Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol (Saesneg yn unig) wrth arfer unrhyw rai o'u swyddogaethau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried naill ai (Opsiwn 1) disodli'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, y gyfraith bresennol a gymathwyd, a weithredir trwy strategaeth ar y cyd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac a weinyddir yng Nghymru a Lloegr gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, gyda model a ariennir gan grant a ddarperir trwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol o fis Ebrill 2027 neu (Opsiwn 2) dod â'r cynllun llaeth i ben oherwydd bod dysgwyr yn gallu cael llaeth drwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a (neu) ddarpariaeth Brecwast a Phrydau Ysgol Am Ddim. 

Mae'r Asesiad Effaith Hawliau Plant yn ystyried y ddau opsiwn hyn a'r effaith ar blant yng Nghymru ac yn cydnabod eu hawliau o dan y CCUHP.

Cefndir

Bu'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar waith ers 1977. Yn dilyn gostyngiad mewn cymhorthdal gan yr UE yn 2001, cyflwynodd y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig "ychwanegiad" cenedlaethol, gyda Chymru yn sefydlu ei threfniadau ei hun drwy Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008. Ar ôl ymadael â’r UE, cadwyd y fframwaith cyfreithiol. Yng Nghymru, mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn darparu llaeth am ddim i ddisgyblion amser llawn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2, a llaeth â chymhorthdal i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 3 i 6 ac mewn ysgolion arbennig, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol.

Oherwydd bod y trefniadau dosbarthu o'r cynllun presennol yn dod i ben, a gyda newidiadau i dirwedd bwyd yr ysgol drwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd neu ddarpariaeth Brecwast, Prydau Ysgol am Ddim Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru), mae'n ddoeth adolygu'r polisi. 

Mae darpariaeth llaeth yn rhan o amgylchedd bwyd ehangach yr ysgol. Ochr yn ochr â Phrydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, Prydau Ysgol am Ddim, darpariaeth brecwast ysgol a'r Rheoliadau Bwyta'n Iach, mae ysgolion yn hyrwyddo arferion bwyta'n iach ac yn annog bwyta bwydydd a diodydd maethlon, gan gynnwys llaeth a chynhyrchion llaeth. Mae hyn yn cyfrannu at y nifer o ddysgwyr sy'n manteisio ar y ddarpariaeth bwyd ysgol ac yn cefnogi ymddygiadau bwyta iach.

Amcan polisi

Bydd y trefniadau dosbarthu presennol ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn dod i ben, a bydd angen cael trefniadau newydd ar waith erbyn mis Ebrill 2027. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dau opsiwn:

  • (Opsiwn 1): disodli’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, sef y gyfraith bresennol a gymathwyd, a weithredir drwy strategaeth ar y cyd rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac a weinyddir gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, gyda model a ariennir gan grant a ddarperir drwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, neu
  • (Opsiwn 2): Dod â'r cynllun llaeth pwrpasol i ben, gan gydnabod y byddai llaeth yn parhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio ysgol i ddysgwyr sy’n cymryd rhan.

Amcan Opsiwn 1 yw cynnal hawliau llaeth presennol i ddysgwyr cymwys drwy fodel cyflenwi symlach a mwy cynaliadwy. Byddai'r cynnig yn:

  • disodli gweinyddiaeth yr Asiantaeth Taliadau Gwledig gyda darpariaeth gan awdurdodau lleol a ariennir gan y Grant Addysg Awdurdod Lleol
  • cadw hawliau presennol i laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal
  • lleihau'r baich gweinyddol drwy ddisodli'r system bresennol sy'n seiliedig ar hawliadau

Nod yr opsiwn hwn yw cefnogi parhad y ddarpariaeth, gan sicrhau ar yr un pryd bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd yn agosach â rhaglenni bwyd ysgol ehangach.

Amcan Opsiwn 2 yw pennu a yw cynllun llaeth ar wahân yn parhau i fod yn angenrheidiol o ystyried y cynnig bwyd ysgol ehangach sydd bellach ar gael i ddysgwyr ers cyflwyno'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, gan gynnwys Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast ysgol.

Byddai dysgwyr yn parhau i gael llaeth drwy'r cynnig brecwast a chinio. Fodd bynnag, fel yr amlinellwyd yn yr adran Bylchau Allweddol mewn Tystiolaeth, mae tystiolaeth o'r defnydd o laeth yn y dyfodol yn gyfyngedig ac yn seiliedig ar gyfranogiad dysgwyr.

