Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 6: ymddygiad
Llais y plentyn
Dw i'n cael fy nhrin â pharch, a dw i'n dysgu trin eraill â pharch hefyd.
Deilliant lles
Bod plant yn cael eu cefnogi i ddatblygu empathi, sgiliau rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a'r gallu i reoli eu hemosiynau.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
6.1 Bod oedolion sy'n gofalu am blant yn y ddarpariaeth wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu ymateb i ystod eang o elfennau o ymddygiad plant, sicrhau hawliau plant a hyrwyddo eu lles, yn unol â'u polisi rheoli ymddygiad.
6.2 Bod polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu sy'n nodi i ba raddau y bydd camau rheoli, cyfyngu a disgyblu yn cael eu defnyddio, ac sy'n dangos sut caiff ymddygiad priodol ei hyrwyddo yn unol ag egwyddorion gwaith chwarae. Bod camau yn cael eu cymryd yn barhaus i adolygu'r polisi a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am unrhyw ddiwygiad o fewn 28 diwrnod.
6.3 Ei bod yn glir pwy sy'n gyfrifol am y polisi rheoli ymddygiad. Bod gan y person hwnnw’r sgiliau i gefnogi unrhyw staff eraill a'i fod yn gallu troi at gyngor arbenigol os nad yw'r dulliau arferol yn effeithiol gyda phlentyn penodol.
6.4 Bod yr ymatebion i ymddygiad yn gyson a phriodol o ran datblygiad, gan barchu lefel dealltwriaeth ac aeddfedrwydd pob plentyn unigol.
6.5 Bod oedolion yn modelu ymddygiad cadarnhaol, gan roi canmoliaeth ac anogaeth, a meithrin perthynas dda rhwng yr oedolion a'r plant. Bod ymddygiad amhriodol, gan gynnwys bwlio, yn cael ei reoli ac yr eir i'r afael ag ef.
6.6 Bod oedolion sy'n darparu cyfleoedd chwarae yn ymwybodol o unrhyw fwlio ac yn annog y plant i sôn am unrhyw bryderon.
6.7 Na ddefnyddir cosbau corfforol, megis ysgwyd neu daro plentyn byth, na'u bygwth.
6.8 Na wnaiff oedolion ddefnyddio unrhyw fath o ymyrraeth gorfforol, ee dal gafael yn y plant neu eu dal yn ôl yn gorfforol rhag gwneud rhywbeth, oni bai bod angen diogelu’r plentyn, plant eraill neu oedolyn rhag cael anaf, neu atal niwed difrifol i eiddo. Gweler y Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol.
6.9 Na chaiff plant eu bychanu, eu dychryn na'u cywilyddio ac na fydd unrhyw un yn gweiddi arnynt.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
