Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025: amddifadedd mewn ardaloedd gwledig a threfol
Dadansoddiad o batrymau amddifadedd mewn gwahanol fathau o ardaloedd gwledig neu drefol yng Nghymru, gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r erthygl ystadegol hon yn archwilio sut y gellir defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 i ddeall patrymau amddifadedd mewn gwahanol fathau o ardaloedd gwledig neu drefol yng Nghymru.
Yn dilyn y crynodeb o'r prif bwyntiau, rydym yn darparu trosolwg byr o MALlC a'r Dosbarthiad Gwledig-Trefol. Wedyn rydym yn darparu dadansoddiad o amddifadedd cyffredinol a dadansoddiad enghreifftiol o feysydd incwm, mynediad at wasanaethau a tai MALlC. Mae proffiliau amddifadedd a setiau data dangosyddion yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol ar gael ar gyfer pob un o 8 maes MALlC 2025 ar StatsCymru.
Mae'r adroddiad hwn yn diweddaru ac yn adeiladu ar ein herthygl ystadegol MALlC 2014 ar ddadansoddi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig. Mae'n defnyddio data mwy diweddar MALlC 2025 a'r Dosbarthiad Gwledig-Trefol diweddaraf yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021.
Prif bwyntiau
Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio 'ardaloedd bach' a ddiffinnir yn ystadegol sy'n cael eu dosbarthu fel naill ai:
- trefol
- aneddiadau gwledig llai
- aneddiadau gwledig mwy
O fewn pob math o anheddiad, mae ardaloedd yn cael eu dosbarthu ymhellach fel rhai sy'n agosach neu'n bellach o dref neu ddinas ganolig (25,000 o drigolion arferol neu fwy). Mae dadansoddiad o'r data yn dangos y canlynol:
- mae tua 30% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig (naill ai gwledig mwy neu wledig llai)
- mae cyfran is na'r cyfartaledd o ardaloedd gwledig (2% neu 12 ardal) yn y 10% mwyaf difreintiedig ledled Cymru, sydd wedi'u gwasgaru ar draws 6 awdurdod lleol
- yr ardal wledig fwyaf difreintiedig yw Twyn Carno 1 yng Nghaerffili, sydd wedi’i rhestru fel y 12fed ardal fwyaf difreintiedig yn MALlC 2025
- yr ardaloedd yn y categorïau 'gwledig llai' sydd â'r cyfrannau isaf o'r boblogaeth mewn amddifadedd incwm, ac ardaloedd yn y categorïau trefol sydd â'r cyfrannau uchaf
- o'r holl bobl sydd mewn amddifadedd incwm, mae 77% yn byw mewn ardaloedd trefol, 13% mewn ardaloedd gwledig mwy a 10% mewn ardaloedd gwledig llai
Mae amddifadedd lluosog mewn ardaloedd gwledig yn llai amlwg yn safleoedd MALlC oherwydd ei fod yn aml yn fwy gwasgaredig, ond nid yw hyn yn wir am bob maes amddifadedd unigol.
- Mae traean o ardaloedd gwledig yn y 10% mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau, ac mae 16% yn y 10% mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes tai.
- Yn y categori 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig', mae ychydig dros dri chwarter yr ardaloedd (77%) yn y 10% mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau, a 41% ar gyfer y maes tai.
Cefndir MALlC
MALlC yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy'n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae'n nodi’r ardaloedd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd:
- incwm
- cyflogaeth
- iechyd
- addysg
- mynediad at wasanaethau
- tai
- diogelwch cymunedol
- yr amgylchedd ffisegol
Y 3 prif elfen i fynegai 2025
- Y 54 o setiau data dangosyddion sylfaenol.
- Safleoedd ar gyfer yr 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, sy’n cael eu creu drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob maes.
- Safleoedd cyffredinol MALlC, sy’n cael eu creu drwy gyfuno safleoedd y meysydd.
Cyfrifir yr holl elfennau hyn ar gyfer pob un o'r 1,917 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) yng Nghymru. Mae MALlC yn rhestru pob AGEHI o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig) ar gyfer pob maes ar wahân ac ar gyfer y mynegai cyffredinol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y mynegai yng nghanllawiau MALlC 2025. Mae data ar gyfer MALlC wedi'i gyhoeddi ar StatsCymru, ac yn adroddiad canlyniadau MALlC 2025.
Cefndir y Dosbarthiad Gwledig-Trefol
Mae Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn ddosbarthiad ystadegol sy'n darparu dull cyson a safonol ar gyfer categoreiddio ardaloedd daearyddol fel rhai gwledig neu drefol.
Mae 3 dosbarth o anheddiad ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) yng Nghymru o dan Ddosbarthiad Gwledig-Trefol 2021, sef:
- trefol
- anheddiad gwledig mwy
- anheddiad gwledig llai
Yn yr erthygl hon, mae'r dosbarthiadau hyn o anheddiad yn cael eu cyfuno â'r categorïau mynediad cymharol canlynol:
- agosach at dref neu ddinas ganolig: gellir cyrraedd ardal adeiledig â phoblogaeth breswyl arferol o 25,000 neu ragor o fewn 30 munud mewn cerbyd preifat
- pellach o dref neu ddinas ganolig: ni ellir cyrraedd ardal adeiledig â phoblogaeth breswyl arferol o 25,000 neu ragor o fewn 30 munud mewn cerbyd preifat.
Mae'r dull hwn ar gyfer mynediad cymharol yn wahanol i'r prif gategorïau yn Nosbarthiad Gwledig-Trefol 2021, sy'n defnyddio trothwy poblogaeth o 75,000 i ddiffinio'r categorïau mynediad cymharol.
Yn yr erthygl hon, rydym weithiau'n grwpio'r holl aneddiadau gwledig llai a mwy ac yn cyfeirio atynt gyda'i gilydd fel 'gwledig'.
Ceir rhagor o wybodaeth am Ddosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn yr adran ar fethodoleg Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021.
Amddifadedd mewn ardaloedd gwledig
Diben MALlC yw nodi crynodiadau o amddifadedd ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau i'r mynegai y mae'n rhaid eu hystyried wrth ganolbwyntio gwaith dadansoddi ar y meysydd hyn.
Mae MALlC yn caniatáu nodi'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, ond bydd pob ardal fach yn cynnwys cymysgedd o bobl. Mae llawer o bobl freintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig iawn, ac mae llawer o bobl ddifreintiedig yn byw mewn ardaloedd cymharol lai difreintiedig.
Mae pobl ddifreintiedig yn ardaloedd gwledig Cymru yn dueddol o fod yn fwy gwasgaredig yn ddaearyddol na'r rhai mewn ardaloedd trefol. Mae hyn yn golygu bod pocedi o amddifadedd yn ardaloedd gwledig Cymru yn dueddol o fod ar raddfa lawer llai na hyd yn oed y ddaearyddiaeth ar raddfa fach a ddefnyddir i gynhyrchu MALlC.
Er nad oes llawer o ardaloedd o amddifadedd lluosog uchel yn ein diffiniad o Gymru wledig, mae ein dadansoddiad o'r dangosyddion MALlC sylfaenol yn ôl y Dosbarthiad Gwledig-Trefol yn dangos bod niferoedd sylweddol o bobl ddifreintiedig yn byw mewn ardaloedd gwledig o hyd.
Gall pobl mewn cymunedau gwledig brofi llawer o'r un problemau â phobl ddifreintiedig mewn ardaloedd eraill. Fodd bynnag, mae rhai sylwebwyr yn dadlau y gall problemau penodol effeithio'n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft diffyg cyfleoedd cyflogaeth a mynediad at wasanaethau. Gellir dadlau hefyd y gall rhai problemau amddifadedd effeithio'n anghymesur ar bobl mewn ardaloedd trefol, megis tagfeydd.
