Cydgynhyrchu yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth: ymchwil gwersi a ddysgwyd o brototeip cydweithredol Llywodraeth Cymru a'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl - Methodoleg
Nod yr ymchwil hon oedd asesu pa mor ymarferol oedd hi i gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ddau brosiect cydweithredol sy'n archwilio argymhellion a gynigir gan y tasglu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r bennod hon yn nodi'r dulliau a'r gweithgarwch ymchwil a gynhaliwyd i ddatblygu’r dysgu o’r prototeip. Ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth oedd yn gyfrifol am gyflawni’r gwersi a ddysgwyd o'r prototeip.
Trosolwg
Cynhaliwyd cyfanswm o 16 cyfweliad lled-strwythuredig gyda 5 Cadeirydd Tasglu Hawliau Anabledd ac 11 o swyddogion Llywodraeth Cymru (ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi) rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025.
Comisiynwyd ymchwilydd annibynnol o Lab Cydgynhyrchu Cymru i gasglu barn Cadeiryddion y Tasglu ac i ymgymryd â dadansoddiad thematig o'r cyfweliadau. Wedi hynny, rhannodd yr ymchwilydd annibynnol y themâu a nodwyd gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n arwain ar y prosiect gwersi a ddysgwyd.
Arweiniodd uwch swyddog ymchwil a oedd yn gyn-aelod o'r prototeip cydgynhyrchu adolygiad desg o ddogfennau'r prosiect.
Cynhaliodd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru adolygiad llenyddiaeth o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil i faterion yn ymwneud ag anabledd.
Yn ogystal, comisiynwyd adolygydd cymheiriaid annibynnol i wirio’r adnoddau ymchwil cyn dechrau ar y gwaith maes, i hwyluso gweithdy myfyrio oedd yn defnyddio dadansoddi thematig ac i adolygu'r adroddiad drafft. Mae'r adolygydd cymheiriaid yn athro cyswllt ac yn arbenigwr academaidd mewn hawliau anabledd a dulliau ymchwil cydgynhyrchu. Rhoddodd yr adolygwr cymheiriaid annibynnol gyngor a chefnogaeth i dîm y prosiect, yn enwedig ynghylch unrhyw faterion methodolegol neu foesegol.
Cyfweliadau lled-strwythuredig
Mabwysiadwyd ymdriniaeth samplu bwriadus i ddewis y gyfranogwyr a oedd wedi bod yn rhan o'r prototeip cydgynhyrchu o’r blaen.
Cynhaliwyd y cyfweliadau’n rhithwir, neu gallai cyfranogwyr ddewis darparu ymateb ysgrifenedig pe bai’n well ganddynt. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr nodi unrhyw ofynion hygyrchedd ymlaen llaw. Rhoddwyd y canllaw pwnc cytunedig a’r dogfen ategol i'r cyfranogwyr ymlaen llaw hefyd (gweler Pwnc cytunedig a’r Ddogfen ategol).
Drafftiwyd y canllaw pwnc gan uwch ymchwilydd a oedd eisoes wedi gweithio ar y prototeip cydgynhyrchu a chafodd ei adolygu gan yr adolygydd cymheiriaid annibynnol penodedig.
Cwestiynau ymchwil
Roedd y cwestiynau ymchwil craidd fel a ganlyn:
- Beth oedden ni’n anelu at ei wneud?
- Beth oedd y prif gyflawniadau a beth chafodd ddim ei wneud (ar bob cam o'r prosiect)?
- Beth oedd y gwerth ychwanegol a gafwyd wrth i bobl anabl ac ymchwilwyr cymdeithasol weithio ochr yn ochr i gynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (ar bob cam o'r prosiect)?
- Beth helpodd a beth rwystrodd y cydgynhyrchu a pha atebion a gafwyd (ar bob cam o'r prosiect)?
- I ba raddau yr oedd unigolion yn gallu cymryd rhan lawn mewn cydgynhyrchu (ar bob cam o'r prosiect)?
