Neidio i'r prif gynnwys

Crynodeb o'r prif newidiadau 

Ar gyfer lleoliadau chwarae mynediad agored, mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn disodli dogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. 

Mae'r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o'r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.

Newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad 

Safonau gwahanol ar gyfer Chwarae Mynediad Agored

Mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, datblygwyd safonau annibynnol ar gyfer gwasanaethau chwarae mynediad agored cofrestredig. Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn set benodol o safonau a grëwyd i fynd i'r afael ag agweddau unigryw y sector gofal dydd hwn, Chwarae Mynediad Agored.

Strwythur a chynllun y safonau

Cyflwynir y Safonau ar ffurf HTML, ac ychwanegwyd fersiwn y gellir ei hargraffu i sicrhau bod y canllawiau yn gydnaws â safonau www.Llyw.Cymru, ac i wella'r strwythur, y cynllun a phrofiad y defnyddiwr.

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol 

Mae'r paragraff "Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol" wedi'i ddiweddaru. Mae pob safon yn cynnwys datganiad Llais y Plentyn a datganiad Deilliant Lles, ac yna nodir y safonau perthnasol, y Rheoliadau cysylltiedig a dolenni i ganllawiau pellach. 

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae'r adran hon wedi'i chynnwys i gryfhau'r wybodaeth a'r gofynion o ran ansawdd, gan ymgorffori meddylfryd sy'n hyrwyddo hawliau plant.

Diffiniad o chwarae mynediad agored

Nodir diffiniad diwygiedig yn dilyn argymhelliad 11.3 o Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae i adolygu a diweddaru'r diffiniad o waith chwarae mynediad agored. 

Safon 7: Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, Chwarae Mynediad Agored

Wedi'i diweddaru i amlinellu y dylai o leiaf un person sydd â chymhwyster cymorth cyntaf llawn fod yn bresennol bob amser mewn mangre chwarae mynediad agored, a sicrhau bod trefniadau wrth gefn i allu galw ar fwy o staff a hyfforddwyd, yn seiliedig ar asesiad risg sy'n adlewyrchu'r mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw, y lleoliad a nifer y plant sy'n mynychu. 

Safon 8 Meddyginiaeth a'r Atodiad B ategol: canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Mae Safon 8 Meddyginiaeth wedi'i diweddaru i ddarparu safonau cliriach ac i wahaniaethu rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn. Mae Atodiad B yn rhoi eglurder ar weinyddu parasetamol hylifol nad yw ar bresgripsiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir. 

Safon 10: Cymwysterau eraill staff

Wedi'i diweddaru i amlinellu, yn ogystal â'r person lefel 3 sydd â chyfrifoldeb, fod yn rhaid i o leiaf 50% o'r staff eraill feddu ar gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, ac na chaniateir mwy na 50% o staff sydd heb gymhwyso neu sy'n staff gwirfoddol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio tuag at gymwysterau o'r fath). Mae hyn hefyd yn cynnwys y gwiriadau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig/unigolyn cyfrifol eu sefydlu ar gyfer staff sydd heb gymhwyso/sy'n wirfoddol.

Newidiadau yn sgil y drefn arferol 

Y bennod ragarweiniol

Mae'r bennod ragarweiniol wedi'i diweddaru. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd uchel ac yn pwysleisio hawliau plant, lles, cydberthnasau, datblygiad emosiynol a phrofiad bywyd. Mae dolenni wedi'u diweddaru i bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd â dolenni i sefydliadau perthnasol. 

Gofal dydd a reoleiddir 

Mae enghreifftiau o ddarpariaeth Gofal Dydd, Chwarae Mynediad Agored wedi'u cynnwys.

Eithriadau: amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gyflwyno newidiadau sydd i gael eu gwneud yn y dyfodol o safbwynt eithriadau, ac mae'n esbonio'r cyfnod pontio (o Ebrill 2027 i Fawrth 2028) ar gyfer darparwyr na fyddant efallai wedi'u heithrio bellach rhag gorfod cofrestru.

Newidiadau i safonau

  • Mae Safon Gweithio gyda Rhieni wedi'i dileu; mae'r gofynion o fewn y safon hon wedi'u hymgorffori mewn safonau eraill ac o fewn y ddogfen ganllaw.
  • Mae Safonau Cyfle Cyfartal a Diwallu Anghenion Unigol wedi'u cyfuno.
  • Mae Cyfleoedd i chwarae a dysgu wedi'i ailenwi'n Cyfleoedd i chwarae, ac mae'n adlewyrchu egwyddorion gwaith chwarae.
  • Mae Safon Trefniadaeth a Safon Cymarebau Staffio wedi'u cyfuno a'i ailenwi'n Safon Trefniadaeth a Staffio.
  • Mae Safon Gofal Dros Nos wedi'i dileu gan nad yw'n berthnasol i chwarae mynediad agored. 
  • Mae Safon Maeth a Lles wedi'i hailenwi'n Safon Hyrwyddo Hawliau a Lles.
  • Dylid nodi bod newid i rifau'r safonau blaenorol yng ngoleuni'r newidiadau uchod.

Newidiadau polisi allweddol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru cyfeiriadau allweddol at ddeddfwriaeth a/neu bolisi yn y Safonau, gan gynnwys newid geiriad, er mwyn cryfhau safonau penodol; dyma rai o'r newidiadau:

  • Safon 7 Gofal iechyd safonau gwrth-smygu a fepio.
  • Safon 15 Diogelu.
  • Safon 19 Diogelwch safonau risg tân.
  • Geirfa mae termau newydd wedi'u hychwanegu at yr eirfa.

Argymhellir bod darparwyr cofrestredig yn ymgyfarwyddo â'r fersiwn ddiwygiedig hon o'r canllawiau statudol ar Safonau gofal dydd a reoleiddir, chwarae mynediad agored, a'u bod yn dileu unrhyw fersiynau blaenorol o ganllawiau ar y Safonau.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen