Neidio i'r prif gynnwy

Safon 13: person addas

Llais y plentyn

Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i'n garedig ac yn gwybod sut i'm cadw i'n ddiogel ac yn hapus.

Deilliant lles

Bod plant yn mwynhau profiadau chwarae, cydberthnasau diogel ac sy'n eu cyfoethogi, gydag oedolion medrus, meddylgar, sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Mae'r person cofrestredig ym mhob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 Bod pob hyfforddai yn gweithio o dan oruchwyliaeth agos bob amser. 

13.2 Bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant yn ystod wythnos gyntaf eu cyflogaeth. 

13.3 Y rhoddir sylw i anghenion hyfforddi parhaus y staff ac y darperir ar eu cyfer yn rheolaidd.

13.4 Bod yr holl staff cyflogedig yn cael eu goruchwylio’n rheolaidd ar sail un-i-un, gan eu hannog i ystyried ansawdd eu harferion a chodi unrhyw bryderon o ran diogelwch. Eu bod hefyd yn cael eu gwerthuso'n ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn.

Safon 13 (GP): person addas (gwarchodwr plant)

Gweler Atodiad A: Canllawiau i Gynorthwywyr Gwarchodwyr Plant, i gael gwybod mwy am weithio gyda chynorthwy-ydd.

Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 (GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.

13.2 (GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant. 

13.3 (GP) Bod y gwarchodwr plant wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs cyn-cofrestru priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. 

13.4 (GP) Bod unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant yn meddu ar gymhwyster priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os nad oes ganddynt gymhwyster priodol adeg eu cyflogi, mae'n ofynnol i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Ni ddylid eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant nes eu bod wedi ennill y cymhwyster.

13.5 (GP) Bod y gwarchodwr plant, unrhyw gynorthwy-ydd, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r gwarchodwr plant ac unrhyw gynorthwy-ydd ddechrau gofalu am blant.

13.6 (GP) Bod y gwarchodwr plant yn rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am ei fwriad i gyflogi neu i weithio gydag unrhyw gynorthwywyr i ofalu am y plant.

13.7 (GP) Fel y person cofrestredig, mai'r gwarchodwr plant sy'n atebol am waith unrhyw gynorthwy-ydd, ac yn gyfrifol am ddiogelwch, lles a datblygiad y plant yn ei ofal. Bod y gwarchodwr plant yn defnyddio’r cynorthwy-ydd mewn ffordd effeithiol ac yn fodlon bob amser bod y cynorthwy-ydd yn gymwys ym mhob rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud. Bod y gwarchodwr plant yn cadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd, a fydd yn cynnwys cofnodion sy’n nodi eu henw, eu cyfeiriad, eu rhifau cyswllt, manylion y broses o’u recriwtio, eu sefydlu, eu goruchwylio, eu gwerthuso, eu hyfforddiant a’u cymwysterau. 

13.8 (GP) Bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chadw o ddydd i ddydd: 

  • enwau'r bobl sy'n bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn y cartref tra bydd y plant yn cael eu gwarchod 
  • enw a chyfeiriad y cynorthwywyr (p'un a ydynt yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr mewn rôl â thâl neu ddi-dâl) 
  • oriau gwaith unrhyw gynorthwy-ydd, gan gynnwys unrhyw oriau pan oeddent yn gweithio ar eu pen eu hunain, ac enwau’r plant yr oeddent yn gyfrifol amdanynt yn ystod yr adegau hyn

Safon 13 (GD): person addas (gofal dydd)

Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Yr holl staff

13.1 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant. 

13.2 (GD) Bod y staff yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant.

13.3 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â’r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r unigolion hyn ddechrau gweithio gyda phlant neu ddod i gysylltiad rheolaidd â nhw heb oruchwyliaeth. 

13.4 (GD) Bod canrannau staff cymwysedig a staff heb gymhwyso yn cael eu cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan, yn hytrach nag ar sail ystafell. Yr ystyrir yn ofalus sut caiff staff eu dosrannu ar draws y lleoliad ac ym mhob ystafell i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad y plant bob amser, gan gynnwys plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol. Bod pob ystafell wedi'i staffio ag unigolion sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas.