Gallai Opsiwn 2 symleiddio proses weinyddol a lleihau costau cyflawni i ysgolion ac awdurdodau lleol ond gallai wneud cyfraniad gwannach at yr amcanion polisi a gefnogir ar hyn o bryd gan y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Opsiwn 1

Tystiolaeth

Mae Opsiwn 1 yn cefnogi datblygu cynaliadwy drwy gynnal y mynediad presennol at laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr cymwys drwy fodel cyflenwi newydd. Gall llaeth gyfrannu at faeth plant a chanlyniadau iechyd ehangach fel rhan o ddeiet cytbwys. 

Nododd ymgysylltiad rhanddeiliaid ag awdurdodau lleol, ysgolion, cyflenwyr a'r Asiantaeth Taliadau Gwledig y gall y model presennol sy'n seiliedig ar hawliadau fod yn feichus yn weinyddol a gall fod yn rhwystr i gyfranogiad. Llywiodd y dystiolaeth hon ddatblygiad model symlach a ariennir gan grantiau a gyflwynwyd drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol.

Mae amrywiaeth o dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli wedi llywio parhad y polisi hwn a datblygiad y broses o'i gyflawni:

  • Mae tystiolaeth faethol yn dangos bod llaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol at hydradiad, iechyd esgyrn, iechyd deintyddol a datblygiad cyffredinol plant. Mae'r canllaw bwyta'n dda yn dangos y cyfrannau a'r gwahanol fathau o fwydydd i gyflawni deiet cytbwys.
  • Mae ymchwil o'r Ffederasiwn Cynnyrch Llaeth Rhyngwladol (Saesneg yn unig) yn dangos bod cynlluniau llaeth ysgol yn gysylltiedig â chymeriant gwell o galsiwm a fitamin D, ochr yn ochr ag effeithiau cadarnhaol ar ddangosyddion twf. 
  • Mae tystiolaeth o Frontiers in Nutrition (Saesneg yn unig) yn awgrymu bod cymeriant llaeth yn gysylltiedig â gwell gweithrediad gwybyddol ymysg plant 6 i 12 oed. 
  • Mae tystiolaeth polisi yng Nghymru yn nodi bod ymyriadau bwyd ysgol (Pwysau Iach: Cymru Iach a Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 a Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion 2025) er enghraifft gan gynnwys llaeth, yn cyfrannu at y canlynol: 
    • llesiant gwell
    • ymddygiad gwell a gallu gwell i ganolbwyntio
    • cyrhaeddiad addysgol gwell
    • llai o anghydraddoldebau

Mae data caffael llaeth ysgol yn dangos bod yr ysgolion sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd yn darparu cannoedd ar filoedd o ddognau llaeth unigol i ddysgwyr bob blwyddyn ar draws sawl ardal awdurdod lleol.

Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Nid ymgysylltwyd yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ar gyfer Opsiwn 1 am fod y cynnig yn ymwneud â newid mewn dull cyflawni yn hytrach na newid i hawl neu ddarpariaeth. Felly, ni ragwelir unrhyw newid sylweddol i brofiad ‘dyddiol’ dysgwyr o'r cynllun, er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y posibilrwydd o ddileu cymhwysedd ysgolion annibynnol fel rhan o'r cynllun newydd.

Opsiynau 2

Tystiolaeth

Ni fyddai rhoi’r gorau i’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn effeithio ar rwymedigaethau ysgolion o dan y Rheoliadau Bwyta’n Iach, a byddai dysgwyr yn parhau i gael mynediad at fwyd a diod drwy’r cynnig bwyd ysgol ehangach, gan gynnwys llaeth.

Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i benderfynu a fyddai dysgwyr sy'n cael llaeth drwy'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar hyn o bryd yn yfed symiau cyfatebol pe bai'r cynllun pwrpasol yn dod i ben. O ganlyniad, efallai y bydd gan rai dysgwyr lai o gyfleoedd i gael mynediad at laeth yn ystod y diwrnod ysgol, er bod graddfa unrhyw effaith ar iechyd o ganlyniad i hynny yn ansicr.

