Neidio i'r prif gynnwy

Cynulleidfa

Darparwyr Chwarae Mynediad Agored. 

Pawb sydd â diddordeb mewn Chwarae Mynediad Agored, yn enwedig sefydliadau yn y sector Chwarae Mynediad Agored, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.

Trosolwg

Mae 2 ran wahanol i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. 

  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol a 
  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol. 

Mae’r ddogfen hon yn disodli’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. 

Caiff y safonau yn y ddogfen hon eu defnyddio i benderfynu p'un a yw lleoliadau chwarae mynediad agored yn darparu gofal digonol i blant pump i ddeuddeg oed. Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd ar wahân.

Canllawiau statudol yw'r Safonau a gyhoeddwyd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). 

Lluniwyd y Safonau yn unol ag adran 30(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'u nod yw helpu darparwyr a lleoliadau i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Maent i'w darllen yng nghyd-destun Rhan 2 (Gwarchod Plant a Gofal Dydd 

i Blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016;

a rheoliadau cysylltiedig, Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). 

Arolygiaeth Gofal Cymru yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru.

Camau i'w cymryd

Rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored cofrestredig gadw at y safonau hyn. Bydd graddau'r cydymffurfio â'r Safonau yn cael ei ystyried gan y rheoleiddiwr wrth asesu p'un a yw darparwr yn cydymffurfio â'r gofynion rheoliadol perthnasol.

Rhagor o wybodaeth 

Dylid anfon unrhyw gwestiynau i’r cyfeiriad canlynol: 

Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

e-bost: gofalplantachwarae@llyw.cymru 

Dogfennau cysylltiedig 

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd)

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd) 

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer 

Awdurdodau Lleol (Cymru) 2010

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022