Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Ymgyrch ‘Cartrefi nid Ysbytai’ gan Bywydau wedi’u Dwyn, is-grŵp o'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu sy'n cynghori ar wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Er cof am Hefin David AS (13 Awst 1977 i 12 Awst 2025)

Cyfaill a chynghreiriad Bywydau wedi'u Dwyn. Eiriolwr cryf dros gyfiawnder cymdeithasol. Gwleidydd egwyddorol a arweiniodd gyda'i galon.

Rhagair

Mae'r adroddiad hwn wedi'i lunio gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Ymgyrch ‘Cartrefi nid Ysbytai’ gan Bywydau wedi’u Dwyn, ynghylch yr arfer amhriodol o secsiynu ac anfon pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig i ysbyty. 

Yr unig ffordd o roi diwedd ar y sgandal hawliau dynol hwn yw i Lywodraeth Cymru wrando ar y rhai sydd wedi'u heffeithio, a gweithredu. Mae unrhyw beth llai na hynny yn fethiant i wynebu'r broblem dan sylw.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol. Tra bod pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn parhau i gael eu cadw'n annynol mewn ysbytai, yna mae Cymru'n methu yn ei rhwymedigaethau hawliau dynol.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r prif broblemau o fewn y system bresennol ac yn darparu set gynhwysfawr o argymhellion i fynd i'r afael â nhw. Mae angen newid llawer o bethau, ac nid yw'r adroddiad yn ymddiheuro am yr holl argymhellion sydd eu hangen i sicrhau’r trawsnewid sy’n amlwg ei angen.

Hoffwn ddiolch i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Ymgyrch ‘Cartrefi nid Ysbytai’ gan Bywydau wedi’u Dwyn am eu gwaith ar gynhyrchu'r adroddiad hwn.

I'r teuluoedd ledled Cymru sy'n byw trwy sefyllfa hunllefus o weld eu hanwyliaid yn cael eu cadw’n gaeth mewn system sy'n ymddangos yn ddidrugaredd ac anorchfygol, gobeithio bydd yr adroddiad hwn yn rhoi rhywfaint o hyder y bydd pethau'n newid.

Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i lywio’r newid hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad hwn yn cael eu gweithredu yn ddi-oed.

Dr Dawn Cavanagh

Sylfaenydd Bywydau wedi'u Dwyn

Y broses

Fe wnaeth y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyfarfod wyth gwaith rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Awst 2025. Trafododd aelodau'r grŵp y pum galwad i weithredu yn y Maniffesto Bywydau wedi'u Dwyn, gan wneud argymhellion yn seiliedig ar bob un o ofynion y Maniffesto. Yna, cafodd yr argymhellion hyn eu mireinio rhwng cyfarfodydd, gan ymgorffori adborth aelodau trwy e-bost, a chyfarfod siapio terfynol ar 14 Awst 2025. Roedd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys aelodau o'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu a'r grŵp ymgyrchu Stolen Lives a Bywydau wedi'u Dwyn. 

Aelodaeth

Sophie Hinksman (Cydgadeirydd, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan)

Joe Powell (Cydgadeirydd, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Bywydau wedi'u Dwyn)

Yr Athro David Abbott (Bywydau wedi'u Dwyn)

Jordan Brewer (Cymorth Cymru)

Adrian Burke (Cymdeithas Tai First Choice)

Dr Dawn Cavanagh (Bywydau wedi'u Dwyn)

Janis Griffiths (Bywydau wedi'u Dwyn)

Julian Hallett (Cymdeithas Syndrom Down)

Siôn Jones (Mencap Cymru)

Jessica Keeble (Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan)

James Radcliffe (Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru)

Oliver Townsend (Mirus)

Kirsty Warner-Davies (Mirus)

Sam Williams (Anabledd Dysgu Cymru)

Swyddogion yn bresennol

Jim Widdett (Gofal Cymdeithasol Cymru)

Julie Annetts (Llywodraeth Cymru)

Shelley Davies (Llywodraeth Cymru)

Lara Homan (Perfformiad a Gwella GIG Cymru)

Rhiannon Ivens (Llywodraeth Cymru)

Emily Johnson (Llywodraeth Cymru)

Rachel Ann Jones (Perfformiad a Gwella GIG Cymru)

David O'Brien (Perfformiad a Gwella GIG Cymru)

Natalie Hughes Owen (Llywodraeth Cymru)

Dave Semmons (Perfformiad a Gwella GIG Cymru)

Andrew Stevenson (Llywodraeth Cymru)

Sharon Williams (Llywodraeth Cymru)

Crynodeb gweithredol

Cyflwyniad

Mae pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn amhriodol oherwydd nad yw'r gofal a'r gefnogaeth gywir ar gael yn y gymuned. Mae llawer o bobl yn aros yn rhy hir yn y lleoliadau hyn ac yn destun arferion cyfyngol diangen, yn groes i’w hawliau dynol. 

Ffurfiwyd grŵp ymgyrchu Stolen Lives/Bywydau wedi'u Dwyn gan deuluoedd mewn ymateb i hyn, yn dilyn blynyddoedd o waith ofer law yn llaw â sefydliadau anabledd dysgu i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru. Lansiodd grŵp Bywydau wedi'u Dwyn ei faniffesto ar gyfer newid ym mis Ebrill 2024 ochr yn ochr â phrotest y tu allan i'r Senedd dan faner 'Cartrefi nid Ysbytai.’ Arweiniodd hyn at gyfarfod gyda Jane Bryant y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, a'r canlyniad oedd sefydlu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sydd wedi llunio'r adroddiad hwn.

Cam-drin hawliau dynol

Mae cadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn amhriodol yn fater hawliau dynol. Gall cadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbytai fod yn groes i'w hawliau dynol o dan Ddeddf Hawliau Dynol (1998), yn enwedig yr hawl i ryddid (Erthygl 5) a rhyddid rhag triniaeth ddiraddiol (Erthygl 3), pan nad yw'r broses yn cynnwys triniaeth unigol, briodol a therapiwtig. Mae'r arfer bresennol hefyd yn groes i Erthyglau 14 (yr hawl i ryddid) a 19 (yr hawl i fyw yn y gymuned) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Hyd yn oed pan mae gan rywun anghenion iechyd meddwl, nid ysbyty diogel yw'r amgylchedd iawn ac mae'n arwain at fwy o drallod, sy'n aml yn cael ei gymryd fel cyfiawnhad dros ymestyn eu carchariad. Mae cam-drin yn y lleoliadau hyn yn achosi niwed seicolegol a thrawma hirdymor.

Yn aml, mae pobl yn cael eu lleoli ymhell o gartref, lle maen nhw’n wynebu fwy o risg o gael eu hynysu oddi wrth eu teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth.

Nid dim ond i oedolion y mae hyn yn digwydd. Mae yna blant sydd wedi colli llencyndod cyfan mewn ysbytai diogel.

Nid yw teuluoedd yn gwybod nac yn deall eu hawliau, maen nhw'n aml wedi dioddef trawma, ac yn teimlo'n ynysig a chwbl ddiymadferth. Mae gwaharddiadau cyfreithiol yn cael eu defnyddio i'w hatal rhag siarad â'r cyfryngau, ac mae teuluoedd yn byw mewn ofn canlyniadau codi llais.

Mae'r ffaith bod rhai Byrddau Iechyd yng Nghymru wedi cau Unedau Asesu a Thrin Anabledd Dysgu arbenigol wedi arwain at roi pobl mewn ysbytai cleifion mewnol iechyd meddwl prif ffrwd lle mae eu hymddygiad yn cael ei ystyried trwy lens iechyd meddwl, ac weithiau'n cael eu trin fel troseddwyr yn hytrach na'u deall yng nghyd-destun anghenion heb eu diwallu.

Polisïau a deddfwriaeth Cymru

Mae bwlch rhwng y polisi uchelgeisiol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a'r hyn sydd ar waith ar lawr gwlad. Mae blynyddoedd o gyni, a waethygwyd gan bandemig COVID-19, wedi effeithio'n fawr ar wasanaethau, ac wedi cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael eu lleoli mewn ysbytai diogel, wrth i deuluoedd gael trafferth heb y cymorth sydd ei angen arnynt.