Mae llaeth yn darparu protein ac amrywiaeth o fitaminau a mwynau hanfodol, gan gynnwys calsiwm, fitamin A, fitaminau B, ïodin a fitamin D, sy'n cefnogi twf a datblygiad iach ac yn cyfrannu at esgyrn a dannedd iach. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y bydd unrhyw effeithiau maethol ar lefel y boblogaeth o ganlyniad i derfynu'r cynllun yn debygol o fod yn gyfyngedig, oherwydd gellir cael y maetholion hyn hefyd drwy ffynonellau deietegol eraill a darpariaeth bwyd ysgol ehangach. 

Er mwyn asesu effaith bosibl rhoi’r gorau i’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi casglu tystiolaeth ar lefelau presennol y defnydd o laeth gan ddysgwyr, y graddau y mae llaeth eisoes ar gael drwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast ysgol, ac effeithiau maethol, cydraddoldeb a llesiant posibl cael gwared ar y cynllun llaeth pwrpasol.

O ran Opsiwn 2, byddai Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast am ddim yn parhau i gael eu darparu yn unol â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach, gyda llaeth ar gael i ddysgwyr o dan y ddau gynnig. Fodd bynnag, gallai cael gwared ar y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol pwrpasol leihau pa mor aml y mae rhai plant yn yfed llaeth yn ystod y diwrnod ysgol, yn enwedig lle nad ydynt yn cymryd rhan yn y ddarpariaeth brecwast neu'n dewis diodydd amgen amser cinio.

Yn ôl data yr Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol (NDNS) 2019 i 2023, y pryder mwyaf o ran maetholion sy'n gysylltiedig ag yfed llaeth yw cymeriant ïodin, yn enwedig ymhlith merched 11 i 18 oed. Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod plant fel arfer yn bwyta mwy na'r cymeriant dyddiol a argymhellir o galsiwm a phrotein, sy'n golygu na fyddai gostyngiad cymedrol yn y llaeth a yfir yn debygol o gael effaith sylweddol ar gymeriant y maetholion hynny.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn datgan bod deietau iach a maeth da hefyd yn cefnogi amcanion addysgol a dysgu, ac mae UNICEF a phartneriaid yn nodi bod rhaglenni iechyd a maeth ysgolion yn fuddsoddiadau pwysig yn llesiant a datblygiad dysgwyr (Sefydliad Iechyd y Byd, 2023). Mae'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn ymyrraeth sefydledig a gydnabyddir yn eang sy'n cefnogi'r ethos hwn. Er ei bod yn anodd ynysu cyfraniad penodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol at ganlyniadau addysgol, dylid ystyried unrhyw newidiadau mewn mynediad at fwydydd a diodydd maethlon o fewn amgylchedd yr ysgol yng nghyd-destun llesiant ehangach dysgwyr. 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i blant a allai ddibynnu ar laeth ysgol fel ffynhonnell faeth reolaidd ac a fyddai darpariaeth gyfatebol yn parhau trwy'r trefniadau bwyd ysgol presennol.

Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc

Nid oes unrhyw ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc wedi'i wneud ar hyn o bryd. Gan y gallai Opsiwn 2 effeithio ar y ffordd mae rhai plant yn cael llaeth yn ystod y diwrnod ysgol, dylai barn dysgwyr ffurfio rhan o'r sail dystiolaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Felly, bydd yr ymgysylltu a gynhelir fel rhan o'r ymgynghoriad arfaethedig yn cynnwys dull priodol o gael barn plant iau, gan gynnwys dysgwyr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 sydd ymhlith y rhai y mae'r hawl i laeth am ddim ar hyn o bryd yn effeithio arnynt fwyaf uniongyrchol. O ystyried eu hoedran, ni fydd hyn yn dibynnu'n llwyr ar y brif ddogfen ymgynghori ysgrifenedig. Bydd dulliau ymgysylltu priodol, hygyrch ac sy'n sensitif i oedran yn cael eu defnyddio fel bod gan blant iau gyfle ystyrlon i fynegi eu barn.

Bydd y dull yn cael ei gynllunio i gefnogi hawl y plentyn i fynegi ei farn mewn materion sy'n effeithio arno o dan Erthygl 12 o CCUHP.

