Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad C: Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau

Mae'r Canllawiau hyn yn rhoi manylion am hyfforddiant diogelu sy'n briodol i wahanol rolau yn y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Grŵp A (Lefel 1): ymwybyddiaeth o ddiogelu

Mae cyrsiau Grŵp A (Lefel 1) ymwybyddiaeth o ddiogelu yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Maent yn disgrifio'r mathau gwahanol o gam-drin, sut i'w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Maent hefyd yn esbonio sut i roi gwybod am bryderon yn y ffordd iawn. 

Dylai'r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o broses sefydlu pob aelod o staff a gyflogir.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer

Cyflogeion a fydd o bosibl, ond nid o reidrwydd, yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, ond a fydd o bosibl yn gweithio mewn adeilad lle mae yna ddarpariaeth gofal plant; neu aelodau o Fwrdd / Pwyllgor sy'n cefnogi darpariaeth gofal plant.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • gofalwyr/ glanhawyr/ cogyddion
  • aelodau o'r pwyllgor nad ydynt yn gweithio
  • ysgrifenyddion/ gweinyddwyr/ derbynyddion
  • gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth. Os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant, byddai hyfforddiant Grŵp B yn fwy priodol.) 

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs ar-lein Grŵp A: diogelu drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru 
  • hyd: Hyd at 2 a 3 awr 
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant bob 3 blynedd (fel y nodir yn y Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu)

Grŵp B (Lefel 2): cwrs diogelu canolradd

Mae cyrsiau Diogelu Plant lefel ganolradd yn helpu i gynyddu’r wybodaeth am ddiogelu sydd gan unigolion eisoes, ac yn addysgu mwy am yr hyn y mae’r broses ddiogelu yn ei olygu. Mae'r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon, ac mae’n gyfle i ddysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a beth sy'n digwydd ar ôl creu adroddiad.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer:

  • gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • cynorthwywyr gwarchodwyr plant
  • cynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant
  • cynorthwywyr meithrin
  • arweinwyr ystafelloedd meithrin
  • rheolwyr cynorthwyol
  • gweithwyr chwarae
  • gyrwyr
  • gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth) 

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs wyneb yn wyneb, lle bo'n bosibl, neu ddysgu cyfunol
  • hyd: 4 a 6 awr/1 diwrnod/2 sesiwn gyda'r nos
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu.

Grŵp C (Lefel 3): cwrs diogelu uwch

Mae cyrsiau Diogelu lefel uwch yn addysgu mwy am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, ac yn help i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i adolygu a datblygu'r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau tuag at ddiogelu plant. Yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â'r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy'n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant, rolau i'w cyflawni yn y broses amddiffyn plant ar lefel amlasiantaethol gan gynnwys cynadleddau achos a darparu adroddiadau ysgrifenedig.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer: 

Y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant ac sy'n gyfrifol yn y pen draw am gwestiwn diogelu o fewn y ddarpariaeth. Bydd angen i'r ymarferwyr hyn fod â'r holl wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch safonau grwpiau A a B.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

Ar y safle

  • Arweinydd y lleoliad.
  • Y rheolwr.
  • Y person â chyfrifoldeb.
  • Gwarchodwyr plant.

Oddi ar y safle o bosibl

  • Y person diogelu dynodedig.
  • Unigolion cyfrifol.
  • Y person cofrestredig.

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl
  • hyd: 2 ddiwrnod
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu

Y person diogelu dynodedig 

Defnyddir y term hwn drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Y person sydd wedi’i nodi o fewn y sefydliad i fod ar gael i drafod pryderon diogelu yw'r person diogelu dynodedig. Dylid ymgynghori â nhw ynghylch p’un a ddylid codi pryder yn ymwneud â diogelu gyda'r awdurdod lleol, a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod yr unigolyn sydd mewn perygl yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob ymarferydd wybod â phwy yn eu lleoliad i gysylltu am gyngor, ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon, ni waeth pa mor ddibwys y maent yn ymddangos.

Yr arweinwyr diogelu dynodedig yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau staff, teuluoedd, gofalwyr a phobl eraill sydd â mynediad at leoliadau, ac felly mae'n hanfodol bod yr wybodaeth am weithdrefnau amddiffyn plant yn fanwl ac yn gyfredol. 

Canllawiau a chefnogaeth pellach

Mwy o arweiniad a help 

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant Diogelu ar gael i ddarparwyr o’r ffynonellau canlynol:

Sicrhewch fod y cwrs diogelu yr ydych yn cofrestru ar ei gyfer yn adlewyrchu arferion a gweithdrefnau Cymru, nid Lloegr h.y. ei fod yn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu cwrs Grŵp A Diogelu. 

Defnyddir y term 'ymarferwyr' drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Defnyddiwyd hwn fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un sydd mewn cyflogaeth â thâl yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.

Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen