Neidio i'r prif gynnwy

Safon 4: Cyfleoedd i Chwarae

Llais y Plentyn: Dw i'n gallu dewis sut dw i'n chwarae a chael hwyl. Mae gen i lawer o le ac amser i roi cynnig ar bethau yn fy ffordd fy hun.

Deilliant Lles: Bod plant yn arfer eu Hawl i Chwarae drwy weithgareddau heb strwythur, dan arweiniad plant, gan elwa o brofiadau a ddewisir o'u gwirfodd sy'n cefnogi eu datblygiad cyffredinol, eu gwydnwch, eu lles a'u mwynhad. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

4.1 Bod anghenion unigol y plentyn yn cael eu diwallu, a bod ei les yn cael ei hyrwyddo wrth ddarparu cyfleoedd chwarae.

4.2 Bod cyfleoedd chwarae cynhwysol ar gael i bob plentyn, sy'n gwella eu lles. 

Bod amrywiaeth o weithgareddau, cyfleoedd chwarae ac adnoddau ar gael sy'n briodol i oedran, galluoedd a diddordebau'r plant sy'n mynychu.

4.3. Bod plant yn cael cyfle i fod yn egnïol, o dan do a/neu yn yr awyr agored, ynghyd ag amser i ymlacio.

4.4 Y gwneir pob ymdrech i ddarparu cyfleoedd cytbwys ar gyfer chwarae dan do ac awyr agored, yn amodol ar gapasiti staffio a chyfyngiadau eraill.

4.5 Bod staff yn dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc wrth eu gwaith.

4.6 Bod staff yn darparu adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc i greu gofod lle gallant chwarae yn y foment ac adeiladu ar eu chwilfrydedd naturiol.

4.7 Bod staff yn arsylwi ar chwarae'r plant ac yn darparu cyfleoedd i wella ac ymestyn eu profiadau fel y bo'n briodol. 

4.8 Y deëllir egwyddorion gwaith chwarae a'u bod yn cael eu rhoi ar waith. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help