Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 5: Hyrwyddo hawliau a lles plant
Llais y Plentyn: Dw i'n teimlo'n saff i fod yn fi fy hun. Mae staff yno pan fydda i eu hangen, ond maen nhw'n gadael imi chwarae'n rhydd.
Deilliant Lles: Bod plant yn profi cydberthnasau cynnes, lle ymatebir iddynt, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, hyder, lles emosiynol a gwydnwch.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
5.1 Bod gan staff wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i oblygiadau i'w gwaith a'u rhyngweithio â'r plant, a'u bod yn ei gefnogi, gan helpu'r plant i ddechrau deall eu hawliau.
5.2. Bod polisïau'r lleoliad ac arferion y staff yn hyrwyddo perthynas gynnes rhwng unigolion, ymdeimlad o ddiogelwch, hunan-werth, annibyniaeth a hyder i blant mewn amgylchedd sy'n ymateb iddynt ac yn eu meithrin.
5.3. Y cyfathrebir mewn ffordd gadarnhaol, yr anogir y plant ac y gwrandewir arnynt. Bod y staff yn edrych i lygaid y plant a bod y cyfathrebu ar lefel y plentyn yn gyffredinol.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Hawliau plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn: poster | LLYW.CYMRU
Hawliau plant:Gwybodaeth i blant - LLYW.CYMRU
Y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn | OHCHR
Fframwaith NYTH - Cyflwyniad i fframwaith NYTH ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl a lles i fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Oedolion yr ymddiriedir ynddynt - Fframwaith NYTH
Chwarae Cymru - Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae'n cefnogi iechyd meddwl plant
