Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu, arwain ysgolion, prifathrawiaeth ac arwain systemau ar 1 Medi 2026. Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer dyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar 1 Medi 2027.

Bydd y safonau proffesiynol diwygiedig yn berthnasol i bob ymarferydd mewn ysgolion yng Nghymru sy'n gweithio mewn rôl addysgol.

Mae'r safonau proffesiynol cyfredol wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2017. Ers eu cyflwyno, mae'r dirwedd addysg yng Nghymru wedi newid yn sylweddol. Mae effeithiau pandemig COVID-19, yr agenda ddiwygio uchelgeisiol ar gyfer addysg yng Nghymru (gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru a diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol), cyhoeddi Adolygiad o Rolau a Chyfrifoldebau Partneriaid Addysg yng Nghymru a Chyflwyno Trefniadau Gwella Ysgolion ym mis Ionawr 2024, cyhoeddi Canllawiau Gwella Ysgolion wedi'u diweddaru ym mis Ionawr 2026, a chyhoeddi Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion ym mis Mawrth 2026 wedi golygu bod disgwyliadau ar y gweithlu ysgolion wedi newid. Bron ddeng mlynedd ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith, mae'n amlwg bod y safonau proffesiynol cyfredol bellach yn amrywio o ran eu haddasrwydd at y diben a'u perthnasedd i'r blaenoriaethau presennol ar gyfer addysg yng Nghymru.

Mae rolau a chyfrifoldebau athrawon, penaethiaid a chynorthwywyr addysgu hefyd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae addysg a chymdeithas wedi newid yn sylweddol, gan olygu bod angen ystyried effeithiau'r newidiadau ar y proffesiwn addysgu. Cynhaliodd prosiect Canolfan Ymchwil ac Arloesedd Addysgol (CERI) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ymchwil yng Nghymru yn ystod 2023 a 2024 ar Broffesiynoldeb Newydd a Dyfodol Addysgu.Mae'r adroddiad hwn wedi rhoi tystiolaeth bwysig i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeall natur newidiol addysgu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a'r blaenoriaethau newydd ar gyfer gweithlu'r dyfodol.

Prif ddiben datblygu safonau proffesiynol diwygiedig yw cefnogi'r gweithlu addysg a gyflogir mewn ysgolion. Nod y safonau diwygiedig hefyd yw gwella deilliannau i ddysgwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwireddu eu potensial yn llawn a chyflawni'r pedwar diben a nodir yn y Cwricwlwm i Gymru a'u bod yn cael eu cefnogi i fod:

  • Yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol 
  • Yn gyfranwyr mentrus a chreadigol 
  • Yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus 
  • Yn unigolion iach a hyderus

Y tymor hir 

Datblygwyd y safonau proffesiynol diwygiedig mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol o bob cwr o Gymru er mwyn sicrhau bod y safonau diwygiedig yn diwallu anghenion ymarferwyr yn y dirwedd addysg bresennol, ond eu bod hefyd yn sail i system addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae'r weledigaeth hirdymor ar gyfer addysg yng Nghymru yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • codi safonau
  • cefnogi'r gweithlu
  • atgyfnerthu sgiliau
  • datblygu system addysg sy'n gweithio i bawb

Mae tystiolaeth o waith OECD ar ddyfodol addysgu a phroffesiynoldeb yn tynnu sylw at yr angen am ddulliau datblygu proffesiynol gydol gyrfa mwy hyblyg. 

Nod yr agenda diwygio addysg yw gwella'r system addysg i bob dysgwr drwy lwyddiant y Cwricwlwm i Gymru a rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio ADY. Mae ymarferwyr medrus a gaiff eu cefnogi yn allweddol i lwyddiant hirdymor y diwygiadau hyn.

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau cenedlaethol hirdymor hefyd mewn perthynas â phynciau megis Cymru wrth-hiliol, Cymraeg 2050 a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'r safonau proffesiynol wedi'u cynllunio i gyd-fynd yn llawn â'r blaenoriaethau hyn ac i sicrhau bod ymarferwyr yn meddu ar y sgiliau i barhau i ddatblygu fel unigolion a chefnogi eu dysgwyr. Nod y safonau hefyd yw mynd i'r afael â'r materion penodol i ymarferwyr o ran recriwtio a chadw, llwyth gwaith a llesiant drwy ddarparu fframwaith clir a chydlynol i gefnogi eu hymarfer.

Atal

Mae'r safonau proffesiynol yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â chydraddoldeb a chynhwysiant pob dysgwr yng Nghymru, gan ystyried yn benodol sut y gall ymarferwyr barhau i ddatblygu fel gweithwyr proffesiynol a manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn ein hysgolion yng Nghymru yn cael ei gefnogi i wireddu ei botensial yn llawn. Mae'r safonau'n cynnwys ffocws cryf ar bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a gweithio gyda nifer o asiantaethau i sicrhau bod dysgwyr a'u teuluoedd yn gallu cael yr amrywiaeth ehangach o gymorth sydd ei hangen arnynt.

Nod y safonau proffesiynol yw cefnogi pob agwedd ar rôl ymarferydd a darparu fframwaith clir a chydlynol i sicrhau ei fod yn parhau i ddatblygu a gwella. Nod arall yw cynyddu lefelau recriwtio a chadw staff drwy roi strwythur clir a chefnogol i ymarferwyr drwy gydol eu gyrfa a'u helpu i ymdrin â'r dewisiadau gyrfa sydd fwyaf priodol iddynt fel gweithwyr proffesiynol.

Bydd y safonau’n helpu i fynd i’r afael ag achos sylfaenol amrywiadau mewn ymarfer a chydlyniant systemau drwy atgyfnerthu disgwyliadau ac iaith gyffredin ym mhob rhan o'r gweithlu addysg ac ymwreiddio ymarfer myfyriol ac atebolrwydd proffesiynol. Byddant yn rhoi fframwaith clir i helpu i reoli llwyth gwaith yn fwy effeithiol ac yn helpu i bennu disgwyliadau proffesiynol ar gyfer pob ymarferydd.

Mae'r safonau wedi'u cynllunio'n benodol i osgoi cynyddu llwyth gwaith ac i fod yn rhan o ddeialog broffesiynol naturiol, nid biwrocratiaeth ychwanegol. Bydd defnyddio llwyfan digidol Hwb yn lleihau'r defnydd o adnoddau ac yn gwella hygyrchedd i bob defnyddiwr. Bydd gwaith parhaus o ran y swyddogaeth ddigidol yn helpu i sicrhau safon uchel o hygyrchedd a defnyddioldeb ac eglurder o ran ystyriaethau yn ymwneud â'r Gymraeg a’r Saesneg.

Integreiddio

Mae'r cynnig i gyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig yn cyd-fynd yn gryf â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi cydlyniant ar draws diwygiadau cenedlaethol allweddol a nodau llesiant. Mae'r safonau'n ddull hanfodol o ymwreiddio'r Cwricwlwm i Gymru, helpu i drawsnewid ADY, a chyflawni ymrwymiadau i godi safonau, hyrwyddo cydraddoldeb, a chryfhau addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Bwriedir iddynt hyrwyddo Cymru wrth-hiliol a Cymraeg 2050.

Dylai'r safonau gefnogi cydlyniant ehangach y system drwy gysylltu AGA, sefydlu, dysgu proffesiynol a chymwysterau arwain ochr yn ochr â threfniadau gwella ysgolion a phrosesau adolygu datblygiad proffesiynol.

Bydd y safonau proffesiynol hefyd yn berthnasol i ymarferwyr mewn rolau arwain systemau, a fydd yn cynnwys yr ymarferwyr hynny sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol yn ogystal ag ysgolion. Felly, mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd ymarferwyr mewn sefydliadau gwahanol yn y sector cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un safonau proffesiynol.

Mae'r gallu i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynllunio'n dda a'u llywio gan y safonau proffesiynol, drwy gydol gyrfa, yn hanfodol i gefnogi datblygiad ymarferwyr a chynnal safonau uchel mewn ysgolion. Mae gweithlu sy'n cael ei gefnogi'n dda a’i werthfawrogi yn hanfodol i sicrhau addysgu llwyddiannus a gwella deilliannau dysgwyr.

