Oedi wrth drosglwyddo gofal
Data ar drosglwyddo cleifion GIG i leoliad gofal mwy priodol.
Cynnwys
Y cyhoeddiad diweddaraf
Newidiadau i gyhoeddi oherwydd coronafeirws
Ar ddechrau’r pandemig, roedd Llywodraeth Cymru wedi atal y gofynion i adrodd ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ynghyd â nifer o setiau data eraill. Yn y cyfamser, mae cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gofynion Rhyddhau Covid-19, a oedd yn cynnwys proses ryddhau newydd gyda mwy o ffocws ar adsefydlu ac ail-alluogi.
Mae cydweithwyr yn yr adran bolisi ac Uned Gyflawni’r GIG wedi bod yn casglu data interim wythnosol am oedi cyn rhyddhau cleifion er mwyn rheoli’r trefniadau newydd. Nid yw’r data hyn yn mesur oedi wrth drosglwyddo gofal yn yr un modd â’r data a gasglwyd yn flaenorol, ac nid yw wedi cael ei asesu yn erbyn safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd dewisiadau ar gyfer casglu a chyhoeddi data a mesurau perfformiad yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf.