Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn lle gwych i bobl dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo. Mae ein profiadau fel plant, yn dda a drwg, yn cyflawni rôl bwysig wrth lywio ein bywyd i'r dyfodol. Fel darparwr lleoliad cofrestredig, rydych chi a'ch staff yn chwarae rôl allweddol wrth ofalu bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae sicrhau perthynas gadarnhaol gyda'r staff, lle mae lles plant yn cael ei feithrin, yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae'r rhyngweithio hwn, ochr yn ochr â'r rhyngweithio â rhieni a gofalwyr, yn helpu plant i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall. Drwy feithrin ymddiriedaeth, empathi a gwydnwch emosiynol, mae gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol yn cyfrannu at adeiladu sylfeini cryf, sy'n cefnogi lles plant heddiw a'u gallu yn y dyfodol i fyw bywydau hapus, iach a boddhaol.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn eich cefnogi chi a'ch staff i ddylanwadu'n gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd mewn llawer o ffyrdd. Yn ogystal â'ch helpu i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, mae eich ymrwymiad i gynnal a gwella ar y safonau hyn yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi plant, a'u helpu i oresgyn mathau eraill o adfyd, trawma ac anghydraddoldeb. Drwy gydberthynas â'r plant sy'n meithrin eu lles, a gofal sy'n ymateb iddynt yn emosiynol, a rhoi cyfleoedd iddynt chwarae, gall eich rôl gyfrannu at ysgogi eu gwydnwch a darparu sefydlogrwydd sy'n hyrwyddo eu lles heddiw a'u datblygiad hirdymor.

Mae'r sector gwaith chwarae yn esblygu'n barhaus, ac mae'n rhaid iddo fod yn barod i ymateb i heriau newydd a newidiadau. Mae hyn yn cynnwys gofalu am blant ag amrywiol anghenion a phrofiadau i sicrhau cyfle cyfartal (Safon 2: Cyfle cyfartal a diwallu anghenion unigol) ar gyfer pob plentyn yn eich gofal.

Y Cyd-destun Ehangach

Gan adeiladu ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rhoddir gwybodaeth isod am ganllawiau ehangach sy'n ymwneud â phlant ac adnoddau darllen pellach. Mae hyn yn cynnwys materion, cyngor a deddfwriaeth newydd ac sy'n datblygu y dylai ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae eu hystyried wrth ofalu am blant. O ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â'r Safonau, darperir dull holistaidd o gefnogi darpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd uchel sydd â buddion uniongyrchol i blant, eu rhieni a'r gweithlu gofal plant a chwarae.

Pwysigrwydd Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae ac ar ei bwysigrwydd i fywydau plant yn ein cymdeithas. Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod chwarae’n rhan annatod o’u mwynhad mewn bywyd ac yn cyfrannu at eu lles. Credwn fod chwarae yn hanfodol i ddatblygiad gwybyddol; corfforol; cymdeithasol ac emosiynol plant. I'r plant eu hunain, chwarae yw un o'r agweddau pwysicaf ar eu bywydau. Gall cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i bob plentyn gyfrannu at liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i adeiladu eu gwydnwch. Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bod gan bob plentyn yr hawl hon. Mae'r ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru yn dathlu chwarae plant a'i bwysigrwydd - Ffilm - Chwarae Cymru.

Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith polisi ar chwarae, ac ystyriodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae. Gwnaeth yr adolygiad argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae. 

Croesawodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Terfynol Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a chyhoeddodd ymateb yn amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd er mwyn cyflawni'r argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r Safonau, gan ganolbwyntio ar chwarae mynediad agored, ac mewn cydweithrediad â'r sector mae wedi datblygu canllawiau statudol annibynnol ar gyfer Safonau gofal dydd - chwarae mynediad agored. 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw sail holl bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plant, ac mewn perthynas â phlant. Yr hyn sy'n ganolog i uchelgais Llywodraeth Cymru yw rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i fyw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw. Ers 2011, mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy, wrth arfer eu swyddogaethau, i hawliau penodol o dan y Confensiwn.

Mae'r hawl i chwarae yn cael ei derbyn yn gyffredinol, ac fe'i nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Confensiwn yn rhestru'r 42 o hawliau sydd gan blant a phobl ifanc yn eu harddegau (o dan 18 oed).

Yn ôl Erthygl 31 o'r Confensiwn: Mae gan blant yr hawl i orffwys ac ymlacio, ac i ymuno
mewn gweithgareddau chwarae ac adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn, ac i gymryd rhan yn rhydd ac yn rhwydd mewn bywyd diwylliannol ac yn y celfyddydau.

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn ystyried chwarae plant yn bwysig iawn ac, felly, mabwysiadodd Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Datganiad swyddogol yw Sylw Cyffredinol sy'n ymhelaethu ar ystyr agwedd ar y Confensiwn lle mae angen dehongliad neu bwyslais pellach. Nod y Sylw Cyffredinol hwn, a luniwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yw egluro pwysigrwydd Erthygl 31. Bwriedir iddo hefyd gynyddu atebolrwydd ymhlith gwledydd sydd wedi ymrwymo i'r Confensiwn.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn diffinio chwarae: fel ymddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant. Bydd chwarae yn digwydd pryd bynnag a lle bynnag y bydd cyfle yn codi. 

Amcanion Sylw Cyffredinol rhif 17 yw:

  • Cynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd Erthygl 31, er lles a datblygiad plant, ac er mwyn hwyluso'r broses o wireddu hawliau eraill y Confensiwn.
  • Rhoi eglurder ar y darpariaethau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig ag Erthygl 31.
  • Darparu arweiniad ar y mesurau deddfwriaethol, barnwrol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol sydd eu hangen i roi Erthygl 31 ar waith i bob plentyn yn ddiwahân.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn rhestr fuddiol o nodweddion allweddol chwarae:

  • hwyl
  • ansicrwydd
  • her
  • hyblygrwydd
  • gweithgaredd nad yw'n arwain at gynhyrchiant.

Mae cyfrifoldeb ar bawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw i barchu, amddiffyn a gwireddu hawliau plant.

Hawliau plant yng Nghymru

Hawliau plant – modiwlau hyfforddi ar-lein 

Beth yw hawliau plant: Taflen Hawliau Plant i Ymarferwyr 

Beth yw hawliau plant: canllawiau i rieni a gofalwyr – gall lleoliadau rannu'r taflenni hyn â rhieni a gofalwyr 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer mynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ac mae'n cwmpasu'r nodweddion gwarchodedig canlynol.

· Hil / ethnigrwydd · Rhywedd · Ailbennu rhywedd / hunaniaeth rhywedd · Anabledd · Oedran · Crefydd a chred · Beichiogrwydd / mamolaeth · Rhyw - Cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil 

Mae Safon 2 yn cwmpasu Cyfle Cyfartal a rhaid i ddarparwyr roi tystiolaeth glir o sut y maent yn bodloni'r safonau a'r dyletswyddau hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Byddwch am ystyried sut y byddai eich gwasanaethau yn effeithio ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: y rhai sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a/neu adfyd a thrawma ehangach yn ystod eu plentyndod; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant niwrowahanol; plant sy'n byw mewn tlodi; plant Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr; plant mudol; plant ceiswyr lloches; plant ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC +. Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn, ac o fewn eich lleoliadau ni fydd yr un profiad yn union yr un fath â phrofiad plentyn arall, ond maent yn enghreifftiau o nodweddion gwarchodedig gwahanol, ac anghenion gwahanol a phenodol. 

Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc o fewn eich lleoliad, gan na fydd profiadau dau berson byth yn union yr un fath. Mae'n darparu enghreifftiau o sut y gall plant rannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, gan arwain at anghenion gwahanol a phenodol.

Fel darparwr cofrestredig, bydd angen i chi a'ch staff fod yn gyfarwydd â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ystyried sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo a'u hymgorffori o fewn eich lleoliad, a sut mae eich lleoliad yn cefnogi darpariaeth gynhwysol a hygyrch i blant, eu teuluoedd a staff. 