Gyda’u llwythi gwaith anghynaliadwy a chyllidebau annigonol, mae t gweithwyr cymdeithasol yn cael eu gweld gan deuluoedd fel ceidwaid adnoddau anghefnogol, yn hytrach na rhywun a all ddarparu'r help sydd ei angen arnyn nhw i osgoi pethau rhag troi’n argyfwng. Yn wir, mae gofyn am help weithiau wedi arwain yn uniongyrchol at secsiynu anwyliaid teuluoedd, yn hytrach na darparu'r cymorth rhesymol y gofynnwyd amdano.

Mae polisïau a gweithdrefnau, sydd i fod i warchod a diogelu pobl, yn methu, ac yn aml nid ydyn nhw’n cael eu gweithredu gan eu bod wedi'u cyhoeddi fel canllawiau yn hytrach na dyletswyddau gorfodol.

Mae ymarfer ar lawr gwlad ymhell o Strategaeth Cymru Gyfan arloesol 1983, a oedd yn cydnabod nad cyflwr meddygol mo anabledd dysgu a bod gan bobl ag anableddau dysgu hawl i fyw bywyd arferol yn y gymuned.

Casglu data

Rhaid casglu data i fesur cwmpas a maint lleoliadau amhriodol yn gywir, a fydd hefyd yn rhoi syniad o'r mathau o wasanaethau a maint y gwasanaethau hynny sydd angen eu hadeiladu i fynd i'r afael â'r broblem.

Argymhellion

Mae argymhellion wedi'u categoreiddio dan 8 pennawd:

  1. rhoi'r gorau i'r arfer annynol o gadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbytai diogel
  2. gwella gwasanaethau er mwyn atal derbyniadau a chael pobl allan
  3. adolygu (cynnal nifer o adolygiadau o'r arferion cyfredol er mwyn lleihau ac atal dulliau niweidiol)
  4. adrodd a chyhoeddi pryderon fel bod tryloywder ac atebolrwydd gwirioneddol yn y system
  5. cryfhau prosesau cyfreithiol a deddfwriaeth gyfredol i wella hawliau unigolion a'u teuluoedd
  6. penodi comisiynydd ar gyfer anabledd dysgu
  7. adolygu gwaith gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill
  8. gwella prosesau cwyno

Adroddiad llawn

Cyflwyniad

Mae sawl adroddiad wedi tynnu sylw at y ffaith bod pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn amhriodol oherwydd nad yw'r gofal a'r cymorth cywir ar gael yn y gymuned, a bod llawer o bobl yn aros yn rhy hir yn y lleoliadau hyn ac yn destun arferion cyfyngol diangen  (Care Quality Commission, 2020). The Bubb report Winterbourne View – Time For Change, a gyhoeddwyd yn sgil sgandal Winterbourne View yn Lloegr yn 2014, yn dweud:

For many years too many people with learning disabilities and autistic people have been, and continue to be, in inappropriate inpatient settings, often a very long distance away from family and their communities.

Er bod hwn yn fater sy'n bodoli ledled y DU, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â'r pryder hwn yng Nghymru.

Ffurfiwyd y grŵp ymgyrchu Bywydau wedi'u Dwyn gan deuluoedd mewn ymateb i'r achosion o gadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn amhriodol mewn lleoliadau ysbyty diogel, a'r bygythiad y mae hyn yn ei beri i'w hawliau dynol, oherwydd diffyg tai priodol a chymorth cymunedol yng Nghymru. 

Cyn hyn, dywedodd teuluoedd pryderus eu bod wedi ceisio gweithio gyda sefydliadau anabledd dysgu fel y consortiwm anabledd dysgu i godi eu pryderon gyda Llywodraeth Cymru, ond nad oedd amgylchiadau eu perthnasau wedi newid fawr ddim. Roedd teuluoedd yn teimlo'n rhwystredig gan safbwynt Llywodraeth Cymru nad oeddent yn ymyrryd mewn achosion unigol. Roedd rhieni yn teimlo nad oedd ganddynt ddewis ond gweithio gyda'i gilydd i ymgyrchu dros newid. 

Ar 17 Ebrill 2024, protestiodd ymgyrchwyr Bywydau wedi'u Dwyn y tu allan i'r Senedd dan faner 'Cartrefi nid Ysbytai’. Cawsant eu cefnogi gan y trydydd sector a llawer o aelodau'r Senedd, gan gynnwys Hefin David AS, Sioned Williams AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd Dysgu, a Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd. Lluniwyd Maniffesto yr ymgyrch.

Roedd y Maniffesto yn cynnwys 5 galwad i weithredu:

  1. dweud wrthym ni faint o bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig sydd mewn ysbytai
  2. egluro sut y byddwch chi’n dod a phlant a phobl ifainc yn agosach at gartref ac allan o’r lleoedd hyn
  3. gwrando arnon ni a deall beth y mae teuluoedd yn ei ddioddef
  4. gweld nad ydy neilltuo pobl i ysbyty am fod gwasanaethau yn methu cwrdd â’u hanghenion yn ateb i hyn
  5. gweithiwch gyda ni a phobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig i wneud cefnogaeth yn well

Ar 8 Mai 2024, fe wnaeth grŵp Bywydau wedi'u Dwyn, gyda chymorth Sioned Williams AS a chynrychiolwyr y trydydd sector, gwrdd â Jane Bryant, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar ar y pryd. Esboniodd Dr Dawn Cavanagh o'r ymgyrch Bywydau wedi'u Dwyn y materion roedd llawer o deuluoedd ledled Cymru yn eu hwynebu ac esboniodd sut roedd hi'n credu bod hon yn broblem systemig ac yn un yr oedd angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ynddi ar frys. Cymeradwyodd y Gweinidog fod Grŵp Gorchwyl a Gorffen pwrpasol yn cael ei sefydlu, o dan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, i wneud argymhellion i'r Gweinidog ar sut i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Mater Hawliau Dynol

Mae cadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn amhriodol yn fater hawliau dynol. Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol (1998), sy'n tynnu ei hawliau a'i rhyddid sylfaenol o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR, 1950), yn cynnwys amddiffyniadau hawliau dynol pwysig i bobl sy'n cael eu hamddifadu o'u rhyddid mewn lleoliadau iechyd meddwl. Dyma rai ohonynt:

Ni ddylid ystyried methiant y Wladwriaeth i ddarparu cymorth gofal cymdeithasol yn faen prawf priodol ar gyfer derbyn pobl i’r ysbyty a’u cadw yno am gyfnod hir. Mae caniatáu cadw pobl ag anableddau dysgu a/neu bobl awtistig, heb fudd therapiwtig, yn rhoi'r Llywodraeth mewn perygl o dorri'r ECHR. (Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban, 2025, t.4)

Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD, 2006) yn 2009 (Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, 2022 ). Mae'r CRPD (2006) yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sydd â’r nod o amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pobl ag anableddau. Mae Erthygl 14 yn gwarantu'n benodol yr hawl i ryddid a diogelwch pobl ag anableddau. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fod yn rhydd rhag cadw mympwyol neu amddifadu o ryddid (Doyle Guiloud, 2019). Mae Erthygl 19 yn hyrwyddo'r hawl i fyw yn y gymuned, gyda dewisiadau cyfartal ag eraill, ac yn erbyn gofal mewn sefydliad: 

[t]o respect the rights of persons with disabilities under article 19 means that States parties need to phase out institutionali[s]ation.’ (Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, 2017). 

Mae'r Confensiwn yn gwahardd unrhyw wahaniaethu ar sail anabledd, gan gynnwys gwahaniaethu sy'n gysylltiedig â chadw neu amddifadu o ryddid (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2017).

Fe wnaeth 'New Routes Home', fersiwn yr Alban o 'Bywydau wedi'u Dwyn', weithio gyda Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban i gynhyrchu asesiad hawliau dynol o'r cynnydd o ran symud o ofal mewn sefydliad i fyw'n annibynnol yn yr Alban. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi cynhyrchu fframwaith o fesur hawliau dynol yn seiliedig ar arferion gorau a gydnabyddir yn rhyngwladol, i’r rheini sydd â dyletswydd i roi’r fframwaith ar waith a nodi'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn symud allan o ysbytai ac i'w cartrefi eu hunain yn y gymuned yn unol ag Erthygl 19 y CRPD sef yr hawl i fyw'n annibynnol (Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban, 2025). Mae potensial i Gymru fabwysiadu'r fframwaith hwn. 

