Neidio i'r prif gynnwy

Safon 24: Diogelwch

Llais y Plentyn: Dw i'n cael fy nghadw'n ddiogel, ac mae pawb ar eu gwyliadwriaeth am beryglon fel nad ydw i'n cael fy niweidio.

Deilliant Lles: Bod plant yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus i archwilio oherwydd bod risgiau yn cael eu rheoli'n feddylgar, gan eu galluogi i fynd i'r afael â heriau yn ddiogel.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Hyrwyddo Diogelwch a Rheoli Risgiau

24.1 Bod diogelwch yn cael ei hyrwyddo yn y lleoliad ac ar dripiau, ac y cymerir y camau priodol i osgoi damweiniau.

24.2 Bod cyn lleied â phosibl o beryglon i blant yn y fangre, dan do ac yn yr awyr agored. Y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, a bod y staff wedi'u hyfforddi i ddeall y gofynion iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd y maent yn gweithio ynddo.

24.3 Bod asesiad risg o'r fangre wedi'i gynnal ac yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn, ac os oes unrhyw newidiadau yn y fangre neu o ran anghenion y plant. Rhaid llunio cynllun gweithredu, ynghyd ag amserlenni, er mwyn nodi'r camau i'w cymryd i leihau peryglon penodol a nodwyd yn yr asesiad risg.

24.4 Bod rheoli risg gweithgareddau a chyfleoedd chwarae unigol yn cydbwyso perygl niwed â’r manteision i'r plentyn, er enghraifft, o ran ehangu eu gwybodaeth am y byd a datblygu sgiliau a lles corfforol neu emosiynol.

24.5 Bod y plant yn cael eu goruchwylio bob amser, a bod gofal ychwanegol yn cael ei gymryd yn ystod gweithgareddau a all fod yn weddol beryglus.

24.6 Bod y plant yn cael eu goruchwylio a'u hamddiffyn rhag perygl er mwyn iddynt allu chwarae y tu allan yn ddiogel.

24.7 Bod system wedi'i sefydlu i reoli mynediad i'r fangre a bod cofnod o ymwelwyr yn cael ei gadw.

24.8 Bod y plant yn cael eu rhoi mewn harneisiau diogelwch mewn cadeiriau uchel neu isel os yw hynny'n briodol.

24.9 Bod aelod o staff yn cadw llygad cyson ar fabanod sy'n cysgu. Bod pob person sy'n darparu gofal yn ymwybodol o'r canllawiau ar fabanod sy'n cysgu.

24.10 Bod y fangre, gan gynnwys unrhyw fannau chwarae awyr agored, yn ddiogel, ac nad oes modd i blant o dan 8 oed adael heb oruchwyliaeth. Dim ond o dan drefniadau a gytunir o flaen llaw gyda’r rhieni y caiff plant 8 oed neu’n hŷn adael. 

24.11 Bod pyllau dŵr, draeniau neu unrhyw ddŵr naturiol yn ddiogel neu y tu hwnt i gyrraedd plant.

24.12 Nad oes unrhyw blanhigion gwenwynig neu beryglus y tu mewn lle mae gofal plant yn cael ei ddarparu. Dylai planhigion gwenwynig neu beryglus y tu allan fod y tu hwnt i gyrraedd plant.

24.13 Bod y gwydr sydd wedi'i osod ar unrhyw ddrws yn wydr diogelwch neu ei fod wedi'i orchuddio â ffilm blastig warchod. 

24.14 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu.

24.15 Bod cyfarpar a sylweddau sy'n gallu bod yn beryglus yn cael eu hangori a/neu eu storio'n ddiogel y tu hwnt i afael y plant.

Risg Tân

24.16 Bod asesiad risg tân cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn rheolaidd ar gyfer y fangre, a gynhelir gan berson cymwys (person sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i gynnal asesiad risg tân ar gyfer y fangre dan sylw); gweler Dewis aseswr risg tân cymwys. Bod yr asesiad yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a'i gynnal o'r newydd os oes angen, neu yn dilyn unrhyw newidiadau i'r fangre neu o ran anghenion y plant, a allai newid y risg o dân yn sylweddol.

