Yr Ardoll Ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Sut y gellir defnyddio'r ardoll
Canllawiau manwl y bydd eu hangen ar ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Taliadau ACC i’r prif gynghorau
Pan fo prif gyngor wedi cyflwyno'r ardoll, bydd angen iddynt agor cyfrif ar wahân i gadw enillion yr Ardoll Ymwelwyr y mae ACC yn ei dalu iddynt.
Bydd ACC yn talu enillion yr ardoll a gesglir bob blwyddyn ariannol erbyn:
- 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol ganlynol, neu
- ar ddyddiad arall y mae ACC a’r prif gyngor wedi cytuno arno
Er enghraifft, bydd ACC yn talu'r ardoll y mae wedi'i chasglu rhwng 1 Ebrill 2029 a 31 Mawrth 2030 i'r prif gynghorau erbyn 30 Mehefin 2030, neu ar ddyddiad arall y mae ACC a’r prif gynghorau wedi cytuno arno.
Bydd ACC yn ysgwyddo’r costau gweithredol ac alldaliadau sy’n deillio o gasglu a rheoli'r Ardoll Ymwelwyr.
Os bydd ACC yn ysgwyddo costau yn ystod y flwyddyn ariannol, byddant yn eu didynnu cyn talu'r elw i'r prif gynghorau. Gall ACC hefyd ddidynnu symiau er mwyn talu costau ac alldaliadau mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan sylw hyd yn oed os ydynt yn codi ar ôl iddynt dalu'r enillion ardoll i'r prif gyngor.
Mae Rheoliadau Casglu a Rheoli Treth (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026 yn capio'r swm y gall ACC ei ddidynnu ar gyfer costau ac alldaliadau ar uchafswm o 10% o enillion yr ardoll, neu ganran is os yw swm crynswth y costau a’r alldaliadau ar gyfer pob prif gyngor yn llai na 10% o gyfanswm enillion yr ardoll.
Defnyddio elw’r ardoll
Dim ond at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn eu hardal y caiff y prif gynghorau sydd wedi cyflwyno'r ardoll ddefnyddio’r enillion y mae ACC yn eu talu iddynt. Mae rheoli a gwella cyrchfannau yn cynnwys:
- lliniaru effaith ymwelwyr
- cynnal a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- hyrwyddo a chefnogi twf economaidd cynaliadwy ym maes twristiaeth a mathau eraill o deithio
- darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i'w defnyddio gan ymwelwyr, boed yn rhai sy’n cael eu defnyddio gan bobl leol hefyd neu beidio
Bydd angen i'r prif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y defnydd o elw’r ardoll bob blwyddyn ariannol y caiff elw’r ardoll gan ACC.
Rhaid i'r adroddiad gynnwys gwybodaeth am:
- faint o ardoll a gasglwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw
- swm didyniadau ACC ar gyfer costau a thaliadau
- sut defnyddiwyd yr elw, neu sut y bydd yn cael ei ddefnyddio, a sut mae hynny at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor dan sylw
Bydd darparwyr llety ymwelwyr yn gallu gweld yr adroddiad ar wefan y cyngor ac mewn fformatau eraill y mae'r cyngor yn eu hystyried yn briodol. Bydd hefyd ar gael i'w adolygu yn rhad ac am ddim am o leiaf 12 mis ar ôl iddo gael ei gyhoeddi yn swyddfeydd y cyngor. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae’r enillion ardoll yn berthnasol iddi, a rhaid gwneud hynny erbyn 31 Mawrth fan bellaf.