Er na chynhaliwyd unrhyw ymgysylltiad uniongyrchol â dysgwyr ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol hyd yma, yn 2025 casglodd Llywodraeth Cymru farn bron i 1,000 o blant a phobl ifanc drwy’r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion. Yn gyffredinol, roedd plant a phobl ifanc yn cefnogi mesurau i hyrwyddo bwyd a diod iachach mewn ysgolion. Cefnogodd dros hanner yr ymatebwyr gynigion i gyfyngu diodydd ysgol i ddŵr plaen, llaeth plaen a dewisiadau amgen plaen sy'n seiliedig ar blanhigion, er bod rhai plant wedi mynegi bod yn well ganddynt ddiodydd meddal a diodydd ffrwythau. Mae hyn yn awgrymu bod dysgwyr yn cydnabod llaeth fel rhan sefydledig o'r cynnig bwyd iach yn yr ysgol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ystyried dewisiadau dysgwyr wrth wneud newidiadau sy'n effeithio ar y ddarpariaeth bwyd a diod. Mae'r canfyddiadau hyn yn darparu tystiolaeth gyd-destunol ddefnyddiol ond nid ydynt yn disodli'r angen am ymgysylltiad penodol ar ddyfodol darpariaeth llaeth ysgol.

Fel rhan o'r ymgynghoriad a gynlluniwyd, gwneir trefniadau penodol i alluogi plant a phobl ifanc i fynegi eu barn mewn ffyrdd sy'n briodol i'w hoedran a'u dealltwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys dull sy'n addas ar gyfer dysgwyr iau o oedran cynradd, yn enwedig y rhai o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar y prif ymgynghoriad ysgrifenedig. Bydd y dystiolaeth sy'n deillio o hyn yn cael ei hystyried ochr yn ochr ag ymatebion gan rieni, ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill cyn gwneud unrhyw benderfyniad polisi terfynol.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Erthyglau neu brotocolau dewisol CCUHP sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig

Wrth baratoi'r Asesiad Effaith Hawliau Plant hwn, rhoddwyd ystyriaeth i Arsylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar chweched a seithfed adroddiad cyfnodol cyfun y Deyrnas Unedig, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • lles pennaf y plentyn
  • parchu safbwyntiau'r plentyn
  • plant ag anableddau
  • gwasanaethau iechyd a llesiant

Mae'r Asesiad Effaith Hawliau Plant hwn wedi ystyried y cynigion polisi ac effaith dod â’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben, o ystyried y gall dysgwyr gael llaeth drwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast, neu gyflwyno cynllun newydd i Gymru a ddarperir drwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol o fis Ebrill 2027.

Asesir bod Opsiwn 1 yn gwella hawliau plant drwy gynnal mynediad at laeth i ddysgwyr cymwys. Gall Opsiwn 2 gael effeithiau cymysg, gan fod darpariaeth amgen yn parhau i fod ar gael, ond gallai mynediad ddod yn llai cyson i rai plant.

Erthygl 1 ac erthygl 2: peidio â gwahaniaethu

Disgwylir i Opsiwn 1 gael effaith gadarnhaol ar Erthyglau 1 a 2 gan ei fod yn cynnal yr hawl bresennol i laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal ar gyfer dysgwyr cymwys. Mae'r cynnig yn cefnogi mynediad parhaus a chyfartal at ddarpariaeth faethol waeth beth fo'r cefndir neu'r amgylchiadau personol.

Gall Opsiwn 2 gyflwyno heriau o dan Erthyglau 1 a 2 oherwydd gallai tynnu cynllun llaeth pwrpasol yn ôl gael effaith anghymesur ar rai grwpiau o blant. Gall hyn gynnwys plant o gartrefi incwm is, dysgwyr sy'n mynychu ysgolion arbennig a dysgwyr nad ydynt yn cael mynediad at ddarpariaeth brecwast na phrydau ysgol yn rheolaidd. Er bod darpariaeth amgen yn parhau i fod ar gael, nid oes digon o dystiolaeth i benderfynu a fyddai pob dysgwr yn cael llaeth i'r un graddau.
 

Erthygl 3: dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Mae Opsiwn 1 yn cynnal y ddarpariaeth bresennol, er y gellir effeithio ar ysgolion annibynnol os caiff cymhwysedd ei ddileu o dan y cynllun newydd yn dilyn ymgynghoriad. Mae buddiannau gorau'r plentyn yn ystyriaeth flaenllaw wrth asesu a yw parhad cynllun llaeth pwrpasol yn parhau i fod yn angenrheidiol.

Er y byddai llaeth yn parhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio ysgol, nid yw'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn dangos p'un a fyddai plant sy'n cael budd o'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar hyn o bryd yn parhau i yfed meintiau cyfatebol o laeth pe bai'r cynllun yn cael ei dynnu'n ôl. Mae'r ansicrwydd hwn wedi cael ei drin fel ystyriaeth berthnasol wrth asesu Opsiwn 2.

