Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad B:Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Cyflwyniad 

Mae'r canllawiau canlynol yn cefnogi Safon 7 Gofal iechyd (yn benodol, Safonau 7.1 i 7.5) a Safon 8 Meddyginiaeth. Maent yn ymdrin â rhoi parasetamol hylifol yn achlysurol i blant os ydynt yn mynd yn sâl iawn yn ystod eu hamser yn eich lleoliad. 

Rhaid amddiffyn iechyd a lles plant bob amser ac mae'n ofyniad rheoliadol. 

Ni ddylid caniatáu i blant sydd eisoes yn sâl, sydd â thymheredd uchel neu sy'n heintus ddod i'r lleoliad. Mae'r rheol hon yn ei lle er mwyn diogelu iechyd plant eraill a staff (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed). 

Rhaid i leoliadau cofrestredig barhau i ddilyn Safon 7.2 Gofal iechyd sy'n nodi:

Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni/gofalwyr cyn gynted â phosibl.

Mae Safon 7.2 yn ymwneud ag achlysuron pan fydd plant yn yn mynd yn sâl iawn, yn enwedig os ydynt mewn perygl o gael ffitiau, os oes ganddynt dymheredd uchel neu os ydynt yn heintus. Nid yw hyn yr un peth â phlentyn sy'n torri dannedd neu ag annwyd cyffredin arno neu beswch. 

Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod plentyn yn well ar ôl cael parasetamol hylifol, a dylai rhiant/gofalwr gasglu'r plentyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r plentyn fynd yn sâl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu canllawiau ymarferol a gwybodaeth gynhwysfawr i ddarparwyr gofal plant ar reoli achosion o glefydau heintus mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. Mae gwybodaeth i rieni ar gael ar wefan y GIG ar sut i wneud asesiad a phenderfynu a ddylai eu plentyn fynd i leoliad gofal plant neu'r ysgol A yw fy mhlentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol? - GIG

Gall plant a chanddynt symptomau anadlol ysgafn fel trwyn yn rhedeg, dolur gwddf, neu beswch bach, ond sy'n iach fel arall ac sydd heb dymheredd uchel, barhau i fynd i'w lleoliad gofal dydd. 

Mae gweinyddu parasetamol hylifol yn rhywbeth i'w gadw ar gyfer sefyllfaoedd brys pan fo'n anymarferol i rieni/gofalwyr plentyn gasglu'r plentyn yn brydlon, a dim ond pan ddilynir y canllawiau isod.

Canllawiau i leoliadau cofrestredig ar gael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu gan sicrhau bod yr amodau cyffredinol canlynol a'r amodau penodol sy'n ymwneud â pharasetamol hylifol yn cael eu bodloni:

Amodau cyffredinol

  • Bod gan y lleoliad cofrestredig bolisi meddyginiaeth sy'n disgrifio'r amgylchiadau lle gellir gweinyddu parasetamol hylifol i blentyn sy'n dod i'r lleoliad. 
  • Bod y polisi meddyginiaeth wedi cael ei rannu gyda'r rhiant/gofalwr a'i fod yn nodi'r trefniadau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb fod ar bresgripsiwn yn ddiogel, gan gynnwys pan fo angen brys tra bo plentyn yn derbyn gofal yn y lleoliad cofrestredig, er enghraifft, os bydd gan blentyn dymheredd uchel; a
  • Bod rhieni/gofalwyr y plentyn wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r lleoliad cofrestredig weinyddu parasetamol hylifol i'r plentyn perthnasol o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y polisi meddyginiaeth.
  • Lle bynnag y bo modd, bydd rhieni/gofalwyr y plentyn yn rhoi caniatâd llafar ar gyfer pob achlysur dilynol pan fydd parasetamol hylifol yn cael ei weinyddu.

