Neidio i'r prif gynnwy

Safon 25: Gofal dros nos

Llais y Plentyn: Os ydw i'n aros dros nos, mae gen i bopeth sydd ei angen arna i i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel, ac mae fy nheulu yn gwybod ble ydw i a phwy sy'n gofalu amdana i.

Deilliant Lles: Bod plant sy'n aros dros nos yn teimlo'n ddiogel, yn gyfforddus a'u bod yn cael eu cefnogi'n emosiynol mewn lleoliad sy'n parchu eu harferion a'u hanghenion.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Contract 

25.1 Na dderbynnir unrhyw blentyn i'r ddarpariaeth heb i rifau ffôn mewn argyfwng gael eu darparu. Os nad yw'r rhieni ar gael, bod rhywun arall wedi’i enwi i fod ar gael i gasglu'r plentyn os oes angen. 

25.2 Bod y rhiant yn llofnodi contract yn nodi'r holl fanylion perthnasol am y plentyn a'i ofal, gan gynnwys enw'r unigolyn y gellir cysylltu ag ef mewn argyfwng a chadarnhad o gytundeb yr unigolyn hwnnw i gasglu'r plentyn yn ystod y nos os oes angen. 

Gweithio gyda rhieni 

25.3 Yr ymgynghorir â'r rhieni ynghylch yr holl drefniadau sydd wedi'u sefydlu neu a gaiff eu gwneud i'w plentyn dderbyn gofal dros nos. 

25.4 Y gofynnir i'r rhieni am wybodaeth ynglŷn ag arferion cysgu'r plentyn ac unrhyw broblemau a allai godi yn ystod y nos, ee gwlychu gwely, hunllefau ac ati, gan geisio gweithredu mewn ffordd gyson a sensitif. 

Cymarebau staffio 

25.5 Y cynhelir y cymarebau oedolion:plant perthnasol dros nos (gweler Safon Ofynnol Genedlaethol 15). Mewn lleoliadau annomestig, bod o leiaf ddau aelod o staff gofal plant yn y fangre drwy'r amser yn ystod y nos, a bod un o'r rheini yn effro. 

Y fangre 

25.6 Bod y plant yn cysgu mewn man neu ystafell ar wahân, sydd wedi'i gwresogi'n ddigonol.

25.7 Bod pob plentyn sy'n aros dros nos yn cael gwely neu got addas a dillad gwely glân.

25.8 Bod toiledau a basnau ymolchi digonol ar gael i'r plant. Y perchir preifatrwydd y plant hŷn pan fyddant yn cael bath ac yn newid dillad. 

Diogelwch 

25.9 Nad oes unrhyw beryglon iechyd neu ddiogelwch yn y mannau cysgu. 

25.10 Bod larwm mwg wedi’i osod yn y mannau cysgu a gaiff eu defnyddio gan blant, a bod llwybr penodol i ddianc rhag tân (fel rheol drws sy’n arwain at ardal pen grisiau neu gyntedd sy’n arwain yn uniongyrchol at ddrws allanol). 

25.11 Bod systemau diogelwch priodol wedi'u sefydlu er mwyn atal rhywun rhag mynd i mewn i'r fangre heb awdurdod. Ni chaiff neb dros 16 oed aros yn y fangre dros nos oni bai bod gan yr unigolyn hwnnw dystysgrif datgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Iechyd

25.12 Bod pob man cysgu yn lân ac wedi'i addurno'n dda yn gyffredinol.

Bwyd a diod 

25.13 Bod prydau/bwyd/diodydd iach addas ar gael. Y trafodir y gofynion gyda'r rhieni ymlaen llaw. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help