Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Atodiad B: Canllawiau Cymorth Cyntaf y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig
Mae'r canllawiau hyn yn rhan bwysig o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Maent yn darparu arweiniad a chyngor i alluogi personau cofrestredig a'u staff i fodloni’r gofynion cymorth cyntaf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pennu'r gofynion sylfaenol ar gyfer Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig. Mae darparwyr gofal plant yn gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymwys i gyflwyno eu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig. Yn achos Cymorth Cyntaf Pediatrig, nid ydym yn nodi cwrs neu gorff dyfarnu penodol i ddarparwyr eu defnyddio, gan y bydd hyn yn amrywio ledled Cymru. Fodd bynnag, darperir cyngor i helpu darparwyr i ddewis cwrs, a bydd angen iddynt sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn, anghenion y lleoliad a'r rhai sy'n ei ddefnyddio.
Mae hyfforddiant ar gael gan ystod eang o ddarparwyr, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig cymwysterau a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru neu'r Cymdeithasau Cymorth Gwirfoddol (Ambiwlans Sant Ioan Cymru, y Groes Goch Brydeinig a Chymorth Cyntaf Sant Andreas sy’n cael eu cydnabod gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel rhai sy’n gosod safon i anelu ati o ran ymarfer cymorth cyntaf cymeradwy ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gwaith). Gall gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd awdurdod lleol ddarparu rhagor o wybodaeth ar gyrsiau perthnasol yn yr ardal.
Gwyddom fod llawer o leoliadau gofal plant a chwarae yn awyddus i sicrhau bod cynifer o’u staff â phosibl wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf. Bydd annog mwy o staff i gwblhau'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i rieni/gofalwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn helpu i sicrhau bod staff â chymwysterau addas ar gael bob amser i gyflenwi pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bydd cynyddu nifer y staff sydd wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig hefyd yn codi hyder ynghylch diogelwch, a gallai leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau yn ymwneud â’r plant.
Rydym hefyd yn annog lleoliadau i ystyried nifer y plant a’r staff a chynllun y fangre er mwyn sicrhau bod swyddog cymorth cyntaf pediatrig yn gallu ymateb i argyfyngau'n gyflym.
Dylai darparwyr arddangos tystysgrifau Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng y staff mewn lle amlwg, neu restr o staff sydd â thystysgrifau cyfredol mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng (neu sicrhau eu bod ar gael i rieni).
Dylai darparwyr ystyried a oes angen i swyddogion cymorth cyntaf pediatrig ymgymryd â hyfforddiant gloywi blynyddol, yn ystod unrhyw gyfnod ardystio o dair blynedd i helpu i gynnal eu sgiliau sylfaenol a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i weithdrefnau Cymorth Cyntaf Pediatrig.
Egwyddorion cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a Llawn:
- Mae’r hyfforddiant wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr sy'n gofalu am blant yn absenoldeb eu rhieni/gofalwyr ac mae'n briodol i oedran y plant sy'n derbyn gofal.
- Rhaid darparu digon o offer dadebru ac offer arall, gan gynnwys modelau o fabanod a phlant, fel bod yr holl hyfforddeion yn gallu ymarfer a dangos technegau.
- Yn dilyn hyfforddiant, mae asesiad o gymhwysedd yn arwain at ddyfarnu tystysgrif.
- Rhaid adnewyddu'r dystysgrif bob tair blynedd.
- Dylid dilyn y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng wyneb yn wyneb a dylai bara am o leiaf 6 awr (heb gynnwys seibiannau) a chwmpasu’r meysydd canlynol:
- Gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu’r camau i'w cymryd
- Helpu babi neu blentyn nad yw’n ymateb ond sy’n anadlu’n arferol
- Helpu babi neu blentyn nad yw’n ymateb ac nad yw'n anadlu’n arferol
- Helpu babi neu blentyn sy'n cael ffit
- Helpu babi neu blentyn sy'n tagu
- Helpu babi neu blentyn sy'n gwaedu
- Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig)
Dylai'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn bara o leiaf 12 awr (heb gynnwys seibiannau) a chynnwys yr elfennau a restrir isod yn ogystal â'r meysydd a nodir ym mharagraff 5 (dylid cyflwyno'r elfennau o’r hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a amlinellir ym mharagraff 5 wyneb yn wyneb).
- Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o sioc anaffylactig
- Helpu babi neu blentyn sydd wedi cael sioc drydanol
- Helpu babi neu blentyn sydd â llosgiadau neu sgaldiadau
- Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi torri asgwrn
- Helpu babi neu blentyn sydd ag anafiadau i'w ben, ei wddf neu ei gefn
- Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi'i wenwyno
- Helpu babi neu blentyn sydd â rhywbeth estron yn ei lygad, ei glust neu ei drwyn
- Helpu babi neu blentyn sydd ag anaf i'w lygad
- Helpu babi neu blentyn sydd wedi’i gnoi neu ei bigo
- Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o effeithiau gwres neu oerfel eithafol
- Helpu babi neu blentyn sy’n dioddef: argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; llid yr ymennydd; a/neu ffitiau twymyn
- Deall rôl a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau).
Lluniwyd yr egwyddorion uchod i adlewyrchu’r rhannau perthnasol o gynnwys Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac fe’u seiliwyd ar y canllawiau yr arferai’r Awdurdod eu rhoi i ddarparwyr hyfforddiant pan oeddent yn rheoleiddio darparwyr hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn uniongyrchol.
Mae wyneb yn wyneb yn golygu bod yr hyfforddwyr yn bresennol yn gorfforol gyda'u hyfforddeion. Mae hyn yn golygu na cheir cynnal y sesiynau hyfforddi penodol hyn ar-lein.
