Neidio i'r prif gynnwy

Rhesymeg dros y prototeip cydgynhyrchu

Ym mis Medi 2023, cytunodd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydweithio gydag Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR) wedi’i llywio gan brofiad bywyd. Byddai'r ymchwil yn profi i ba raddau y gellir cydgynhyrchu GSR, gan gydweithio i oresgyn rhwystrau a chroesawu a mabwysiadu dulliau sy’n galluogi newid.

Ystyriwyd fod hyn yn bwysig i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth, gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a defnyddio dulliau arloesol megis cydgynhyrchu yn GSR.

Cefndir cydgynhyrchu

Nid yw cydgynhyrchu’n newydd, ond mae'n cynyddu mewn amlygrwydd wrth i fwy o sefydliadau gydnabod y gwerth y gall profiad bywyd ei ychwanegu at brosesau gwneud penderfyniadau. Mae cydgynhyrchu fel ymarfer a chysyniad dadleuol yn dyddio'n ôl i'r 1970au. Diffiniodd Elinor Ostrom gydgynhyrchu’n wreiddiol fel ffordd y gallai dinasyddion gyfrannu at lunio polisi cyhoeddus (The Multiple Facets of Co-Production: Building on the work of Elinor Ostrom gan Alford, 2014, ar gael ar Taylor and Francis online. 

Yn fwy diweddar, mae ymddangosiad "model llywodraethu cyhoeddus newydd" wedi rhoi ffocws ar berthnasoedd rhyng-sefydliadol, rhwydweithiau, partneriaethau cydweithredol, llywodraethu cyfranogol a mathau eraill o berthynas aml-actor (Understanding co-production as a new public governance tool gan Sorrentino ac eraill, 2018, ar gael ar Oxford Academic). Mae’r cyfeiriad yn y DU yn y degawdau diweddar wedi bod yn anelu fwyfwy tuag at gydgynhyrchu, sy’n cael ei weld fel "newid sydd yn synnwyr cyffredin o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus" (Reflections on Making Co-production Work: The Reality of Co-production from an Insider Perspective gan  Fillingham ac eraill, 2023, ar gael ar Oxford Academic).

Mae Arnstein (A Ladder of Citizen Participation, 1969, ar gael ar Taylor and Francis online) yn gweld y lefelau o gyfranogiad posibl mewn gwneud penderfyniadau fel grisiau ysgol (Ffigwr 1). Ar y lefel isaf o gyfranogiad, mae’r sefydliad sy'n cynnwys partner ddinasyddion â phrofiad bywyd yn dylanwadu arnynt. Nid oes cyfle i’r partneriaid gael unrhyw ddylanwad a manteisir arnynt gan sefydliadau sy’n cymryd yn ganiataol mai nhw sy’n deall y materion orau. Ar y lefel uchaf o gyfranogiad, mae gan bartner ddinasyddion reolaeth gref dros y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae pob cyfle iddynt ddylanwadu ar faterion ac fe'u hystyrir yn gyfranogwyr gweithredol, gyda phŵer cyfartal ag aelodau eraill o'r tîm. 

Ffigwr 1: lefelau cyfranogiad y cyhoedd a ddangosir gan ddefnyddio 'Ysgol Gyfranogiad' Arnstein 

Image

Trwy ddiffiniad, dylai cydgynhyrchu gynnwys cyfranogiad ar lefelau uwch yr ysgol. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o ymchwil sy'n honni ei bod wedi ei chydgynhyrchu yn mynd dim pellach na’r lefel ymgynghori, sy'n golygu nad oes gan bartneriaid mewn gwirionedd bŵer i wneud penderfyniadau gweithredol. Nid yw beirniadaeth o brosesau cydgynhyrchu yn tanseilio eu gwerth ond yn hytrach yn galw am ddiffiniad cliriach o'r broses. Dylai'r diffiniad newydd hwn werthfawrogi'r cysylltiadau rhwng y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'r gwerth y mae’r ddarpariaeth honno’n anelu at ei roi i gymdeithas (Beyond co-production: Value creation and public services gan Osborne ac eraill, 2021, ar gael ar Wiley online library). Mae Ocloo and Matthews (From tokenism to empowerment: progressing patient and public involvement in healthcare improvement, 2016, ar gael ar BMJ Journals) yn dadlau y dylai prosiectau gwella gwasanaethau arddel ymdriniaeth ddemocrataidd sy'n seiliedig ar hawliau a gwerthoedd, gan bwysleisio cyfranogiad uniongyrchol, grymuso a democrateiddio gwneud penderfyniadau ar lefel gymunedol. 