Gellid defnyddio'r erthygl hon a'r setiau data sy'n sail iddi fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth i lywio ystod o waith polisi sy'n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Maent yn cyfrannu at well dealltwriaeth o anghenion penodol cymunedau gwledig, gan gynnwys heriau yn ymwneud â thrafnidiaeth, mynediad at wasanaethau, a thai fforddiadwy. Gall mewnwelediadau o'r data helpu i lywio strategaethau datblygu gwledig a chefnogi modelau a pholisïau cyllido gwledig.
Mae adroddiad atodol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar fynegeion amddifadedd Lloegr yn trafod yr heriau wrth ddewis meysydd a dangosyddion ar gyfer mesur amddifadedd gwledig. Mae'n amlinellu'r gwelliannau methodolegol a wnaed i gofnodi amodau gwledig yn well ym mynegeion 2025 Lloegr, y mae rhai ohonynt hefyd yn berthnasol i MALlC 2025, yn benodol y canlynol:
- yn y maes incwm, mae mabwysiadu mesur 'ar ôl costau tai' yn helpu i gofnodi cost uchel tai a threuliau byw mewn llawer o ardaloedd gwledig
- mae'r maes tai yn cynnwys dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni ac anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ddod yn rhan o’r farchnad rhentu preifat.
Mae ein canllawiau MALlC yn crynhoi cyfyngiadau MALlC ac yn cynghori ar sut i ddefnyddio MALlC yn effeithiol.
Poblogaeth yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol
| Dosbarthiad Gwledig-Trefol | Cyfrif y boblogaeth | Canran y boblogaeth | Nifer yr ACEHI: |
|---|---|---|---|
| Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 154,000 | 5 | 92 |
| Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 276,000 | 9 | 169 |
| Gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig | 308,000 | 10 | 183 |
| Gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig | 194,000 | 6 | 117 |
| Trefol: pellach o dref neu ddinas ganolig | 111,000 | 3 | 65 |
| Trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig | 2,144,000 | 67 | 1,291 |
| Cymru | 3,187,000 | 100 | 1,917 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYG), amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach 2024, mae cyfrif y boblogaeth wedi’i dalgrynnu i'r fil agosaf.
Mae'r tabl yn dangos y canlynol:
- mae tua 30% (932,000) o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd sydd wedi’u dosbarthu fel ardaloedd gwledig, ac o'r rhain mae hanner yn cael eu dosbarthu fel rhai sy’n bellach o dref neu ddinas ganolig
- mae tua dwy ran o dair (67%) yn byw mewn ardaloedd trefol sy'n agosach at dref neu ddinas ganolig.
Yn rhai o'r ffigurau yn yr erthygl hon rydym wedi byrhau'r geiriad ar fynediad cymharol, er enghraifft mae 'trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig' wedi’i fyrhau i 'trefol: agosach’.
Ffigur 1: dosbarthiad oedran y boblogaeth yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 1: siart bar sy'n dangos bod amrywiad yn bodoli yng nghyfrannau'r plant a phobl hŷn yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol yr ardaloedd bach, gyda chategorïau gwledig â chyfrannau uwch o bobl hŷn ar y cyfan na chategorïau trefol.
Ffynhonnell: SYG, amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach 2024
Mae’r data yn dangos y canlynol:
- mae cyfrannau’r bobl rhwng 0 a 15 oed yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer categorïau gwledig ac eithrio 'gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig'
- mae cyfrannau'r bobl sy'n 65 oed a throsodd yn uwch na chyfartaledd Cymru ym mhob categori gwledig
- mae tua 30% o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn mewn ardaloedd gwledig llai sy'n bellach o dref neu ddinas ganolig, ond 20% yw’r ffigur mewn ardaloedd trefol
Amddifadedd yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol
Ffigur 2: proffil amddifadedd MALlC 2025 yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 2: siart bar sy'n dangos cyfran yr ardaloedd bach mewn gwahanol grwpiau amddifadedd, yn ôl y Dosbarthiad Gwledig-Trefol.
Ffynhonnell: Proffiliau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 ar StatsCymru
Mae dadansoddiad o broffiliau amddifadedd MALlC hefyd yn dangos y canlynol:
- nad yw unrhyw o’r ardaloedd bach sydd yn y categori 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig' ymhlith yr 20% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
- ar gyfer ACEHI gwledig, mae 2% (12 allan o 561) yn y 10% mwyaf difreintiedig yn gyffredinol (gweler tabl 2 am eu manylion)
- y categori sydd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yn gyffredinol yw 'trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig' sef 13% (174 allan o 1291 AGEHI)
- y categori sydd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% lleiaf difreintiedig yn gyffredinol yw 'gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig', sef 73% (85 AGEHI)
- y categori sydd â'r ganran isaf o ardaloedd yn y 50% lleiaf difreintiedig yn gyffredinol yw 'trefol: pellach o dref neu ddinas ganolig', sef 38% (25 AGEHI)
- ar gyfer ACEHI gwledig, mae 59% (330 allan o 561) yn y 50% lleiaf difreintiedig
| AGEHI | Awdurdod lleol | Dosbarthiad Gwledig-Trefol | Safle MALlC 2025 |
|---|---|---|---|
| Twyn Carno 1 | Caerffili | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 12 |
| Cymer (Castell-nedd Port Talbot) 2 | Castell-nedd Port Talbot | Gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig | 15 |
| Tredegar Newydd 3 | Caerffili | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 56 |
| Dinbych Uchaf a Henllan 1 | Sir Ddinbych | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 57 |
| Moriah 3 | Caerffili | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 76 |
| Penfro: Monkton | Sir Benfro | Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 83 |
| Aberteifi Teifi | Ceredigion | Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 90 |
| Doc Penfro: Llanion 1 | Sir Benfro | Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 92 |
| Gwynfi | Castell-nedd Port Talbot | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 103 |
| Betws (Pen-y-bont ar Ogwr) | Pen-y-bont ar Ogwr | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 138 |
| Cwm Darran 2 | Caerffili | Gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig | 168 |
| Crymlyn 3 | Caerffili | Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 177 |
Mae'r tabl yn dangos y canlynol:
- mae'r 12 AGEHI wledig fwyaf difreintiedig wedi'u gwasgaru ar draws 6 awdurdod lleol
- y AGEHI wledig fwyaf difreintiedig yw Twyn Carno 1 yng Nghaerffili, sydd wedi’i rhestru fel y 12fed AGEHI fwyaf difreintiedig yn MALlC 2025
- Caerffili sydd â’r nifer fwyaf o ACEHI gwledig yn y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (5), wedyn Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro (2)
- o'r 12 ardal wledig fwyaf difreintiedig, mae 10 yn ardaloedd gwledig mwy, ac mae 7 o'r rhain yn y categori 'gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig'
Ffigur 3: map o ACEHI gwledig sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru
Disgrifiad o ffigur 3: map sy'n dangos y 12 AGEHI wledig sydd ymhlith y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer MALlC 2025.
Ffigur 4: mapiau o ACEHI gwledig sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig, lluniau agos ar gyfer gogledd, gorllewin a de Cymru
Disgrifiad o ffigur 4: map sy'n dangos y 12 AGEHI wledig sydd ymhlith y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer MALlC 2025.
Ffigur 5: canran yr ACEHI gwledig yn y 10% mwyaf difreintiedig ym mhob maes MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 5: siart bar sy'n dangos bod cyfran yr ACEHI gwledig sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig yn ôl maes MALlC yn amrywio o 2% i 34%.
