Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad C: Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau

Mae'r Canllawiau hyn yn rhoi manylion am hyfforddiant diogelu sy'n briodol i wahanol rolau yn y sector gofal plant a gwaith chwarae. 

Grŵp A (Lefel 1) – Ymwybyddiaeth o Ddiogelu 

Mae cyrsiau Grŵp A (Lefel 1) – Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Maent yn disgrifio'r mathau gwahanol o gam-drin, sut i'w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Maent hefyd yn esbonio sut i roi gwybod am bryderon yn y ffordd iawn.

Dylai'r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o broses sefydlu pob aelod o staff a gyflogir. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer 

Cyflogeion a fydd o bosibl, ond nid o reidrwydd, yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, ond a fydd o bosibl yn gweithio mewn adeilad lle mae yna ddarpariaeth gofal dydd; neu aelodau o Fwrdd / Pwyllgor sy'n cefnogi darpariaeth gofal dydd.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

  • Gofalwyr/ Glanhawyr/ Cogyddion 
  • Aelodau o'r Pwyllgor nad ydynt yn gweithio 
  • Ysgrifenyddion/ Gweinyddwyr/ Derbynyddion 
  • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth. Os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant, byddai hyfforddiant Grŵp B yn fwy priodol.)
  • Gweithwyr chwarae mynediad agored tymhorol - Argymhellir dilyn modiwl E-ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (1 awr)

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

  • Cwrs ar-lein – Grŵp A - Diogelu drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Hyd: Hyd at 2-3 awr
  • Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant bob 3 blynedd (fel y nodir yn y Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu)

Grŵp B (Lefel 2) – Cwrs Diogelu Canolradd 

Mae cyrsiau Diogelu Plant lefel ganolradd yn helpu i gynyddu’r wybodaeth am ddiogelu sydd gan unigolion eisoes, ac yn addysgu mwy am yr hyn y mae’r broses ddiogelu yn ei olygu. Mae'r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon, ac mae’n gyfle i ddysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a beth sy'n digwydd ar ôl creu adroddiad. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer: 

Gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant. 

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

  • Gweithwyr chwarae
  • Gyrwyr
  • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

  • Cwrs wyneb yn wyneb, lle bo'n bosibl, neu ddysgu cyfunol.
  • Hyd: 4-6 awr/1 diwrnod/2 sesiwn gyda'r nos 

Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu 

Grŵp C (Lefel 3) – Cwrs Diogelu Uwch 

Mae cyrsiau Diogelu lefel uwch yn addysgu mwy am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, ac yn help i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i adolygu a datblygu'r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau tuag at ddiogelu plant. Yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â'r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy'n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant, rolau i'w cyflawni yn y broses amddiffyn plant ar lefel amlasiantaethol gan gynnwys cynadleddau achos a darparu adroddiadau ysgrifenedig. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer:

Y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant ac sy'n gyfrifol yn y pen draw am gwestiwn diogelu o fewn y ddarpariaeth. Bydd angen i'r ymarferwyr hyn fod â'r holl wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch safonau grwpiau A a B.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

Ar y safle

  • Rheolwr Gwaith Chwarae
  • Arweinydd y lleoliad 
  • Y person â chyfrifoldeb 

Oddi ar y safle o bosibl 

  • Y person diogelu dynodedig 
  • Unigolion cyfrifol 
  • Y person cofrestredig 

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

Cwrs wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl 

Hyd: 2 ddiwrnod 

Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu
 
Y person diogelu dynodedig - Defnyddir y term hwn drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Y person diogelu dynodedig yw "y person a nodwyd yn y sefydliad sydd ar gael i drafod pryderon diogelu." Dylid ymgynghori â nhw ynghylch p’un a ddylid codi pryder yn ymwneud â diogelu gyda'r awdurdod lleol, a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod yr unigolyn sydd mewn perygl yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob ymarferydd wybod â phwy yn eu lleoliad i gysylltu am gyngor, ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon, ni waeth pa mor ddibwys y maent yn ymddangos.

Yr arweinwyr diogelu dynodedig yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau staff, teuluoedd, gofalwyr a phobl eraill sydd â mynediad at leoliadau, ac felly mae'n hanfodol bod yr wybodaeth am weithdrefnau amddiffyn plant yn fanwl ac yn gyfredol.

Mwy o Arweiniad a Help 

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant Diogelu ar gael i ddarparwyr o’r ffynonellau canlynol: 

Sicrhewch fod y cwrs diogelu yr ydych yn cofrestru ar ei gyfer yn adlewyrchu arferion a gweithdrefnau Cymru, nid Lloegr – h.y. ei fod yn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu cwrs Diogelu Grŵp A.

Defnyddir y term 'ymarferwyr' drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Defnyddiwyd hwn fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un sydd mewn cyflogaeth â thâl yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.