Neidio i'r prif gynnwy

Safon 11: Meddyginiaeth

Llais y Plentyn: Os oes angen meddyginiaeth arna i, mae'n cael ei roi yn ddiogel imi a dim ond pan fydd fy nheulu yn dweud bod hynny'n iawn.

Deilliant Lles: Bod iechyd plant yn cael ei ddiogelu drwy roi'r feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau meddyginiaeth y lleoliad.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

  1. Bod y safonau hyn yn cael eu darllen ochr yn ochr â Safon 10: Gofal iechyd a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer atal a rheoli heintiau.
  2. Bod polisi meddyginiaeth clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff, ynghylch storio a gweinyddu unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig neu nas rhagnodwyd). Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig. 
  3. Bod y polisi meddyginiaeth yn cael ei rannu â rhieni ac yn nodi'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ragnodedig ac nas rhagnodwyd yn ddiogel.  Bod y polisi yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer delio ag argyfyngau meddygol a phan fydd plant yn mynd yn sâl yn y lleoliad.
  4. Bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn i unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig/nas rhagnodwyd) gael ei rhoi.
  5. Os rhoddir meddyginiaeth i blentyn, bod yna ddealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Os yw’r plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth ei hun, bod hyn yn digwydd yn unol â chanllawiau ysgrifenedig gan y rhiant a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Rhaid goruchwylio plant sy'n cymryd eu meddyginiaeth eu hunain. 
  6. Yr holir y person sy'n dod â'r plentyn i'r lleoliad gofal plant pryd yn union y gweinyddwyd y feddyginiaeth ddiwethaf.
  7. Na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw. 
  8. Os yw gweinyddu meddyginiaethau presgripsiwn yn gofyn am wybodaeth dechnegol neu glinigol, bod y person sy'n gweinyddu'r feddyginiaeth wedi'i hyfforddi'n briodol i wneud hynny. Bod yr hyfforddiant yn benodol i'r plentyn unigol dan sylw. 
  9. Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad, y ceir gafael arni gan y lleoliad ac a weinyddir gan y lleoliad yn hen.
  10. Bod pob meddyginiaeth yn cael eu storio yn eu cynhwysydd gwreiddiol. Bod meddyginiaeth a ragnodwyd wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn.   
  11. Bod pob meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ac nad oes modd i'r plant gael gafael arnynt.
  12. Bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o bob meddyginiaeth a weinyddir i blant, a bod rhieni yn llofnodi'r llyfr cofnod i'w chydnabod.
  13. Os ydych yn derbyn parasetamol hylifol, yn ei storio ac yn ei weinyddu pan fydd plentyn yn mynd yn sâl yn eich lleoliad, dilynwch y canllawiau yn Atodiad Ch - Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help