Ar 5 Rhagfyr 2024, fe wnaeth y Senedd gefnogi galwadau i roi terfyn ar y sgandal hawliau dynol o bobl ag anabledd dysgu neu bobl awtistig yn cael eu cadw'n amhriodol mewn ysbytai diogel. Dywedodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, 'mae hwn yn fater hawliau dynol... mae un person mewn gwely yn hytrach na mewn cartref yn un yn ormod.' ().

mae hwn yn fater hawliau dynol... mae un person mewn gwely yn hytrach na mewn cartref yn un yn ormod (Cofnod Cyfarfod Llawn y Senedd, 4 Rhagfyr 2024).

Does gan lawer o bobl ag anableddau dysgu sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ddim cyflwr iechyd meddwl. Nid oes unrhyw beth i'w 'drin', felly maen nhw'n cael eu cadw a'u ffrwyno'n gorfforol ac yn gemegol oherwydd diffyg tai priodol a chymorth gofal cymdeithasol (Senedd y DU, 2019).

Lle mae gan bobl ag anabledd dysgu a bobl awtistig anghenion iechyd meddwl, nid yw ysbyty diogel yn briodol o hyd. Mae ysbytai yn llefydd cyfyngol, swnllyd, llawn pobl, ac anodd iawn i bobl â phroblemau synhwyraidd. O ganlyniad, mae pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn aml yn mynd yn fwyfwy trallodus. Wrth i bobl fynd yn drallodus, maen nhw'n fwy tebygol o fod yn destun arferion cyfyngol, fel atal yn gorfforol, gwahanu hirdymor, ac ynysu. (Care Quality Commission, 2020;  Hollins, 2023).

Yn aml, nid oes gan staff sy'n gweithio mewn amgylcheddau cleifion mewnol diogel fawr iawn o brofiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig. Mae hyn yn golygu bod ymddygiad trallodus wedi'u sbarduno gan amgylchedd gwael a chymorth annigonol yn gyfiawnhad pellach i'r gweithiwr proffesiynol feddwl nad yw'r unigolyn yn barod i adael y cyfleuster eto, gan oedi cyn rhyddhau a chreu cylch cythreulig (Care Quality Commission, 2020).

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn sôn am achosion dirdynnol o gam-drin hawliau dynol, megis defnydd amhriodol o ataliad corfforol a chemegol, a phobl yn cael eu cadw ar wahân i gleifion eraill. Mae cam-drin o'r fath yn achosi niwed a thrawma seicolegol hirdymor sylweddol i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig  (Care Quality Commission, 2020; Hollins, 2023). Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn gwybod am 2 farwolaeth sydd wedi digwydd mewn lleoliadau ysbyty diogel.

Mae rhai pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu secsiynu yn blant, ymhell o'u cartrefi a'u teuluoedd.  Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn ymwybodol o achosion lle mae plant wedi cael eu secsiynu ac wedi colli eu llencyndod cyfan y tu ôl i waliau ysbyty. Mae Bywydau wedi’u Dwyn ymwybodol o blant sydd wedi cael eu cyfyngu, gan gynnwys ataliad corfforol a chemegol, a'u hynysu oddi wrth eraill. Mae hawliau'r plentyn yn set o hawliau a gydnabyddir i bob unigolyn o dan 18 oed, fel y'u diffinnir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) (UNICEF, d.d). Mae Erthygl 37 yn datgan:

Dim ond pan fetho popeth arall y dylid arestio, cadw neu garcharu plant, a hynny am yr amser byrraf posibl. Rhaid eu trin â pharch a gofal, a'u bod nhw'n gallu cadw mewn cysylltiad â'u teulu. Ni ddylid cadw plant gydag oedolion.

Mae Erthygl 23, sy'n ymwneud â phlant ag anabledd, yn nodi:

Mae gan blentyn sydd ag anabledd yr hawl i fwynhau bywyd llawn a gweddus, a chyhyd ag y bo modd, yr annibyniaeth a'r cyfle i gyfrannu'n llawn at y gymuned. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.

Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn credu bod Llywodraeth Cymru yn methu plant ag anableddau yn hyn o beth.

Mae teuluoedd yn dweud nad ydyn nhw'n gwybod nac yn deall eu hawliau ac yn aml ddim yn gwybod ble na sut i gael mynediad at yr hawliau hynny (Cyd-bwyllgor Hawliau Dynol, 2019). Mae teuluoedd yn dweud eu bod yn dioddef trawma. Mae llawer yn teimlo'n ynysig ac wedi profi anawsterau gyda'u hiechyd meddwl. Mae rhai aelodau o'r teulu wedi cael teimladau hunanladdol, gyda rhai wedi ceisio cymryd eu bywydau eu hunain. Nid oes unrhyw gymorth seicolegol i aelodau o'r teulu a phobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig ar ôl eu rhyddhau o'r ysbyty (Stock et al., 2024).

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud bod gwaharddiadau cyfreithiol wedi'u gosod arnynt i'w hatal rhag siarad â'r cyfryngau neu eu Haelod o Senedd Cymru a Senedd y DU am brofiadau eu hanwyliaid. Efallai y bydd angen gwaharddiadau o'r fath i amddiffyn unigolion agored i niwed neu wybodaeth sensitif. Fodd bynnag, gallant hefyd godi pryderon hawliau dynol sylweddol, yn enwedig ynghylch rhyddid mynegiant a mynediad at gyfiawnder, yn enwedig os yw teuluoedd yn ceisio codi pryderon am ofal anwyliaid neu herio penderfyniadau'r awdurdodau cyhoeddus. Mae teuluoedd yn dweud bod hyn yn eu gadael yn teimlo'n hollol ddi-rym ac yn ofni'r canlyniadau os ydyn nhw'n codi llais, fel colli hawliau ymweld neu gael eu heithrio o benderfyniadau. 

Hefyd, mae pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu rhoi mewn ysbytai diogel nad oes ganddyn nhw deuluoedd i siarad ar eu rhan, sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i glywed eu lleisiau.

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud nad yw cyfyngiadau’n cael eu llacio hyd yn oed pan mae gweithwyr iechyd proffesiynol o'r farn bod pobl yn gwneud yn dda, heb sôn am eu rhyddhau i gartref da. Mae yna achosion o bobl ag anableddau dysgu sydd wedi eu rhoi mewn lleoliadau ysbyty ers 30 mlynedd a mwy. 

Codwyd pryderon am bobl ag anableddau dysgu yn cael eu lleoli allan i'r sir yn dilyn achos Winterbourne View, sgandal a gydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2013): 

Yn 2011, cafodd pawb eu syfrdanu wrth glywed am yr achosion ofnadwy o gam-drin oedolion ag anableddau dysgu yn Ysbyty Winterbourne View, ger Bryste. Daeth yr achosion hyn i'r amlwg yn sgil rhaglen Panorama y BBC. Penderfynwyd bryd hynny bod angen gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd achosion o gam-drin o’r fath byth yn digwydd yng Nghymru. 

Mae nifer y bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig y mae Bywydau wedi'u Dwyn yn gwybod eu bod wedi'u lleoli y tu allan i'w sir neu eu gwlad yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r broblem o leoli pobl yn bell o gartref eto. Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn gwybod am deuluoedd o Gaerdydd sydd â pherthnasau wedi'u lleoli yn St Andrews, Northampton. Mae Ysbyty St Andrews yn Northampton wedi wynebu problemau a gofnodwyd o gam-drin ac esgeuluso cleifion, gan gynnwys honiadau o gamymddwyn ymhlith staff, gweithdrefnau diogelu annigonol, cyfyngiadau cyffredinol, a staffio annigonol (Care Quality Commission 2025). Pan fydd pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu lleoli ymhell o gartref, maen nhw mewn mwy o berygl gan eu bod wedi'u hynysu o'u teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i deuluoedd, a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, fod yn rhan o'u gofal. 

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn credu bod cau Unedau Asesu a Thrin Anableddau Dysgu arbenigol gan rai byrddau iechyd er mwyn arbed arian wedi creu canlyniadau pellgyrhaeddol. Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud bod cau'r unedau hyn wedi arwain at bobl ag anableddau dysgu abobl awtistig yn cael eu rhoi mewn darpariaeth ysbyty cleifion mewnol iechyd meddwl prif ffrwd, lle maen nhw'n fwy tebygol o gael eu gweld trwy lens iechyd meddwl. Dywed teuluoedd bod ymddygiad trallodus wedi'i droseddoli yn hytrach na'i ddeall yng nghyd-destun anghenion heb eu diwallu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig, gydag asesiadau porth wedi'u cynnal ar gyfer ysbytai diogel fforensig.

