mai £9.10 yw cyfanswm yr ardoll sy’n dal i fod yn daladwy, a bydd angen cynnwys hyn yn hunanasesiad ardoll y gwesty.

Symiau ychwanegol o ardoll

Yn ogystal â phŵer Gweinidogion Cymru i newid cyfradd is ac uwch yr ardoll, gallant hefyd alluogi prif gynghorau i ychwanegu swm at gyfradd is ac uwch yr ardoll yn eu hardal.

Bydd y prif gynghorau ond yn gallu ychwanegu swm at gyfraddau presennol yr ardoll os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau sy'n rhoi'r pŵer hwnnw iddynt. Mae’r rheoliadau yn:

  • nodi'r swm y gellir ei ychwanegu at y cyfraddau ardoll presennol
  • gallu nodi a all prif gyngor ychwanegu swm at yr ardoll sy'n is na'r swm a nodir yn y rheoliadau
  • gallu galluogi prif gyngor i ychwanegu swm, neu symiau gwahanol, at yr ardoll ar gyfer rhai ardal penodol o’r prif gyngor
  • gallu pennu cyfnodau o amser, neu ganiatáu i brif gyngor bennu cyfnodau o amser, lle gall y swm ychwanegol fod yn berthnasol

Yn amodol ar reoliadau a wneir yn y dyfodol, ni fydd prif gynghorau yn gallu cymryd camau i newid yr ardoll o fewn y 12 mis cyntaf o’i chyflwyniad mewn ardal.

Cyn i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n caniatáu i brif gynghorau ychwanegu symiau at gyfraddau is ac uwch yr ardoll, bydd rhaid iddynt ymgynghori â’r canlynol:

  • pob prif gyngor 
  • pob awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru 
  • sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau sy'n gweithio ym maes twristiaeth Cymru neu sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â thwristiaeth yng Nghymru 
  • sefydliadau sy'n hyrwyddo neu’n hwyluso twristiaeth yng Nghymru 
  • a phersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai’n briodol iddynt ymgynghori â hwy 

Os bydd prif gyngor yn penderfynu ychwanegu swm i'r ardoll yn eu hardal yn sgil rheoliad a wneir yn y dyfodol, byddai angen iddynt fynd trwy’r un broses leol o ymgynghori, gwneud penderfyniadau a hysbysu a ddefnyddiwyd ar gyfer cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr. Felly, bydd darparwyr llety ymwelwyr yn cael gwybod trwy hysbysiadau cyhoeddedig os bydd unrhyw newidiadau arfaethedig. Bydd ACC hefyd yn darparu gwybodaeth i ddarparwyr llety ymwelwyr cofrestredig yn yr ardal Ardoll Ymwelwyr berthnasol os bydd unrhyw newidiadau.