Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn barod i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae'r gyfraith yn newid, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod

O fis Hydref 2026, mae’n rhaid i unrhyw un sy'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ôl y gyfraith.  

Bydd y gofrestr llety ymwelwyr yn rhoi darlun cliriach o'r sector twristiaeth ledled Cymru.  

Mae'n berthnasol i bob darparwr, o westeiwyr anffurfiol i weithredwyr proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cynnig llety am un noson, yn dymhorol neu drwy gydol y flwyddyn. 

Mae cofrestru’n rhad ac am ddim, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud hyn mewn llai na chwarter awr. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch nawr i dderbyn diweddariadau a nodiadau atgoffa ynglŷn â phryd y bydd cofrestru'n agor.  

Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg
Cofrestru llety ymwelwyr: trosolwg
Canllawiau ar gofrestru eich llety ymwelwyr
Sign up to a registration workshop
Cofrestrwch ar gyfer gweithdy cofrestru
Gweithdai ar-lein rhad ac am ddim i'ch helpu i gofrestru.

Sut i baratoi ar gyfer cofrestru

Bydd cofrestru'n agor ym mis Hydref 2026. 

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK . Gallwch greu cyfrif One Login GOV.UK cyn i gofrestru agor.   

Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen i chi roi:  

  • manylion cyswllt, fel er enghraifft:  
    • enw  
    • cyfeiriad  
    • rhif ffôn  
    • cyfeiriad e-bost
  • dyddiad geni  
  • cwmni neu rif elusen (os yn berthnasol)  
  • enw masnachu (os yn berthnasol)  
  • mathau o lety rydych yn eu cynnig   
  • enw a chyfeiriad yr eiddo lle mae'r llety  
  • pryd mae’r llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer  
  • nifer yr unedau y gellir eu harchebu
  • y nifer mwyaf o bobl sy'n gallu aros