Erthygl 6: mae gan bob plentyn hawl i fyw. Dylai llywodraethau ofalu bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach

Mae Opsiwn 1 yn cefnogi Erthygl 6 drwy gynnal mynediad at laeth, sy'n cyfrannu at faeth, twf a datblygiad iach plant. Mae parhad y cynllun hefyd yn lleihau'r risg o amharu ar ffynhonnell sefydledig o gefnogaeth faethol.

Gall Opsiwn 2 gael effaith niwtral i negyddol ar Erthygl 6. Er na fyddai mynediad at laeth yn cael ei ddileu’n llwyr, gallai tynnu cynllun pwrpasol yn ôl leihau pa mor aml y mae rhai plant yn yfed llaeth yn ystod y diwrnod ysgol. Efallai y bydd yr effaith yn fwy arwyddocaol i blant sy'n dibynnu ar laeth ysgol fel ffynhonnell faeth reolaidd.

Erthygl 12: mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried

Dylid a bydd ymgynghori â phlant cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Gan fod Opsiwn 1 yn cynnal y ddarpariaeth bresennol i raddau helaeth, mae'r effaith ar Erthygl 12 yn gyfyngedig. Fodd bynnag, gallai adborth dysgwyr barhau i lywio gwerthusiadau yn y dyfodol o'r cynllun a pholisi bwyd ysgol ehangach.

Gan y gallai Opsiwn 2 effeithio ar y ffordd mae rhai plant yn cael mynediad at laeth yn ystod y diwrnod ysgol, byddai barn dysgwyr yn cael ei cheisio drwy ymgynghoriad a'i hystyried cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.

Erthygl 13: mynediad at wybodaeth

Mae gan blant hawl i dderbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i benderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Os bydd y polisi yn newid, bydd angen cyfleu gwybodaeth mewn fformat sy’n briodol i oedran ac yn hygyrch. Mae Opsiwn 1 yn rhoi cyfle i sicrhau bod dysgwyr a theuluoedd yn derbyn gwybodaeth glir ynghylch darpariaeth llaeth a hawl iddo.

Byddai hyn yn arbennig o bwysig o dan Opsiwn 2, lle gallai ffynhonnell benodol o ddarpariaeth llaeth ddod i ben ac efallai y bydd angen gwybodaeth ar ddysgwyr am lwybrau amgen i gael mynediad at laeth drwy ddarpariaeth bwyd ysgol.

Erthygl 23: yn sicrhau bod gan blant ag anableddau hawliau cyfartal i fywyd teuluol, addysg, gofal iechyd a chyfranogiad cymdeithasol, gyda chymorth wedi'i deilwra i'w hanghenion

Mae Opsiwn 1 yn cynnal y ddarpariaeth bresennol ac ni ddisgwylir iddo effeithio'n andwyol ar ddysgwyr anabl na dysgwyr ag ADY.

O dan Opsiwn 2, efallai yr effeithir ar rai dysgwyr yn anghymesur os byddant yn dibynnu ar y cysondeb a'r drefn a gynigir gan ddarpariaeth llaeth ysgol bwrpasol, er bod graddau unrhyw effaith yn ansicr.

Erthygl 24: mae gan blant yr hawl i gael gofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân er mwyn iddyn nhw gadw’n iach

Cynhelir mynediad pwrpasol at laeth maethlon o dan Opsiwn 1.

Gallai Opsiwn 2 arwain at fynediad llai cyson at laeth i rai dysgwyr. Er y byddai llwybrau amgen i ddarpariaeth yn parhau i fod ar gael drwy'r rhaglenni bwyd ysgol presennol, byddai llwybrau amgen i ddarpariaeth yn parhau i fod ar gael trwy'r rhaglenni bwyd ysgol presennol.

Mae tystiolaeth o'r ymgynghoriad diweddar ar Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn dangos cefnogaeth eang i ddarparu bwyd a diod iachach mewn ysgolion. Cefnogodd dros hanner yr ymatebwyr gynigion i gyfyngu diodydd ysgol i ddŵr plaen, llaeth plaen a dewisiadau amgen plaen sy'n seiliedig ar blanhigion, ac roedd plant a phobl ifanc fel arfer yn cefnogi mesurau a gynlluniwyd i hyrwyddo bwyd ysgol iachach. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod llaeth yn cael ei ystyried yn elfen sefydledig o amgylchedd bwyd ysgol iach ac maent yn berthnasol wrth ystyried effeithiau posibl newidiadau i ddarpariaeth llaeth ysgol o dan Erthygl 24 o CCUHP.

