Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Marwolaeth, analluedd ac ansolfedd
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Caiff person (Person A) gynnal busnes perthnasol person arall (Person B), os bydd Person B:
- yn marw
- yn dod yn analluog
- yn dod yn destun gweithdrefnau ansolfedd, megis diddymiad, dod yn fethdalwr, neu fynd i ddwylo’r gweinyddwr
Ystyr busnes perthnasol yw busnes, neu ran ohono, lle mae person yn darparu, neu'n cynnig darparu, llety ymwelwyr yng Nghymru a’r person yw meddiannydd y llety dan sylw.
Pan fydd Person A yn cynnal busnes Person B, rhaid iddynt hysbysu ACC o fewn 30 diwrnod ar ôl iddynt ddechrau cynnal y busnes i ddweud:
- bod Person A yn cynnal y busnes
- pam mai person A sy’n parhau â’r busnes, a
- dyddiad y digwyddiad a arweiniodd atynt yn cynnal y busnes, megis dyddiad marwolaeth Person B
Ar ôl i ACC gael ei hysbysu, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad i Berson A, ac i Berson B os yw hynny'n briodol, yn cydnabod y byddwn yn trin Person A fel pe bai nhw yw Person B.
Newid amgylchiadau
Rhaid i Berson A roi rhybudd pellach i ACC pan:
- nad yw Person B bellach yn analluog neu pan fo gweithdrefnau ansolfedd yn dod i ben, neu
- pan fo Person A yn rhoi'r gorau i gynnal busnes Person B
Bydd angen rhoi'r hysbysiad o fewn 30 diwrnod i'r newid mewn amgylchiadau, a bydd rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am y dyddiad y digwyddodd y newid mewn amgylchiadau.
Pan fo ACC yn fodlon bod newid wedi bod mewn amgylchiadau, ni fydd ACC bellach yn trin Person A fel pe bai nhw yw Berson B. Bydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad o'u penderfyniad i Berson A, ac i Berson B os yw hynny'n briodol.
