Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 23: Cyfarpar
Llais y plentyn
Mae gen i deganau a phethau i chwarae gyda nhw sy'n hwyl, yn ddiogel, ac yn fy helpu i ddysgu.
Deilliant lles
Bod plant yn mwynhau adnoddau penagored, diddorol sy'n ysbrydoli chwarae, dychymyg ac arbrofi.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
23.1 Bod dodrefn, cyfarpar a theganau yn cael eu darparu sy'n briodol i'r diben ac sy'n helpu i greu amgylchedd hygyrch sy'n ysgogi'r plant. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig ac Ewropeaidd neu ofynion Rheoliadau Teganau (Diogelwch) perthnasol lle bo'n gymwys.
23.2 Bod digon o deganau a deunyddiau chwarae addas ar gael er mwyn darparu gweithgareddau sy’n ysgogi’r plant a chyfleoedd chwarae ym mhob maes chwarae, dysgu a datblygu. Rhaid i'r rhain fod yn briodol ar gyfer oedrannau ac anghenion datblygu unigol y plant sy'n mynychu, a rhaid iddynt hyrwyddo eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfleoedd cyfartal.
23.3 Os defnyddir meysydd chwarae cyhoeddus heb oruchwyliaeth, nad yw'r plant yn defnyddio cyfarpar diffygiol.
23.4 Os darperir lle y tu mewn i adeilad, bod digon o gadeiriau a byrddau o faint plentyn ar gael er mwyn gallu gwneud trefniadau hyblyg i grwpiau o blant chwarae a bwyta gyda'i gilydd.
23.5 Bod cyfarpar digonol ar gael ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon os yw'n berthnasol.
23.6 Bod digon o offer achub bywyd a chymorth hynofedd ar gael pan gynhelir chwaraeon dŵr.
23.7 Os gofelir am fabanod a phlant eraill o dan 2 oed:
- bod y gweithgareddau, y teganau a'r cyfarpar yn briodol i oedran y plentyn ac yn rhoi cyfleoedd a phrofiadau synhwyraidd amrywiol y tu mewn a'r tu allan.
- y darperir rhai dodrefn domestig i helpu'r plant i ddysgu symud ac i barhau â phrofiadau bywyd arferol.
- bod cotiau neu ddodrefn priodol eraill yn cael eu darparu er mwyn i'r plant gael gorffwys neu gysgu.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
Mwy o arweiniad a help
- Canllawiau Statudol i gefnogi: Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011.
- Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau.
- Rheoli Risgiau ac Asesu Risg yn y Gwaith: yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
- Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Datganiad Sefyllfa.
- Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu.
- Ffurflen Asesu Risg-Budd: Gwag.
- Ffurflen Asesu Risg-Budd: Esiampl wedi'i Chwblhau.
- Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant: Chwarae Cymru.
- Canllaw gweithiwr chwarae i risg.
- Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau.
- Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau: Diogelwch Teganau.
