Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad A: Canllawiau'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant
Rhaid i'r gofynion ychwanegol hyn gael eu bodloni gan warchodwyr plant sy'n gweithio gyda chynorthwy-ydd.
Y diffiniad o Gynorthwy-ydd
Gall cynorthwy-ydd gwarchod plant fod yn gyflogai neu'n wirfoddolwr mewn rôl â thâl neu ddi-dâl sy'n gweithio gyda phlant o dan warchodwr plant cofrestredig. Nid yw myfyriwr sydd ar leoliad mewn safle gwarchod plant yn gyfystyr â chynorthwy-ydd gwarchod plant.
Darparu gwybodaeth
Rhaid i warchodwyr plant roi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am eu bwriad i weithio gyda chynorthwy-ydd i ofalu am blant. Rhaid rhoi’r wybodaeth drwy gyfrif ar-lein y gwarchodwr plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gweithio gydag ef.
Datganiad o Ddiben
Mae angen rhoi gwybod i rieni am y trefniadau ar gyfer gweithio gyda chynorthwy-ydd. Rhaid i’r Datganiad o Ddiben gyfeirio at hyn, gan gynnwys:
- Cadarnhad nad yw'r cynorthwy-ydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a bod y gwarchodwr plant yn gyfrifol am sicrhau ei addasrwydd ar gyfer y rôl.
- Manylion am y cynorthwy-ydd, gan gynnwys cadarnhad bod y gwiriadau o’i addasrwydd, yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, wedi'u cynnal cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gweithio.
- Manylion am gymwysterau a phrofiad y cynorthwy-ydd.
- Disgrifiad o rolau a chyfrifoldebau'r cynorthwy-ydd.
- Manylion am hyd yr amser a'r mathau o weithgareddau/tripiau pan fydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd. Os na fydd cynorthwy-ydd yn cael ei adael ar ei ben ei hun gyda phlant, dylid nodi hyn hefyd yn y Datganiad.
- Cadarnhad o niferoedd ac oedrannau'r plant y bydd cynorthwy-ydd yn gofalu amdanynt os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain.
- Sut y bydd y cynorthwy-ydd yn cael ei oruchwylio a'i fonitro.
Addasrwydd cynorthwywyr
Mae'r gwarchodwr plant yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo neu sy'n gwirfoddoli i weithio ochr yn ochr ag ef yn addas, yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, i ofalu am blant hyd at 12 oed, a bod ganddo’r sgiliau, y profiad a'r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.
Fel yr amlinellir yn Safon 13.4(GP), rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant feddu ar gymhwyster priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os nad oes ganddynt gymhwyster priodol adeg eu cyflogi, mae'n ofynnol i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod wedi dilyn hyfforddiant mewn cymorth cyntaf pediatrig a meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig berthnasol sy’n briodol ar gyfer oedran y plentyn/plant sy'n derbyn gofal. Dylai'r dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig fod yn gyfredol a dylid ei hadnewyddu bob 3 blynedd.
Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod wedi cwblhau hyfforddiant amddiffyn plant/diogelu, a rhaid iddo allu rhoi'r polisi amddiffyn plant/diogelu ar waith ynghyd â'r gweithdrefnau. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol.
Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed.
Recriwtio
Rhaid i'r cynorthwy-ydd ddilyn gweithdrefn fetio sy'n cydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) ac sy'n cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i'r gwarchodwr plant greu ffeil ar gyfer y cynorthwy-ydd fel tystiolaeth bod y gwiriadau addasrwydd gofynnol wedi'u cynnal, er mwyn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) (Gwybodaeth am bersonau eraill: staff). Rhaid cwblhau'r ffeil a'r holl wiriadau addasrwydd cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gofalu am blant.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Canllaw ar recriwtio'n dda ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant
Y broses sefydlu
Rhaid i'r gwarchodwr plant ddarparu hyfforddiant sefydlu i'r cynorthwy-ydd er mwyn sicrhau ei fod yn gwybod sut mae'r gwasanaeth yn rhedeg, a'i fod yn deall ac yn gallu gweithredu'r polisïau a'r gweithdrefnau. Rhaid i'r broses sefydlu hefyd gynnwys gwybodaeth am gyfrifoldebau'r cynorthwy-ydd, ac unrhyw ddisgwyliadau eraill mewn perthynas â'i waith. Dylid cadw cofnod o'r hyfforddiant sefydlu hwn yn ffeil staff y cynorthwy-ydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Fframwaith sefydlu ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant
Goruchwylio
Fel y person cofrestredig, y gwarchodwr plant sy'n atebol am waith unrhyw gynorthwy-ydd, ac yn gyfrifol am ddiogelwch, lles a datblygiad y plant yn ei ofal. Rhaid i'r gwarchodwr plant ddefnyddio'r cynorthwy-ydd mewn ffordd effeithiol a goruchwylio ei waith, gan fonitro ei berfformiad er mwyn parhau i fod yn fodlon bod y cynorthwy-ydd yn gymwys ym mhob un o’i feysydd gwaith. Rhaid i'r gwarchodwr plant gynnal sesiynau goruchwylio un-i-un gyda'r cynorthwy-ydd yn rheolaidd gan ei annog i ystyried ansawdd ei ymarfer. Dylid cadw cofnod o bob sesiwn oruchwylio un-i-un yn y ffeil staff.
