Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad A: Canllawiau Cymorth Cyntaf y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig

Mae'r canllawiau hyn yn rhan bwysig o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Maent yn darparu arweiniad a chyngor i alluogi personau cofrestredig a'u staff i fodloni’r gofynion cymorth cyntaf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pennu'r gofynion sylfaenol ar gyfer Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig. Mae darparwyr gofal plant yn gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymwys i gyflwyno eu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig. Yn achos Cymorth Cyntaf Pediatrig, nid ydym yn nodi cwrs neu gorff dyfarnu penodol i ddarparwyr eu defnyddio, gan y bydd hyn yn amrywio ledled Cymru. Fodd bynnag, darperir cyngor i helpu darparwyr i ddewis cwrs, a bydd angen iddynt sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn, anghenion y lleoliad a'r rhai sy'n ei ddefnyddio. 

Gwyddom fod llawer o leoliadau gofal plant a chwarae yn awyddus i sicrhau bod cynifer o’u staff â phosibl wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf. Bydd annog mwy o staff i gwblhau'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i rieni/gofalwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn helpu i sicrhau bod staff â chymwysterau addas ar gael bob amser i gyflenwi pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bydd cynyddu nifer y staff sydd wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig hefyd yn codi hyder ynghylch diogelwch, a gallai leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau yn ymwneud â’r plant.

Rydym hefyd yn annog lleoliadau i ystyried nifer y plant a’r staff a chynllun y fangre er mwyn sicrhau bod swyddog cymorth cyntaf pediatrig yn gallu ymateb i argyfyngau'n gyflym.

Dylai darparwyr arddangos tystysgrifau Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng y staff mewn lle amlwg, neu restr o staff sydd â thystysgrifau cyfredol mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng (neu sicrhau eu bod ar gael i rieni). 

Dylai darparwyr ystyried a oes angen i swyddogion cymorth cyntaf pediatrig ymgymryd â hyfforddiant gloywi blynyddol, yn ystod unrhyw gyfnod ardystio o dair blynedd i helpu i gynnal eu sgiliau sylfaenol a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i weithdrefnau Cymorth Cyntaf Pediatrig. 

Egwyddorion cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a Llawn:

  1. Mae’r hyfforddiant wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr sy'n gofalu am blant yn absenoldeb eu rhieni/gofalwyr ac mae'n briodol i oedran y plant sy'n derbyn gofal. 
  2. Rhaid darparu digon o offer dadebru ac offer arall, gan gynnwys modelau o fabanod a phlant, fel bod yr holl hyfforddeion yn gallu ymarfer a dangos technegau. 
  3. Yn dilyn hyfforddiant, mae asesiad o gymhwysedd yn arwain at ddyfarnu tystysgrif. 
  4. Rhaid adnewyddu'r dystysgrif bob tair blynedd. 
  5. Dylid dilyn y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng wyneb yn wyneb a dylai bara am o leiaf 6 awr (heb gynnwys seibiannau) a chwmpasu’r meysydd canlynol:
  • Gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu’r camau i'w cymryd 
  • Helpu plentyn nad yw’n ymateb ond sy’n anadlu’n arferol 
  • Helpu plentyn nad yw’n ymateb ac nad yw'n anadlu’n arferol
  • Helpu plentyn sy'n cael ffit 
  • Helpu plentyn sy'n tagu 
  • Helpu plentyn sy'n gwaedu 
  • Helpu plentyn sy'n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig)

Dylai'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn bara o leiaf 12 awr (heb gynnwys seibiannau) a chynnwys yr elfennau a restrir isod yn ogystal â'r meysydd a nodir ym mharagraff 5 (dylid cyflwyno'r elfennau o’r hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a amlinellir ym mharagraff 5 wyneb yn wyneb).

  • Helpu plentyn sy'n dioddef o sioc anaffylactig 
  • Helpu plentyn sydd wedi cael sioc drydanol 
  • Helpu plentyn sydd â llosgiadau neu sgaldiadau 
  • Helpu plentyn yr amheuir ei fod wedi torri asgwrn 
  • Helpu plentyn sydd ag anafiadau i'w ben, ei wddf neu ei gefn 
  • Helpu plentyn yr amheuir ei fod wedi'i wenwyno 
  • Helpu plentyn sydd â rhywbeth estron yn ei lygad, ei glust neu ei drwyn 
  • Helpu plentyn sydd ag anaf i'w lygad 
  • Helpu plentyn sydd wedi’i gnoi neu ei bigo 
  • Helpu plentyn sy'n dioddef o effeithiau gwres neu oerfel eithafol 
  • Helpu plentyn sy’n dioddef: argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; llid yr ymennydd; a/neu ffitiau twymyn
  • Deall rôl a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau). 

Lluniwyd yr egwyddorion uchod i adlewyrchu’r rhannau perthnasol o gynnwys Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac fe’u seiliwyd ar y canllawiau yr arferai’r Awdurdod eu rhoi i ddarparwyr hyfforddiant pan oeddent yn rheoleiddio darparwyr hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn uniongyrchol. 

Mae wyneb yn wyneb yn golygu bod yr hyfforddwyr yn bresennol yn gorfforol gyda'u hyfforddeion. Mae hyn yn golygu na cheir cynnal y sesiynau hyfforddi penodol hyn ar-lein.