Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Croeso i Adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy'n amlinellu ein cynigionynglŷn â chyflog, treuliau a buddiannau i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i'w cyflwyno o fis Ebrill 2024.

Bu hon yn flwyddyn o newid i'r Panel, gydag ymadawiad un aelod hirsefydlog a phenodiad dau aelod newydd. Hoffwn ddiolch i Helen Wilkinson am ei chyfraniad drosy blynyddoedd i'r Panel a dymuno'n dda iddi at y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, dim ond tri aelod o'r Panel oedd, sef lleiafswm yr aelodau a ganiateir er mwyn  i gyfarfodydd y Panel wneud cworwm. Yn gynharach yn ystod y flwyddyn hon, llwyddwyd i benodi dau aelod newydd sy'n golygu bod gan y Panel bum aelod erbyn hyn. Hoffwn groesawu Dianne Bevan a Kate Watkins i'r Panel a diolch i Saz Willey yr Is-gadeirydd, a Bev Smith am eu cyfraniad drwy gydol y flwyddyn. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am aelodau'r Panel ar ein gwefan.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Rhan 8 (Y Mesur), sy'n rhoi'r awdurdod statudol dros waith y Panel, yn caniatáu i o leiaf 3 aelod a hyd at 7 aelod gael eu penodi.

Mae'r Adroddiad Blynyddol drafft hwn bellach yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Unwaith eto, rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol y byddem yn croesawu eich adborth arnynt. Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol ar fanylion y Penderfyniadau arfaethedig neu ar feysydd perthnasol eraill y dylai'r Panel eu hystyried yn eich barn chi.

Daw'r Ymgynghoriad i ben ar 20 Rhagfyr ac ar ôl trafod eich adborth, a rhoi sylw i unrhyw newid mewn amgylchiadau, bydd y Panel yn cyhoeddi ei Benderfyniadau Terfynol a'iAdroddiad Blynyddol erbyn 28 Chwefror 2024.

Frances Duffy
Cadeirydd

Aelodau'r Panel

Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith
Dianne Bevan
Kate Watkins

Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau, ein Cynllun Strategol, ein trafodaethau ac ymchwil a thystiolaeth ategol ar y wefan Gwefan y panel.

Cyflwyniad

Y flwyddyn hon, gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Strategol cyntaf. Mae hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2023 a 2025 ac mae'n amlinellu'r fframwaith ar gyfer ein trafodaethau a chyd-destun ehangach ein penderfyniadau. Mae'r yr elfennau allweddol wedi’u nodi isod o dan Rolau a Chyfrifoldebau'r Panel.

Ar ôl cryfhau'r Panel, roeddem yn gallu canolbwyntio ar lunio ein cynllun ymchwil a thystiolaeth i gefnogiein trafodaethau ar ein fframwaith cydnabyddiaeth ariannol. Caiff ein cynllun tystiolaeth ei gyhoeddi ar ein gwefan yn unol â'n nod o fod yn agored ac yn dryloyw yn ein holl benderfyniadau.

Ein nod o hyd yw sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg ac yn rhesymol. Gwnaethom gytuno i barhau i gysoni lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng nghyd-destun enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae hyn wedi golygu defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yng Nghymru (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fel y prif feincnod wrth bennu cydnabyddiaeth ariannol.

Mae'r Mesur yn nodi bod yn rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar awdurdodau perthnasol. Ystyriodd y Panel dystiolaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus a'r effaith ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Er bod cyfanswm cost cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig yn gymharol isel yn nhermau'r cyllidebau cyffredinol, roedd y Panel yn ystyriol o'r pwysau economaidd a chyllidol cynyddol ar Brif Gynghorau.

Wrth wneud ein penderfyniad i barhau i gysylltu cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig agenillion cyfartalog eu hetholwyr, cred Panel o hyd y bydd pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn parhau i gefnogi aelodau etholedig a heb greu rhwystr i gyfranogi. Mae hon yn egwyddor bwysig, sy'n sail i'n hystyriaethau o gydnabyddiaeth ariannol briodol.