13.5 (GD) Bod cymarebau oedolion:plant gofynnol yn cael eu gwarchod.   Gellir defnyddio staff ychwanegol, sy'n mynd â nifer y staff yn uwch na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y cymarebau o ran staffio a chymwysterau lle nodir bod angen cymorth penodol i ddiwallu anghenion unigol plant, neu i wella ansawdd y gofal. 

Y person â chyfrifoldeb

13.6 (GD) Cyn ei benodi, rhaid bod gan berson sydd â chyfrifoldeb (rheolwr): 

13.7 (GD) Mewn lleoliad gofal dydd i blant rhwng 0 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb: 

13.8 (GD) Mewn lleoliad darpariaeth chwarae i blant rhwng 5 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).

13.9 (GD) Mewn lleoliad cynllun chwarae yn ystod y gwyliau, bod gan y person â chyfrifoldeb: 

  • O leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).
  • O leiaf cymhwyster lefel 3 mewn sector cysylltiedig.
  • Dyfarniad Rheoli Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau, a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).

Staff eraill (Cymwysterau)

13.10 (GD) Ar gyfer gofal sesiynol:

  • Bod gan o leiaf 40% o'r holl "staff eraill" gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy'n briodol i'r swydd A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster lefel 3.
  • Bod o leiaf 10% yn rhagor o’r holl "staff eraill" yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3.
  • Nad yw mwy na 50% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.

Mewn lleoliadau gofal sesiynol, rhaid i o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.

Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
    gyfrifol.
  • Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
  • Mae’r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru neu mae wrthi’n ymgymryd â hyfforddiant o’r fath.
  • Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel ofynnol.

13.11 (GD) Ar gyfer gofal dydd llawn:

  • Bod gan o leiaf 60% o’r “staff eraill” gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster ar lefel 3. (Ar gyfer lleoliadau gofal dydd llawn i blant rhwng 0 a 12 oed, gall fod gofyn i staff fod â chymhwyster a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd.
  • Bod o leiaf 20% yn rhagor o’r holl “staff eraill” yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3.
  • Nad yw mwy na 20% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.

Mewn lleoliadau gofal dydd llawn, rhaid i o leiaf 80% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.

Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
    gyfrifol.
  • Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
  • Mae'r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant neu mae wrthi'n ymgymryd â hyfforddiant o'r fath.
  • Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel 
    ofynnol.

Mae Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio pa gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol leoliadau gofal plant a staff yn y lleoliadau hyn. 

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru wedi datblygu siart lif sy'n disgrifio pa gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer gwaith chwarae mewn gwahanol leoliadau, a staff yn y lleoliadau hyn.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, er enghraifft, peidio â chyfrif y Person(au) â Chyfrifoldeb: 

Os oes 14 aelod o staff mewn lleoliad:

  • Bydd angen cymhwyster lefel 2 o leiaf ar 60% o leiaf o’r rhain, yn yr enghraifft hon, 9 aelod staff; a byddai angen i o leiaf hanner y rhain fod â chymhwyster lefel 3 o leiaf, yn yr enghraifft hon, 5 aelod staff.
  • Rhaid i o leiaf 20% o’r holl staff fod yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3, gan eu cynnwys yng nghymarebau cymwysterau staff, yn yr enghraifft hon, 3 aelod staff 
  • Gwirfoddolwyr neu weithwyr dan hyfforddiant fydd y 2 aelod staff arall, gyda thâl neu’n ddi-dâl.
  • Bydd lleoliadau yn talgrynnu i’r nifer o staff cyfan agosaf.

13.12 (GD) Mewn lleoliadau sy’n gofalu am blant o dan 2 oed:

  • Bod y staff sy'n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny.
  • Bod o leiaf hanner y staff sy'n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn.
  • Bod gan y person sydd â chyfrifoldeb am yr ystafell fabanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan 2 oed.
  • Bod y trefniadau staffio'n lleihau nifer yr unigolion sy’n ymwneud â phlentyn unigol (gweler safon 8.6).

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen