Neidio i'r prif gynnwy

Rhesymeg ac amcanion y prototeip cydgynhyrchu

Ym mis Medi 2023, cytunodd Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru i gydweithio â’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd gyda'r nod o gydgynhyrchu Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). 

Nod y prototeip oedd treialu cydgynhyrchu fel ffordd o gynnal ymchwil gymdeithasol ar y cyd â chynrychiolwyr pobl anabl ac yn unol ag egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. 

Roedd gan sawl aelod o’r tîm cydgynhyrchu, yn cynnwys rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru, brofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas. 

Nod y prototeip oedd profi i ba raddau y gellir cyflawni cydgynhyrchu o fewn amgylchedd GSR ac wrth ystyried y cod GSR. GSR yw'r sefydliad aelodaeth broffesiynol ar gyfer ymchwil gymdeithasol yn y llywodraeth. Mae'r cod GSR yn atodiad i God y Gwasanaeth Sifil ac yn cynnwys gwerthoedd craidd uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Mae’n nodi nifer o safonau y mae'n rhaid eu bodloni os yw ymchwil i gael ei hystyried yn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth. 

Yr uchelgais, fel rhan o gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oedd galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau sy’n seiliedig ar well gwybodaeth a hyrwyddo canlyniadau gwell i bobl. Dyluniwyd y prototeip i ddarparu dysgu i’r gymuned GSR a swyddogion polisi i roi 'cyfranogiad' ar waith fel un o egwyddorion datblygu cynaliadwy y ddeddf. Byddai’r prototeip hefyd yn golygu bod modd cyflawni cenhadaeth Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru i “wella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig er mwyn inni ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru.” 

Amcanion yr ymchwil cydgynhyrchu hwn i wersi a ddysgwyd

Yn dilyn y prototeip cydgynhyrchu, nod y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd deall i ba raddau y mae'n bosibl i ymchwilwyr cymdeithasol y llywodraeth gydgynhyrchu ymchwil gymdeithasol. Yn ogystal, anelai’r ymchwil i ystyried unrhyw wersi ar gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yn GSR. Ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ddarparu’r ymchwil gwersi a ddysgwyd o'r prototeip. 

Mae'r model cymdeithasol o anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â'u cyfoedion. Mae'r model cymdeithasol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau (strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethol) sy'n atal cyfranogiad pobl anabl.

Amcanion y prosiect ymchwil gwersi a ddysgwyd oedd:

  • dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gyfranogiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR
  • deall beth sy’n rhwystro a beth sy’n galluogi cydgynhyrchu ymchwil o fewn GSR
  • deall gwerth ychwanegol cynnal ymchwil ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, ac arbenigedd yn hynny o beth, ac ymgorffori’r model cymdeithasol o anabledd 

Methodoleg yr ymchwil gwersi a ddysgwyd o’r cydgynhyrchu

Cynhaliwyd cyfanswm o 16 cyfweliad lled-strwythuredig gyda 5 Cadeirydd Tasglu Hawliau Pobl Anabl ac 11 o swyddogion Llywodraeth Cymru (a oedd yn cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol a swyddogion polisi) rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025. 

Comisiynwyd ymchwilydd annibynnol o Lab Cydgynhyrchu Cymru i gasglu barn 4 Cadeirydd Tasglu ac i ymgymryd â dadansoddiad thematig o'r cyfweliadau. Yna rhannodd yr ymchwilydd annibynnol y themâu a nodwyd gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru a oedd yn arwain ar y prosiect gwersi a ddysgwyd. 

Arweiniodd 2 ymchwilydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gasglu’r data a’r dadansoddiad thematig gan 11 swyddog Llywodraeth Cymru ac un Cadeirydd Tasglu. 

Arweiniodd uwch swyddog ymchwil a oedd yn gyn-aelod o'r prototeip cydgynhyrchu adolygiad desg o ddogfennau'r prosiect. 

Cynhaliodd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru adolygiad llenyddiaeth o dystiolaeth yn ymwneud â chydgynhyrchu ac ymchwil anabledd. 

Comisiynwyd adolygydd cymheiriaid annibynnol i wirio addasrwydd y teclynnau ymchwil cyn dechrau ar y gwaith maes, i hwyluso gweithdy myfyrio dadansoddi thematig ac i adolygu'r adroddiad drafft. Rhoddodd yr adolygydd cymheiriaid annibynnol gyngor a chefnogaeth i dîm y prosiect, yn enwedig ynghylch unrhyw faterion yn ymwneud â methodolegol neu foeseg.

Camau cyflawni’r prototeip cydgynhyrchu

Amlinellwyd y prototeip fel un i’w gyflawni mewn 3 cham, y cytunwyd arnynt gyda Phrif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

  • Cam 1 (i gyd-ddylunio gweledigaeth ar gyfer yr ymchwil, gan gynnwys pennu'r pynciau ar gyfer yr ymchwil a ffyrdd o weithio gyda'i gilydd).
  • Cam 2 (i gydgynhyrchu tystiolaeth a oedd yn cynnwys cyd-ddylunio a chyflwyno cynllun gwaith ymchwil, cydysgrifennu adroddiadau ymchwil a briffio gweinidogion ar y cyd, a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil).
  • Cam 3 (ymchwil gwersi cydgynhyrchu a ddysgwyd dan arweiniad ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru i ddysgu o’r dull cydgynhyrchu a’i werthuso ac ystyried ffyrdd ychwanegol o gofnodi profiad ac arbenigedd bywyd a rhannu'r dysgu hwnnw o'r prototeip).

Y weledigaeth ar gyfer y prototeip cydgynhyrchu

Gweithiodd y tîm cydgynhyrchu gyda'i gilydd i gyd-ddylunio a chytuno ar y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y prototeip. Roedd hyn yn diffinio cydgynhyrchu fel "gweithio mewn partneriaeth gyfartal, dysgu sut i gynhyrchu ymchwil gyda'n gilydd, cynnwys Cadeiryddion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl heb eu gorlethu, a chyhoeddi adroddiadau o safon dda fel ymchwil wedi'i chydgynhyrchu a'i chydysgrifennu”. 

Roedd y weledigaeth yn nodi bwriad y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu ffyrdd o weithio gyda'i gilydd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn gynhwysol, yn dryloyw ac yn caniatáu i'r tîm fod yn greadigol a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Y pynciau ymchwil a gafodd eu harchwilio yn y prototeip cydgynhyrchu

Yn ystod camau cwmpasu'r prototeip cydgynhyrchu, cytunwyd y byddai'r tîm yn cydgynhyrchu 2 brosiect ymchwil yn seiliedig ar argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Roedd yr argymhellion hyn wedi'u nodi a'u cynnig i Lywodraeth Cymru yn flaenorol yn dilyn yr anghydraddoldebau a brofwyd gan bobl anabl mewn cymdeithas yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd y pwnc ymchwil cyntaf yn archwilio'r potensial i sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol yng Nghymru. Roedd yr ail bwnc ymchwil yn archwilio ffyrdd o wella'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru.

Casgliadau’r ymchwil gwersi a ddysgwyd o’r cydgynhyrchu

Gellir defnyddio'r dysgu o'r gwaith hwn ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, yn ogystal ag ymgysylltiad pobl sydd â phrofiad bywyd mewn prosiectau GSR. Mae llawer o'r dysgu hefyd yn berthnasol i gydgynhyrchu mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae'r dysgu yn cwmpasu 5 maes:

  • y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni
  • pŵer a pherthnasoedd
  • cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR
  • y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd
  • dysgu unigol a sefydliadol

Y broses gydgynhyrchu a'r defnydd ohoni

Mae'r llenyddiaeth yn dangos nad oes unrhyw un diffiniad unigol o gydgynhyrchu a dangosodd y dystiolaeth a gafwyd trwy'r prototeip bod gan unigolion ddehongliadau gwahanol o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu. Gall methodolegau cydgynhyrchu fod ar wahanol ffurfiau ac amrywio o ran sut maent yn cael eu cymhwyso a'r lefelau o gyfranogiad. Yn y prototeip hwn, roedd gan unigolion brofiadau blaenorol gwahanol o gydgynhyrchu. Roedd datblygu diffiniad a gweledigaeth ar y cyd i ddarparu dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu yn hanfodol ar gyfer y prototeip hwn fel bod gan bawb gyd-ddealltwriaeth o sut y gallai’r unigolion sy'n gysylltiedig weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgynhyrchiol. 

Dangosodd y canfyddiadau y gall cynnal prosiect cydgynhyrchu fod yn heriol, a bod angen set graidd o sgiliau a phrofiad ar aelodau'r tîm cydgynhyrchu i wneud hyn. Roedd profiad mewn trafod, technegau hwyluso ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu hystyried yn alluogwyr. Roedd arfogi pawb i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol trwy hyfforddiant, cysgodi a dysgu o arfer gorau yn gallu helpu i feithrin perthnasoedd a hybu dealltwriaeth gyffredin o sut i gyflawni prosiect cydgynhyrchu yn y dyfodol. 