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i'n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru wedi'i nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi'r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i ystyried camau y gallent eu cymryd i helpu i fowldio Cymru i fod yn wlad wrth-hiliol. Mae amrywiol adnoddau wedi'u datblygu, gan gynnwys map Tube, a fydd yn helpu unigolion ar bob lefel i nodi adnoddau a hyfforddiant priodol.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Y Gymraeg a Cymraeg 2050

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cryfhau ein gallu i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050; pasiwyd y Ddeddf gan y Senedd ym mis Mai 2025. 

Prif nod y Ddeddf yw sicrhau bod pob disgybl, erbyn 2050, yn cyrraedd diwedd eu cyfnod gorfodol yn yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf. 

Mae'r Ddeddf yn sefydlu cyfres glir o fesurau i gefnogi patrwm o ddysgu mwy a mwy o'r Gymraeg gydol oes, ac mae pwyslais arbennig ar gefnogi teuluoedd a phlant oedran cyn-ysgol i ddysgu'r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yn ystod eu plentyndod yw gweithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn un sy'n cydnabod ac yn deall y ffaith bod trawma yn bodoli, sy'n deall ei arwyddion a'i effaith, ac sy'n helpu pobl i ddod dros eu trawma, adeiladu eu gwydnwch, ac osgoi ail drawma. Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma:Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd (neu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma) wedi sefydlu pum egwyddor ymarfer, a ddylai fod yn sail i'r holl ymarfer yr ymgymerir ag ef yng Nghymru sy'n ystyriol o drawma; a phedair lefel ymarfer, sy'n adlewyrchu'r gwahanol rolau a all fod gan bobl a sefydliadau wrth gefnogi'r rhai y mae trawma wedi effeithio arnynt.

Mae Hyb ACE Cymru wedi datblygu ystod eang o adnoddau a all gefnogi sefydliadau ac unigolion ar eu taith i ddysgu am drawma - Adnoddau - Hyb ACE Cymru, gan gynnwys pecyn cymorth i sefydliadau ar fod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod TrACE - Hyb ACE Cymru 

Darpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae darpariaeth gofal dydd o ansawdd uchel yn mynd y tu hwnt i fodloni gofynion sylfaenol. Mae'n creu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyrgar lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cefnogi i ffynnu. Yn ganolog iddi mae'r plentyn a'i hawliau, sy'n sicrhau bod anghenion, diddordebau a llais pob plentyn yn llywio eu profiadau. 

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r meddylfryd hwn drwy sicrhau: 

Diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed (Erthygl 19). 

Parch at farn y plentyn: Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd, ac i’w barn gael ei hystyried (Erthygl 12). 

Bod plant mewn addysg gynnar yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu personoliaeth a'u doniau yn gyflawn. Bod plant yn cael eu hannog i barchu hawliau dynol, yn ogystal â'u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd. (Erthygl 29).

Bod gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig a gweithgareddau hamdden eraill (Erthygl 31).

Bod gan bob plentyn yr hawl i'r gofal iechyd, lles a maeth gorau posibl (Erthygl 24).

Elfennau Allweddol o Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel 

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gynhwysol ac yn ymateb i'r sefyllfa, a hynny drwy: 

Oedolion sy'n Galluogi Dysgu - sy'n adeiladu cydberthnasau cryf sy'n ymateb i'r unigolyn, ac yn creu gofod lle gall plant fod yn chwilfrydig a chwarae yn ôl eu dewis, gan eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a gwydnwch 

Amgylcheddau Effeithiol sy'n annog plant i archwilio, ac yn cynnig gofod i ymlacio, annibyniaeth, ac ymdeimlad o berthyn. 

Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb sy'n meithrin cyfleoedd i chwarae, darganfod a datrys problemau mewn ffordd ystyrlon yn ôl lefel y plentyn. 

