Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Partneriaethau a chyrff anghorfforedig
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Partneriaethau
At ddibenion yr ardoll, mae partneriaethau’n golygu:
- partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890
- partneriaeth gyfyngedig sydd wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907, neu
- partneriaeth neu endid o gymeriad tebyg a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig
Ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr, pan fo rhwymedigaeth i’w bodloni neu weithred i'w chyflawni, bydd cyfrifoldeb ar yr holl bartneriaid i sicrhau eu bod yn bodloni eu gofynion. Bydd angen i unrhyw gam angenrheidiol gael ei gymryd gan, neu mewn perthynas â, phob partner ar yr adeg benodol honno.
Er enghraifft, mae partneriaeth yn cynnwys dau bartner rhwng 1 Ebrill 2028 a 26 Hydref 2028. Mae trydydd partner yn ymuno â'r bartneriaeth ar 27 Hydref 2028. Mae’r bartneriaeth yn ffeilio ffurflenni treth blynyddol ar gyfer llety ymwelwyr mewn ardal lle mae’r ardoll wedi’i chyflwyno, a phan fydd angen ffeilio’r ffurflen dreth flynyddol erbyn 31 Mai 2029, bydd y tri phartner yn rhannu’r cyfrifoldeb am ffeilio’r ffurflen dreth.
Er bod partneriaid yn rhannu cyfrifoldeb dros gyflawni rhwymedigaethau’r ardoll, gall un partner ddewis cyflawni’r holl gamau gofynnol neu’r gweithgareddau a ganiateir. Hefyd, os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, gall person sydd wedi'i awdurdodi gan y bartneriaeth wneud unrhyw beth sy'n ofynnol, neu a ganiateir, i'w wneud ar ran bob partner.
Cymdeithasau a chyrff anghorfforedig
Ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr, pan fo rhwymedigaeth i’w bodloni neu weithred i’w chyflawni wedi ei chaniatáu, bydd cyfrifoldeb ar bawb sy'n cynnal y busnes yn rhan o gymdeithas anghorfforedig i sicrhau eu bod yn bodloni eu gofynion. Bydd angen i unrhyw gamau angenrheidiol gael eu cyflawni gan, neu mewn perthynas â, pob un o aelod-reolwyr y gymdeithas anghorfforedig ar yr adeg dan sylw.
Aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yw:
- pob aelod o'r corff anghorfforedig sydd â swydd, er enghraifft llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd neu unrhyw swydd debyg
- os nad oes swydd o'r fath, pob aelod sy’n aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff
- os nad oes swydd neu bwyllgor o'r fath, pob aelod o'r corff
Er bod aelod-reolwyr yn gydgyfrifol am gyflawni rhwymedigaethau’r ardoll, gall un aelod-reolwr gyflawni’r holl gamau gofynnol neu’r gweithgareddau a ganiateir.
Ystyr busnes perthnasol yw busnes, neu ran ohono, lle mae person yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr yng Nghymru a’r person yw meddiannydd yr eiddo dan sylw.
Atebolrwydd ar y cyd ac unigol
Mae partneriaid o fewn partneriaeth ac aelod-reolwyr cymdeithas anghorfforedig yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dalu'r Ardoll Ymwelwyr, cosbau ac unrhyw log i ACC.
Mae hyn y golygu, pan fo atebolrwydd yn codi am dalu swm i ACC o ganlyniad i unrhyw beth a wnaed neu na wnaed gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, bydd pob un o’r partneriaid neu’r aelod-reolwyr ar y pryd pan wnaed neu pan hepgorwyd y peth yn atebol am y swm llawn sy’n ddyledus.
Pan fo person yn bartner neu'n aelod-reolwr am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig, eu hatebolrwydd personol am unrhyw ardoll sy'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod cyfrifyddu fydd y gyfran o'r atebolrwydd sy'n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu'r gymdeithas anghorfforedig sydd yn gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