Yn unol â'n hymrwymiad i symleiddio prosesau adrodd a chydymffurfio, y flwyddyn hon, edrychodd y Panel ar y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Rydym yn parhau i gael ymholiadau ynglŷnâ thriniaeth TWE y lwfans gorfodol am weithio gartref (£156 y flwyddyn) a'r opsiwn o dalucyfradd safonol o £52 y flwyddyn am nwyddau traul. Byddwn yn diweddaru ein canllawiau ar y mater hwn, a ddylai roi eglurder i glercod lleol.

Rydym hefyd yn ystyriol o'r cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n penderfynu peidio â hawlio'r symiau y mae ganddynt hawl iddynt, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ac er bod  rhai yn parhau i wneud hyn, mae'r niferoedd yn lleihau. Credwn yn gryf y dylai cynghorwyr gael eu had-dalu am rai o'r treuliau y mae'n rhaid iddynt fynd iddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i bob cyngor gyflwyno adroddiad i'r Panel bob blwyddyn, a chyhoeddi manylion  ac enwau pob cynghorydd sy'n cael unrhyw dreuliau ar ei wefan. Mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaethom gytuno, o ran costau lwfansau gofal a chymorth personol, y byddai'n amhriodol enwi cynghorwyr unigol, ac y byddai'n ddigon rhestru'r cyfansymiau a dalwyd a chyfanswm nifer y derbynyddion.

Mae'r Panel yn teimlo y byddai'n briodol i hyn ymestyn i'r taliad gorfodol am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol am nwyddau traul a hawliadau teithio a chynhaliaeth. Bydd hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd cyhoeddus a phreifatrwydd unigolion, ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog pawb i hawlio'r taliadau y mae ganddynt yr hawl i'w derbyn.

Felly, byddwn yn darparu adroddiad templed newydd i'w ddefnyddio o fis Medi 2024 a byddwn yn parhau i fonitro lefel y taliadau a wneir.

Y maes olaf a ystyriwyd gan y Panel y flwyddyn hon oedd y dull o gyfrifo taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig o Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Yn dilyn adborth ar Adroddiad Blynyddol y flwyddyn diwethaf ac ymholiadau a godwyd drwy gydol y flwyddyn gan rai aelodau cyfetholedig a chan sawl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, cymerodd y Panel dystiolaeth gan y gohebwyr ynglŷn ag effaith y cynnydd yn nifer yr aelodau cyfetholedig a natur newidiol patrymau gwaith. Roedd hyn yn dangos nad oedd y trefniant presennol o gyfradd hanner diwrnod am unrhyw beth hyd at 4 awr a chyfradd diwrnod llawn am unrhyw beth dros hynny, yn ddigon hyblyg i adlewyrchu'r patrymau gwaith sy'n fwy arferol erbyn hyn, yn bennaf o ganlyniad i fwy o weithio ar-lein neu weithio hybrid.

Felly, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd i'r swyddog perthnasol lleol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod a phryd y dylid defnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.

Mae'r Panel yn ymwybodol o adborth y gall ein gwefan fod yn anodd i'w defnyddio ac nad yw bob amser yn hawdd dod o hyd i'r Penderfyniad cywir i ymdrin â mater penodol, yn enwedig i aelodau etholedig neu swyddogion newydd. Felly, byddwn yn diweddaru'r dolenni ar y wefan ac yn creu dolen newydd i dudalen fydd yn nodi'r holl Benderfyniadau cyfredol y dylid eu cymhwyso. Caiff ei diweddaru bob blwyddyn pan gaiff yr Adroddiad Blynyddol Terfynol ei gyhoeddi, a'r gobaith yw y bydd hyn yn haws i'w ddefnyddio na gorfod cyfeirio at Adroddiad pob blwyddyn.

Rydym hefyd yn adolygu ein tudalennau ar Ganllawiau (a elwid yn Rheoliadau gynt) a Chwestiynau Cyffredin.