Mae manteision peidio â bod yn yr ysbyty heb reswm haeddiannol a byw bywyd da, normal neu ffyniannus yn amlwg, ac mae yna deuluoedd sydd â'u hanwyliaid bellach yn byw yn y gymuned ar ôl dioddef blynyddoedd o fod mewn ysbyty yn ddiangen. Ar y naill law, mae hyn yn beth cadarnhaol ond mae'n codi'r cwestiwn pam y cawsant eu hanfon i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Gweler Head et al. (2018) a'u hymchwil, Transforming identities through Transforming Care: How people with learning disabilities experience moving out of hospital

For the participants in the study, moving was an opportunity to extend and elaborate this sense of identity from something narrow or problem-focussed, to becoming someone who had a wider array of meaning-making about who they were.

Gwelwn hyn yn glir yng ngwaith Dowling et al. (2024), lle mae pobl yn siarad am eu bywydau newydd ar ôl cael eu rhyddhau o'r diwedd i fyw yn y gymuned

Gallaf gael fy ffrind draw i gael cinio a gwylio'r teledu. Gallaf ffonio unrhyw un pan dwi eisiau. Dwi'n gallu cael siwgr yn fy nhe. Dwi'n hoffi bod yma. Dwi ddim eisiau symud; fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth.

Mae Jack yn ddyn ifanc ag anabledd dysgu ac awtistiaeth, a gafodd ei gloi mewn ysbytai yng Nghymru ar un adeg. Dywed Jack fod bywyd yn y gymuned yn golygu ei fod bellach yn ddyn rhydd, ei fod yn gallu gweld y lleuad a'r sêr, ac mae ganddo laswellt yn ei ardd (Caerphilly Observer, 2024). Mae'r ffaith ei fod wedi'i amddifadu o bleserau mor syml am ddim rheswm ac ar gymaint o gost iddo fe, ei deulu, a'r trethdalwr, yn warth ar y system yng Nghymru. 

Polisïau a deddfwriaeth Cymru

Yn 2011, cyhoeddwyd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Gwenda Thomas AS, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011). Mae'r adroddiad yn amlinellu pryderon am gyfnodau o gyni gwleidyddol ac yn cydnabod nad oedd y gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig yn llwyddo i ddiwallu anghenion y defnyddwyr yn ddigonol, ac nad oedd adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithlon. Roedd angen i Gymru newid y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl yn well mewn ffordd gynaliadwy. Nod y fframwaith oedd rhagweld a lliniaru heriau cyni gyda phwyslais clir ar atal. Gwnaed Datganiad Gweinidogol (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011) adeg cyhoeddi'r fframwaith. Y Fframwaith hwn oedd rhagflaenydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol (2023)

Roedd yn anochel y byddai problemau cychwynnol yn codi gyda Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pan gafodd ei deddfu gyntaf. Dim ond yn ystod y gweithredu y gallwn asesu’n iawn pa mor effeithiol yw polisi.  Roedd adroddiad Mesur y Mynydd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i fesur effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn dweud bod mynediad at wasanaethau addas yn rhwystr i lawer o bobl (Cooke, Iredale, Williams, a Wooding, 2019). Roedd bwlch rhwng polisi uchelgeisiol a gweithredu. Roedd llawer o deuluoedd a phobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn rhannu'r un teimlad. Ar y cyfan, mae ymdeimlad o ddiffyg brys parhaus wrth ddelio â mater mor bwysig â rhoi rhywun mewn ysbyty. Ategir y diffyg 'brys' hwn yng nghrynodeb rhaglen ymchwil fawr a gynhaliwyd yn Lloegr gan Gladsby et al (2024). Y prif gyngor gan bobl sydd wedi'u heffeithio gan sefyllfa o fod 'yn sownd yn yr ysbyty' oedd: 

Mae ein bywydau ar stop – rhaid i chi wneud eich gwaith a chael bach o “wmff”.

Mae 14 blynedd o gyni wedi cael effaith aruthrol ar seilwaith y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion agored i niwed ag anableddau dysgu a bobl awtistig. Gwaethygwyd y sefyllfa hon yn ystod pandemig COVID-19. Mae llawer o wasanaethau dydd, er enghraifft, yn dal heb ailagor neu'n gweithredu â llai o gapasiti (Prifysgol Warwick, 2022). Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu rhoi mewn lleoliadau ysbyty diogel, gan fod mwy o deuluoedd yn cael trafferth ymdopi am nad yw'r gefnogaeth yno. Mae Anabledd Dysgu Cymru (2025) yn cyflwyno darlun o argyfwng yn y gymuned anabledd dysgu yma yng Nghymru. Teimlwyd bod degawd o 'weithgarwch' pwyllgorau, adroddiadau, strategaethau – ond nad oes newid ystyrlon y tu hwnt i'r ffasâd 'gweithredu.’

Mae gofal cymdeithasol gwael yn ffactor allweddol yn achos secsiynu. Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud bod secsiynu wedi digwydd ar ôl i leoliadau fethu, ac yn aml ar ôl i deuluoedd gwyno am y lleoliadau hynny oherwydd amgylcheddau amhriodol, problemau gyda staff, a phryderon am y defnydd o arferion cyfyngol, cam-drin, ac esgeulustod. Prin iawn oedd yr enghreifftiau o gymorth gwaith cymdeithasol effeithiol (i'r gwrthwyneb yn aml iawn, gyda gweithwyr cymdeithasol yn cael eu hystyried yn geidwaid adnoddau anghefnogol).

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn bod pobl ag anableddau dysgu wedi cael eu secsiynu ar ôl i aelodau o'r teulu ofyn am seibiant neu fathau eraill o gymorth, fel pecynnau gofal. Dywed teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn fod rhai pobl ag anableddau dysgu wedi cael eu cadw yn yr ysbyty oherwydd bod byrddau iechyd a awdurdodau lleol wedi dweud wrthyn nhw y gallai'r sefyllfa fod yn beryglus os nad yw'r cymorth hwn ar gael. 

Mae'n fwyfwy anodd ffeindio lleoliadau addas ar gyfer pobl ag anableddau dysgu abobl awtistig pan fyddant mewn argyfwng. Mae llawer o deuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn teimlo nad yw Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a oedd fod i helpu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhannu cyfrifoldebau comisiynu ac yn dileu rhwystrau blaenorol i gomisiynu, wedi gweithio. Maen nhw'n teimlo bod hyn oherwydd nad oes gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol unrhyw swyddogaethau gweithredol. Yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd biau'r pwrs.

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud nad yw'r prosesau ynghylch secsiynu yn gyfreithlon. Mae teuluoedd yn nodi bod apeliadau i'r Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus yn aml yn methu, a'u bod yn dilyn yr un gweithdrefnau a phrotocolau a arweiniodd at y penderfyniad gwreiddiol i secsiynu. Mae hyn yn golygu bod yr Ombwdsmon yn cytuno â'r penderfyniad anghywir gwreiddiol.

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud bod y polisïau a'r gweithdrefnau sydd i fod i ddiogelu ac amddiffyn pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn methu. Mae teuluoedd yn teimlo nad yw llawer o'r polisïau yn cael eu rhoi ar waith. Maen nhw'n dweud bod hyn oherwydd eu bod yn anstatudol i raddau helaeth, yn agored i'w dehongli, ac nad oes fawr ddim neu ddim atebolrwydd pan nad yw'r polisïau yn cael eu gweithredu. Mae'n hollbwysig bod y cyfreithiau presennol yn cael eu tynhau er mwyn mynd i'r afael â'r mater.

Hefyd, mae yna gred bod Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022-2026 (Llywodraeth Cymru, 2022) a'r Canllaw: Comisiynu llety a chefnogaeth ar gyfer bywyd da i bobl gydag anabledd dysgu (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, 2019) nid yn unig yn anstatudol, ond hefyd yn canolbwyntio'n bennaf ar bobl ag anableddau dysgu sydd â lefelau is o angen. Mae teuluoedd yn dweud, oni bai bod dyletswyddau gorfodol yn cael eu gosod ar y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu a darparu gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu and bobl awtistig, yna bydd polisïau yn parhau i fethu oedolion agored i niwed. Bydd argymhellion Maniffesto Cartrefi Nid Ysbytai (Bywydau wedi'u Dwyn, 2024) yn methu oni bai bod y mater hwn yn cael ei ddatrys. 