Amcanion y prototeip cydgynhyrchu

Nod yr ymchwil oedd creu prototeip o gydgynhyrchu fel ffordd o gynnal ymchwil gymdeithasol ochr yn ochr â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. 

Nod yr ymchwil oedd galluogi cyflawniad cenhadaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, sef “gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru.” Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a sbarduno canlyniadau gwell i bobl. Cyflwynwyd 'cyfranogiad' fel un o egwyddorion datblygu cynaliadwy'r ddeddf i gyflawni'r nodau llesiant. Mae'r prototeip cydgynhyrchu yn darparu dysgu i gymuned GSR a swyddogion polisi i gefnogi cyflawni'r egwyddor hon ar waith.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys cydgynhyrchu gyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Ym mis Gorffennaf 2021, amlygodd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yr anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad oedd sefydlu'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sef partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a phobl anabl. Roedd y Tasglu’n cael ei gydgadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar y pryd ynghyd â chynrychiolydd dethol o Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru. Roedd y Tasglu’n gweithredu ar yr egwyddor o gydgynhyrchu, gyda thros 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 350 o randdeiliaid allanol yn cydweithio i ddatblygu argymhellion a oedd yn anelu at wella’r canlyniadau i’r holl bobl anabl yng Nghymru. Defnyddiwyd yr argymhellion hyn i lywio canlyniadau a chamau gweithredu’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Y cyd-destun ymchwil y darparwyd y prototeip ynddo

Mae cydraddoldeb a gweithio er budd y naill barti a’r llall yn hanfodol mewn cydgynhyrchu. Nod y prototeip oedd profi i ba raddau y gellir cyflwyno cydgynhyrchu o fewn amgylchedd GSR wrth ystyried y cod GSR. GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i'r Cod Gwasanaeth Sifil ac mae'n cynnwys y gwerthoedd craidd o uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Mae hyn yn nodi nifer o safonau y mae'n rhaid eu bodloni os yw ymchwil i gael ei hystyried yn GSR. Mae'r fframwaith cymhwysedd GSR a'r protocol cyhoeddi GSR hefyd yn llywio'r ffordd y mae ymchwilwyr cymdeithasol yn cynhyrchu ymchwil. Mae pob ymchwilydd GSR yn gyfrifol am gynnal sicrwydd moesegol yn eu hymchwil.

Y 6 egwyddor foesegol ar gyfer ymchwil GSR

  • Egwyddor 1: dylai fod yn glir bod ymchwil yn cael ei gynnal i archwilio anghenion defnyddwyr ac er budd cyhoeddus. 
  • Egwyddor 2: dylai ymchwil fod yn seiliedig ar ddulliau ymchwil cadarn a dylid amddiffyn rhag rhagfarn wrth ddehongli’r canfyddiadau. 
  • Egwyddor 3: dylai ymchwil gadw at reoliadau diogelu data a thrin data personol yn ddiogel.
  • Egwyddor 4: dylai cyfranogiad mewn ymchwil fod yn seiliedig ar ganiatâd penodol a gwybodus. 
  • Egwyddor 5: dylai ymchwil alluogi cyfranogiad y grwpiau y mae'n ceisio eu cynrychioli.
  • Egwyddor 6: dylai ymchwil gael ei gynnal mewn ffordd sy'n lleihau niwed personol a chymdeithasol.

Trosolwg o'r pynciau ymchwil a archwiliwyd yn y prototeip cydgynhyrchu

Bwriad y prototeip oedd cryfhau gwaddol argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a oedd wedi'u dynodi a'u cynnig eisoes i Lywodraeth Cymru. Dewisodd Cadeiryddion y Tasglu ddau argymhelliad i ymchwilio ymhellach iddynt a’r rhain oedd sail y prosiect cydgynhyrchu.

Pwnc ymchwil 1: Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru

Roedd y pwnc ymchwil cyntaf yn archwilio'r potensial ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Cynhaliwyd gweithdy ar-lein gydag ystod o randdeiliaid i archwilio syniadau ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys barn ar yr hyn y dylai byw'n annibynnol ei olygu yn ymarferol, sut y gallai Canolfan Genedlaethol helpu i gefnogi byw’n annibynnol ac opsiynau ar gyfer modelau darparu posibl.