Rôl a Chyfrifoldebau'r Panel

Ein Rôl

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig a chyfetholedig y sefydliadau canlynol a'r trefniadau ar eu cyfer:

  • Prif 
  • Gynghorau: Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
  • Cynghorau Cymuned a Thref
  • Cynghorau cymuned a thref
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod roi'r penderfyniadau a wneir ganddo ar waith.

Rydym yn penderfynu ar y canlynol:

  • y strwythur cyflog ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau
  • y math o lwfansau a delir i aelodau a'u natur
  • a yw taliadau yn orfodol neu a oes rhywfaint o hyblygrwydd lleol
  • trefniadau mewn perthynas ag absenoldeb teuluol
  • trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel

Ein nod cyffredinol:

  • cefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogiad

Ein nodau:

  • dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol ac yn werth am arian i drethdalwyr, ac y cânt eu pennu yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru
  • dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o amrywiaeth eang o gefndiroedd
  • ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i gyfranogi

Ein hamcanion strategol:

  • gwneud Penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • cyfathrebu mewn ffordd glir a hygyrch
  • mynd ati i ymgysylltu ac ymgynghori'n rhagweithiol
  • symleiddio trefniadau cydymffurfio ac adrodd
  • cydweithio

Y Panel:

  • Frances Duffy (Cadeirydd)
  • Saz Willey (Is-gadeirydd)
  • Dianne Bevan (Aelod)
  • Bev Smith (Aelod)
  • Kate Watkins (Aelod)

Ceir rhagor o wybodaeth am aelodau'r Panel ar wefan y Panel.

Methodoleg

Fel y noda ein hamcanion strategol, mae'r Panel wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Y flwyddyn hon, gwnaethom baratoi papur tystiolaeth ac ymchwil i ddwyn ynghyd y gwahanol ffynonellau o wybodaeth a ystyriwyd gan y Panel wrth wneud ei Benderfyniadau drafft. Rhoddodd amrywiaeth eang o ddata, tystiolaeth a ffactorau cyd-destunol er mwyn llywio proses gwneud penderfyniadau'r Panel mewn perthynas â'i Benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025. Roedd hyn yn cynnwys:

  • data ar enillion wythnosol cyfartalog yn y DU ac yng Nghymru, gan gynnwys ASHE yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
  • cyfraddau chwyddiant CPIH a CPI blynyddol
  • meincnodau, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr yn yr Alban
  • ymchwil i lwyth gwaith cynghorwyr, safbwyntiau ac agweddau tuag at gydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)
  • Canfyddiadau Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd Cymru (2019)
  • data a gasglwyd ar nifer y cynghorwyr sy'n hawlio cydnabyddiaeth ariannol a phecynnau buddiannau
  • data ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol

Caiff y set gyflawn o dystiolaeth ac ymchwil a ystyriwyd ei chyhoeddi ar ein gwefan.

Bu'r y Panel yn trafod uniongyrchol â grwpiau sy'n cynrychioli rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i phwyllgor i Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd, Un Llais Cymru, Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae'r trafodaethau hyn yn rhoi cyfle i'r Panel ystyried safbwyntiau ynglŷn â'r trefniadau presennol, effaith penderfyniadau ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithredu'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi. Mae hefyd yn gyflei drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y bydd angen i'r Panel eu hystyried o bosibl mewn perthynas â'i brosesau gwneud penderfyniadau.

Helpodd y Panel i hwyluso sesiynau yn ystod digwyddiadau “Amrywiaeth mewn Democratiaeth” yn gynharach eleni. Drwy hyn, cawsom gyfle i glywed profiadau uniongyrchol nifer o aelodau etholedig, darpar ymgeiswyr a sefydliadau sy'n gweithio i ehangu cynrychioliaeth mewn llywodraeth leol. Rydym wedi defnyddio'r wybodaeth honno i lywio'r adroddiad hwn ac archwilio meysydd i'w hystyried yn y dyfodol.

