Neidio i'r prif gynnwy

Os bydd person yn peidio â bod yn ddarparwr llety ymwelwyr, bydd rhaid iddynt gydymffurfio â'u rhwymedigaethau Ardoll Ymwelwyr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys ffeilio ffurflen Ardoll Ymwelwyr a thalu unrhyw atebolrwydd i ACC erbyn y dyddiad ffeilio perthnasol.

Os yw darparwyr llety ymwelwyr yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw, gwaith adnewyddu, neu os ydynt yn cau’n dymhorol, byddant yn parhau i fod yn ddarparwyr llety ymwelwyr os ydynt yn parhau i gynnig darparu llety ymwelwyr. Er enghraifft, gall y darparwr llety ymwelwyr ddal i gymryd archebion ar gyfer pan fydd y gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau.

Enghraifft

Roedd Stacey yn ddarparwr llety ymwelwyr ac yn darparu llety ymwelwyr mewn ardal lle mae'r ardoll yn berthnasol. Rhoddodd y gorau i fasnachu ar 6 Medi 2028, ac roedd yn arfer ffeilio yn flynyddol. Bydd angen i Stacey ffeilio ei ffurflen Ardoll Ymwelwyr ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben 31 Mawrth 2029. Y dyddiad ffeilio ar gyfer ei ffurflen dreth fydd 31 Mai 2029, a bydd angen i Stacey dalu unrhyw ardoll y mae'n atebol amdani i ACC erbyn 31 Mai 2029 hefyd.

Pan fydd cyn-ddarparwr llety ymwelwyr yn ailddechrau gweithgaredd ac yn dod yn ddarparwr llety ymwelwyr unwaith eto, bydd dal angen iddynt gyflawni’r dyletswyddau pendant a oedd ganddynt pan oeddent yn ddarparwr llety ymwelwyr yn flaenorol, yn ogystal â chyflawni'r rhwymedigaethau newydd ar ôl iddynt ailddechrau eu gweithgaredd.