Mae dadansoddiad o'r data yn dangos y canlynol:
- mae traean o'r ACEHI gwledig (34%) yn y 10% mwyaf difreintiedig yn y maes mynediad at wasanaethau (189 AGEHI)
- ar gyfer y maes tai mae 16% o ACEHI gwledig yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru (89 AGEHI)
- ar gyfer pob maes arall mae rhwng 2% a 3% o ACEHI gwledig yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru
Y maes incwm
Diben y maes incwm hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n profi amddifadedd yn ymwneud ag incwm isel. Mae gan y maes incwm bwysoliad cymharol o 22% ym MALlC 2025.
Mae’r maes incwm yn giplun trawstoriadol o bobl sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig ag incwm a chredydau treth a cheiswyr lloches a gefnogir. Mae'n cynnwys cyfrifiadau nad ydynt yn gorgyffwrdd o hawlwyr prawf modd: y rhai sydd allan o waith, a'r rhai sydd mewn gwaith ond sydd ag incwm isel. Wedyn mae'r symiau a gyfrifwyd yn cael eu mynegi fel canran o gyfanswm amcangyfrifedig y boblogaeth ar gyfer yr AGEHI.
Ceir rhagor o wybodaeth am y maes incwm yn adroddiad technegol MALlC 2025.
| Dosbarthiad Gwledig-Trefol | Amddifadedd incwm (canran y boblogaeth) |
|---|---|
| Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 25 |
| Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 23 |
| Gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig | 17 |
| Gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig | 16 |
| Trefol: pellach o dref neu ddinas ganolig | 28 |
| Trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig | 27 |
| Cymru | 25 |
Mae'r tabl yn dangos y canlynol:
- y categorïau 'gwledig llai' sydd â'r cyfrannau isaf o'u poblogaeth mewn amddifadedd incwm, a'r categorïau trefol sydd â'r cyfrannau uchaf
- ar gyfer pob dosbarth o anheddiad, ar gyfartaledd mae gan yr ardaloedd sy'n bellach o dref neu ddinas ganolig gyfraddau ychydig yn uwch o amddifadedd incwm na'r rhai sy'n agosach at dref neu ddinas ganolig
Ffigur 6: canran y boblogaeth sydd mewn amddifadedd incwm yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 6: siart sy'n dangos cyfran y boblogaeth gyffredinol sydd mewn amddifadedd incwm sy'n byw ym mhob un o’r Dosbarthiadau Gwledig-Trefol.
O'r holl bobl sydd mewn amddifadedd incwm yng Nghymru, roedd:
- 77% yn byw mewn ardaloedd trefol
- 13% yn byw mewn ardaloedd gwledig mwy
- 10% yn byw mewn ardaloedd gwledig llai
Ffigur 7: plot blwch o ganran y boblogaeth sydd mewn amddifadedd incwm yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 7: mae'r siart yn dangos dosbarthiad cyfraddau amddifadedd incwm ar gyfer ACEHI ym mhob categori gwledig-trefol. Mae'r blychau glas yn cynnwys gwerthoedd ar gyfer hanner yr ardaloedd bach (ACEHI) ym mhob categori, gan ganolbwyntio ar y gyfradd amddifadedd incwm canolrifol (canol) ar gyfer pob categori, ac mae'r 'blew' yn dangos yr ystod lawn o gyfraddau amddifadedd incwm o fewn y categori. Mae blwch ac ystod gul yn awgrymu bod y cyfraddau amddifadedd incwm yn debyg ar gyfer ACEHI o fewn categori. Mae blwch ac ystod ehangach yn golygu bod y cyfraddau amddifadedd incwm yn amrywio'n sylweddol o fewn y categori.
Mae'r siart yn dangos bod yr amrywiad mewn cyfraddau amddifadedd incwm yn ôl AGEHI ar ei fwyaf mewn categorïau trefol a'r categori 'gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig' ac yn llawer is mewn ACEHI sydd yn y categorïau gwledig bach.
Y maes mynediad at wasanaethau
Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am amddifadedd o ganlyniad i anallu aelwyd i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i fyw o ddydd i ddydd, yn ffisegol ac ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft, methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft, methu â mynd i weithgareddau ar ôl ysgol). Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 10% yn MALlC 2025.