Y flwyddyn hon, canolbwyntiodd hyn ar dri phrif fater fforddiadwyedd, taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig a gofynion adrodd i Gynghorau Cymuned a Thref. Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein trafodaethau, naill ai'n uniongyrchol neu drwy adborth a chwestiynau am ein hadroddiad diwethaf.

Bydwn nawr yn ymgynghori ar gynigion y Panel ac ar ôl ystyried y safbwyntiau a gawn mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn bydd y Panel yn gwneud ei benderfyniadau terfynol a chyhoeddi Adroddiad Terfynol 2024 i 2025 ym mis Chwefror 2024.

Trafodaethau a phenderfyniadau ar gyfer 2024 i 2025

Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau: Penderfyniad 1

Mae'r cyflog sylfaenol, a delir i bob aelod etholedig, yn gydnabyddiaeth ariannol am ymgymryd â   chyfrifoldeb cynrychioliaeth gymunedol ac am gymryd rhan yn swyddogaethau craffu, swyddogaethau rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig llywodraeth leol. Mae'n seiliedig ar yr hyn sy'n gyfwerth â gweithio tri diwrnod yr wythnos yn amser llawn. Mae'r Panel yn adolygu'r ymrwymiad hwn o ran amser yn rheolaidd, ac ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2024 i 2025.

Mae'r Panel yn ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn ystyriol o'n Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychioliaeth.

Nododd y Panel hefyd, yn y cylchoedd etholiadol blaenorol, fod cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr dipyn yn is na meincnod allweddol Enillion Cyfartalog yr Awr yng Nghymru (ASHE) a bod angen codiad sylweddol felly yn 2022.

Felly, mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 ei bod yn briodol cadw'r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ASHE 2022 i Gymru gyfan, sef y ffigur diweddaraf sydd ar gael ar adeg drafftio'r adroddiad hwn. Y ffigur fydd £18,666.

Cyflogau a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau: Penderfyniad 2

Bydd y terfyn ar nifer yr uwch gyflogau sy'n daladwy (“y cap”) yn parhau.

Mae'r holl uwch gyflogau yn cynnwys taliad y cyflog sylfaenol. Cydnabyddir lefelau gwahanol cyfrifoldeb ychwanegol pob rôl a rhwng pob rôl mewn fframwaith â bandiau. Ni chynigir unrhyw newidiadau i'r bandiau eleni. Bydd yr elfen cyflog sylfaenol yn cynyddu yn unol ag ASHE a bydd y cynnydd hwn hefyd yn gymwys i elfen rôl Bandiau 1, 2, 3 a 4. Lle y telir Band 5, nid oes unrhyw gynnydd yn yr elfen rôl am fod y band hwn wedi'i rewi dros dro. Bydd y cynnydd yn y cyflog sylfaenol yn gymwys.

Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £69,998. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn ac maent wedi'u nodi yn Nhabl 1.

Grŵp A

  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Tabl 1 Cyflogau a delir i Aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac Aelodau Llywyddol Prif Gynghorau

Disgrifiad

Swm

Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig) 

£18,666

Band 1 Arweinydd

£69,998

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£48,999

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£41,999

Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)

£27,999

Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf

£27,999

Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)

£22,406

Pennaeth Dinesig (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) £22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) £18,666

Grŵp B

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
Tabl 1 Cyflogau a delir i Aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac Aelodau Llywyddol Prif Gynghorau

Disgrifiad

Swm

Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)

£18,666

Band 1 Arweinydd

£62,998

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£44,099

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£37,799

Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)

£27,999

Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf

£27,999

Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)

£22,406

Pennaeth Dinesig (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) £22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) £18,666

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Tabl 1 Cyflogau a delir i Aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac Aelodau Llywyddol Prif Gynghorau
Disgrifiad Swm

Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)

£18,666

Band 1 Arweinydd

£59,498

Band 1 Dirprwy Arweinydd

£41,649

Band 2 Aelodau Gweithrediaeth

£35,699

Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)

£27,999

Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf

£27,999

Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)

£22,406

Pennaeth Dinesig (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) £22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir) £27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) £18,666

Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a delir i aelodau etholedig. Bydd yr holl Benderfyniadau cyfredol ym cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Ni wnaed unrhyw newidiadau i lwfansau Teithio a Chynhaliaeth; Cymorth Gofal a Phersonol; Absenoldeb Salwch; Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Cynorthwywyr i'r Weithrediaeth, cyflogau ychwanegol a threfniadau rhannu swydd.

Cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu: Penderfyniad 3

Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i fod yn gyson â Band 3 a chaiff ei bennu ar £9,333.

Pennir cyflog is-gadeirydd yn 50% o gyflog y Cadeirydd, sef £4,667.

Ni fydd unrhyw newidiadau eraill.

Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 4

Ffurfiwyd y tri pharc cenedlaethol yng Nghymru, Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, i ddiogelu tirweddau ysblennydd a chynnig cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) ar gyfer  pob parc. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebir gan y prif gynghorau o fewn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru drwy broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru ac aelodau a enwebir gan gyngor eu trin yn gyfartal o ran cydnabyddiaeth ariannol.

Ffurfiwyd y tri gwasanaeth tân ac achub (ATAau) yng Nghymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru, fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996. Maent yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y Prif Gynghorau o fewn ardal pob gwasanaeth tân ac achub.

Yn unol â phenderfyniad y Panel i gynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau, bydd lefel cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyffredin yn APCau a ATAau hefyd yn cynyddu yn unol ag ASHE.

Bydd cydnabyddiaeth ariannol Cadeiryddion yn parhau'n gysylltiedig â chyflog uwch-aelod Band 3 prif gyngor. Felly, bydd eu helfen rôl yn cynyddu'n unol â hynny. Bydd cysylltiad Dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch swyddi eraill a delir â Band 5 yn parhau. Mae'n hyn yn golygu y bydd elfen rôl eu cyflog yn parhau i gael ei rhewi dros dro. Ceir manylion llawn lefelau cydnabyddiaeth ariannol i  aelodau APCau ac ATAau yn Nhabl 2.

Tabl 2: Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Swm
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin

£5,265

Cadeirydd

£14,598

Dirprwy gadeirydd (os penodir un)

£9,005

Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall

£9,005

Tabl 2: Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Awdurdodau Tân ac Achub Swm
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin

£2,632

Cadeirydd

£11,965

Dirprwy gadeirydd (os penodir un)

£6,372

Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall

£6,372

Cyhoeddir yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.

Taliadau a wneir i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 5

Mae'r Penderfyniad cyfredol (a wnaed yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023) yn nodi y dylai aelodau cyfetholedig y cyrff perthnasol gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod neu hanner diwrnod. Hefyd, gall y swyddog perthnasol benderfynu ar gyfanswm y diwrnodau y rhoddir cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer mewn blwyddyn a phennu amser rhesymol am baratoi ar gyfer cyfarfodydd.

Mae'r Panel wedi nodi'r newidiadau i arferion gwaith, a roddwyd ar waith yn ystod COVID-19 ac sydd bellach yn dod yn fwy arferol, sydd wedi golygu newid tuag at ddefnydd amlach o gyfarfodydd a/neu gyrsiau hyfforddiant ar-lein, sydd yn aml yn fyr, yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgor mwy rheolaidd. Mae'r Panel hefyd wedi cael adborth gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn codi'r mater hwn.

Ystyriodd y Panel newid i gyfradd yr awr. Byddai hyn yn adlewyrchu'n well y ffyrdd newydd o weithio a'r oriau a weithiwyd mewn gwirionedd. Fodd bynnag, cydnabu'r Panel na fyddai hyn bob amser yn briodol o bosibl, yn enwedig ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb y disgwylir iddynt bara sawl awr.

Felly, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr fel y nodir yn Nhabl 3.

Tabl 3: Taliadau a wneir i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub

Rôl Taliad cyfradd fesul awr Cyfradd talu hyd at 4 awr Cyfradd talu 4 awr a throsodd  
Cadeiryddion pwyllgorau safonau, a phwyllgorau archwilio £33.50 £134 £268  
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref £29.75 £119 £238  
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio £26.25 £105 £210  
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau £26.25 £105 £210  

Cynghorau Cymuned a Thref

Mae'r Panel yn parhau i wneud taliadau am gostau ychwanegol gweithio gartref a thaliadau am nwyddau traul swyddfa yn orfodol. Ni fydd unrhyw newid i'r Penderfyniad a wnaed y llynedd.

Taliadau Gorfodol: Penderfyniad 6

Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref

Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.

Taliad penodol am nwyddau traul

Mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mater i bob cyngor yw gwneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y caiff y taliadau eu gwneud ac a ydynt yn cael eu talu'n fisol, yn flynyddol neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd nodi a fydd unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu sy'n newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol yn cael eu hadennill, a sut.

Digolledu am Golled Ariannol: Penderfyniad 7

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. Ni chafodd y swm am golled ariannol ei gynyddu y llynedd.

Yn flaenorol, penderfynodd y Panel y dylid pennu lefel briodol o daliadau ar gyfradd ddyddiol ASHE.

Er mwyn cadw'r cysylltiad hwn, cynigir y dylai'r ffigurau ar gyfer 2024 bellach gael eu pennu fel a ganlyn: £119.62 am ddiwrnod llawn a £59.81 am hanner diwrnod.

Gofynion Adrodd: Penderfyniad 8

Mae'n ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyflwyno datganiad blynyddol o daliadau i'r Panel erbyn 30 Medi bob blwyddyn, a hefyd ei gyhoeddi ar eu gwefan. Mae'r Panel wedi darparu ffurflen dempled at ddefnydd clercod.

Mae'r Panel wedi trafod ac wedi ystyried newid y gofynion ar Gynghorau Cymuned a Thref wrth gyflwyno eu datganiad o daliadau. Nod y Panel yw symleiddio'r trefniadau gweinyddol ac annog Cynghorau i sicrhau bod yr holl daliadau gorfodol yn cael eu gwneud i aelodau unigol.

Mae'r Panel yn cynnig, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos, sef y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd.

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Taliadau i gynghorau cymuned a thref
Math o daliad     Grŵp   

 Gofyniad           

Ad-daliad am amser a dreulir ar faterion Cynghorau Cymuned a Thref (a elwid gynt yn Daliad Sylfaenol)

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

£156 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang o ganlyniad i weithio gartref

Ad-daliad am nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

£52 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £52 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £1 yr wythnos) tuag at gost nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

Taliad am Uwch-rôl 1 (Dros 14,000 o etholwyr) Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at saith aelod
Maer neu Gadeirydd Cyngor 1 (Dros 14,000 o etholwyr) Dewisol, hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd Cyngor

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol, hyd at uchafswm o £500
Lwfans mynychu 1 (Dros 14,000 o etholwyr) Dewisol
Colled ariannol

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol
Teithio a chynhaliaeth

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal 

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Gorfodol
Ad-daliad am amser a dreulir ar faterion Cynghorau Cymuned a Thref (a elwid gynt yn Daliad Sylfaenol)

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

£156 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref

Ad-daliad am nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref 2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

£52 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £52 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £1 yr wythnos) tuag at gost nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

Taliad am Uwch-rôl

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at bum aelod
Maer neu Gadeirydd Cyngor 2 (10,000 i 13,999 o etholwyr) Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd Cyngor 2 (10,000 i 13,999 o etholwyr) Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans Mynychu

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

Dewisol
Colled Ariannol

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

Dewisol

Cost Gofal

2 (10,000 i 13,999 o etholwyr)

Gorfodol
Ad-daliad am amser a dreulir ar faterion Cynghorau Cymuned a Thref (a elwid gynt yn Daliad Sylfaenol)

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

£156 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref

Ad-daliad am nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref 3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