- Beth yw'r prif wersi ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i'w galluogi i adlewyrchu'n well brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas?
Arweiniodd 2 ymchwilydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gasglu’r data a’r dadansoddiad thematig gan 11 swyddog Llywodraeth Cymru ac un Cadeirydd Tasglu.
Arweiniodd y cyfwelydd annibynnol penodedig o Labordy Cydgynhyrchu Cymru ar gasglu a dadansoddi’r data gyda 4 Cadeirydd Tasglu.
Mabwysiadwyd dull ansoddol lled-strwythuredig a oedd yn caniatáu i gyfranogwyr gyfeirio yn eu hymatebion at y meysydd a oedd o’r diddordeb mwyaf iddyn nhw ac yr oedd ganddynt y profiad mwyaf ohonynt. Mae cyfweld yn ddull ymchwil a ddefnyddir yn gyffredin i gasglu data ansoddol a chaniatáu archwiliad manwl o bwnc y cytunwyd arno. Fel y nodir yng nghanllawiau’r Llyfr Majenta ar werthuso a ddarparwyd gan Drysorlys EF, mae'r dull ymchwil hwn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i’r hwylusydd holi a mwy o amser i archwilio barn cyfranogwyr. Mae data ansoddol hefyd yn ein helpu ni i ddeall nid yn unig 'beth' sydd wedi gweithio ond 'pam' a 'sut' y mae ymyriad wedi’i brofi fel y mae.
Dylid nodi, mewn achosion lle cafwyd ymateb ysgrifenedig gan gyfranogwr, bod hynny’n cyfyngu ar y potensial i ymchwilio ymhellach i’r ymatebion. Fodd bynnag, i rai cyfranogwyr roedd hyn yn cynnig dull gwerthfawr amgen o ymateb yn lle cyfweliad wyneb yn wyneb ac efallai bod hyn wedi caniatáu "mwy o drefn amserol, cydlyniant a hunan-fyfyrio na rhoi cyfrif ar lafar" (Using Written Accounts in Qualitative Research gan Handy and Ross, 2005 ar dudalen 41, ar gael ar Cambridge University Press). Un o fanteision darparu ymateb ysgrifenedig yw y gellir ystyried cwestiynau ymlaen llaw a chyfeirio’n ôl atynt ac y gellir ysgrifennu’r atebion ar amser a chyflymder sy'n cyd-fynd ag anghenion y cyfranogwr ymchwil.
Dadansoddi'r data
Recordiwyd isdeitlau fel y gellid cynhyrchu trawsgrifiad o bob cyfweliad rhithwir oni bai bod cyfranogwyr wedi darparu ymateb ysgrifenedig. Cafodd y data a gasglwyd ei wneud yn ddienw a chynhaliwyd dadansoddiad thematig ohono. Roedd y dull a ddefnyddiwyd yn dilyn y dadansoddiad thematig systematig 6 cham a ddisgrifir gan Naeem ac eraill (A Step-by-Step Process of Thematic Analysis to Develop a Conceptual Model in Qualitative Research, 2023, ar gael ar Sage Journals) a ddatblygwyd o ddull Braun a Clarke (Using thematic analysis in psychology, 2008, ar gael ar Taylor and Francies online). Dewiswyd y dull hwn gan fod y broses systematig yn eu galluogi i wneud cysylltiadau clir rhwng y data, y dehongliad a'r casgliadau. Roedd y dull strwythuredig hwn hefyd yn sicrhau trylwyredd o ystyried faint o ddata ansoddol yr oedd angen ei ddadansoddi.
Mae'r 6 cham wedi'u crynhoi isod.
Cam 1
Cam cychwynnol pan fydd ymchwilwyr yn cynnal archwiliad dwfn o’r data ac yn dewis dyfyniadau sy'n dod â'r data’n fyw ac yn adlewyrchu cwestiynau’r ymchwil.
Cam 2
Yn cynnwys archwilio'r dyfyniadau a dewis geiriau allweddol sy'n eu hadlewyrchu.
Cam 3
Ymchwilwyr wedyn yn symleiddio'r geiriau allweddol trwy drosi data crai yn unedau mewnweledol, hydrin.
Cam 4
Codau’n cael eu trefnu’n grwpiau ystyrlon i nodi patrymau sy'n cysylltu â chwestiynau’r ymchwil.
Cam 5
Yn cynnwys deall a diffinio cysyniadau sy'n dod i'r amlwg o'r data.
Cam 6
Ymchwilwyr yn dehongli'r data dan arweiniad damcaniaethau presennol i ateb y cwestiynau ymchwil.
Defnyddiwyd y dull cam wrth gam hwn gan yr ymchwilydd o Lywodraeth Cymru a oedd yn arwain y prosiect a'r cyfwelydd annibynnol penodedig o Lab Cydgynhyrchu Cymru. Rhannwyd y themâu a ddaeth i’r amlwg mewn gweithdy myfyrio ar ddadansoddiad thematig gyda'r adolygwr cymheiriaid annibynnol a thrafodir hyn ymhellach isod.
Adolygiad desg o ddogfennau’r prosiect
Cafodd dogfennau'r prosiect o'r prototeip cydgynhyrchu eu sganio a'u hymgorffori'n ddetholus gan uwch swyddog ymchwil Llywodraeth Cymru i gynhyrchu llinell amser y prototeip cydgynhyrchu a chrynodeb cyffredinol o weithgarwch. Defnyddiwyd hyn i ategu'r canllaw pwnc ac i weithredu fel proc cof i atgoffa cyfranogwyr ymchwil o'r hyn a ddigwyddodd ym mhob cam o'r prototeip cydgynhyrchu.
Yr uwch swyddog ymchwil a arweiniodd y gwaith hwn hefyd oedd cydlynydd y prosiect ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu ac roedd ganddynt wybodaeth a mewnwelediadau manwl gan eu bod wedi bod yn rhan o'r prosiect o’r cychwyn. Roedd hyn yn ased gwerthfawr ac o gymorth i sicrhau cyflawnrwydd y dasg.
Yna adolygwyd y dogfennau prototeip yn systematig a'u crynhoi i ddarparu llwybr tystiolaeth a ymgorfforwyd yn y fethodoleg gyffredinol.
Fel gyda'r cyfweliadau lled-strwythuredig, cynhaliwyd dadansoddiad thematig. Fodd bynnag, ar gyfer yr adolygiad desg mabwysiadwyd dull hybrid. Roedd defnyddio'r dull a amlinellir gan Fereday and Muir-Cochrane (Demonstrating Rigor Using Thematic Analysis: A Hybrid Approach of Inductive and Deductive Coding and Theme Development, 2006, ar gael ar Sage Journals) yn galluogi'r tîm ymchwil i ddefnyddio codau a oedd eisoes yn bodoli o'r dadansoddiad a wnaed o'r cyfweliadau lled-strwythuredig mewn ffordd systematig.
Ar ôl i'r codau hynny gael eu cymhwyso i'r dogfennau prototeip, ailadroddodd yr ymchwilydd cymdeithasol y camau a amlinellwyd uchod i ystyried unrhyw godau neu themâu newydd sy’n allanolion. Rhannwyd y themâu hyn gyda thîm y prosiect yn y gweithdy ar gyfer dadansoddi thematig.
Adolygiad llenyddiaeth
Comisiynodd yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd adolygiad llenyddiaeth mewnol, cyflym, ansystematig o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil i faterion yn ymwneud ag anabledd.
Nod yr adolygiad llenyddiaeth oedd archwilio a chrynhoi llenyddiaeth gyhoeddedig ar gydgynhyrchu mewn ymchwil, gyda ffocws ar sut mae cydgynhyrchu wedi cael ei ddefnyddio o fewn llywodraeth i weithredu neu newid polisi sy'n effeithio ar bobl anabl.