Ar gyfer y prototeip hwn, cyd-ddyluniodd a chytunodd y tîm cydgynhyrchu ar becyn cydnabyddiaeth a oedd yn darparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau ymchwil. Roedd hyn yn lle taliad ariannol oherwydd y posibilrwydd y gallai cyfranogwyr golli hawliau lles ac incwm oherwydd rheolau treth a budd-dal lles y DU. Er y dywedwyd fod y pecyn cydnabyddiaeth yn arwain at fwy o ymrwymiad amser yn gyffredinol, cafodd ei dderbyn yn dda ac roedd yn darparu cyfleoedd i'r tîm gymhwyso sgiliau a gwybodaeth a oedd eisoes yn bodoli neu ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Fodd bynnag, canfu'r prototeip y gallai peidio â chynnig taliad ariannol gyfyngu ar ymgysylltiad mewn prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol i rai. Dylai ymarferwyr hefyd ystyried cynnwys digon o amser i gytuno ar drefniadau cydnabyddiaeth o fewn amserlenni prosiectau. 

Ar gyfer y prototeip hwn, roedd cyd-gynhyrchu fel dull o gyflawni ymchwil gymdeithasol yn ddwys o adnoddau ac yn cymryd mwy o amser na phrosiect GSR safonol. Yn y prototeip hwn, roedd yn anodd rhagweld yn iawn faint o amser ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r hyn y cytunwyd arno, yn enwedig o ystyried bod cydgynhyrchu’n ffordd iteraidd o weithio. Roedd y prototeip yn gofyn am lawer iawn o ewyllys da, ymrwymiad ac amynedd i gynnal cyfranogiad. Cynigir bod hyn yn cael ei ystyried gan ymarferwyr sy'n dymuno cydgynhyrchu ymchwil yn y dyfodol.

Roedd cynnydd yng nghwmpas yr ymchwil yn ystod y prototeip lle cynhaliwyd ymchwil sylfaenol yn lle’r adolygiadau o dystiolaeth a gynlluniwyd ar y dechrau. Arweiniodd hyn at fwy o alwadau ar bobl dros gyfnod hirach na'r disgwyl ac roedd yn golygu na chafodd yr holl allbynnau arfaethedig eu cyflawni. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried treulio mwy o amser yn y cam cyd-ddylunio cynnar i gadarnhau'r cwmpas ymchwil a chytuno ar hyn mewn unrhyw gylch gorchwyl. 

Teimlwyd fod y prototeip hwn yn cael effaith ar les unigol ar adegau, o ystyried maint y gwaith a'r perthnasoedd cysylltiedig. O ganlyniad i hyn roedd y tîm cydgynhyrchu wedi ymgorffori pwyntiau gwirio lles ar ddiwedd pob cyfarfod prosiect. Cynigir bod angen i brosiectau yn y dyfodol ystyried lles aelodau unigol o dimau cydgynhyrchu trwy gydol cyflawniad y prosiect ac mae angen i hyn fod yn gyfrifoldeb a rennir ymhlith aelodau'r grŵp. 

Roedd angen dangos yn glir sut y byddai penderfyniadau'n cael eu gwneud i sicrhau tryloywder a chynnal ymddiriedaeth. Roedd amcangyfrif amserlenni yn arbennig o heriol gan mai'r nod oedd i bawb gytuno gyda’i gilydd ar unrhyw benderfyniadau a wneir. Ar gyfer prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol, cynigir y dylid gwneud protocolau gwneud penderfyniadau yn glir mewn unrhyw gylch gorchwyl.

Roedd angen i'r prototeip fod yn iteraidd ac yn ymatebol i benderfyniadau a wnaed ar hyd y ffordd. Dylai prosiectau yn y dyfodol ystyried dull rheoli prosiect hyblyg. Gallai chwilio am reolwr prosiect annibynnol i arwain rheolaeth y prosiect o bosibl helpu i leihau'r baich, yn enwedig ar gyfer aelodau cydgynhyrchu sydd â chyfrifoldebau rheoli prosiect. 

