Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Crynodeb o'r prif newidiadau
Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn disodli dogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. Mae canllawiau ar gyfer Safonau Gofynnol Cenedlaethol annibynnol ar wahân wedi'u cyhoeddi ar gyfer darparwyr chwarae mynediad agored a reoleiddir.
Mae'r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o'r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.
Newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad
Darpariaeth chwarae mynediad agored
Mae set benodol o Safonau Gofynnol Cenedlaethol annibynnol ar gyfer darpariaeth chwarae mynediad agored wedi'i chreu i adlewyrchu natur unigryw'r math hwn o ofal dydd. Tynnwyd y cyfeiriadau at chwarae mynediad agored o'r canllawiau hyn. Ewch i Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol.
Strwythur a chynllun y Safonau
Cyflwynir canllawiau'r Safonau ar ffurf HTML, ac ychwanegwyd fersiwn y gellir ei hargraffu i sicrhau bod y canllawiau yn gydnaws â safonau www.Llyw.Cymru, ac i wella'r strwythur, y cynllun a phrofiad y defnyddiwr.
Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Mae'r paragraff "Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol" wedi'i ddiweddaru. Mae pob safon yn cynnwys datganiad Llais y Plentyn a datganiad Deilliant Lles, ac yna nodir y safonau perthnasol, y rheoliadau cysylltiedig a dolenni i ganllawiau pellach.
Darpariaeth o ansawdd uchel
Mae'r adran hon wedi'i chynnwys i gryfhau'r wybodaeth a'r gofynion o ran ansawdd, gan ymgorffori meddylfryd sy'n hyrwyddo hawliau plant.
Diffiniad o chwarae mynediad agored
Nodir diffiniad diwygiedig yn dilyn argymhelliad 11.3 o Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae i adolygu a diweddaru'r diffiniad o chwarae mynediad agored.
Safon 11 Meddyginiaeth a'r Atodiad Chategol: Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig
Mae Safon 11 Meddyginiaeth wedi'i diweddaru i ddarparu safonau cliriach ac i wahaniaethu rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn. Mae Atodiad Ch yn rhoi eglurder ar weinyddu parasetamol hylifol nad yw ar bresgripsiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir.
Defnyddio staff mewn Gofal Dydd: Safon 13 (GD) Person addas (Gofal Dydd)
Ychwanegwyd Safon 13.4 (GD) a Safon 13.5 (GD) i roi eglurder ar sut y defnyddir staff ar draws y lleoliad. Mae'r Safonau yn darparu arweiniad mewn achosion lle mae lleoliad yn cynnwys staff ychwanegol efallai, uwchlaw'r cymarebau oedolion: plant gofynnol i helpu i ddiwallu anghenion unigol plant.
Cynorthwywyr gwarchodwyr plant ac atodiad a (cynorthwywyr gwarchodwyr plant): Safon 13 (GP) Person addas
Mae'r newidiadau yn rhoi eglurder ynghylch rôl cynorthwy-ydd gwarchodwr plant. Mae Safon 13 (GP) Person addas, 13.4 (GP), wedi'i diweddaru i roi eglurder ynghylch yr amgylchiadau pan all cynorthwy-ydd gwarchodwr plant ddechrau gweithio tra bydd yn cwblhau cymhwyster cynorthwy-ydd gwarchodwr plant.
Mae Atodiad A wedi'i ddiweddaru i ddarparu arweiniad ynghylch y cyfnod y gall cynorthwy-ydd gwarchodwr plant gael ei adael ar ei ben ei hun i ofalu am blant.
Cymarebau gwarchodwyr plant: Safon 15 (GP) cymarebau staffio
Mae Safonau 15.1 (GP), 15.2 (GP) a 15.3 (GP) wedi newid i adlewyrchu nifer y plant y gall gwarchodwyr plant ofalu amdanynt, yn enwedig plant dan 5 oed, ac i gefnogi darpariaeth gwarchodwyr plant sy'n hyblyg ac yn gynaliadwy.
Newidiadau yn sgil y drefn arferol
Y bennod ragarweiniol
Mae'r bennod ragarweiniol wedi'i diweddaru. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am ofal plant o ansawdd uchel ac yn pwysleisio hawliau plant, lles, cydberthnasau, datblygiad emosiynol a phrofiad bywyd. Mae dolenni wedi'u diweddaru i bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd â dolenni i sefydliadau perthnasol.
Gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir
Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gynnwys enghreifftiau newydd o ddarpariaeth gofal dydd.
Eithriadau: amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru
Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gyflwyno newidiadau sydd i gael eu gwneud yn y dyfodol o safbwynt eithriadau, ac mae'n esbonio'r cyfnod pontio (o Ebrill 2027 i Fawrth 2028) ar gyfer darparwyr na fyddant efallai wedi'u heithrio bellach rhag gorfod cofrestru.
Newidiadau polisi allweddol
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru cyfeiriadau allweddol at ddeddfwriaeth a/neu bolisi yng nghanllawiau'r Safonau, gan gynnwys newid geiriad, er mwyn cryfhau safonau penodol. Dyma rai o’r newidiadau pwysig:
- Safon 6: Gweithio mewn partneriaeth â rhieni, Safon 6.11, diweddaru cyfeiriad deddfwriaethol.
- Safon 7: Cyfleoedd i chwarae a dysgu, cysoni ag egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a chyfeiriadau at y Cwricwlwm i Gymru.
- Safon 10: Gofal iechyd, safonau gwrth-smygu a fepio.
- Safon 20: Diogelu.
- Safon 24: Diogelwch, safonau risg tân.
- Geirfa: mae termau newydd wedi'u hychwanegu at yr eirfa.
Argymhellir bod darparwyr yn ymgyfarwyddo â'r fersiwn ddiwygiedig hon o'r Safonau a'u bod yn cael gwared ar unrhyw gopïau papur blaenorol.