Nodweddion Darpariaeth o Ansawdd Uchel 

Mae darparwyr gofal dydd yn arddangos darpariaeth o ansawdd uchel drwy: 

  • Fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol drwy ystyried a gwella'n barhaus 
  • Ymgorffori arferion gorau sy'n cefnogi datblygiad holistaidd plant 
  • Sicrhau canlyniadau cryf mewn arolygiadau sy'n cydnabod eu hymrwymiad i ansawdd
  • Defnyddio fframweithiau a gymeradwywyd gan y sector fel Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0-5 oed, a fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, Chwarae o Safon, gan gydnabod pwysigrwydd Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth gefnogi profiadau chwarae o ansawdd ym mhob lleoliad gwaith chwarae. 

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod: 

  • Oedolion sy'n Galluogi Dysgu yn creu cydberthnasau sy'n cynnig diogelwch, lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, gan feithrin hyder a'r gallu i ddatrys problemau 
  • Amgylcheddau Effeithiol yn cefnogi anghenion corfforol ac emosiynol, gan ysbrydoli chwarae, creadigrwydd ac archwilio 
  • Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb yn cael eu llywio gan ddiddordebau plant, gan ganiatáu iddynt chwarae mewn ffordd benagored a darganfod drostynt eu hunain. 
  • Ystyried a Gwella'n Barhaus 

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn ddeinamig ac yn esblygu drwy ystyried ac ymgysylltu'n barhaus â phlant a theuluoedd. Dylai Oedolion sy'n Galluogi Dysgu asesu'n rheolaidd: 

  • Sut mae cydberthnasau a rhyngweithio yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch emosiynol, dysgu a hunanfynegiant. 
  • Ffyrdd o greu amgylcheddau cynhwysol, lle ymatebir i'r unigolyn, gan adlewyrchu diddordebau a diwylliannau plant. 
  • Strategaethau i ymestyn dysgu drwy chwarae, iaith ac archwilio. 
  • Sut i sicrhau bod llais plant yn llywio eu profiadau. 

Egwyddorion Arweiniol: Ein Saith Nod Craidd ar gyfer Plant yng Nghymru

Mae'r Saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn llywio darpariaeth o ansawdd uchel: 

  • Dechrau cryf mewn bywyd a'r sylfaen orau o ran lles. 
  • Mynediad at brofiadau dysgu ystyrlon, cyfoethog. 
  • Iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da. 
  • Cyfleoedd ar gyfer chwarae, creadigrwydd, a hunanfynegiant. 
  • Cael eu gwrando, eu gwerthfawrogi a'u parchu. 
  • Tyfu mewn cymunedau diogel, sy'n eu meithrin. 
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb. 

Drwy ymgorffori Oedolion sy'n Galluogi Dysgu, Amgylcheddau Effeithiol, a Phrofiadau sy'n Ennyn Diddordeb i arferion bob dydd, mae ymarferwyr yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu grymuso i ffynnu, chwarae a thyfu mewn hyder. Mae'r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â meddylfryd gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae gwaith chwarae yn ddull unigryw o weithio gyda phlant o bob oed mewn amrywiol leoliadau. Prif bwrpas y gweithiwr chwarae yw cefnogi a hwyluso chwarae fel y'i disgrifir yn Egwyddorion Gwaith Chwarae (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae, 2026).

Mae'r Egwyddorion yn sefydlu'r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae, ac felly mae'n rhaid iddynt gael eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maent yn disgrifio'r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu persbectif gwaith chwarae i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r Egwyddorion yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu'n gadarnhaol yn cynyddu o gael mynediad at yr ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc gael chwarae. Mae'r awydd i chwarae yn reddfol. Mae chwarae yn rheidrwydd biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n sylfaenol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau.
  2. Mae chwarae yn broses a gaiff ei dewis o wirfodd, ei chyfeirio'n bersonol a'i chymell gan y plentyn. Hynny yw, mae plant a phobl ifanc yn rheoli ac yn penderfynu ar gynnwys a bwriad eu chwarae drwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain.
  3. Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso'r broses chwarae, a dylai hyn fod yn sail i ddatblygiad polisi, strategaeth, hyfforddiant ac addysg chwarae.
  4. Mae gweithwyr chwarae yn rhoi blaenoriaeth i'r broses chwarae ac yn hyrwyddo chwarae wrth ymwneud ag agendâu a arweinir gan oedolion.
  5. Rôl y gweithiwr chwarae yw cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle y gall chwarae.
  6. Mae ymateb y gweithiwr chwarae i blant a phobl ifanc sy'n chwarae yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac ymarfer meddylgar.
  7. Mae gweithwyr chwarae yn cydnabod eu heffaith eu hunain ar y man chwarae a hefyd effaith chwarae plant a phobl ifanc ar y gweithiwr chwarae.
  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis arddull ymyrraeth sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Rhaid i bob ymyrraeth gan weithiwr chwarae gydbwyso risg â budd datblygiadol a lles y plant.