Cydweithio

Mae tystiolaeth yn tynnu sylw at gydweithio fel un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno diwygiadau addysgol llwyddiannus yng Nghymru. Mae'r safonau proffesiynol yn gosod y fframwaith i ymarferwyr gydweithio o fewn eu timau staff eu hunain, ar draws clystyrau, a rhwng cyfnodau cynradd ac uwchradd i gynllunio, cysoni ymarfer, a datblygu dulliau a rennir o ymdrin â'r cwricwlwm ac asesu.

Mae tystiolaeth genedlaethol yn dangos mai dysgu proffesiynol cydweithredol sydd wedi'i lywio gan y safonau proffesiynol yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella ansawdd addysgu. Dywed arweinwyr ac ymarferwyr (wrth ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol) fod y strwythur a roddir gan y safonau proffesiynol yn golygu y gellir gwneud gwaith cynllunio ar y cyd ystyrlon mewn perthynas â'r Cwricwlwm i Gymru, llwybrau cymwysterau newydd, diwygiadau ADY, a blaenoriaethau ehangach. Mae hyn yn cyd-fynd â'r Canllawiau Gwella Ysgolion diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2026, sy'n annog cydweithio fertigol a llorweddol rhwng ysgolion.

Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos ar y safonau diwygiedig rhwng 3 Tachwedd 2025 a 30 Ionawr 2026. Fe'i cynhaliwyd ochr yn ochr â rhaglen beilot fach a oedd yn cynnwys 25 o ysgolion o bob cwr o Gymru i brofi'n fanwl ddefnydd ymarferol y safonau gyda chynorthwywyr addysgu, athrawon ac arweinwyr ysgolion. Cafodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ei ategu gan ddigwyddiadau ymgynghori ac roedd yn cynnwys ymgysylltu ag arweinwyr sefydlu awdurdodau lleol, cynorthwywyr addysgu, Estyn, undebau llafur athrawon a chynrychiolwyr o awdurdodau esgobaethol.

Cafwyd 90 o ymatebion ffurfiol i'r ymgynghoriad a chymerodd dros 275 o ymarferwyr ran mewn gweithdai ymgynghori. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol dros ben gyda 70% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â'r cynigion. Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2026 – Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth: Crynodeb o'r ymatebion. 

Cymryd rhan

Mae'r cynnig hwn wedi'i lunio a'i atgyfnerthu drwy gyfranogiad ystyrlon yr amrywiaeth eang hynny o ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol. Mae arweinwyr ysgolion wedi cefnogi’r fframwaith a ddarperir gan y safonau proffesiynol yn gyson ac wedi croesawu’r cymorth y gall ymarferwyr ei gael drwy ymgysylltu'n barhaus â’r safonau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, Estyn, undebau llafur ac awdurdodau esgobaethol. Mae'r partneriaid hyn yn pwysleisio'n gyson fod y safonau proffesiynol yn hanfodol i gefnogi'r gweithlu a gwella deilliannau i ddysgwyr. Mae eu safbwyntiau wedi helpu i lunio cynnig sy'n ymateb yn uniongyrchol i anghenion a nodwyd gan y sector ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau ar gyfer codi safonau ysgolion. 

Ar y cyfan, mae'r cynnig wedi'i ddatblygu ar y cyd drwy broses gynhwysol a chydweithredol, gan sicrhau bod lleisiau ymarferwyr a phartneriaid y system yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau yn uniongyrchol.

Effaith

Canfu gwerthusiad ffurfiol o'r safonau proffesiynol yn 2023 (gwerthusiad o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu) mai'r farn gyffredinol yw bod y safonau proffesiynol yn fframwaith cadarnhaol ac effeithiol i gefnogi twf proffesiynol ym mhob rhan o'r gweithlu addysg yng Nghymru. Roedd ymarferwyr a rhanddeiliaid o'r farn bod y safonau'n ddatblygiadol, yn uchelgeisiol ac yn hyblyg, a'u bod yn cyd-fynd yn gryf â'r Cwricwlwm i Gymru a diwygiadau addysg ehangach. Mae'r safonau'n arbennig o effeithiol wrth gefnogi deialog broffesiynol, hunanfyfyrio, cydweithio a dysgu proffesiynol, ac maent hefyd yn cynnig iaith broffesiynol gyffredin i drafod addysgu, arweinyddiaeth ac ymarfer. Awgrymodd tystiolaeth mai athrawon newydd gymhwyso, arweinwyr a'r rhai sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni dysgu proffesiynol ffurfiol sy'n ymgysylltu gryfaf â'r safonau. Canfu'r gwerthusiad hefyd dystiolaeth newydd fod y safonau'n cyfrannu'n gadarnhaol at gydweithio, arloesi, ymholi proffesiynol a dysgu proffesiynol. 

Yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol ar y safonau proffesiynol diwygiedig, roedd y themâu allweddol a nodwyd yn cynnwys:

  • eglurder, hygyrchedd a defnyddioldeb y safonau
  • goblygiadau o ran llwyth gwaith
  • eglurder rolau (yn enwedig arweinwyr systemau)
  • y Gymraeg, tegwch a chynhwysiant
  • pwysigrwydd arweinyddiaeth gref wrth roi'r safonau ar waith

O ganlyniad, mae ymrwymiad parhaus i gynnal a chymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu cenedlaethol yn y dyfodol, manteisio ar gyfleoedd ychwanegol i gydweithio â rhanddeiliaid, a datblygu adnoddau ategol wedi'u llywio gan yr adborth i'r ymgynghoriad. Mae gwaith i gynnig datrysiadau a chanllawiau digidol yn parhau hefyd.

Ar y cyfan, disgwylir i'r safonau proffesiynol diwygiedig wella gallu ymarferwyr, cefnogi diwygiadau cynaliadwy, a chryfhau'r amodau sy'n arwain at ddeilliannau gwell i ddysgwyr, gan olygu eu bod yn gymesur ac yn fuddiol i'r system addysg yng Nghymru.

Costau ac arbedion

Mae'r polisi yn niwtral o ran cost i ysgolion. Gellir darparu ar gyfer unrhyw anghenion dysgu proffesiynol a nodir drwy’r safonau proffesiynol drwy’r cytundeb Gweinidogol diweddar y bydd pob ysgol yn cael chwe diwrnod HMS yn barhaus o 2026 i 2027 ymlaen. Bydd hyn yn sicrhau bod gan ysgolion ddigon o amser wedi'i neilltuo i ymgymryd â dysgu proffesiynol, cynllunio a pharatoi, er mwyn cefnogi addysgu a dysgu a helpu i roi diwygiadau cenedlaethol mawr ar waith.

Mae costau Llywodraeth Cymru hyd yma yn cynnwys y canlynol:

  • Datblygu safonau, canllawiau ac adnoddau diwygiedig
  • Gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltu
  • Datblygu a chynnal llwyfan digidol
  • Cyflwyno deunydd cyfathrebu a chymorth

Y sefyllfa bresennol o ran cyllid yw nad oes angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynnig, a bydd unrhyw weithgarwch yn y dyfodol yn cael ei gyflawni o fewn cyllidebau presennol, a thrwy geisio cyflwyno'r safonau'n raddol, gellir rheoli costau dros amser.

Dull gweithredu

At ddibenion asesu a dyfarnu cymwysterau, bydd y safonau proffesiynol diwygiedig yn parhau i gyd-fynd â'r fframweithiau statudol presennol a nodir yn: 

  • Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 (OS 2015/484 (Cy.41)) a Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (OS 2022/1058 (Cy.223)).
  • Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011. 
  • Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012.

Adran 8: casgliad

Sut y mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Y bobl y mae'r cynigion hyn yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt yw ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru h.y. cynorthwywyr addysgu, athrawon, arweinwyr mewn ysgolion, penaethiaid ac arweinwyr systemau. Mae gan bartneriaid eraill yn y system addysg ddiddordeb yn y cynnig. Mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw ddiddordeb ehangach ymhlith y cyhoedd neu randdeiliaid y tu allan i'r sector addysg. Mae gweithgarwch ymgysylltu ar y cynigion wedi cynnwys y canlynol:

  • Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn (Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth [HTML] | LLYW.CYMRU) rhwng 3 Tachwedd 2025 a 30 Ionawr 2026. Fe'i cynhaliwyd ochr yn ochr â rhaglen beilot fach a oedd yn cynnwys 25 o ysgolion o bob cwr o Gymru i brofi'n fanwl ddefnydd ymarferol y safonau gyda chynorthwywyr addysgu, athrawon ac arweinwyr ysgolion. Cafodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ei ategu gan ddigwyddiadau ymgynghori ac roedd yn cynnwys ymgysylltu ag arweinwyr sefydlu awdurdodau lleol, cynorthwywyr addysgu, Estyn, undebau llafur athrawon a chynrychiolwyr o awdurdodau esgobaethol.
  • I gefnogi'r ymgynghoriad, cynhaliwyd amrywiaeth o weithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr ysgolion i sicrhau bod pob partner allweddol yn y sector addysg yn rhan weithredol o'r gwaith o ddatblygu'r safonau newydd. Roedd yr ymgysylltu hwn yn cynnwys ymarferwyr ac arweinwyr o ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ochr yn ochr â phartneriaid o Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), Estyn, awdurdodau lleol, undebau, awdurdodau esgobaethol, arweinwyr sefydlu ALlau a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Cafwyd 90 o ymatebion ffurfiol i'r ymgynghoriad a chymerodd dros 275 o ymarferwyr ran mewn gweithdai ymgynghori. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol dros ben gyda 70% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â'r cynigion. Cyhoeddwyd yr ymateb i'r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2026 – Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth: Crynodeb o'r ymatebion. Roedd hyn yn cynnwys ymatebion gan y canlynol:

  • Comisiynydd Plant Cymru.
  • Comisiynydd y Gymraeg.
  • Cyngor y Gweithlu Addysg.
  • Estyn.
  • Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau.
  • Grŵp Cenedlaethol Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar.
  • Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru.

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae effeithiau mwyaf arwyddocaol y cynnig yn ymwneud yn benodol â'r gweithlu addysg a'i ymarfer proffesiynol. Mae hyn wedi'i ystyried yn llawn fel rhan o'r Asesiad o'r Effaith ar Lwyth Gwaith. 

Disgwylir i'r safonau proffesiynol diwygiedig gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y gweithlu addysg drwy gefnogi dysgu proffesiynol gydol oes a meithrin ymarfer myfyriol. Mae'r cytundeb cryf i gynigion yr ymgynghoriad (bron 70%) yn dangos hyder y bydd y safonau'n hyrwyddo deialog broffesiynol ystyrlon, yn cryfhau hunaniaeth broffesiynol ac yn cyfrannu at system sy'n hunanwella. Mae hyn yn cyd-fynd â nodau llesiant Cymru lewyrchus, Cymru sy'n fwy cyfartal, a Chymru o gymunedau cydlynus. Mae'r safonau diwygiedig yn berthnasol i bob ymarferydd sy'n cefnogi dysgu mewn ysgolion yng Nghymru, o AGA i arweinwyr systemau. Felly, maent yn effeithio ar bob rhan o'r system, ar sail hirdymor, gan lywio ymddygiadau proffesiynol, llwybrau datblygu a gallu’r gweithlu.

Ni nodwyd unrhyw effeithiau sylweddol ar economi nac amgylchedd Cymru.

Ar y cyfan, mae'r cynnig yn cefnogi sawl un o nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru lewyrchus, Cymru iachach a Chymru o gymunedau cydlynus.

Disgwylir i effeithiau'r safonau proffesiynol diwygiedig ar y system addysg yng Nghymru ymwneud â'r canlynol:

  • Codi safonau – yn benodol ym maes llythrennedd, rhifedd a digidol 
  • Mynd i’r afael â thegwch a thlodi – gan gynnwys cyflawni Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 
  • Cefnogi ymrwymiadau o ran y Gymraeg – cyflawni Cymraeg 2050 ac ymwreiddio'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a diwylliant 
  • Helpu i wella ysgolion drwy gydweithio proffesiynol 
  • Cefnogi'r uchelgais hirdymor i ddarparu system addysg sy'n hunanwella yng Nghymru 
  • Ysgogi diwygiadau i'r system drwy gydgyfrifoldeb, partneriaeth a gwaith amlasiantaethol