Yr amodau sy'n ymwneud â phob tro y gweinyddir parasetamol hylifol

Mewn sefyllfa pan fo plentyn yn mynd yn sâl tra bo yn y lleoliad cofrestredig, y peth mwyaf priodol yw i'r plentyn gael ei gasglu gan riant neu ofalwr. 

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae rhieni wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nad ydynt yn gallu casglu eu plentyn ar unwaith, byddai'n briodol rhoi parasetamol hylifol ar yr achlysuron canlynol, gan ddilyn yr amodau a amlinellwyd:

Achlysur 1: cysylltwyd â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir casglu'r plentyn yn syth:

  • mae rhiant neu ofalwr y plentyn wedi rhoi caniatâd llafar i'r dos o barasetamol gael ei roi; 
  • dim ond os oes cyfnod o 4 awr o leiaf wedi mynd heibio ers rhoi'r dos diwethaf o barasetamol i'r plentyn, ceir rhoi parasetamol hylifol; ac
  • mae'r rhiant neu'r gofalwr wedi trefnu i gasglu'r plentyn o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol;

neu 

Achlysur 2: mae'r lleoliad cofrestredig wedi ceisio cysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir cysylltu â nhw:

  • rhaid i'r lleoliad cofrestredig gysylltu â GIG 111, ac mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (yn GIG 111) wedi cynghori y byddai'n briodol rhoi dos o barasetamol hylifol;
  • yn dilyn hynny, dylai'r lleoliad cofrestredig gysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn i drefnu i'r plentyn gael ei gasglu o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted â phosibl/cyn gynted ag y bo'n ymarferol. 

Storio, gweinyddu a chadw cofnodion

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod darparwyr cofrestredig yn cael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir yn y canllawiau hyn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio pecynnau o barasetamol di-siwgr fel meddyginiaeth hylifol, a phob un yn cynnwys 120mg o barasetamol ym mhob 5mL oherwydd eu bod yn haws eu storio, bod ganddynt labeli yn nodi'r dyddiad pan fydd y cynnwys heibio ei orau, a'u bod yn lleihau'r posibilrwydd o groeshalogi rhwng plant. 

Mae parasetamol hylifol di-siwgr ar gael mewn poteli a phecynnau. Mae pecynnau yn rhoi'r dos cywir ar gyfer rhai plant pan ddefnyddir un neu fwy nag un pecyn, heb fod angen llwy fesur neu chwistrell geg. Fodd bynnag, i rai plant byddai angen defnyddio rhan o becyn. Dylai darparwyr cofrestredig benderfynu ar y ffurf fwyaf priodol o barasetamol hylifol di-siwgr ar gyfer eu lleoliad. Pan ddefnyddir poteli o barasetamol hylifol sy'n cynnwys dosau lluosog, dylai fod gan ddarparwyr cofrestredig drefniadau gofalus ar waith rhag croeshalogi ac i fesur dos yn gywir. Dylai'r rhain gael eu dogfennu a'u gweithredu gan y rheolwr neu'r person â chyfrifoldeb am weinyddu meddyginiaeth. 

Mae angen hefyd i unrhyw un sy'n gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth fod wedi cael gwybodaeth am bwysigrwydd dilyn unrhyw gyfarwyddiadau wrth ei defnyddio, fel ysgwyd y botel yn dda cyn ei hagor (er mwyn sicrhau'r dos cywir).

Gellir cael cyngor ar brynu parasetamol hylifol o unrhyw fferyllfa.

Rhaid i'r lleoliad cofrestredig sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer storio a gweinyddu dosau o barasetamol hylifol yn ddiogel, a chadw cofnodion o'r dosau hynny yn unol â'r polisi meddyginiaeth. 

Rhaid gwirio'n rheolaidd y dyddiadau pan fydd pob meddyginiaeth sydd wedi'i storio heibio ei gorau (o leiaf bob tri mis), a chyn gweinyddu pob dos.

Rhaid cofnodi pob dos o barasetamol hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal dydd gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.

Rhaid cofnodi pob dos o barasetamol hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal dydd gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.