Erthygl 26: dylai'r Llywodraeth ddarparu arian ychwanegol i blant teuluoedd mewn angen

Mae Opsiwn 1 yn parhau â chymorth a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer mynediad at laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal.

Mae Opsiwn 2 yn dileu'r mecanwaith cymorth penodol hwn, er y byddai rhaglenni bwyd ysgol ehangach, gan gynnwys prydau ysgol am ddim a darpariaeth brecwast, yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr. Gall plant o gartrefi incwm is fod yn fwy dibynnol ar gymorth maethol yn yr ysgol. Er y byddai llaeth yn parhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio, gallai tynnu cynllun pwrpasol yn ôl leihau cysondeb mynediad i rai dysgwyr. Gallai hyn ymwneud ag Erthyglau 26 a 27 lle mae llaeth ysgol yn rhan o gymorth maethol ehangach plentyn.

Erthygl 27: mae gan blant yr hawl i safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Rhaid i'r Llywodraeth helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn

Mae Opsiwn 1 yn cefnogi mynediad at fwyd a diod maethlon o fewn amgylchedd yr ysgol, gan helpu i gefnogi llesiant a safonau byw plant.

Gallai Opsiwn 2 arwain at fynediad llai cyson at laeth i rai dysgwyr, er y byddai llwybrau amgen i ddarpariaeth yn parhau i fod ar gael drwy'r rhaglenni bwyd ysgol presennol.

Effeithiau ar blant

Mae diffyg ymgysylltiad uniongyrchol â dysgwyr ar y cam hwn yn cyfyngu ar y sail dystiolaeth a bydd yn cael sylw drwy weithgarwch ymgynghori os eir ymlaen â chynigion sy'n effeithio ar fynediad plant at laeth.

Opsiwn 1

Asesir mai effaith niwtral y caiff Opsiwn 1 ar blant a phobl ifanc. Mae'r cynnig yn cynnal yr hawl bresennol i laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal wrth gyflwyno mecanwaith dosbarthu newydd drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol. I'r rhan fwyaf o ddysgwyr, byddai cymhwysedd a darpariaeth yn aros yr un fath ac ni nodwyd unrhyw effeithiau andwyol ar fynediad i'r cynllun. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y posibilrwydd o ddileu cymhwysedd ysgolion annibynnol ac, os caiff ei weithredu, ni fyddai nifer bach o ddysgwyr sy'n mynychu'r sefydliad yr effeithir arno yn gallu manteisio ar ddarpariaeth llaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru mwyach oni fyddai trefniadau ariannu amgen yn cael eu rhoi ar waith gan yr ysgol. Disgwylir i raddfa'r effaith fod yn gyfyngedig gan mai dim ond un ysgol annibynnol sy'n cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd.

Mae'r brif risg yn ymwneud â chyflawni a chysondeb y ddarpariaeth ym mhob awdurdod lleol. Ystyrir bod y risg hon yn isel a byddai'n cael ei rheoli drwy amodau grant, trefniadau monitro ac ymgysylltu parhaus â phartneriaid cyflawni.

Ni ddisgwylir i Opsiwn 1 gael effaith uniongyrchol ar hawl plant i laeth am ddim neu laeth â chymhorthdal. Yn yr un modd, ni ddisgwylir i barhad y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol gael unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar iechyd. Mae eisoes yn ofynnol i brydau ysgol a darpariaeth brecwast gydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach a'r safonau maeth cysylltiedig.

Mae'r Cynllun yn eistedd ochr yn ochr â'r safonau maeth statudol sy'n gymwys i frecwast a chinio ysgol, yn hytrach nag o fewn y safonau hynny, ac felly'n rhoi cyfle ychwanegol i ddysgwyr gael mynediad at laeth yn ystod y diwrnod ysgol. Mae llaeth yn cynnwys calsiwm, protein a fitaminau sy'n cefnogi twf a datblygiad. Er y gall rhai dysgwyr gael llaeth drwy nifer o raglenni bwyd ysgol, mae'r meintiau dognau cymharol fach dan sylw yn golygu bod unrhyw risg o ormodedd yn cael ei hystyried yn isel. Y brif ystyriaeth felly yw'r graddau y mae cynllun llaeth pwrpasol yn gwella hygyrchedd, defnydd a mynediad cyfartal o gymharu â'r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael drwy brydau ysgol a gwasanaethau brecwast.