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud nad oes unrhyw nodau penodol, y gellir eu gweithredu, mewn perthynas â'r mater 'Cartrefi nid Ysbytai'. Mae'r Rhaglen Gwella Bywydau Anabledd Dysgu (2018) yn darparu cofnod disgrifiadol heb unrhyw argymhellion sylweddol i Lywodraeth Cymru. Mae adran 3.1 Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022i 2026 (2022) yn nodi: 

3.1 Gweithredu argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Arbenigol i Oedolion yn 2020 “Gwella Gofal, Gwella Bywydau” yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol. 

1. Llai o dderbyniadau drwy fwy o raglenni cymorth cymunedol i atal argyfyngau/ymyrryd yn gynnar. 

2. Mynediad at ofal arbenigol diogel ac effeithiol o ansawdd uchel mor agos â phosibl i'r cartref. 

3. Cefnogi unigolion i ddychwelyd adref/yn agos i'w cartrefi cyn gynted â phosibl.  (t. 9)

Nid yw'n glir sut yn union fydd hyn yn cael ei gyflawni, erbyn pryd, a chan bwy. Mae Anabledd Dysgu Cymru (2022) wedi nodi absenoldeb un pwynt penodol:

Tra ein bod yn credu bod gan y cynllun hwn botensial i wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o wybodaeth fanwl yn y cynllun cyflenwi sydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei nodau. Rydym hefyd eisiau gweld esboniad o'r nodau ac iddyn nhw fod yn fwy uchelgeisiol yn eu nodau fel y bydd yn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol i fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Heb seilwaith i gartrefu pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn lleoliadau mwy addas, mewn llawer o achosion, rhoi pobl mewn ysbyty yw'r unig opsiwn sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig. Yn wir, mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac sy'n rhoi pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbytai diogel o'r farn bod y lleoliadau’n briodol o dan yr amgylchiadau.

Mae lleoli pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbyty diogel yn mynd yn groes i ddyheadau Strategaeth Cymru Gyfan 1983 (Y Swyddfa Gymreig, 1983) a oedd yn cydnabod nad yw anabledd dysgu yn gyflwr meddygol a bod gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i fyw bywyd arferol yn y gymuned. 

Casglu data

Rhaid i ni gasglu data i fesur cwmpas a maint y broblem sy'n ymwneud â phobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu rhoi mewn lleoliadau amhriodol, yn ogystal â chynllunio ar gyfer eu symud i leoliadau mwy addas. Bydd hyn hefyd yn rhoi syniad i ni o'r mathau o wasanaethau, a faint ohonyn nhw, sydd angen eu creu i ddatrys y broblem. Mae bylchau ehangach mewn data am bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru (Ymchwil y Senedd, 2022). Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio ag archwilio dichonoldeb Arsyllfa Anabledd Dysgu nac ariannu un.

"Nid ysbyty yw e, ond mae'n teimlo felly": cadw dan ofal cymdeithasol

Er bod Bywydau wedi'u Dwyn yn canolbwyntio ar atal yr arfer annynol o gadw pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth mewn ysbytai, weithiau mae teuluoedd yn cysylltu â'r grŵp ymgyrchu ar ôl i'w meibio neu merched gael eu tynnu o'u gofal. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd mewn achosion lle mae'r unigolyn wedi cyrraedd oed oedolyn ac mae ganddo anabledd dysgu mwy difrifol i ddwys. Weithiau mae'n digwydd ar ôl i'r sawl dan sylw gael cyfnod o salwch a’i fod wedi bod yn yr ysbyty neu wedi gorfod mynd i ofal preswyl dros dro. 

Mae teuluoedd yn dweud bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wedi mynd â nhw i'r Llys Gwarchod a’u gwneud yn destun gwaharddeb gyfreithiol i'w hatal rhag codi llais. Mae teuluoedd yn dweud wrth Bywydau wedi'u Dwyn bod cyfyngiadau ar weld eu hanwyliaid, sy'n cael eu lleoli y tu allan i'w cymunedau ac mewn llety anaddas yn aml iawn. Er enghraifft, mae un person ifanc wedi ei leoli gydag oedolion hŷn mewn cartref nyrsio y tu allan i'w gymuned. Dywedodd ei fam wrth Bywydau wedi'u Dwyn, "Nid ysbyty yw e, ond mae'n teimlo felly".

Argymhellion llawn

Argymhelliad 1: Rhoi'r gorau i'r arfer annynol o gadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbytai diogel.

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud datganiad clir o fwriad y bydd pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael cymorth mewn lleoliad addas yn eu cymuned leol, er enghraifft, nid ysbyty nac uned ddiogel.
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir bod unrhyw berson sydd wedi'i roi mewn lleoliad ysbyty heb ddiagnosis sy'n cyd-ddigwydd o gyflwr iechyd meddwl 'y gellir ei drin' wedi'i leoli yn amhriodol.
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru ei gwneud yn glir nad yw ymddygiad trallodus yn rheswm dilys dros roi rhywun mewn ysbyty diogel.
  • Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu i atal cadw plant ag anableddau dysgu a blant awtistig yn annynol mewn ysbytai diogel.
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983 (Deddf 1983) yw'r brif gyfraith sy'n llywodraethu asesu a thrin pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y DU, yn enwedig pan fyddant yn cael eu cadw yn yr ysbyty. Mae Deddf 1983 yn diffinio 'anhwylder meddwl' ar hyn o bryd i gynnwys anabledd dysgu ac awtistiaeth, er nad ydyn nhw'n gyflyrau iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu y gall pobl gael eu cadw o dan Ddeddf 1983 pan nad oes ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl, sy'n bwynt gwahaniaethu sylweddol. Nod diwygio iechyd meddwl yw newid hyn trwy gysylltu Adran 3 Cymuned ag 'anhwylderau seiciatrig' yn unig. Fodd bynnag, heb fuddsoddiad mewn tai cymunedol a chymorth, gallai llawer o bobl aros yn yr ysbyty o dan y system 'trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid' (DoLS), heb hawl i ôl-ofal a117. Mae hon yn system sydd eisoes dan bwysau. Efallai y bydd cynnydd mewn achosion cadw fforensig hefyd gydag unigolion sy'n cael eu cadw dan gyfraith droseddol am ymddygiadau y gellid mynd i'r afael â nhw'n well mewn lleoliad cymunedol. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer diwygio iechyd meddwl ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol y Bil Iechyd Meddwl arfaethedig.
  • Mae problemau yn aml yn digwydd yn fuan ar ôl trosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Dylai Llywodraeth Cymru fynnu cynllunio strategol mwy rhagweithiol ac amserol tra bod pobl yn dal i fod o dan wasanaethau plant, a goruchwylio’r broses honno, er mwyn lleihau'r risg y byddant yn cael eu derbyn i ysbyty.
  • Dylid cau ysbytai anabledd dysgu. Mae angen i ni ddarparu cymorth mewn amgylchedd cymunedol. Gall hyn fod yn hirdymor neu, er enghraifft, gyda "crash pads," sef llety tymor byr, diogel a chefnogol y gellir eu defnyddio fel dewis arall i Unedau Asesu a Thriniaeth traddodiadol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru archwilio dulliau sy'n seiliedig ar hawliau dynol a ddatblygwyd o ymchwil ac ymarfer clinigol sy'n ceisio lleihau arferion cyfyngol a helpu i ryddhau, fel y gall unigolion sy'n cael eu cadw symud ymlaen â throsglwyddiad llwyddiannus allan o'r ysbyty. Er enghraifft, gallai Llywodraeth Cymru archwilio model HOPE(S) Lloegr, i roi terfyn ar yr arfer o wahanu hirdymor (Fradley, Rajan, a Delmont-Haines, 2025).
  • Rhaid i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol newid eu hymarfer fel y gallant gefnogi pobl yn eu cymunedau lleol yn ddigonol mewn darpariaeth addas. Nid yw'n dderbyniol bod unrhyw un ag anabledd dysgu a berson awtistig yn cael ei leoli y tu allan i'r sir oherwydd nad yw'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw ar gael yn lleol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ymddiheuriad cyhoeddus ar ran byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sydd wedi lleoli pobl yn amhriodol, ymhell o'u cymunedau, am yn rhy hir. Mae angen i'r ymddiheuriad gydnabod yn benodol bod cadw amhriodol ac am gyfnodau hir wedi digwydd. Mae teuluoedd yn teimlo bod y mesurau diogelu a oedd fod i amddiffyn pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig wedi bod yn annigonol. Canlyniad anfwriadol hyn yw torri hawliau dynol pobl ag anabledd dysgu a bobl awtistig. 

Argymhelliad 2: Gwella gwasanaethau fel y gallwn atal derbyniadau i'r ysbyty a chael pobl allan 

Mae cadw yn ganlyniad anochel peidio â diwallu anghenion person. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithredu'r cynigion cyfredol ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau anabledd dysgu rhai cymunedol a chleifion mewnol yn llawn. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i:

  • Strategaethau atal (er enghraifft, gwasanaethau cymorth cymunedol ac ymyriadau i atal derbyniadau amhriodol i'r ysbyty a lleihau ymddygiad trallodus).
  • Ymyrraeth gynnar a gofal argyfwng o fewn gwasanaethau cymunedol.
  • Mynd i'r afael â rhwystrau i ryddhau o'r ysbyty, megis llety sydd ar gael (yn enwedig i bobl ag anghenion cymorth uchel), gweithlu addas, a chyllid sydd ar gael (cyllidebau cyfunol).
  • Dylid cynyddu cyllidebau i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i weithredu'r cynigion i ailddylunio gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol. Does dim angen iddo fod yn fuddsoddiad ychwanegol parhaol. Bydd buddsoddiad penodol i greu darpariaeth bwrpasol addas mewn cymunedau lleol yn helpu i ddod â lleoliadau costus y tu allan i'r sir a'r tu allan i'r wlad i ben, gyda'r adnoddau a arbedwyd ar gael i ddarparu'r gwasanaethau newydd yn lleol.
  • Creu cymorth argyfwng arbenigol i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Hefyd, mae'n bwysig bod y gwasanaethau priodol yn cael eu comisiynu a'u hariannu'n ddigonol er mwyn darparu cyngor a chymorth o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol. Dylai'r gweithlu gael adnoddau da a chefnogaeth i ddarparu hyn. Dylid comisiynu'r holl wasanaethau i ddilyn model cymdeithasol o anabledd wrth ddarparu gwasanaethau.

Dylai fod mwy o oruchwyliaeth a chraffu ar gomisiynu oherwydd pan fydd comisiynu yn ddiffygiol, gall arwain at wasanaethau wedi'u dylunio'n wael, diffyg mynediad at gymorth angenrheidiol, a monitro annigonol o ansawdd a diogelwch. Gall hyn gynyddu'r risg o secsiynu neu ailsecsiynu. Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn argymell gosod disgwyliadau clir ar gyfer dylunio, ansawdd a diogelwch gwasanaethau a monitro comisiynwyr a darparwyr yn rheolaidd yn erbyn y safonau hyn.

Dylai bod dyletswyddau gorfodol ar y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu a darparu gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu, yn enwedig y bobl hynny ag anghenion cymorth uchel, sydd angen mwy o ddarpariaeth bwrpasol o bosibl.

Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn argymell buddsoddi mewn hyfforddiant a chymorth i gomisiynwyr a darparwyr i sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi unigolion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn effeithiol.

Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn poeni y gall darparwyr preifat flaenoriaethu elw ar draul anghenion unigolion ag anableddau dysgu, gan arwain at ofal o ansawdd is a staffio annigonol. Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn argymell y dylid cael gwared ar elw mewn gofal pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Anaml iawn y mae pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn cael eu cydnabod fel pobl sydd ag anghenion tai pan fyddan nhw'n cael eu cadw mewn ysbyty diogel. Dylid defnyddio'r grant tai cymdeithasol i symud pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig o ysbytai diogel i gartrefi yn eu milltir sgwâr.

Dylid cyfuno cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda'r posibilrwydd o roi'r pwerau i fyrddau partneriaeth rhanbarthol weithredu hyn.

Rhaid i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â materion darpariaeth tai annigonol.

Dylid rhoi mwy o bwerau i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru i sicrhau bod newidiadau i'r gwasanaeth yn cael eu gwneud unol â'r argymhellion hyn. Rhaid neilltuo Grantiau Cyfalaf at y diben hwn.

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cymunedol a seibiant. Pan fydd darpariaeth y gwasanaethau hyn yn annigonol, mae'r risg o gadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn ysbytai diogel yn cynyddu. Ar ôl blynyddoedd o gyni, ac effaith pandemig Covid-19, mae llawer o wasanaethau wedi cau neu'n gweithredu ar lefelau anghynaliadwy. Mae angen buddsoddi o’r newydd yn y gwasanaethau hyn ar fyrder fel rhan o'r agenda atal.

Mae angen model cyffredinol o ofal i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yng Nghymru, sy'n cwmpasu atal, ymyrraeth gynnar, ac argyfwng.

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mwy o dryloywder ariannol dros ariannu lleoliadau mewn ysbytai diogel. Dylai gyhoeddi cyfanswm gwariant uniongyrchol ar hyn bob blwyddyn, gan gynnwys y symiau a roddir i ddarparwyr sector preifat. Dylai gomisiynu ymchwil i gyfanswm y costau i'r system, gan gynnwys costau anuniongyrchol fel amser gweinyddol, costau cyfreithiol wrth amddiffyn penderfyniadau, straen ar deuluoedd, a chostau iechyd cysylltiedig, yn ogystal â'r costau fydd yn codi yn y dyfodol, oherwydd y trawma a achosir gan garcharu mewn ysbytai diogel.

Dylid darparu taliadau uniongyrchol dim ond pan fydd teuluoedd eisiau hynny, a phan fyddant yn cael eu darparu, dylent fod ar lefel ddigonol i ariannu gwasanaethau o safon.

Argymhelliad 3: Adolygu (cynnal nifer o adolygiadau o'r arferion cyfredol er mwyn lleihau ac atal dulliau niweidiol)

Sylwch fod 3 adolygiad yn cael eu hargymell o fewn yr argymhelliad hwn. Mae adolygiadau eraill yn cael eu hargymell mewn argymhellion eraill.   

Dylai panel annibynnol (dan gadeiryddiaeth comisiynydd annibynnol) adolygu'r cynlluniau neu achosion ar gyfer pob person sy'n byw mewn ysbyty neu uned ddiogel i gefnogi'r broses ryddhau. Os yw hyn yn ymwneud â phlentyn, dylid cydnabod hawliau'r plentyn o dan CCUHP a deddfwriaeth benodol arall. Dylai pob claf fod â hawl i adolygiad annibynnol, nid dim ond rhai sydd wedi'u cadw yn amhriodol.

Dylai'r grŵp adolygu hwn gynnwys (a chael ei gefnogi gan) pobl sydd â phrofiad bywyd, gan gynnwys gofalwyr teulu ac aelodau o'r teulu. Dylai bod ganddo ddigon o bwerau a dylanwad i newid pethau. Dylai nodi rhwystrau systemig i newid yn ogystal â chamau y gellid eu cymryd i symud pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig o unedau a lleoliadau ysbyty diogel neu wasanaeth arbenigol i'w cymunedau lleol. Dylai Llywodraeth Cymru osod dyddiad cau penodol ar gyfer cwblhau'r pontio hwn.

Dylai'r grŵp adolygu ystyried sut i wneud iawn (yn emosiynol ac yn ariannol) â phobl a'u teuluoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i gadw amhriodol. 

Dylai'r grŵp adolygu wneud argymhellion ar gyfer gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a rhannu data yn barhaus. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn gallu parhau i asesu a mynd i'r afael â'r holl achosion o gadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn amhriodol mewn ysbytai neu unedau diogel.

Ar wahân i'r adolygiad o achosion ar gyfer pob person sy'n byw mewn ysbyty diogel, rydym yn argymell cynnal adolygiad annibynnol o'r system arolygu yma yng Nghymru. Dylai'r adolygiad gael ei gynnal gyda chyfraniad comisiynwyr, a gyda chefnogaeth uniongyrchol teuluoedd, er mwyn penderfynu a yw'n effeithiol wrth nodi a mynd i'r afael â materion ansawdd gofal sy'n arwain at achos o secsiynu y gellir ei osgoi. 

