Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 12: Bwyd a diod
Llais y Plentyn: Dw i'n cael bwyd a diodydd iach sy'n iawn i mi, ac mae pawb yn gwirio gyda fy nheulu beth sydd ei angen arna i.
Deilliant Lles: Bod digon o ddiodydd a bwyd iach a maethlon yn ôl eu hanghenion deietegol yn cael eu darparu yn gyson i’r plant.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
12.1 Y ceir gwybodaeth gan rieni, a gofnodir, am ofynion deietegol plant unigol, gan gynnwys gofynion diwylliannol a chrefyddol, a deietau therapiwtig ar gyfer alergeddau bwyd y cafwyd diagnosis swyddogol ohonynt, ac y cydymffurfir â nhw.
12.2 Os yw’r plant yn derbyn prydau a/neu fyrbrydau, eu bod yn cael eu paratoi mewn ffordd ddiogel, yn gytbwys o ran maeth, o ansawdd da ac yn briodol o ran maint, gan ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru yn yCanllawiau bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant. Bod y bwyd a'r diod a gynigir yn amrywiol ac yn faethlon ac yn bodloni gofynion crefyddol, diwylliannol a deietegol pob un o'r plant.
12.3 Bod dŵr yfed ffres ar gael yn hwylus i'r plant bob amser.
12.4 Bod bwyd yn cael ei storio'n ddiogel. Os yw rhieni yn darparu bwyd, eu
bod yn cael gwybod beth gellir ei storio'n ddiogel.
12.5 Y cydymffurfir â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd Amgylcheddol.
12.6 Mewn lleoliadau lle mae amseroedd penodedig ar gyfer prydau bwyd a diodydd, eu bod wedi'u trefnu i gynnig cyfleoedd cymdeithasol, gan ddefnyddio byrddau, seddau, llestri a chyllyll a ffyrc priodol.
12.7 Os darperir gofal i fabanod a phlant dan 2 oed:
- bod bwydo a newid cewynnau yn digwydd yn unol ag anghenion y plentyn unigol, ac nid fel rhan o drefn y feithrinfa
- bod cyfleusterau ar gael i gefnogi mamau sydd am barhau i fwydo ar y fron, ee i storio llaeth y fron yn ddiogel neu i ymweld er mwyn bwydo'u baban ar y fron yn ystod yr amser y gofelir am y plentyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw'r cyfleusterau ar gael yn barhaol, y gwneir trefniadau dros dro yn ôl y gofyn
- bod babanod yn cael eu dal wrth eu bwydo o botel, os yn bosibl gan yr un gofalwr neu weithiwr allweddol ar bob achlysur
- bod ardal yn cael ei darparu lle mae dŵr yfed ar gael a chyfleusterau i
baratoi bwyd babanod mewn ffordd hylan - bod cyfarpar sterileiddio addas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar bwydo babanod a dymis
- bod cofnodion o'r bwyd a roddir i fabanod yn cael eu cadw, a’u dangos i'r rhiant/rhieni.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad a Help
Canllawiau bwyd a maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant
Bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant: safonau, canllawiau a chynllunio bwydlenni
Canllawiau maeth i blant Sefydliad Maetheg Prydain ar nutrition.org
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar food.gov.uk
Bwyd mwy diogel, busnes gwell ar gyfer gwarchodwyr plant
Asiantaeth Safonau Bwyd - Canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd
Hylendid a Safonau Bwyd Iechyd yr Amgylchedd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar srs.cymru
Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy
Millie’s Mark– marc ansawdd achrededig ar gyfer hyfforddi pob aelod o staff mewn cymorth cyntaf pediatrig
