Neidio i'r prif gynnwy

Safon 15: Cymarebau staffio

Llais y Plentyn: Mae yna ddigon o bobl bob amser i ofalu amdana i a fy ffrindiau.

Deilliant Lles: Bod plant yn derbyn gofal cyfoethog ac ystyrlon a chyfleoedd chwarae oherwydd bod y lefelau staffio yn diwallu eu hanghenion.

Mae'r person cofrestredig ym mhob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn gyfrifol am sicrhau:

15.1 Bod y gymhareb oedolion:plant ofynnol yn cael ei bodloni.

15.2 Nad yw unrhyw ofal a ddarperir ar gyfer plant dros 12 oed yn cael effaith andwyol ar y gofal a ddarperir ar gyfer plant hyd at 12 oed, ac fel arall.

15.3 Na chynhwysir myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliadau hyfforddi o 12 wythnos neu lai yn y gymhareb oedolion:plant.

Gweithgareddau Arbenigol 

15.4 Bod darpariaeth gofal dydd sy'n cynnig gweithgareddau arbenigol yn cynnal a chadw gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer pob rhaglen o weithgareddau arbenigol. Rhaid i'r gweithdrefnau hyn:

  • fod yn briodol i'r safle a lefel y gweithgareddau a gynhelir; 
  • diffinio'r cymwyseddau, y cymwysterau a/neu'r profiad sy'n ofynnol gan y staff sy'n ymgymryd â gwahanol lefelau o gyfrifoldeb; a
  • bod yn gyson â Chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, lle bo'n briodol; Canllawiau Pwyllgor Cynghori Canolfannau Gweithgareddau, lle maent wedi'u sefydlu; a Chanllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, lle maent yn berthnasol o ran cynnal y gweithgareddau yn ddiogel ar y lefel yr ymgymerir â hi.

15.5 Bod gan bob aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli gweithgaredd y cymwyseddau, y cymwysterau a'r profiad y mae eu hangen i wneud hynny. Mae angen trwydded weithgareddau os yw hynny'n berthnasol.

Safon 15: Cymarebau staffio (Gwarchodwr Plant)

15.1 (GP) Wrth benderfynu ar nifer y plant y bydd gwarchodwr plant yn cynnig gofal iddynt, mai anghenion gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth, fel yr amlinellir yn safon 4 - diwallu anghenion unigol.

Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

  • 10 o blant hyd at 12 oed; 
  • O'r 10 plentyn hynny, dim mwy na chwech o dan 8 oed;
  • O'r chwe phlentyn hynny, dim mwy na phedwar o dan 5 oed; 
  • O'r pedwar plentyn hynny, dim mwy na thri o dan 2 oed;
  • O'r tri phlentyn hynny, fel rheol ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed, er y gall Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno ar eithriad yn achos gefeilliaid neu dripledi. 

15.2(GP) Caiff plant sydd i fod i ddechrau addysg statudol amser llawn (blwyddyn dderbyn) ym mis Medi gael eu categoreiddio fel plant dros bump oed yn ystod gwyliau'r haf yn union cyn hyn at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant. Rhaid mai anghenion, gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth o hyd.

15.3(GP) Gellir ystyried bod plant 3–5 oed sy'n mynychu addysg feithrin, neu gyfuniad o addysg feithrin a gofal plant cofleidiol am 5 awr neu fwy mewn lleoliad arall fel plant dros 5 oed at ddibenion cymarebau gwarchodwyr plant. Rhaid mai anghenion, gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth o hyd.

15.4(GP) Mae’r cymarebau yn cynnwys unrhyw blant o dan 12 oed yn y fangre, gan gynnwys plant y gwarchodwr ei hun, ac unrhyw rai eraill y mae’n gyfrifol amdanynt.

15.5(GP) Os bydd gwarchodwr plant yn cyflogi cynorthwy-ydd, bydd yr un gymhareb oedolion:plant yn berthnasol i’r cynorthwy-ydd, o ran unrhyw blant ychwanegol. Fodd bynnag, gallai'r lle sydd ar gael i blant yn y fangre hefyd effeithio ar nifer y plant y gellir cofrestru'r ddarpariaeth ar eu cyfer.

Safon 15: Cymarebau staffio (Gofal Dydd)

15.1(GD) Mewn gofal dydd, y dilynir y gymhareb staffio ofynnol ganlynol: 

  • Un oedolyn: tri phlentyn o dan 2 oed. 
  • Un oedolyn: pedwar plentyn 2 oed. 
  • Un oedolyn: wyth plentyn 3–7 oed. 
  • Un oedolyn: deg plentyn 8-12 oed. 

Mae'r cymarebau hyn yn cynnwys unrhyw blant i staff neu wirfoddolwyr ac yn berthnasol i unrhyw weithgarwch, er enghraifft hebrwng a chludo plant. Ceir ystyried gwirfoddolwyr rheolaidd yn y cymarebau staffio arferol.

15.2(GD) Bod o leiaf ddau aelod o staff ar ddyletswydd bob amser.

15.3(GD) Bod y lefelau staffio'n cael eu cynnal yn ystod tripiau, ac o dan rai amgylchiadau efallai y bydd angen mwy o staff na hynny. Bod gan staff sy'n goruchwylio plant yn ystod tripiau gymhwyster lefel 3.

15.4(GD) Bod trefniadau addas wrth gefn wedi'u sefydlu ar gyfer argyfyngau neu pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bod digon o staff a gwirfoddolwyr addas ar gael i ystyried egwyliau, gwyliau, hyfforddiant a salwch staff, ac amser y byddant yn ei dreulio gyda rhieni.

15.5(GD) Bod y gymhareb oedolion:plant yn ymwneud â'r amser sydd gan staff i weithio'n uniongyrchol gyda phlant:

a) Bydd angen staff ac adnoddau rheoli ychwanegol i wneud gwaith rheoli, gan gynnwys, er enghraifft, ymgysylltu â rhieni a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant, goruchwylio staff a gofynion rheoliadol, os yw’n effeithio ar y gymhareb ofynnol. 

b) Bydd angen staff ac adnoddau ychwanegol i baratoi prydau bwyd neu fyrbrydau, gwneud gwaith domestig a chynnal a chadw’r mangreoedd a’r cyfarpar os yw'n effeithio ar y gymhareb ofynnol. 

15.6(GD) Os yw natur y lleoliad gofal dydd yn golygu bod y nifer yn newid (ee yn achos crèche neu ddarpariaeth galw heibio arall), bod digon o staff ar gael i sicrhau bod unrhyw grŵp o blant, sy'n newid yn gyson, yn ddiogel a bod y plant yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i ymgartrefu. Ceir ystyried gwirfoddolwyr a hyfforddeion rheolaidd yn y cymarebau staffio arferol.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar dwyieithog.

Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau