Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae'r adrannau Cyflwyniad, Gofal Dydd a Reoleiddir – Chwarae Mynediad Agored ac Eithriadau o ganllawiau statudol y Safonau yn darparu gwybodaeth i helpu lleoliadau cofrestredig i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei ystyried wrth ofalu am blant. Yna mae'r ddogfen ganllaw yn nodi'r holl Safonau, ynghyd â chanllawiau atodol mewn Atodiadau perthnasol a Geirfa ddefnyddiol.

Mae pob Safon yn dechrau gyda Llais y Plentyn a Deilliant Lles cysylltiedig, ac yna nodir y gofynion penodol. 

Mae pob Safon yn cynnwys dolenni i'r prif reoliad(au) sydd fwyaf perthnasol i'r gofynion a ddisgrifir o fewn y Safon honno. 

Nid yw'r rhestr o Reoliadau sy'n berthnasol i bob safon yn hollgynhwysfawr, a chyfrifoldeb y person cofrestredig o hyd yw sicrhau y cydymffurfir â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol yng nghyd-destun eu lleoliad.

Mae dolenni i Mwy o Arweiniad a Help hefyd wedi'u cynnwys drwy gydol y ddogfen. 

Rhoddir y Safonau ar waith mewn gwahanol ffyrdd yn ôl natur y gwasanaeth neu'r lleoliad dan sylw, ond rhaid i bob person cofrestredig roi sylw i'r Safonau a bodloni'r gofynion rheoliadol sy'n berthnasol i'w gwasanaeth. Rhaid i bersonau cofrestredig hefyd gydymffurfio ag unrhyw amodau cofrestru a darparu eu gwasanaeth yn unol â'r Datganiad o Ddiben ar gyfer y gwasanaeth. 

Y safonau mwyaf sylfaenol o safbwynt cofrestru a darparu gofal plant o ansawdd yw'r Safonau. Y disgwyliad cyffredinol yw bod personau cofrestredig yn gweithio tuag at ragori ar y safonau hyn.