£52 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £52 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £1 yr wythnos) tuag at gost nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

Taliad am Uwch-rôl

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

Dewisol i hyd at dri aelod
Maer neu Gadeirydd Cyngor 3 (5,000 i 9,999 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd Cyngor 3 (5,000 i 9,999 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £500
Lwfans Mynychu

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

Dewisol
Colled Ariannol

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

Dewisol
Cost Gofal

3 (5,000 i 9,999 o etholwyr)

Gorfodol

Ad-daliad am amser a dreulir ar faterion Cynghorau Cymuned a Thref (a elwid gynt yn Daliad Sylfaenol)

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

£156 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref

Ad-daliad am nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref 4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

£52 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £52 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £1 yr wythnos) tuag at gost nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

Taliad am Uwch-rôl

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

Dewisol i hyd at dri aelod
Maer neu Gadeirydd Cyngor 4 (1,000 i 4,999 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd Cyngor 4 (1,000 i 4,999 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £500
Lwfans Mynychu

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

Dewisol
Colled Ariannol

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a Chynhaliaeth

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

Dewisol

Cost Gofal

4 (1,000 i 4,999 o etholwyr)

Gorfodol

Ad-daliad am amser a dreulir ar faterion Cynghorau Cymuned a Thref (a elwid gynt yn Daliad Sylfaenol)

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

£156 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref

Ad-daliad am nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref 5 (O dan 1,000 o etholwyr)

£52 tâl gorfodol i bob aelod. Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £52 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £1 yr wythnos) tuag at gost nwyddau traul swyddfa wrth weithio gartref

Taliad am Uwch-rôl

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

Dewisol hyd at 3 Aelod

Maer neu Gadeirydd Cyngor

5 (O dan 1,000 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd Cyngor 5 (O dan 1,000 o etholwyr) Dewisol hyd at uchafswm o £500
Lwfans Mynychu

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

Dewisol
Colled Ariannol

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

Dewisol
Teithio a Chynhaliaeth

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

Dewisol

Cost Gofal 

5 (O dan 1,000 o etholwyr)

Gorfodol

Ni wnaed unrhyw newidiadau i daliadau am ymgymryd ag uwch-rolau; lwfansau Teithio a Chynhaliaeth; Lwfans Gofal a Chymorth Personol na Lwfans Mynychu.

Bydd yr holl Benderfyniadau cyfredol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Crynodeb o'r Penderfyniadau ar gyfer 2024 i 2025

Penderfyniad 1

Caiff lefel sylfaenol cyflog i aelodau etholedig prif gynghorau ei phennu ar £18,666.

Penderfyniad 2

Cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £69,998. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn. Nodir pob taliad yn Nhabl 1.

Penderfyniad 3

Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,333. Cyflog is-gadeirydd fydd £4,667.

Penderfyniad 4

Mae cyflog sylfaenol aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub wedi cynyddu. Nodir pob taliad yn Nhabl 2.

Bydd yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.

Penderfyniad 5

O ran taliadau i aelodau cyfetholedig, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.

Nid yw cyfraddau diwrnod llawn na hanner diwrnod wedi newid ers 2023-24. Yr unig newid yw cyfraddau yr awr, fel y'u nodir yn Nhabl 3.

Penderfyniad 6

Bydd aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. Ac mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Penderfyniad 7

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. Ni chafodd y swm am golled ariannol ei gynyddu y llynedd.

Yn flaenorol, penderfynodd y Panel y dylid pennu lefel briodol o daliadau ar gyfradd ddyddiol ASHE.

Er mwyn cadw'r cysylltiad hwn, cynigir y dylai'r ffigurau ar gyfer 2024 bellach gael eu pennu fel a ganlyn: £119.62 am ddiwrnod llawn a £59.81 am hanner diwrnod.

Penderfyniad 8

Mae'r Panel yn cynnig, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos, sef y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd.

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Mae pob Penderfyniad arall a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol 2023 i 2024 y Panel yn parhau'n ddilys a dylent gael eu cymhwyso.