Ceir rhagor o wybodaeth am y maes mynediad at wasanaethau a'r dangosyddion yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Ffigur 8: proffil amddifadedd ar gyfer mynediad at wasanaethau yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 8: siart bar sy'n dangos cyfran yr ardaloedd bach mewn gwahanol grwpiau amddifadedd yn y maes mynediad at wasanaethau, yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol, gyda’r gyfran uchaf o ardaloedd bach sydd yn y 10% o ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn y categorïau gwledig llai.
Ffynhonnell: Proffiliau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 ar StatsCymru
Mae dadansoddiad o'r data hefyd yn dangos y canlynol:
- mae tri chwarter (77%) o’r ACEHI sydd wedi'u dosbarthu fel 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig' yn y 10% mwyaf difreintiedig, 95% yn yr 20% mwyaf difreintiedig, a dim ond 1 AGEHI sydd yn yr hanner lleiaf difreintiedig
- ar gyfer ardaloedd a ddosbarthwyd fel ardaloedd 'gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig', roedd 38% yn y 10% o ACEHI mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau ac 85% yn y 20% mwyaf difreintiedig
- nid oes unrhyw AGEHI o’r categori 'trefol: pellach o dref neu ddinas ganolig' (ac mae llai na 2% o’r ACEHI mewn unrhyw gategori gwledig mwy neu drefol arall) yn y 10% mwyaf difreintiedig
Yn ogystal â dadansoddi data ar gyfer y parth cyffredinol, gallwn ddadansoddi data ar gyfer dangosyddion unigol mynediad at wasanaethau yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol. Ceir enghraifft isod ar gyfer amser teithio i'r darparwr gofal plant agosaf ar drafnidiaeth gyhoeddus, a oedd yn ddangosydd newydd ar gyfer MALlC 2025. Mae'r patrymau cymharol (rhwng categorïau'r Dosbarthiad Gwledig-Trefol) ar gyfer amser teithio i'r darparwr gofal plant agosaf ar drafnidiaeth breifat yn debyg iawn i'r rhai ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.
| Dosbarthiad Gwledig-Trefol | Amser teithio dwyffordd cyfartalog mewn munudau |
|---|---|
| Gwledig mwy: pellach o dref neu ddinas ganolig | 14 |
| Gwledig mwy: agosach at dref neu ddinas ganolig | 14 |
| Gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig | 93 |
| Gwledig llai: agosach at dref neu ddinas ganolig | 32 |
| Trefol: pellach o dref neu ddinas ganolig | 14 |
| Trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig | 12 |
| Cymru | 27 |
Mae'r tabl yn dangos y canlynol:
- mae gan yr ardaloedd trefol a gwledig mwy amseroedd teithio cyfartalog tebyg i raddau helaeth (rhwng 12 a 14 munud) ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r darparwr gofal plant agosaf, tra bod gan yr ardaloedd gwledig llai amseroedd teithio cyfartalog sylweddol uwch
- yr amser teithio cyfartalog hiraf oedd 93 munud ar gyfer y categori 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig'
Ffigur 9: plot bwlch o’r amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r darparwr gofal plant agosaf yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 9: mae'r siart yn dangos dosbarthiad amseroedd teithio dwyffordd ar drafnidiaeth gyhoeddus i ddarparwyr gofal plant ar gyfer ACEHI ym mhob categori gwledig a threfol. Mae'r siart yn dangos amseroedd teithio hirach a mwy o amrywiaeth ar gyfer yr ardaloedd gwledig llai, boed yn agosach neu'n bellach o dref neu ddinas ganolig.
Y maes tai
Diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, ystyr amodau byw yw addasrwydd y tai ar gyfer eu preswylwyr, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 9% yn MALlC 2025.
Mae gan y maes tai ddau is-faes wedi'u pwysoli'n gyfartal, sef argaeledd tai a chyflwr tai, gyda dau ddangosydd pwysoliad cyfartal yr un.