Plant, pobl ifanc a theuluoedd

Yn yr hirdymor, disgwylir i'r safonau proffesiynol diwygiedig gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr drwy helpu ymarferwyr i wella addysgu a dysgu, ymwreiddio'r Cwricwlwm i Gymru, rhoi diwygiadau ADY ar waith yn effeithiol, a mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol gan gynnwys mewn perthynas â lleihau effaith tlodi. Bydd yr effeithiau hyn yn cyfrannu at brofiadau a deilliannau addysgol gwell i blant a phobl ifanc, gan gefnogi Erthygl 28 (yr hawl i addysg) ac Erthygl 3 (yr hyn sydd orau i bob plentyn) CCUHP.

Ystyriaethau o ran cydraddoldeb

Mae i'r cynnig fanteision o ran cydraddoldeb drwy ei ffocws ar gefnogi diwygiadau ADY a chydraddoldeb ym mhob rhan o'r safonau proffesiynol diwygiedig. Yn benodol, mae'r ymrwymiadau proffesiynol cyffredinol o fewn y safonau yn nodi'r canlynol:

Mae gweithwyr proffesiynol yn cynnal y safonau uchaf o uniondeb drwy weithredu er budd pennaf pob dysgwr, gan amddiffyn ei hawliau a diogelu ei les. Maent yn herio arferion neu ymddygiadau a all gyfyngu ar gyfle unrhyw ddysgwr i lwyddo, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu bod angen bod yn ddewr neu gael sgyrsiau anodd. 

Y Gymraeg

Daeth yr asesiad o'r effaith ar y Gymraeg i’r casgliad nad yw’r cynnig yn debygol o gael effaith negyddol ar y Gymraeg ac nad yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Roedd tystiolaeth o'r ymgynghoriad ffurfiol yn cefnogi'r modd y mae'r safonau proffesiynol yn cefnogi'r Gymraeg, yn benodol yn yr ymrwymiadau proffesiynol cyffredinol:

Mae cefnogaeth effeithiol i Cymraeg 2050 drwy ymgorffori'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a diwylliant ysgolion yn sicrhau bod pob dysgwr a gweithiwr proffesiynol yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus sy'n gwerthfawrogi ac yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r cynnig yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy atgyfnerthu ymarfer addysgu a dysgu proffesiynol, gan gyfrannu at welliannau hirdymor i ansawdd addysgu a deilliannau dysgwyr.

  • Cymru lewyrchus: Drwy gysoni'r safonau proffesiynol â diwygiadau cenedlaethol (gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, ADY a chymwysterau), mae'r cynnig yn cefnogi gweithlu addysg medrus a hyblyg. Disgwylir i hyn gyfrannu'n anuniongyrchol at ddeilliannau gwell i ddysgwyr a llesiant economaidd tymor hwy.
  • Cymru sy'n fwy cyfartal: Mae dibenion rhagnodedig y safonau proffesiynol diwygiedig yn cynnwys ffocws cryf ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a blaenoriaethau cenedlaethol gan gynnwys lleihau effaith tlodi, helpu ymarferwyr i ddiwallu anghenion dysgwyr a all fod dan anfantais neu y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn well.
  • Cymru iachach: Rhagwelir y bydd natur ddatblygiadol a chefnogol y safonau proffesiynol diwygiedig yn cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant staff drwy sicrhau bod gan bob ymarferydd sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru ddisgwyliadau clir a chenedlaethol gyson o'i rôl. Mae hyn yn cynnwys safon broffesiynol benodol sy'n canolbwyntio ar reoli llwyth gwaith.
  • Cymru o gymunedau cydlynus: Mae'r safonau proffesiynol diwygiedig yn cynnwys disgwyliadau penodol i ymarferwyr ac ysgolion ganolbwyntio ar eu cymunedau. Mae hyn wedi'i nodi'n benodol yn yr ymrwymiadau proffesiynol cyffredinol sy'n pennu'r weledigaeth ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio yn y system addysg yng Nghymru: Mae llwyddiant addysg yng Nghymru yn dibynnu ar gydgyfrifoldeb ac ymdrech pawb dan sylw i ymgysylltu â chydweithwyr a'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol. 