Mae'n bwysig ein bod ni'n cryfhau sut mae gofal a chymorth yn cael eu comisiynu. Mae angen i ni adolygu'r ffordd y mae gofal yn cael ei gomisiynu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig mewn gofal cartref.

Argymhelliad 4: Adrodd a chyhoeddi pryderon fel bod tryloywder ac atebolrwydd gwirioneddol yn y system

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r panel adolygu (argymhelliad 3) i sefydlu, cyd-ddylunio a gweithredu proses ar gyfer adrodd, monitro a gwerthuso pryderon a godir gan deuluoedd, unigolion neu wasanaethau ynghylch gofal a thriniaeth pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig sy’n dechrau derbyn neu eisoes yn derbyn gwasanaethau cleifion mewnol diogel. Dylai'r panel fod â chysylltiadau uniongyrchol ag adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru a'r rheoleiddwyr priodol.

Dylai sefydliad annibynnol priodol arwain y gwaith hwn a rhoi diweddariadau ac adroddiadau rheolaidd i Weinidogion a sefydliadau ar y pryderon hyn. Dylai'r canfyddiadau hyn fod ar gael yn gyhoeddus. 

Mae angen riportio adrannau yn awtomatig i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), gydag adroddiadau yn hygyrch i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol. 

Argymhelliad 5: Cryfhau prosesau cyfreithiol a deddfwriaeth gyfredol i wella hawliau unigolion a'u teuluoedd

Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol neu greu deddfwriaeth sylfaenol newydd i wella hawliau pobl ag anabledd dysgu a bobl awtistig rhag cael eu cadw mewn ysbytai neu unedau diogel (gan gynnwys plant). Rhaid i'r ddeddfwriaeth hon gynnwys sancsiynau ystyrlon yn erbyn cyrff sy'n methu â diogelu hawliau pobl ag anabledd dysgu a bobl awtistig. Rhaid bod dyletswyddau ystyrlon ar gyrff cyhoeddus i hwyluso lleisiau pobl ag anabledd dysgu a bobl awtistig a'u teuluoedd wrth wneud penderfyniadau a dyletswydd gonestrwydd ar wasanaethau cyhoeddus sy'n ymwneud â'r prosesau hyn. 

Dylai'r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol fod yn statudol. 

Mae angen monitro a gwerthuso’n llymach y prosesau a’r gweithdrefnau cyfredol sy'n ymwneud â secsiynu pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig. Gallai'r gwaith hwn gael ei arwain gan banel adolygu annibynnol hefyd.

Dylai teuluoedd allu gofyn am adolygiad cyfreithiol annibynnol heb gost os nad yw'r gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn. 

Gall gwrthwynebu cadw unigolyn neu geisio rhyddhau arwain at effeithiau negyddol a chamddefnyddio pŵer. Er enghraifft, dywedodd un aelod teulu wrth Bywydau wedi'u Dwyn ei fod wedi gwrthwynebu secsiynu perthynas ar ôl i rywun ddweud y gallai'r sefyllfa gartref fod yn beryglus ar ôl iddo ofyn am wasanaethau a chael ar ddeall nad oeddent ar gael. Ar ôl i'r aelod teulu wrthwynebu secsiynu, dywedwyd wrtho y byddai’n wynebu achos llys i dynnu ei hawl fel perthynas agosaf. Byddai'n ymddangos bod diffyg cyllid wedi arwain at gamddefnyddio pwerau cyfreithiol i orfodi secsiynu diangen. Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol hefyd yn gallu camddefnyddio eu pŵer drwy'r Llys Gwarchod, ac mae angen mynd i'r afael â hyn hefyd (gweler adran 3.5 'Nid ysbyty yw e, ond mae'n teimlo felly’: cadw dan ofal cymdeithasol). Dylai teuluoedd fod â'r hawl i gwyno, gwrthwynebu a cheisio adolygiad a chamau unioni, heb i'r awdurdodau ymateb drwy eu cosbi am wneud hynny. Dylai fod adolygiad awtomatig gan gorff annibynnol, os yw hawliau teulu yn newid er gwaeth, ar ôl iddyn nhw wneud cwyn neu herio penderfyniadau.

Mae adolygiad barnwrol neu ddilyn camau cyfreitha o dan y Ddeddf Hawliau Dynol (1998) am dorri hawliau dynol yn gallu cymryd cryn amser. Mae angen gwybodaeth am y system gyfreithiol i wneud hyn. Ar ben hynny, gall fod yn anodd dod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol hawliau dynol gan fod llawer o gyfreithwyr yn brysur a ddim bob amser yn barod i weithio ar gyfraddau cymorth cyfreithiol. Dylid gwneud mwy i gefnogi teuluoedd i eirioli dros hawliau dynol eu perthnasau.

Mae gwaharddebion yn cael eu defnyddio yn rhy fynych, heb ystyried yn ddigonol yr effaith ar unigolion agored i niwed a'u teuluoedd. Mae angen mwy o graffu a goruchwyliaeth. Mae'r Cyd-bwyllgor Hawliau Dynol (2019) wedi galw am ganllawiau i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus angen cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud cais am waharddebion sy'n 'cau ceg' rhieni. Mae hyn er mwyn atal camddefnyddio gorchmynion o'r fath ac i sicrhau bod hawliau unigolion agored i niwed yn cael eu diogelu. Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhelliad hwn, a lle bo'n bosibl, bod angen cymeradwyaeth gan y gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ar gyfer achosion Cymreig.

Mae'r holl ffyrdd gwahanol mae teuluoedd yn dweud eu bod wedi cael eu hatal rhag cael llais o ran beth sy'n digwydd i'w hanwyliaid, secsiynu, anfon i'r ysbyty a thriniaeth, trwy ddulliau cyfreithiol yn dweud cyfrolau am yr anghydraddoldeb adnoddau a phŵer rhwng sefydliadau ac unigolion. Mae teuluoedd wedi eu dychryn gan brosesau cyfreithiol ac wedi'u cyfyngu gan fynediad anghyfartal at gyllid i ymladd achosion ar sail gyfartal ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, sydd â mynediad at gyfreithwyr mewnol a chyllid ar gyfer cwnsler allanol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygiad ar unwaith o'r achosion cyfreithiol drud a estynedig presennol sy'n mynd drwy Lysoedd y Gyfraith. Dylai ystyried achosion posibl o dorri hawliau dynol y teuluoedd trwy gymhwyso prosesau cyfreithiol nad ydynt yn diogelu'r unigolyn, ond yn hytrach y sefydliadau sy'n cadw pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig.

Dylid creu gwasanaeth eiriolaeth arbenigol pwrpasol i deuluoedd sy'n ymwneud â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) a'r Ddeddf Iechyd Meddwl (1983). Dylai ddarparu cymorth ystyriol o drawma i deuluoedd a chyngor cyfreithiol annibynnol. Rhaid i'w waith a'i effeithiolrwydd fod yn destun gwerthusiad annibynnol i sicrhau ei fod yn cyflawni ar ran teuluoedd.

Argymhelliad 6: Penodi comisiynydd ar gyfer anabledd dysgu

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu comisiynydd (neu benodai cyhoeddus annibynnol tebyg) ar gyfer anabledd dysgu. Byddai'r sawl a gaiff ei benodi yn goruchwylio'r broses bontio o ysbytai i leoliadau cymunedol am gyfnod interim o 5 mlynedd ac yn llywio gwelliant mewn gwasanaethau. Byddai’n arwain gwaith y panel adolygu (argymhelliad 3 ). Y nod yw gwella bywydau pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yng Nghymru yn sylweddol. Un o dasgau cyntaf y comisiynydd neu'r penodai ddylai fod i bennu'r amserlenni ar gyfer gweithredu a newid.

Dylai'r penodai weithio gyda theuluoedd ac unigolion sy'n codi pryderon i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a galluogi newid diwylliannol tuag at wrando a deall pryderon y rhai â phrofiad bywyd.

Bydd y penodai hefyd yn sicrhau bod anghenion pobl ag anableddau dysgu yn nodwedd o bob maes polisi cymdeithasol a chyhoeddus, ac yn cael eu hymgorffori ynddynt, a bydd yn gweithio gyda mentrau niwroamrywiaeth y Senedd.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a oes modd cryfhau Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu i graffu'n well ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion. Gallai'r Grŵp Cynghori hwn gael ei ddisodli gan fwrdd rhaglen sy'n atebol i'r Gweinidog.

