Neidio i'r prif gynnwy

Safon 22: Yr amgylchedd

Llais y Plentyn: Mae pobl yn gofalu amdana i mewn lle sy'n berffaith i mi.

Deilliant Lles: Bod plant yn cael mynediad at amgylcheddau diogel, sy'n eu symbylu, dan do ac yn yr awyr agored, gan eu cefnogi i archwilio, symud, bod yn greadigol a chwarae.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

22.1 Bod y lleoliad yn groesawgar ac yn gyfeillgar i'r plant a'r rhieni a'i fod yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer chwarae. 

22.2 Bod yr amgylchedd ffisegol yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Bod y ddarpariaeth yn rhoi digon o le, mewn lleoliad priodol, ei fod yn groesawgar i'r plant, ac yn eu galluogi i gael gafael ar y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy'n hyrwyddo'u datblygiad.

22.3 Bod unrhyw fangreoedd dan do sy'n rhan o'r ddarpariaeth yn lân, wedi'u goleuo'n dda â golau naturiol digonol, wedi'u hawyru'n ddigonol, wedi'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac wedi'u haddurno'n briodol. 

22.4 Bod ffôn ar gael. 

22.5 Bod tymheredd ystafelloedd yn cael ei gynnal ar o leiaf 18 gradd Celsius (65 gradd Fahrenheit). 

22.6 Bod y mannau chwarae yn ddigon mawr i roi lle i'r plant symud yn rhydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau. 

22.7 Nad yw'r plant yn cael mynd i'r gegin oni bai ei bod yn cael ei defnyddio’n unswydd ar gyfer gweithgaredd plant dan oruchwyliaeth. 

22.8 Bod y gegin yn cydymffurfio â'r rheoliadau o ran iechyd amgylcheddol a diogelwch bwyd.

22.9 Fel rheol, y darperir man chwarae awyr agored sy'n gysylltiedig â'r fangre. Rhaid iddo fod yn ddiogel ac wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, a rhaid mai dim ond y plant sy'n ei ddefnyddio pan fydd y ddarpariaeth ar waith. Mewn sefyllfa eithriadol, os nad oes modd darparu man chwarae awyr agored, yr eir â'r plant yn ddiogel i barciau neu feysydd chwarae lleol, neu rywle tebyg, yn rheolaidd. 

22.10 Y gwneir trefniadau, lle bo angen, i sicrhau bod cyflenwad digonol o ddillad gwely glân, tyweli, dillad sbâr ac unrhyw lieiniau eraill ar gael bob amser. 

Safon 22: Yr amgylchedd (Gwarchodwr Plant)

22.1(GP) Bod y lle canlynol, o leiaf, ar gael i bob plentyn yn y man chwarae dan do: 

  • o dan 2 oed – 3.5 metr sgwâr
  • 2 i 7 oed – 2.5 metr sgwâr
  • 8 i 12 oed – 2.3 metr sgwâr.

22.2(GP) Wrth gyfrifo’r lle sydd ei angen ar gyfer pob grŵp oedran, gellir dynodi nifer o ystafelloedd i’w defnyddio yn y fangre (ac eithrio’r toiledau).

Safon 22: Yr amgylchedd (Gofal Dydd)

22.1(GD) Mai dim ond y gwasanaeth dan sylw sy'n cael defnyddio'r fangre lle mae gofal dydd yn cael ei ddarparu yn ystod yr oriau gweithredu.

22.2(GD) Bod y lle canlynol, o leiaf, ar gael i bob plentyn yn y man chwarae dan do mewn gofal dydd: 

  • o dan 2 oed – 3.7 metr sgwâr 
  • 2 oed – 2.8 metr sgwâr
  • 3 i 12 oed – 2.3 metr sgwâr. 

22.3(GD) Wrth gyfrifo’r lle sydd ei angen ar gyfer pob grŵp oedran, gellir dynodi nifer o ystafelloedd i’w defnyddio yn y fangre. Fodd bynnag, rhaid eithrio’r toiledau, storfeydd, tramwyfeydd, ardaloedd penodol i’r staff, ardaloedd cotiau, ystafelloedd aml-bwrpas, a cheginoedd. 

22.4(GD) Bod y cynllun gweithredol yn nodi'n glir sut y caiff y man chwarae dan do ei rannu a'i ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, a sut y caiff staff eu defnyddio ynddo. Mae disgwyl y bydd angen i'r trefniadau hyn fod yn hyblyg ac y byddant yn amrywio yn ôl y gweithgaredd ac anghenion y grŵp y gofelir amdano.

22.5(GD) Os darperir gofal dydd ar gyfer babanod a phlant bach mewn mangre annomestig:

  • bod ystafell ar wahân ar gael i blant o dan 2 oed. Fodd bynnag, dylent allu cael cysylltiad â phlant hŷn, a dylid cynnwys manylion y ffordd y cyflawnir hyn yn y cynllun gweithredol a dylai Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno arnynt.
  • y darperir cyfleusterau newid cewynnau, sy'n bodloni safonau iechyd yr amgylchedd; ac y darperir mannau tawel er mwyn hwyluso patrymau cysgu unigol. 

22.6(GD) Lle darperir gofal mewn lleoliadau dan do, y darperir o leiaf un toiled addas i’w ddefnyddio gan y plant y gofelir amdanynt ac un basn ymolchi gyda dŵr poeth a dŵr oer ar gael i bob 10 plentyn dros ddwy flwydd oed. Dylid darparu tyweli papur neu dyweli unigol ar gyfer pob plentyn. Rhaid i’r toiledau roi preifatrwydd i’r plant a bod yn briodol ar gyfer eu hoedran.

22.7(GD) Mewn lleoliadau gofal dydd, bod toiledau ar wahân ar gael i oedolion. Dylai fod gan staff ystafell neu fan i gael seibiant ar wahân i'r mannau y mae'r plant yn eu defnyddio.

22.8(GD) Mewn lleoliadau gofal dydd sydd â mangre adeiledig, bod cegin â chyfarpar digonol i ddarparu prydau a byrbrydau i'r plant a'r staff yn y fangre. Os nad yw hyn ar gael, bod y person cofrestredig yn dangos sut y gwneir trefniadau digonol i ddarparu bwyd a diod i'r plant a'r staff.

22.9(GD) Bod man ar wahân ar gael i'r plant sydd am ymlacio, chwarae yn dawel neu gysgu. Rhaid sicrhau bod dodrefn priodol ar gael yn y man hwn. Ceir trawsnewid man chwarae arferol i’r diben hwn, ond rhaid bod y plant yn cael gorffwys yn ddiogel ynddo heb aflonyddu arnynt. 

22.10(GD) Bod man digonol ar gael ar gyfer storio cyfarpar. 

22.11(GD) Bod man ar gael lle y gellir cadw gwybodaeth gyfrinachol a chofnodion angenrheidiol yn ddiogel a lle y gall staff siarad â rhieni yn breifat. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help