Mae'r cynnig yn adlewyrchu'r pum ffordd o weithio gan ei fod yn nodi dull hirdymor o ddatblygu'r gweithlu, yn canolbwyntio ar atal (drwy nodi cymorth yn gynnar a chynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol), yn integreiddio blaenoriaethau cenedlaethol, ac wedi'i lywio gan weithgarwch ymgysylltu ag ymarferwyr a rhanddeiliaid. 

Hyrwyddo hawliau plant

Prif nod y safonau proffesiynol diwygiedig yw codi safonau addysgu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwireddu ei botensial yn llawn. Mae hyn yn golygu y bydd effaith gyffredinol y cynnig ar blant yn anuniongyrchol, ond y bydd ansawdd addysgu gwell o fudd i hawliau plant i addysg yn y tymor hwy (Erthygl 28).

Hyrwyddo cydraddoldebau

Ni nodwyd unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar grwpiau gwarchodedig drwy'r asesiad. 

Osgoi, lleihau neu liniaru effeithiau negyddol

Mae'r effeithiau negyddol posibl a nodwyd yn cynnwys ysgolion yn defnyddio'r safonau proffesiynol diwygiedig at ddibenion cydymffurfio, ac nid fel yr adnodd datblygiadol cefnogol y bwriedir iddynt fod. Caiff hyn ei liniaru drwy:

  • sicrhau bod gwahaniaeth clir mewn canllawiau rhwng y safonau proffesiynol ac unrhyw ofynion gorfodol lle defnyddir y safonau at ddibenion asesu neu gymwysterau.

Mewn meysydd lle nad oes unrhyw fesurau lliniaru pellach wedi'u cynnig, y rheswm dros hyn yw: 

  • mae'r effeithiau'n anuniongyrchol, yn rhai lefel isel, neu eisoes wedi'u deall yn dda, neu
  • mae'r dyletswyddau a'r canllawiau statudol presennol yn cynnig mesurau diogelu digonol, neu
  • byddai ymyrraeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn anghymesur

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu effeithiau'r polisi yn barhaus fel rhan o'i gweithgarwch ymgysylltu parhaus â'r sector.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Caiff effaith y cynnig ei monitro drwy gyfuniad o weithgarwch ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid, adborth ar y broses o roi'r safonau ar waith, a gwerthusiad ffurfiol. Caiff adolygiad ôl-weithredu ei lywio gan brofiad ymarferwyr, gan ddefnyddio adborth gan ysgolion, awdurdodau lleol, consortia, darparwyr AGA a chyrff cenedlaethol fel Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn.

Bydd dangosyddion allweddol yn cynnwys ymgysylltiad ymarferwyr â'r safonau, y defnydd a wneir ohonynt mewn deialog broffesiynol a phrosesau datblygu, a'r effaith ganfyddedig ar ymarfer addysgu a gwella ysgolion. Gall y llwyfan digidol ar Hwb roi gwybodaeth am batrymau defnydd a hygyrchedd.

Bydd gweithgarwch gwerthuso yn adeiladu ar werthusiad annibynnol 2023 o'r safonau presennol, gan olygu bod modd cynnal dadansoddiad cymharol dros amser. Caiff systemau adborth eu hymgorffori yn y broses o roi'r safonau ar waith, gan gynnwys digwyddiadau ymgysylltu a rhaglenni dysgu proffesiynol, er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus.

Bydd gwaith monitro hefyd yn ystyried i ba raddau y mae'r safonau'n cael eu defnyddio yn ôl y bwriad (yn ddatblygiadol yn hytrach nag yn berfformiadol), gan gynnwys adborth ar lwyth gwaith, hygyrchedd a chynhwysiant.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cydnawsedd â diwygiadau ehangach, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru a datblygiadau i strategaeth y gweithlu, er mwyn asesu cydlyniant a'r effaith ar y system. Bydd y canfyddiadau’n llywio diwygiadau parhaus i ganllawiau, adnoddau a dulliau cyflawni, gan sicrhau bod y safonau’n parhau i fod yn addas at y diben a'u bod yn cyflawni’r manteision a fwriadwyd i ymarferwyr a dysgwyr.