Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 14: Trefniadaeth
Llais y Plentyn: Dw i bob amser yn gwybod pwy sy'n gofalu amdana i a beth sy'n digwydd.
Deilliant Lles: Y cyfrennir at les y plant drwy wasanaeth sydd wedi'i drefnu'n dda, lle mae nifer yr oedolion yn diwallu eu hanghenion yn unol â'r gofynion.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
14.1 Bod cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu'n rheolaidd. Rhaid sicrhau bod y cynllun hwn ar gael i rieni. Nod y cynllun yw sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio a'i drefnu'n dda a'i gwneud yn bosibl trefnu'r ddarpariaeth mewn ffordd mor hyblyg â phosibl gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac anghenion y plant a'r teuluoedd. Bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth, ond gallai gynnwys:
- manylion y strwythur cyfundrefnol.
- cyfrifoldebau rheolwyr llinell.
- strwythur staffio sy’n nodi cyfrifoldebau arwain a rheoli.
- manylion y fangre a'r cyfleusterau a sut y cânt eu defnyddio.
- cynlluniau hyfforddi.
- gwybodaeth am ddatblygiad y gwasanaeth.
- cynlluniau gweithredu.
14.2 Bod staff yn cael eu defnyddio'n effeithiol o fewn y ddarpariaeth i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad plant.
14.3 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb. Nid yw hyn yn berthnasol i warchodwyr plant.
14.4 Y gofelir am blant o dan 2 oed mewn grwpiau o ddim mwy na 12. Fel arall, rhaid sicrhau na fydd mwy na 26 o blant mewn grŵp. Gall darpariaeth gynnwys mwy nag un grŵp. Er mai grwpiau allweddol llai gyda staff cyson ddylai fod yn norm, gellir annog plant a staff i symud rhwng grwpiau yn y lleoliad yn ystod y dydd, er mwyn darparu profiad cyfoethocach i'r plant.
14.5 Bod pob plentyn yn cael ei ddyrannu i aelod o staff, a bydd yr unigolyn hwnnw yn weithiwr allweddol i'r plentyn. Y gweithiwr allweddol sy'n bennaf gyfrifol am ei les bob dydd, ac sy'n sicrhau bod gwybodaeth am y plentyn yn cael ei rhannu â'r rhiant.
14.6 Bod plant yn cael y cyfle i ryngweithio â'r oedolion sy'n gofalu amdanynt. Rhaid i staff fynd ati i geisio datblygu perthynas dda â'r plant a rhoi cyfle i grwpiau bach o blant ryngweithio a chwarae gyda'i gilydd.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar dwyieithog.