Cefnogi Gwella Ansawdd

Mae Safon Ofynnol Genedlaethol 13 ar gyfer chwarae mynediad agored a rheoliad 16 o'r Rheoliadau yn nodi'r gofynion i adolygu ansawdd y gofal a ddarperir.

Mae adnoddau gwella ansawdd yn helpu ymarferwyr i ystyried, mireinio a gwella eu darpariaeth, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal a'r profiadau sydd o'r ansawdd uchaf. 

Mae Chwarae Cymru wedi datblygu fframwaith hunanasesu a thystiolaeth sy'n gweithredu fel adnodd sicrhau ansawdd - Chwarae o Safon - gan asesu ansawdd arferion gwaith chwarae mewn lleoliadau yng Nghymru.

Gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr

Anogir lleoliadau chwarae mynediad agored cofrestredig i feithrin partneriaeth agos â rhieni/gofalwyr, gan gydnabod mai rhieni/gofalwyr sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am eu plant. Disgwylir i staff weithio'n agos gyda theuluoedd i gefnogi anghenion pob plentyn fel unigolyn, yn ogystal ag fel rhan o grŵp ehangach. Rhoddir gwybodaeth i deuluoedd am y gwasanaeth, a chânt wybodaeth reolaidd am faterion perthnasol neu bwysig sy'n effeithio ar brofiad eu plentyn yn y lleoliad. Bydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau, ynghyd â'r canllawiau perthnasol, ar gael i rieni bob amser, gan sicrhau tryloywder, a chan gryfhau'r ymddiriedaeth rhwng y lleoliad a phob teulu ar yr un pryd.

Ffynonellau arweiniad, cyngor a gwybodaeth eraill

Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru yn grŵp sy'n trafod materion o bwysigrwydd strategol i bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru. Mae'r grŵp hefyd yn gwneud argymhellion i Gyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae y DU. Mae Chwarae Cymru yn cefnogi'r gwaith o redeg Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru.

Ymhlith ei swyddogaethau mae:

Cymeradwyo cymwysterau gwaith chwarae i'w cynnwys yn y Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae yng Nghymru.

Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant, neu sy'n gyfrifol am ddarparu ar ei gyfer. 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu safonau uchel ar draws gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n ceisio sicrhau bod gan y gweithlu yng Nghymru y sgiliau a'r cymwysterau iawn i weithio i safon broffesiynol uchel, a'i fod yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. 

CWLWM

Mae CWLWM, consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, yn cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy arweiniad ac aelodaeth, gan hyrwyddo lleoliadau cynaliadwy o ansawdd.

  • Mae'r Mudiad Meithrin yn arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r blynyddoedd cynnar.
  • Mae Coram PACEY Cymru yn darparu cymorth i weithwyr gofal plant proffesiynol sy'n gweithio yn y cartref, gan gynnwys gwarchodwyr plant a nanis.
  • Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru. 
  • Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gofal, addysg a dysgu dwyieithog cyn-ysgol drwy chwarae ledled Cymru. 
  • Nod Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yw helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o ansawdd uchel. 

Comisiynydd Plant Cymru

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn diogelu ac yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Mae'r Comisiynydd hefyd yn adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Dysgwch am "Y Ffordd Gywir" – fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant.

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw'r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant a'u cynnwys sy'n targedu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r Eirfa yn esbonio termau sy’n codi yn y ddogfen hon.