Neidio i'r prif gynnwy

Mae PMaA Cymru yn rhoi pwyslais ar fod yn gynhwysol ac yn agored, ac ar feithrin cysylltiadau a rhwydweithio er mwyn hwyluso cyd-ddylunio a gweithredu ar y cyd rhwng grwpiau buddiant.

Mae'r Bartneriaeth wedi cydweithio i lunio a chytuno ar Naratif ar y Cyd [Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru): naratif ar y cyd ][1] sydd newydd ei gyhoeddi, sy'n nodi'r hyn sydd ei angen yng Nghymru er mwyn ein helpu i wireddu gweledigaeth ein Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sef moroedd Cymru sy'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Gwneir hyn drwy dri phrif ‘gam galluogi’ neu thema:

  • Datblygu llythrennedd morol ym mhob rhan o gymdeithas, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein moroedd a’n harfordiroedd. Bydd hyn yn ysgogi camau pellach ar draws meysydd polisi a fframweithiau gweinyddol eraill megis Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae buddsoddi hirdymor cynaliadwy a datblygu ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat tymor hwy yn hanfodol er mwyn helpu i gyflawni amcanion allweddol.
  • Bydd cynyddu capasiti, yn arbennig ar y lefel leol, yn arwain at ymgysylltu ystyrlon â'r gymuned er mwyn canfod cyfleoedd a heriau lleol a chymryd camau yn eu cylch.

Mae PMaA Cymru yn gweithio ar y camau canlynol ar hyn o bryd er mwyn ategu a hwyluso'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r amgylchedd morol, gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid, gan ddefnyddio ein hadnoddau cyffredin yn effeithiol:

  • Datblygu strategaeth Llythrennedd Morol i Gymru, a chamau a digwyddiadau i gysylltu pobl, yn ogystal â gwaith i dynnu sylw at bwysigrwydd yr amgylchedd morol a'r effaith rydym yn ei chael arno.
  • Llunio cynnwys ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, yn benodol datblygu elfen cynyddu capasiti newydd i sicrhau ymgysylltu tymor hwy a chynyddu capasiti mewn cymunedau morol er mwyn nodi camau lleol a'u cymryd.
  • Ystyried system cyllid cyfunol ar gyfer yr amgylchedd morol yng Nghymru.
  • Datblygu argymhellion Plymio Dwfn Bioamrywiaeth 30x30  ar gyfer cynyddu capasiti, meithrin sgiliau, newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd morol.

Mae PMaA Cymru yn enghraifft wych o'r ffordd y mae ymgorffori'r pum ffordd o weithio a welir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)  yn ein galluogi i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd a gwella gwytnwch ein moroedd a’n harfordiroedd.

Caiff y Bartneriaeth ei harwain gan Gadeirydd newydd a benodir gan Weinidogion yn 2023, er mwyn cydnabod pa mor bwysig yw gwytnwch morol.

I ddarllen rhagor am PMaA Cymru, ewch i Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) a chysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

 [1] Mae Naratif a Rennir yn stori y mae pobl yn ei chreu gyda'i gilydd, o'r gwaelod i fyny, trwy broses delifro - Why Shared Narratives Matter More Than Ever.