Mae'r is-faes argaeledd tai yn cynnwys dangosyddion megis:
- gorlenwi: canran y cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely)
- anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ddod yn rhan o'r farchnad rhentu breifat (mae'r dangosydd hwn yn cynnwys 4 is-gydran)
Mae'r is-faes cyflwr tai yn cynnwys dangosyddion megis:
- ansawdd gwael: sef y tebygolrwydd bod tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol, er enghraifft y risg o gwympo neu dai oer (mae'r dangosydd hwn yn cynnwys 2 is-gydran)
- effeithlonrwydd ynni
Ceir rhagor o wybodaeth am y maes tai a'r dangosyddion yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Ffigur 10: proffil amddifadedd tai yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 10: siart bar sy'n dangos cyfran yr ardaloedd bach mewn gwahanol grwpiau amddifadedd tai, yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol.
Ffynhonnell: Ffynhonnell: Proffiliau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 ar StatsCymru
Ar gyfer y maes tai:
- y categori sydd â’r gyfran uchaf o ACEHI yn y 10% mwyaf difreintiedig yw 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig' ar 41%
- mae gan y ddau gategori 'gwledig llai' gyfrannau uwch na'r cyfartaledd o ardaloedd yn y 20% mwyaf difreintiedig, sef 63% i'r rhai pellach o dref neu ddinas ganolig, a 25% i'r rhai agosach at dref neu ddinas ganolig, ac mae hyn yn cael ei yrru gan y dangosyddion cyflwr tai
- yn y categori 'trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig' mae 15% o ACEHI yn yr 20% mwyaf difreintiedig, sydd wedi'i yrru gan y dangosyddion argaeledd tai
Yn ogystal â dadansoddi data ar gyfer y maes yn gyffredinol, gallwn ddadansoddi data ar gyfer dangosyddion unigol yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol, gan ddefnyddio'r set ddata ar StatsCymru. Isod, rydym wedi dewis un dangosydd o'r is-faes cyflwr tai ac un o'r is-faes argaeledd tai i’w dadansoddi ymhellach i ddangos y math o ddadansoddiad sydd ar gael.
Ffigur 11: dangosyddion dethol o’r maes tai yn ôl Dosbarthiad Gwledig-Trefol AGEHI
Disgrifiad o ffigur 11: siart bar sy'n dangos amcangyfrifon ar gyfer dangosyddion dethol o’r maes tai ym mhob Dosbarthiad Gwledig-Trefol.
Mae dadansoddiad o'r data yn dangos y canlynol:
- ar gyfer yr is-faes argaeledd tai (sy'n cynnwys y dangosydd gorlenwi a’r is-gydran fforddiadwyedd), mae'r categorïau gwledig yn dangos lefelau ychydig yn is o amddifadedd ar y cyfan na'r holl gategorïau trefol
- mae'r gwahaniaeth yn fwyaf nodedig i aelwydydd iau nad ydynt yn gallu fforddio bod yn y farchnad rhentu preifat: mae’r cyfran yn amrywio o 25% yn y categori 'gwledig llai: pellach o dref neu ddinas ganolig' i 42% yn y categori 'trefol: agosach at dref neu ddinas ganolig' yn ôl pob tebyg oherwydd rhenti uwch mewn ardaloedd trefol
- ar gyfer dangosyddion neu is-gydrannau’r is-faes cyflwr tai, mae gan y categorïau gwledig lefel uwch o amddifadedd na'r categorïau trefol, ac eithrio'r is-gydran cyflwr gwael sydd rhwng 2% a 3% ar gyfer y ddau
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd MALlC 2025 yn yr adran gwybodaeth gefndir yn adroddiad canlyniadau MALlC 2025, a disgrifir y fethodoleg yn fanwl yn yr adroddiad technegol.