Argymhelliad 7: Adolygu gwaith gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill

Mae llawer o deuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn sôn am hanes hir o ymdrechion i gael cymorth gwaith cymdeithasol wrth i broblemau ddatblygu, neu brofiad o ymyriadau gwaith cymdeithasol aneffeithiol pan fydd yr aelod o'r teulu mewn argyfwng. Mae hyn wedi arwain at secsiynu amhriodol ac ymatebion annibynadwy ac amhriodol pan fyddan nhw'n codi cwynion. Mae rhieni yn dweud eu bod wedi cael beirniadaethau llafar ac ysgrifenedig am eu haddasrwydd i fagu plant, beirniadaethau nad oes modd eu hategu gan dystiolaeth, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn cyflawni anudon ("acts of perjury").

Mae teuluoedd hefyd yn dweud bod staff gwasanaethau cymdeithasol yn newid yn rheolaidd, a bod ganddynt lwyth gwaith trwm. Mae llawer yn gweithio mewn stad o argyfwng byth a hefyd ac nid ydynt yn ddigon ymwybodol o'r gyfraith. Mae patrwm o fethiant i gadw at ddyletswyddau cyfreithiol i gynhyrchu dogfennau. Mae gan Bywydau wedi'u Dwyn dystiolaeth o ddogfennau anghywir pan maen nhw’n cael eu cynhyrchu a bod awdurdodau'n methu ag adolygu ansawdd lleoliadau yn rheolaidd. Maen nhw'n dweud bod dyletswyddau i flaenoriaethu lles a llesiant pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig a'u teuluoedd wedi'u hesgeuluso. Nid yw'r hawl statudol i eiriolaeth annibynnol i deuluoedd wedi'i diogelu. Mae hyn yn berthnasol i leoliadau iechyd hefyd.

Dylid craffu ar rôl gwaith cymdeithasol, timau rheoli gwaith cymdeithasol, a gofal cymdeithasol ym mywydau pobl ag anableddau dysgu sy'n cael eu cadw, neu eu 'lleoli', ar gam - ar lefel genedlaethol ac fel mater o frys. Dylai'r adolygiad hwn gynnwys gwaith Arolygiaeth Gofal Cymru wrth oruchwylio ansawdd adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid cydnabod nad oes gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd lawer o ffydd yn Arolygiaeth Gofal Cymru – maen nhw o’r farn bod adroddiadau’r Arolygiaeth wedi'u gor-guradu ac yn rhy optimistaidd wrth farnu adrannau gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol, o’u mesur yn erbyn profiadau bywyd gwirioneddol. 

Mae teuluoedd yn dweud bod prinder gweithwyr cymdeithasol ar gael i gefnogi eu perthynas ag anabledd dysgu a bobl awtistig. Rydym angen data ar nifer y gweithwyr cymdeithasol sydd â’r cymwysterau i roi gofal da i bobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig. Dylai hyn fynd law yn llaw ag adolygiad o hyfforddiant gwaith cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr gwaith cymdeithasol yn treulio amser mewn lleoliadau anabledd dysgu/awtistig.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn aml yn cael eu cyfyngu gan yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng eu cyllideb a buddiannau gorau'r person maen nhw'n gweithio gydag ef. Mae teuluoedd yn dweud nad oes dim neu fawr ddim atebolrwydd pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn gwneud penderfyniadau sy'n cael effaith niweidiol ar aelod o'u teulu. Dylai'r cwricwlwm Gwaith Cymdeithasol gynnwys uned ychwanegol ar sut i gefnogi pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd.

Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud nad yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHPs) yn ymgysylltu â nhw ynghylch secsiynu. Mae hyn wedi golygu nad yw ffactorau cyd-destunol yn cael eu hystyried. Mae Bywydau wedi'u Dwyn yn dweud bod y broses secsiynu yn frysiog, sy'n golygu nad oes amser i ofyn cwestiynau nac ymchwilio i unrhyw bryderon. Nid yw teuluoedd yn cael gwybod am eu hawliau tan ar ôl secsiynu. Mae teuluoedd Bywydau wedi'u Dwyn wedi rhannu rhai enghreifftiau o gamymddygiad. Er enghraifft, cafodd plentyn un teulu ei ddeffro er mwyn ei secsiynu sawl diwrnod ar ôl digwyddiad. Dylid ailystyried yr hyfforddiant sy'n cael ei roi i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a'u dwyn i gyfrif os nad ydyn nhw'n dilyn y broses gywir.

Argymhelliad 8: Gwella prosesau cwyno

Pan fydd teuluoedd yn ceisio herio gofal gwael mewn ysbytai diogel a allai dorri hawliau dynol eu perthnasau o bosibl, ychydig o opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Mae teuluoedd yn dweud nad yw timau diogelu bob amser yn ymateb i'w pryderon. Er enghraifft, fe wnaeth un teulu sylwi bod eu mab wedi cael anafiadau difrifol wrth gael ei atal, a bod yr ysbyty wedi riportio'r mater i'r tîm diogelu wedyn. Fodd bynnag, oherwydd bod adroddiad yr ysbyty yn anghyflawn ac nad oedd yn disgrifio'r anafiadau’n fanwl, ni wnaeth y tîm diogelu fynd ar drywydd y mater. Roedd hyn er gwaetha'r ffaith bod y teulu wedi dweud wrth y tîm diogelu am natur yr anafiadau a bod ganddynt dystiolaeth ffotograffig ohonynt. Pan ffeiliwyd adroddiad diogelu pellach, dim ond wedyn wnaeth y tîm diogelu ymyrryd yn y mater. Mae lleisiau teuluoedd yn aml yn cael eu hystyried yn llai credadwy (anghyfiawnder tystiolaeth) ac mae'n rhaid rhoi stop ar hyn. Mae angen i dimau diogelu wrando ar bryderon teuluoedd a gweithredu arnynt. Mae angen mwy o ymyrraeth gan dimau diogelu, gan gydnabod bod pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig yn grŵp arbennig o agored i niwed ac mewn mwy o berygl o gamdriniaeth.

Mae llawer o deuluoedd yn ofni cwyno i'r ysbyty am eu bod yn ofni goblygiadau hynny, ac mae'r broses gwyno fewnol yn tueddu i fod yn amddiffynnol. Mae teuluoedd yn dweud bod mynd trwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymarfer dibwys a blinedig ac mai ychydig iawn o wybodaeth a dealltwriaeth sydd gan yr Ombwdmson. Mae angen mynd i'r afael â hyn. Byddem yn argymell bod trothwyon diogelu yn cael eu gostwng ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a bobl awtistig, yn enwedig pan fyddant o fewn lleoliadau lle mae dewis a rheolaeth yn gyfyngedig (gwyddom fod achosion o gam-drin ac arferion cyfyngol yn llawer mwy cyffredin mewn lleoliadau sefydliadol) (Kamavarapu, Ferriter, Morton and Völlm, 2016). 

Dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu argymhellion y Care Quality Commission (CQC) yn Lloegr ynglŷn â'r gwersi a ddysgwyd o sgandal Winterbourne View. Dylid adolygu'r prosesau cwyno yng Nghymru er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn seiliedig ar brofiad bywyd. 

Dylai Llywodraeth Cymru gymryd safbwynt cyhoeddus nad yw'r ffaith bod rhieni yn aelodau o fudiad Bywydau wedi'u Dwyn yn sail resymol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wrthod ymgysylltu â nhw, neu drin rhieni a theuluoedd yn wahanol, a dylai orfodi lle mae ganddi'r pwerau i wneud hynny, na ddylid cofnodi aelodaeth o’r grŵp hwn (na grwpiau ymgyrchu perthnasol eraill) mewn nodiadau neu gofnodion.

Dyfyniad

I ddyfynnu'r adroddiad hwn, defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:  Powell, J., Cavanagh, D., Abbott, D., a Griffiths, J. (2025).  O Ysbytai i Gartrefi. Adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Ymgyrch ‘Cartrefi nid Ysbytai’ gan Bywydau wedi’u Dwyn, is-grŵp o'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu sy'n cynghori ar wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.