Rhaid i’r gwarchodwr plant ddeall ei ddyletswyddau cyfreithiol o ran cyfeirio cynorthwy-ydd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn yr amgylchiadau sydd wedi’u nodi. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Regulated Activity with Children in England and Wales
Rhaid i warchodwyr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a fydd efallai yn gwbl gyfrifol am blant am unrhyw gyfnod o amser, feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig lawn gyfredol cyn dechrau gwarchod plant. Os na ofynnir i'r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, dylai fod ganddo dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau ei rôl.
Gellir gofyn i gynorthwy-ydd gwarchod plant cymwysedig fod yn gwbl gyfrifol am blant, yn unol â'r cymarebau oedolion: plant, am hyd at ddwy awr ar unrhyw un adeg, a hyd at dair awr i gyd o fewn unrhyw ddiwrnod, ar yr amod y cydymffurfir â holl ofynion safon 13 (GP): Person addas (Gwarchodwr Plant) ac Atodiad A - Canllawiau'r SGC ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Goruchwylio effeithiol mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant
Gwerthuso
Rhaid i'r gwarchodwr plant gynnal adolygiad rheolaidd (o leiaf unwaith y flwyddyn) i ddadansoddi perfformiad y cynorthwy-ydd yn ffurfiol. Dylid cadw cofnod o'r gwerthusiad hwn yn ffeil staff y cynorthwy-ydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Goruchwylio effeithiol mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant
Cofnodion
Dylai cofnodion presenoldeb ddangos yn gywir y diwrnodau a'r amseroedd pan oedd y cynorthwy-ydd yn gweithio. Dylai’r cofnodion hefyd ddangos y diwrnodau a’r amseroedd pan oedd y cynorthwy-ydd yn gweithio ar ei ben ei hun ac enwau'r plant yr oedd yn gyfrifol amdanynt ar yr adegau hyn.
Rhaid i'r gwarchodwr plant gadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd.
Cymarebau staffio
Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw:
- 10 o blant hyd at 12 oed;
- O'r 10 plentyn hynny, dim mwy na chwech o dan 8 oed;
- O'r chwe phlentyn hynny, dim mwy na phedwar o dan 5 oed;
- O'r pedwar plentyn hynny, dim mwy na thri o dan 2 oed;
- O'r tri phlentyn hynny, fel rheol ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed, er y gall Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno ar eithriad yn achos gefeilliaid neu dripledi.
Mae'r un cymarebau oedolion:plant yn berthnasol i'r cynorthwy-ydd ag i’r gwarchodwr plant. Fodd bynnag, gall y lle chwarae sydd ar gael effeithio ar y niferoedd hyn.
Os nad yw cynorthwy-ydd yn gweithio, yna rhaid i'r gwarchodwr plant fynd yn ôl i weithio ar sail y cymarebau ar gyfer gweithio ar ei ben ei hun.
Gweithio mewn partneriaeth â rhieni
Dylai'r contract rhwng y gwarchodwr plant a'r rhieni gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a dylai'r rhieni lofnodi eu cytundeb i hyn.
Os bydd cynorthwy-ydd yn dechrau gweithio gyda’r gwarchodwr plant ar ôl i'r contract gael ei sefydlu, yna rhaid diwygio'r contract i gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a rhaid i'r rhieni lofnodi i gadarnhau eu bod yn cytuno.
Polisïau a Gweithdrefnau
Rhaid diwygio polisïau a gweithdrefnau, lle bo'n berthnasol, i adlewyrchu gweithio gyda chynorthwy-ydd a phryd y bydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd. Dylai rhieni lofnodi eu bod yn cytuno ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau sy'n cyfeirio at rôl cynorthwy-ydd gwarchod plant.
Y fangre
Ni ddylai gweithio gyda chynorthwy-ydd effeithio ar y lle a'r cyfleusterau sydd ar gael i blant yn y fangre.
Diogelwch
Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn ymwybodol o'r weithdrefn i’w dilyn ar gyfer sicrhau bod pawb yn gadael y fangre mewn argyfwng, a beth yw ei rôl ef.
Os yw'r cynorthwy-ydd yn defnyddio ei gerbyd ei hun ar gyfer plant sy'n cael eu gwarchod, rhaid bod ganddo drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol.
Yswiriant
Rhaid i'r gwarchodwr plant feddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr os yw'n cyflogi cynorthwy-ydd/cynorthwywyr, a darparu unrhyw fanylion gofynnol i'w yswiriwr ynghylch rolau a chyfrifoldebau, gan gynnwys yr amser y caiff unrhyw blentyn/plant eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd, i sicrhau bod yswiriant dilys wedi’i drefnu.
Tystysgrif gofrestru
Gall gweithio gyda chynorthwy-ydd effeithio ar amodau cofrestru gwarchodwr plant:
- Os na fydd uchafswm nifer y plant o dan 12 oed yn fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd, yna ni fydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ychwanegu amod i’r dystysgrif ynghylch gweithio gyda chynorthwy-ydd.
- Os bydd uchafswm nifer y plant yn fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd, yna bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ychwanegu amod i’r dystysgrif gofrestru i adlewyrchu hyn. Rhaid i warchodwyr plant wneud cais penodol drwy eu cyfrif ar-lein gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydynt yn bwriadu cynyddu uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal i fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd.
Dolenni
PACEY Cymru (Y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar) - Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru
Cysylltwch â PACEY Cymru drwy e-bost: paceycymru@pacey.org.uk neu dros y ffôn: 02920351407 am ragor o wybodaeth a chymorth ar weithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant yng Nghymru.
Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru
Canllaw ar recriwtio'n dda ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant
Fframwaith sefydlu ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant
Goruchwylio effeithiol mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant
Cyfrifoldebau cyfreithiol yn ymwneud â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - canllawiau ychwanegol
