Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid adolygu’r Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 erbyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, sy’n dechrau o 1 Ebrill 2027.

Mater i Weinidogion Cymru fydd yn cynnal yr adolygiad o'r Ddeddf, a bydd yn cynnwys sut mae'r ddeddfwriaeth wedi gweithredu a'r effaith y mae wedi'i chael. Bydd adroddiad o'r adolygiad yn cael ei gyhoeddi, mewn unrhyw ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, bydd rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau pellach bob 5 mlynedd.

Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i ACC gynorthwyo i gynnal yr adolygiad os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo hynny.