Yn debyg i'r adolygiad pen-desg o ddogfennau prototeip, arweiniodd ymchwilydd cymdeithasol ddull hybrid o ddadansoddi thematig gan ddefnyddio’r codau a gafwyd eisoes o’r dadansoddiad o’r cyfweliadau lled-strwythuredig. Ar ôl i'r codau hynny gael eu cymhwyso i'r llenyddiaeth, ailadroddodd yr ymchwilydd cymdeithasol y camau a amlinellwyd uchod i ystyried unrhyw godau neu themâu newydd sy’n allanolion ac a gafodd eu rhannu gyda thîm y prosiect yn y gweithdy myfyrio dadansoddi thematig.
Gweithdy myfyrio dadansoddi thematig
Ym mis Rhagfyr 2025, hwyluswyd gweithdy rhithwir gan adolygydd cymheiriaid annibynnol. Roedd y gweithdy’n cynnwys:
- yr adolygydd cymheiriaid annibynnol penodedig
- y cyfwelydd annibynnol penodedig o Lab Cydgynhyrchu Cymru
- Uwch Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru a arweiniodd y prosiect gwersi a ddysgwyd; cyn-aelod o'r tîm cydgynhyrchu a oedd hefyd wedi ymgymryd â sampl o'r cyfweliadau a'r dadansoddiad lled-strwythuredig
- Swyddog Ymchwil Llywodraeth Cymru a oedd hefyd wedi cynnal sampl o'r cyfweliadau a'r dadansoddiad lled-strwythuredig, yn ogystal â dadansoddiad o'r adolygiad llenyddiaeth. Nid oedd y swyddog ymchwil hwn wedi chwarae unrhyw ran yn y prototeip cydgynhyrchu cyn hyn.
- Uwch Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru a oedd yn aelod blaenorol o'r tîm cydgynhyrchu ac a arweiniodd ar gwmpasu’r prosiect gwersi a ddysgwyd a’r dadansoddiad ymchwil desg o ddogfennau’r prosiect.
Pwrpas y gweithdy oedd adolygu, cymharu a mireinio themâu a ddaeth i’r amlwg o’r cyfweliadau lled-strwythuredig a'r ymatebion ysgrifenedig, yr adolygiad llenyddiaeth a'r adolygiad desg. Roedd hyn hefyd yn sicrhau yr ystyriwyd cynrychiolaeth gytbwys o safbwyntiau a bod profiad bywyd ac arbenigedd yn cael eu cynnwys wrth gytuno ar y themâu terfynol.
Safleoliaeth ac atblygoliaeth
Mae'n bwysig cydnabod bod elfen o oddrychedd i'r ymchwil hon o ystyried bod rhai o'r ymchwilwyr cymdeithasol sy'n arwain ar yr ymchwil gwersi a ddysgwyd hefyd yn aelodau o'r tîm cyd-gynhyrchu o'r prototeip.
Mae methodoleg sy’n atblygol "yn helpu i wella dibynadwyedd a hygrededd y canfyddiadau trwy gyfrif am werthoedd, credoau, gwybodaeth a rhagfarnau’r ymchwilwyr" (Positionality and reflexivity: negotiating insider-outsider positions within and across cultures gan Yip, 2023 ar dudalen 223, ar gael ar Taylor and Francis online). Ymgorfforwyd atblygoliaeth i fod yn weithredol yn nyluniad yr ymchwil o’r cychwyn cyntaf. Roedd rôl yr adolygwr cymheiriaid annibynnol yn cefnogi'r tîm ymchwil sy'n arwain y prosiect hwn i ystyried eu 'hymwybyddiaeth berthynol’ (Yip, 2023) a herio unrhyw ragdybiaethau neu ragfarnau posibl.
Roedd y gweithdy myfyrio dadansoddi thematig yn darparu man cydweithredol ac atblygol i driongli'r dystiolaeth o'r cyfweliadau lled-strwythuredig a'r ymatebion ysgrifenedig, yr adolygiad llenyddiaeth a’r ymchwil desg. Cyflwynir y dystiolaeth hon yn thematig yn yr adroddiad hwn.