Pŵer a pherthnasoedd

Mae’r llenyddiaeth yn dangos bod perthnasoedd yn greiddiol i lwyddiant wrth gydgynhyrchu a dangosodd y dystiolaeth fod angen mwy o amser i sefydlu ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar ddechrau'r prototeip. Defnyddiwyd mapio asedau fel offeryn i archwilio manteision y cydgynhyrchu i bawb. Gallai unigolion fynegi’r hyn yr oedden nhw am ei gyfrannu a'r hyn yr oeddent am ei gymryd o'r prototeip. Canfu'r prototeip fod mapio asedau’n ffordd ddefnyddiol o ddeall cymhellion unigolion a datblygu perthnasoedd dwy-ffordd. Cynigir y dylid treulio amser yn sefydlu perthnasoedd ac yn mapio asedau ar ddechrau unrhyw brosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol. 

At ei gilydd ni lwyddwyd i lwyr gyflawni cydbwysedd pŵer ar gyfer y prototeip hwn ac roedd cydbwysedd pŵer yn amrywio trwy wahanol gamau’r prosiect. O ystyried mai ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect a’i adnoddau, roedd hyn yn effeithio ar y cydbwysedd pŵer ac yn arwain at densiynau o fewn y tîm cydgynhyrchu ar adegau. Cynigir y dylai unrhyw brosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol gydnabod rhai o’r anghydbwyseddau pŵer posibl mewn prosiect cydgynhyrchu ar ddechrau a thrwy gydol prosiect, gyda phawb yn agored ynghylch y rhesymau drostynt. 

Nid oedd y profiad o gydgynhyrchu’n gyson ymysg cyfranogwyr ac ar draws gwahanol gamau’r ymchwil gyda rhai’n teimlo wedi’u grymuso ac eraill yn teimlo wedi’u hallgáu. Roedd hyn yn wir am y Cadeiryddion Tasglu, ymchwilwyr Llywodraeth Cymru ac eraill a oedd yn rhan o'r prototeip. Gwelodd rhai gynnydd mewn rhannu pŵer, roedd eraill yn teimlo bod strwythurau'r llywodraeth yn eu hanfod yn cyfyngu ar bartneriaeth. Fel gyda'r prototeip cydgynhyrchu hwn, awgrymir bod ymarferwyr yn ceisio deall y gwahaniaethau hyn gan y gallai hynny ddarparu tystiolaeth hanfodol ynghylch yr amodau sy’n arwain at lwyddiant neu fethiant mewn cydgynhyrchu. 

Cydgynhyrchu a chyfranogiad trwy wahanol gamau ymchwil GSR

Nod y prototeip oedd cydgynhyrchu ar draws pob cam o'r ymchwil, fodd bynnag, roedd lefel y cydgynhyrchu’n amrywio ar draws gwahanol gamau cylch ymchwil GSR, yn enwedig wrth i amserlenni ymestyn. Roedd cyfathrebu agored a gonest ynghylch amser ac adnoddau yn bwysig i ddeall y rhesymau dros addasu'r arddull gweithio cydweithredol ar draws gwahanol gamau. Yn ystod camau dadansoddi ac adrodd y prototeip, cytunodd y tîm cydgynhyrchu i fabwysiadu dull mwy ymgynghorol i leihau rhywfaint o'r llwyth gwaith i'r grŵp, gydag ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cymryd mwy o'r awenau. Yn y dyfodol, efallai y bydd prosiectau cydgynhyrchu eisiau ystyried beth sy'n bosibl neu ddim yn bosibl i’w gydgynhyrchu a rheoli disgwyliadau o fewn y grŵp o'r cychwyn cyntaf. 

Roedd enghreifftiau cadarnhaol o brofiad bywyd pobl o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas yn llywio prif gamau cylch ymchwil GSR. Roedd yr enghreifftiau hyn yn amrywio o brofiad bywyd sy'n ychwanegu gwerth at ddylunio, moeseg a chwmpasu gwaith ymchwil i ymgymryd â gwaith maes, dadansoddi data a llunio adroddiadau; pethau yr oedd y grŵp yn barnu eu bod yn gwella ansawdd cyffredinol yr ymchwil. Fodd bynnag, roedd i ba raddau y gallai rhai aelodau o’r grŵp gyfrannu yn cael ei bennu’n rhannol gan eu sgiliau ymchwil a’u harbenigedd. Mae'r prototeip yn ceisio dod i gasgliadau ynghylch pa lefel o gysylltiad sy'n ymarferol ar bob cam o brosiect GSR, ac roedd y dystiolaeth yn dangos y gellir cynnwys hyn yn effeithiol ar bob cam. 

Dangosodd y prototeip nad yw gwneud penderfyniadau ar y cyd yn bosib wrth sicrhau ansawdd adroddiadau ymchwil GSR, gan mai dim ond ymchwilwyr GSR all roi cymeradwyaeth derfynol. Dywedodd rhai aelodau o'r tîm cydgynhyrchu bod proses sicrhau ansawdd GSR yn gweithio'n dda i ddarparu fframwaith a fformat defnyddiol ar gyfer cyhoeddi. Fodd bynnag, gan mai cyfrifoldeb ymchwilwyr GSR yw rhoi cymeradwyaeth derfynol, daeth y cwestiwn 'pwy sy'n berchen ar adroddiad?' i'r amlwg fel thema yn y dystiolaeth gyfweld. Roedd y thema hon yn cwestiynu i ba raddau y gellir bod â chyd-berchnogaeth o’r allbynnau terfynol mewn gwirionedd ac i ba raddau yr oedd y trefniadau i roi cymeradwyaeth derfynol yn siapio lefelau o bŵer a dylanwad.

Canfuwyd bod gwerthoedd gwrthrychedd a didueddrwydd y cod GSR yn ddefnyddiol ar gyfer y prototeip hwn. Mae'r gwerthoedd yn gosod disgwyliad clir am niwtraliaeth wrth ddylunio a chyflawni gweithgareddau ar draws y camau ymchwil ac yn feincnod defnyddiol ar gyfer myfyrio a dilysu. Roedd yr egwyddor o ddidueddrwydd weithiau yn heriol i'w chysoni ag uchelgeisiau'r tîm cydgynhyrchu i sicrhau bod yr ymchwil mor ddylanwadol â phosibl. Cynigir bod sgyrsiau am atblygedd a lleoliadedd fel grŵp yn cael eu cynnwys mewn prosiectau cydgynhyrchu yn y dyfodol i gydnabod profiadau bywyd unigol a allai effeithio ar allu'r tîm cydgynhyrchu i gyd-fynd â'r gwerthoedd hyn.

Roedd cydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas wedi gwella hygrededd ac effaith gyffredinol yr ymchwil. Roedd tystiolaeth bod gwerth ychwanegol profiad bywyd wedi llywio ffocws yr ymchwil o ran bod y mater yn berthnasol i’r cyd-destun a bod pynciau a oedd yn gofyn am fwy o dystiolaeth wedi’u hadnabod. Gall ddarparu gwir fanteision o ran dynodi materion dilys y mae angen ymchwilio iddynt i lenwi unrhyw fylchau mewn tystiolaeth. Cynigir y gall cynnwys ystod eang o bobl sydd â phrofiad bywyd o bynciau neu faterion perthnasol fod yn fuddiol ac yn werthfawr ar gyfer dilysu wrth gynllunio tystiolaeth.

Codwyd cwestiynau ynghylch a oedd y prototeip yn mynd yn ddigon pell i ymwreiddio profiadau bywyd amrywiol ac ystyried croestoriadedd. Awgrymir y gellid, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn briodol, ddylunio'r tîm cydgynhyrchu gyda chynrychiolaeth o’r croestoriadau perthnasol o gymdeithas mewn golwg. Os nad yw hyn yn ymarferol, yna gellid ystyried profiad bywyd amrywiol a chroestoriadol yn nulliau ymchwil prosiect neu o fewn mathau eraill o gydweithio. 

Y model cymdeithasol o anabledd a hygyrchedd

Roedd aelodau'r tîm cydgynhyrchu yn gadarnhaol ynghylch cymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd o fewn y prototeip ac yn teimlo ei fod wedi mynd ymhellach na phrosiectau eraill y buont yn rhan ohonynt. Cymerwyd camau i archwilio a chael gwared ar rwystrau unigol i’r graddau yr oedd y prosiect yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn golygu gofyn yn rheolaidd i aelodau'r tîm cydgynhyrchu hysbysu'r tîm ynghylch unrhyw ofynion hygyrchedd. 

Fodd bynnag, roedd angen i'r tîm cydgynhyrchu weithio trwy rwystrau i gymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd wrth ryngweithio â phrosesau y tu hwnt i reolaeth y tîm. Gallai gweithio mewn ffordd hygyrch sy'n cadw at y model cymdeithasol o anabledd weithiau gymryd mwy o amser. Fodd bynnag, roedd yn elfen hanfodol o'r prototeip, ac yn arfer parhaus a gweithredol yn unol ag arfer moesegol da i sicrhau cyfranogiad.

Roedd hygyrchedd wedi cefnogi cynnwys gwybodaeth a mewnwelediad newydd yn y broses. Roedd yn siapio lefel yr awdurdod a’r dylanwad y gallai unigolion ei gael yn y broses ymchwil gymdeithasol. Cynigir bod ymarferwyr yn ystyried sut i gymhwyso egwyddorion y model cymdeithasol yn well i ymchwil gymdeithasol a'i fod yn cael ei annog yn weithredol mewn prosiectau yn y dyfodol. 

Dysgu unigol a sefydliadol

Myfyriodd rhai cydgynhyrchwyr ynghylch eu dysgu unigol o ganlyniad i'r prototeip. Dangosodd tystiolaeth o'r ymchwil enghreifftiau cadarnhaol o bobl mewn gwahanol rolau yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn goresgyn unrhyw heriau wrth iddynt godi. Roedd rhai yn cydnabod eu bod wedi ennill dealltwriaeth ddyfnach o hawliau anabledd, yn enwedig yn y cyd-destun polisi presennol o faterion yn ymwneud ag anabledd yng Nghymru. Roedd eraill yn dweud eu bod wedi cael mewnwelediad ymarferol i sgiliau ymchwil a phrosesau GSR yn ogystal â'r model cymdeithasol o anabledd. 

Roedd y prototeip wedi cynyddu hyder a gwytnwch rhai aelodau o’r tîm cydgynhyrchu, yn enwedig wrth weithio ar brosiectau ymchwil cymhleth a oedd yn gofyn am ystyried safbwyntiau amrywiol a dod o hyd i atebion ar y cyd. 

Un o nodau craidd y prototeip hwn oedd myfyrio ynghylch y seilwaith presennol ar gyfer cydgynhyrchu a chymhwyso'r model cymdeithasol o anabledd yng nghyd-destun GSR Cymru. Mae’r canfyddiadau o'r prototeip hwn wedi amlygu cyfleoedd ar gyfer dysgu a newid sefydliadol. Mae hyn eisoes yn cael ei ystyried yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a bydd yn parhau i gael ei ystyried yng nghyd-destun y Ddeddf, sy’n nodi’n glir mai 'cyfranogiad' yw un o'r ffyrdd hanfodol o weithio i gyflawni nodau llesiant y ddeddf. Bydd hefyd yn cael ei ystyried mewn perthynas â strategaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i brif ffrydio cydraddoldeb, cynhwysiant a chyfranogiad yn GSR Llywodraeth Cymru a phroffesiynau dadansoddol eraill.

Arsylwadau terfynol

Canfuwyd bod cydgynhyrchu ymchwil cymdeithasol yn ddull mwy moesegol o weithio, gan adlewyrchu egwyddor 'dim amdano ni, hebddo ni' y mudiad hawliau pobl anabl. Disgrifiwyd hyn fel ymateb i anghyfiawnderau hanesyddol a brofwyd gan bobl anabl mewn ymchwil. Dylai ymarferwyr ystyried hawl pobl sydd â phrofiad bywyd o nodweddion gwarchodedig i fod yn rhan o astudiaethau sy'n ymwneud â nhw. Cynigir y dylid ystyried hyn wrth gwmpasu ymchwil ac y gall cyfranogiad fod ar sawl ffurf, o aelodaeth o grŵp llywio i adolygiad gan gymheiriaid neu gydgynhyrchu llawn. 

Ceisiodd y prototeip hwn gymhwyso egwyddorion cydgynhyrchu cyn belled â phosibl trwy bob cam o'r prosiect. Roedd y cyfleoedd ar gyfer deinameg pŵer cyfartal a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn amrywio trwy gydol camau'r prosiect ac mewn gwahanol weithgareddau a thasgau. Wrth edrych yn ôl, roedd labelu'r prototeip fel 'cydgynhyrchiad' weithiau yn achosi disgwyliadau afrealistig i'r tîm cydgynhyrchu. Dylid ystyried bob amser a ddylid, a sut i, ‘gydgynhyrchu’ neu 'gyd-ddylunio' a phryd y mae'n fwy priodol i 'ymgynghori' neu 'hysbysu'. Un o'r prif bwyntiau dysgu i ymarferwyr eu hystyried o'r prototeip hwn yw deall o ddifrif i ba raddau y gellir rhannu penderfyniadau ar bob cam o'r broses a bod yn glir ynghylch hynny o'r cychwyn cyntaf.