Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 16: Cyfle cyfartal
Llais y Plentyn
Mae pawb yn cael eu trin yn deg, a galla i ymuno, pwy bynnag ydw i.
Deilliant Lles
Bod pob plentyn yn profi tegwch, ac yn cael eu cynnwys a'u parchu, gan leihau'r rhwystrau, fel y gall pawb gymryd rhan yn llawn.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
16.1 Bod cyfle cyfartal ac arferion nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng unigolion yn cael eu hyrwyddo yn y lleoliad.
16.2 Bod polisi cyfle cyfartal wedi'i sefydlu, sy'n gyson â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol, a'i fod yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithredu'r polisi hwn, a'i fod ar gael i rieni.
16.3 Bod pob plentyn ac oedolyn yn cael eu trin â'r un gofal a bod y person cofrestredig yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r arferion perthnasol o beidio gwahaniaethu ym mhob maes, megis cyflogaeth, hyfforddiant, derbyn plant i ofal dydd a mynediad at yr adnoddau, y gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd ar gael.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
Mwy o arweiniad a help
- Deddf Cydraddoldeb 2010: gwybodaeth ac arweiniad ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oedran a Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
- Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2024: y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol.
- Pecyn cymorth ymarferol i'ch helpu i greu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad.
- Adnoddau DARPL Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar: adnoddau gwrth-hiliol ac e-ddysgu am ddim i staff ac arweinwyr i helpu i greu lleoliadau cynhwysol.
- Canllawiau i gefnogi lleoliadau i ddelio â digwyddiadau hiliol mewn ffordd ymarferol, dosturiol a phroffesiynol, gan ganolbwyntio ar les yr unigolion dan sylw.
- Ymarfer gwerth ei rannu: Sarah Sharpe | Arolygiaeth Gofal Cymru mae'r enghraifft hon o ymarfer gwerth ei rannu yn tynnu sylw at sut mae gwarchodwr plant wedi creu amgylchedd gwrth-hiliol yn eu lleoliad.
- Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw’n annibynnol: fframwaith a chynllun gweithredu.
- Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035: cynllun 10 mlynedd i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.
- Beth am godi'r to: model cymdeithasol o anabledd.
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: y cynllun i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
- Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029.
- Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithredu.
- Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024.
- Bil y Lluoedd Arfog 2026 Addewid gan y genedl yw Cyfamod y Lluoedd Arfog y bydd aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Gellir gweld gwybodaeth am gymorth i deuluoedd y lluoedd arfog yma: Swyddogion cyswllt y lluoedd arfog.