 24.17 Y cymerir camau digonol i leihau risgiau tân, ac y cydymffurfir ag unrhyw argymhellion gan yr aseswr risg tân neu'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

24.18 Lle bo hynny’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, fod cyfarpar a gosodiadau nwy a thrydanol a rhai sy'n llosgi olew a glo, gan gynnwys systemau gwres canolog a thanau, yn cael eu gwirio’n rheolaidd ac yn ffurfiol gan dechnegydd sydd wedi’i gymeradwyo. Dylai cyfarpar o’r fath gydymffurfio â gofynion diogelwch, dylai gael ei warchod yn briodol ac ni ddylai achosi perygl i blant. Rhaid sicrhau bod tystysgrifau priodol yn cael eu cadw a’u bod ar gael i'w harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

24.19 Bod gweithdrefnau clir, sy'n hysbys i'r holl staff, ar gyfer gwacáu unrhyw fangre mewn argyfwng, ac sy'n cynnwys darpariaeth briodol ar gyfer symud staff neu blant anabl. Rhaid cynnal ymarferion tân o leiaf unwaith bob 6 mis, gan gydnabod bod plant ifanc yn elwa ar ymarferion mwy rheolaidd. Rhaid cadw cofnodion mewn llyfr log ar gyfer tanau, a gaiff eu gwirio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, a rhaid cael tystysgrifau diogelwch fel y bo angen.

24.20 Bod ffyrdd addas o ddianc i staff a phlant o bob llawr, gan gynnwys staff a phlant anabl.

24.21 Nad yw drysau tân wedi'u rhwystro nac yn cael eu cadw ar agor; a bod allanfeydd tân wedi'u nodi'n glir, yn hawdd eu hagor o'r tu mewn heb allwedd, ac yn arwain at le diogel awyr agored sy'n hygyrch i'r gwasanaethau brys.

24.22 Bod larymau mwg neu wres, sy'n cydymffurfio â safon Brydeinig 5839, ar gael fel y bo angen. Mae hyn yn cynnwys o leiaf un larwm mwg neu wres ar bob llawr, yn y brif ardal ganolog (hy y cyntedd neu ar ben y grisiau). Bod larwm carbon monocsid yn cael ei osod hefyd ym mhob ystafell lle mae dyfais yn llosgi nwy, olew neu danwydd solet. Rhaid archwilio'r rhain mor rheolaidd ag y nodir gan y gwneuthurwr, a'u cadw mewn cyflwr da.

24.23 Os oes cegin yn y fangre a ddefnyddir i goginio bwyd, mai dim ond staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb darparu gofal ar y pryd sy'n ei defnyddio. Os caniateir plant i mewn i'r gegin, y cânt eu goruchwylio gan staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb coginio bwyd ar y pryd.

24.24 Na chaniateir smygu mewn unrhyw ran dan do o'r fangre, yn yr ardal(oedd) chwarae awyr agored (d)dynodedig, nac mewn unrhyw ardal lle darperir sesiynau gwarchod plant a gofal dydd. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. 

24.25 Nad yw canhwyllau yn cael eu defnyddio ar y safle, ac eithrio canhwyllau bach ar gacennau pen-blwydd. 

Cludiant

24.26 Bod gweithdrefn wedi'i sefydlu ar gyfer sicrhau diogelwch yn ystod unrhyw dripiau. Rhaid cadw cofnodion ynglŷn â pha gerbydau a ddefnyddir i gludo plant, gan gynnwys manylion yr yswiriant a rhestr o yrwyr dynodedig.

24.27 Bod gan y gyrwyr sy'n defnyddio eu cerbyd eu hunain drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol.

24.28 Bod seddi sy'n briodol i oedran, pwysau a thaldra'r plentyn yn cael eu defnyddio wrth gludo plant mewn cerbyd. 

Safon 24: Diogelwch (Gwarchodwr Plant)

24.1(GP) Bod gwarchodwyr plant yn cydymffurfio â chanllawiau diogelwch tân Llywodraeth Cymru ar gyfer mangreoedd gwarchod plant sy’n rhoi arweiniad ar sut i’w diogelu eu hunain a’r plant yn eu gofal rhag tân. 

Safon 24: Diogelwch (Gofal Dydd)

24.1(GD) Bod pob darparwr mewn mangre annomestig yn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a'r canllawiau statudol diogelwch tân ar gyfer mangreoedd annomestig bach sy'n cyd-fynd â'r gorchymyn hwnnw: Canllawiau i ddiogelu eich eiddo annomestig bach rhag tân.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help