Roedd y gweithdy’n cynnwys:

  • pobl anabl 
  • cynrychiolwyr grwpiau pobl ag amhariad corfforol a sefydliadau pobl anabl
  • llywodraeth leol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill 
  • y sector gofal cymdeithasol
  • undebau llafur
  • swyddogion Llywodraeth Cymru
  • rhanddeiliaid unigol sy’n gweithredu dros hawliau pobl anabl 

Pwnc ymchwil 2: Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru

Roedd yr ail bwnc ymchwil yn archwilio ffyrdd o wella'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru. Argymhellodd aelodau Gweithgor y Tasglu Hawliau Pobl Anabl fod angen gwella'r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac y dylid manteisio mwy ar y llwybrau presennol o gymorth a chyngor gan bobl anabl sydd â phrofiad bywyd ac arbenigedd. Cynhaliwyd tri grŵp ffocws a oedd yn cynnwys cyflogwyr, undebau llafur a chynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl a grwpiau pobl ag amhariad corfforol. Fe wnaethant gynnig syniadau newydd ar gyfer y cynllun, a oedd yn cynnwys nod barcud cyflogwr unigryw ar gyfer Cymru, cynllun gwell gydag elfen Gymreig neu geisio gwelliannau i'r cynllun presennol ledled y DU.

Cyhoeddwyd dau adroddiad ymchwil ym mis Mehefin 2025 mewn fersiynau hygyrch gan gynnwys HTML yn Saesneg a Chymraeg, a chyhoeddwyd crynodebau gweithredol mewn fersiynau ychwanegol yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a fersiwn Hawdd ei Ddeall.

Y tîm cydgynhyrchu

Roedd y tîm cydgynhyrchu’n cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd a myfyriwr PhD. Roedd gan sawl aelod o’r tîm cydgynhyrchu, yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, brofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas.

Daeth Cadeiryddion y Tasglu Gweithgor Hawliau Anabledd ag arbenigedd a phrofiad ymchwilio o'r sectorau academaidd a gwirfoddol yn ogystal â phrofiad perthnasol mewn defnyddio dulliau cymysg a chydgynhyrchu. 

Diffinnir ‘cydgynhyrchydd’ fel aelod o'r tîm traws-sector a gydweithiodd i greu prototeip ar gyfer cydgynhyrchu adroddiad GSR ar gyfer y naill neu’r llall o’r pynciau ymchwil hyn. 

Y weledigaeth ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu

Ar ôl sefydlu'r tîm cydgynhyrchu, gweithiodd yr aelodau gyda'i gilydd i gyd-ddylunio a chytuno ar y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prototeip. Roedd y weledigaeth yn diffinio cydgynhyrchu ar gyfer y prototeip fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Anabledd heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i gydgynhyrchu a'i gydysgrifennu”. 

Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o weithio gyda'i gilydd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu oddi wrth ei gilydd. 

Yn ystod camau cwmpasu y prototeip cydgynhyrchu, cytunwyd y byddai'r tîm yn cydgynhyrchu'r ddau brosiect ymchwil yn seiliedig ar 2 argymhelliad y Tasglu Hawliau Anabledd fel y nodwyd uchod ac yn cynhyrchu prosiect ‘gwersi a ddysgwyd’ dilynol, sef yr hyn y mae’r adroddiad hwn yn seiliedig arno. Mae nodau’r prosiect hwn i’w gweld isod.

Y nodau ar gyfer yr ymchwil gwersi a ddysgwyd o gydgynhyrchu hwn

Nod cyffredinol y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Yn ogystal, roedd bwriad i’r ymchwil ystyried unrhyw wersi ynglŷn â chymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn GSR. 

Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â'u cyfoedion. Mae'r model cymdeithasol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau (strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethol) sy'n atal cyfranogiad pobl anabl.

Amcanion y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd:

  • dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR
  • deall y rhwystrau a'r galluogwyr i gydgynhyrchu ymchwil o fewn ymchwil gymdeithasol y llywodraeth
  • deall gwerth ychwanegol cynnal ymchwil ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, ac arbenigedd yn hynny o beth, ac ymgorffori’r model cymdeithasol o anabledd 

Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno’r dystiolaeth o'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y prototeip cydgynhyrchu.

Er gwybodaeth, pan gyfeirir at 'y prototeip' yn yr adroddiad hwn, mae hyn yn golygu cyflwyno 2 brosiect ymchwil gymdeithasol GSR gan ddefnyddio dull cydgynhyrchu dan arweiniad tîm o gydgynhyrchwyr.