Methodoleg Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021
Mae Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn dosbarthu ardaloedd ar sail:
- dwysedd y cyfeiriad
- ffurf ffisegol anheddiad
- maint y boblogaeth
- mynediad cymharol i drefi a dinasoedd canolig.
Mae'r dull yn grwpio Ardaloedd Adeiledig gerllaw yn Ardaloedd Adeiledig Cyfun. Mae Ardaloedd Adeiledig Cyfun sydd â phoblogaeth o 10,000 neu fwy yn cael eu dosbarthu fel Trefol, ac mae'r rhai sydd â llai na 10,000 o bobl yn cael eu dosbarthu fel Gwledig. Mae ardaloedd y tu allan i Ardaloedd Adeiledig yn cael eu dosbarthu'n bennaf ar sail ddwysedd y cyfeiriadau. Fodd bynnag, mae'r dosbarthiad hefyd yn ystyried ffactorau fel dwysedd tai, maint y boblogaeth, a yw ardal yn gorgyffwrdd ag Ardal Adeiledig, a pha mor hawdd y gellir ei chyrraedd (gan ddefnyddio amseroedd teithio) i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ardaloedd gwledig.
Yn Nosbarthiad Gwledig-Trefol 2021, asesir mynediad cymharol trwy amcangyfrifon o amser teithio mewn car i ganolfannau trefol mawr gyda phoblogaeth o 75,000 neu fwy. Yn yr erthygl hon, defnyddiwyd trothwy poblogaeth o 25,000 ar gyfer tref neu ddinas ganolig. Cytunodd y rhanddeiliaid y gofynnwyd iddynt am eu barn fod y trothwy is hwn yn cynrychioli'r cyd-destun lleol yng Nghymru yn well ac yn cydnabod pwysigrwydd aneddiadau trefol gyda phoblogaethau llai fel canolfannau ar gyfer aneddiadau cyfagos.
Er bod y trothwy poblogaeth o 75,000 yn cynnwys Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, mae'r aneddiadau ychwanegol canlynol wedi'u dosbarthu fel canolfannau trefol gan ddefnyddio trothwy poblogaeth o 25,000:
- Aberdâr
- y Barri
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Bae Colwyn
- Cwmbrân
- Llanelli
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd
- Penarth
- Pont-y-pŵl
- Pontypridd
- Port Talbot
- y Rhyl
- Wrecsam
Mae'n bwysig nodi bod y system ddosbarthu yn canolbwyntio'n unig ar nodweddion ffisegol anheddiad a hygyrchedd cymharol ar y ffordd. Nid yw'n ystyried elfennau economaidd, cymdeithasol, hanesyddol neu ddiwylliannol sy'n cyfrannu at hunaniaeth wledig neu drefol. Dylai defnyddwyr wybod bod y categorïau yn fodd i alluogi dadansoddiad ystadegol o dueddiadau sy'n effeithio ar ardaloedd daearyddol sydd â morffolegau aneddiadau trefol neu wledig tebyg a lefelau tebyg o fynediad cymharol. Nid yw hyn yn golygu bod pob maes ym mhob categori yr un fath, ac nid yw wedi'i fwriadu i fod yn ddosbarthiad diffiniol.
Mae dosbarthiadau aneddiadau’r Dosbarthiad Gwledig-Trefol ar gyfer ACEHI yng Nghymru i'w gweld yn nhabl 1B o'r tablau atodol ar dudalen we Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 (SYG). Gellir dod o hyd i gategorïau mynediad cymharol (trothwy poblogaeth o 25,000) yn nhabl 5A.
Ceir gwybodaeth fethodolegol fanwl yn y Canllaw i Ddefnyddwyr ar y Dosbarthiad Gwledig-Trefol ar borth Open Geography y SYG.
Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol
Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
- cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
- dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
- tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
- dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau
Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
- ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
- resymau eraill a nodir
Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.
Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag ystadegau swyddogol, ond gall fod yn seiliedig ar allbynnau ystadegau swyddogol, ac rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod eu datblygu. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.
Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.
Manylion cyswllt
Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