Disgwylir ar y cyfan i'r polisi gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc:

  • Bydd pob plentyn cymwys mewn ysgolion a gynhelir (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6) yn parhau i gael llaeth am ddim neu â chymhorthdal, gan gefnogi iechyd a llesiant.
  • Mae'n debyg mai plant o gartrefi incwm isel fydd yn cael y budd mwyaf, gan fod y cynllun yn lleihau ansicrwydd bwyd ac yn darparu mynediad cyson at faeth.
  • Gall plant mewn ysgolion a arferai fod wedi'u rhwystro gan gymhlethdod gweinyddol gael budd o fwy o fynediad a chyfranogiad oherwydd prosesau symlach.

Effeithiau negyddol posibl a risgiau

  • Os bydd awdurdodau lleol yn dadflaenoriaethu'r cynllun ac yn peidio â derbyn y cynnig grant, gallai rhai plant brofi llai o fynediad o gymharu ag eraill.
  • Pe bai cymhwysedd ysgol annibynnol yn cael ei ddileu yn dilyn ymgynghoriad, ni fyddai nifer bach o ddysgwyr sy'n mynychu'r sefydliad yr effeithir arno yn gallu manteisio ar ddarpariaeth llaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru mwyach.

Mae'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru drwy delerau ac amodau'r grant a monitro ac ymgysylltu parhaus ag awdurdodau lleol ac Ysgolion.

Opsiwn 2

Asesir mai effaith bosibl niwtral i negyddol y bydd Opsiwn 2 yn ei chael ar blant a phobl ifanc. Er y byddai dysgwyr yn parhau i gael mynediad at fwyd a diod drwy'r cynnig bwyd ysgol ehangach, byddai cael gwared ar y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn dileu llwybr pwrpasol i ddarparu llaeth. Nid oes digon o dystiolaeth i benderfynu a fyddai dysgwyr sy'n cael llaeth drwy'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar hyn o bryd, yn yfed meintiau cyfatebol pe bai'r cynllun yn dod i ben.

Ni all yr asesiad dybio y byddai pob plentyn sy'n cael llaeth ysgol ar hyn o bryd yn yfed swm cyfatebol o laeth drwy ddarpariaeth amgen. O ganlyniad, mae risg y gallai rhai plant gael llai o laeth, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn darpariaeth brecwast na phrydau ysgol. Gallai hyn gael goblygiadau i Erthyglau 24 a 27 o CCUHP a gallai effeithio’n anghymesur ar blant difreintiedig.

Asesir y gallai effaith gyffredinol dod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben fod yn niwtral i negyddol. Er y gall llawer o blant barhau i gael mynediad at laeth trwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast, mae risg y gall rhai plant gael llai o fynediad at laeth a'r manteision maethol sy'n gysylltiedig ag ef. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i blant o gartrefi incwm isel, plant sy'n mynychu ysgolion arbennig, ac unrhyw grwpiau a allai ddibynnu ar laeth ysgol fel ffynhonnell faeth reolaidd.

Nid oes digon o dystiolaeth i benderfynu a fyddai dysgwyr sy'n cael llaeth drwy'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar hyn o bryd, yn yfed meintiau cyfatebol pe bai'r cynllun yn dod i ben. Gall yr ansicrwydd hwn fod yn arbennig o berthnasol i'r canlynol:

  • dysgwyr o aelwydydd incwm isel
  • dysgwyr ag ADY neu sy'n mynd i ysgolion arbennig
  • dysgwyr nad ydynt yn cael mynediad rheolaidd at Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd na darpariaeth brecwast am ddim
  • dysgwyr sydd ond yn cael llaeth drwy'r cynllun pwrpasol ar hyn o bryd

Bydd angen rhagor o dystiolaeth ac ymgysylltu â phlant, ysgolion, awdurdodau lleol, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynlluniwyd i benderfynu a yw'r ddarpariaeth bwyd ysgol bresennol yn cynnig dewis arall effeithiol a theg i'r cynllun presennol.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Bydd gwybodaeth am yr ymgynghoriad ac unrhyw benderfyniad dilynol yn cael ei chyfleu i blant a phobl ifanc mewn ffordd hygyrch sy'n briodol i'w hoedran. Bydd y dull cyfathrebu yn cydnabod bod y dysgwyr y mae'r cynllun presennol yn effeithio arnynt yn cynnwys plant ifanc o oedran cynradd, yn enwedig y rhai o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2.

Felly ni fydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn dibynnu'n llwyr ar y brif ddogfen ymgynghori ysgrifenedig i gael barn plant. Bydd dulliau priodol yn cael eu defnyddio i alluogi dysgwyr iau i ddeall y newidiadau arfaethedig a chyfleu eu barn mewn ffordd sy'n addas i'w hoedran a'u dealltwriaeth.

Bydd y wybodaeth a ddarperir i ddysgwyr yn canolbwyntio ar yr hyn y gallai'r opsiynau arfaethedig ei olygu iddynt yn ymarferol, gan gynnwys a fyddent yn parhau i dderbyn llaeth yn yr ysgol a sut y byddai hynny'n digwydd. Rhoddir ystyriaeth hefyd i hygyrchedd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac a oes angen cefnogaeth gan ysgolion neu oedolion dibynadwy i hwyluso cyfranogiad heb roi barn oedolion yn lle barn y plentyn.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhoddir ystyriaeth hefyd i'r ffordd y dylid egluro'r canlyniad ac unrhyw newidiadau i ddarpariaeth llaeth ysgol i blant a phobl ifanc mewn fformat hygyrch.

Cyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol

Trefnwyd ymgynghoriad gydag Youth Cymru i drafod y ddau opsiwn a'r effeithiau y byddant yn eu cael ar blant a phobl ifanc.

Opsiwn 1

Gellir ystyried adborth dysgwyr fel rhan o unrhyw adolygiad neu werthusiad yn y dyfodol o ddarpariaeth bwyd ysgol, gan gynnwys y cynllun llaeth. Lle mae cynigion ymgynghori sy'n ymwneud â chymhwysedd ysgolion annibynnol yn cael eu gweithredu, gellir ystyried adborth gan ddysgwyr, ysgolion a rhanddeiliaid yr effeithir arnynt hefyd fel rhan o brosesau monitro a gwerthuso ar ôl gweithredu.

Opsiwn 2

Gan y gallai Opsiwn 2 effeithio ar y ffordd mae rhai plant yn cael mynediad at laeth yn ystod y diwrnod ysgol, dylid ceisio barn dysgwyr cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Byddai ymgysylltu’n canolbwyntio ar ddeall:

  • sut mae dysgwyr yn cael mynediad at laeth ysgol ar hyn o bryd
  • a fyddent yn parhau i gael mynediad at laeth drwy ddarpariaeth bwyd ysgol ehangach
  • a yw grwpiau penodol yn credu y byddai tynnu'r cynllun yn ôl yn effeithio'n andwyol arnynt

Byddai adborth gan ddysgwyr, ochr yn ochr â thystiolaeth gan ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, yn llywio penderfyniadau a wneir yn y dyfodol ac yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth ag Erthygl 12 o CCUHP.

Gweithredu, monitro ac adolygu

Bydd yr Asesiad Effaith Hawliau Plant yn cael ei adolygu'n gyson wrth i'r polisi ddatblygu a, lle bo'n berthnasol, drwy gydol y broses weithredu.

Ar gyfer Opsiwn 1, bydd monitro yn canolbwyntio ar weithredu'r model cyflawni newydd, cysondeb y ddarpariaeth, ac unrhyw effeithiau sy'n deillio o newidiadau i gymhwysedd y cynllun ar ôl ymgynghori. Bydd ymgysylltu parhaus ag awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid cyflawni, wedi'i ategu gan amodau grant a gofynion adrodd, yn llywio'r broses hon.

Os caiff Opsiwn 2 ei ddatblygu, bydd y monitro yn canolbwyntio ar effaith rhoi'r gorau i'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol ar fynediad plant at laeth a darpariaeth bwyd ysgol ehangach, gan roi ystyriaeth benodol i ddysgwyr a grwpiau dan anfantais a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Hawliau Plant hwn.

Bydd yr Asesiad Effaith Hawliau Plant yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n barhaus i adlewyrchu newidiadau a thystiolaeth o ymgysylltu pellach â dysgwyr, ysgolion, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill.