Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Adroddiad ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, gan ddefnyddio data lefel genedlaethol o'r asesiadau personol (Hwb). Caiff asesiadau personol eu gwneud gan ddysgwyr ym Mlwyddyn 2 i Flwyddyn 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hwn yn dilyn yr un fformat â datganiad ystadegol Mehefin 2024 ar ddata o asesiadau personol, wedi’i ddiweddaru â data 2023/24. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am newidiadau mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd dros amser, gan gynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, y bwlch rhwng dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion, ac ethnigrwydd. Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio data dienw ar lefel genedlaethol o'r asesiadau personol, hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2023/24.

Asesiadau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd yw'r asesiadau personol ar gyfer Darllen a Rhifedd. Fe'u defnyddir mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd (Hwb) dysgwyr fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r asesiadau personol blynyddol yn orfodol i ddysgwyr Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Mae'r asesiadau'n cynnwys: Rhifedd sydd mewn dwy ran, sef Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu), Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg), (gweler y nodyn isod ar amserlen cyflwyno'r asesiadau personol, a cheir rhagor o wybodaeth am bob asesiad a'r gofynion mandadol ym mhrif adran yr adroddiad hwn).

Mae'r asesiadau'n rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr unigol a dealltwriaeth o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella o ran y sgiliau hyn. Ar ôl cwblhau'r asesiadau, mae gan ysgolion fynediad at adborth ar sgiliau, cynnydd ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio'r addysgu a'r dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai diben yr asesiadau hyn yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd, ac ni luniwyd yr asesiadau i'w defnyddio at ddibenion atebolrwydd, ar unrhyw lefel. Nid yw cyhoeddi'r adroddiad hwn yn golygu unrhyw newid i ysgolion; bydd asesiadau personol yn parhau i gael eu cynnal yn yr un ffordd a'u defnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o ddulliau asesu a ddyluniwyd gan ysgolion yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Er mai diben asesiadau personol yw cefnogi cynnydd ar lefel unigol, gall data dienw o'r asesiadau personol hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol, gan ddangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r adroddiad hwn i helpu i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data dienw o asesiadau personol a gymerwyd rhwng 2018/19 (blwyddyn cyflwyno'r asesiad cyntaf) a 2023/24. Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, cyhoeddir datganiadau a fydd yn y pen draw yn dangos tueddiadau ac yn darparu gwybodaeth bwysig am ddatblygiad dysgwyr o'r sgiliau hyn dros amser, ar lefel genedlaethol.

Bydd y datganiadau yn rhan o ystod ehangach o wybodaeth feintiol ac ansoddol ar lefel genedlaethol am gyflawniad dysgwyr. Byddant yn ategu, er enghraifft, ein hastudiaethau rhyngwladol, PISA (y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) ac (yn y dyfodol) PIRLS (yr Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) a TIMSS (Astudiaeth o'r Tueddiadau Rhyngwladol mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth) ynghyd â’n deilliannau Cyfnod Allweddol 4 cenedlaethol.

Nodyn am amserlen yr asesiadau a'r data sydd ar gael

Cafodd asesiadau personol eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o bedair blynedd academaidd:

  • Rhifedd (Gweithdrefnol) o 2018/19
  • Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg) o 2019/20
  • Rhifedd (Rhesymu) o 2021/22

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data o 2018/19 i 2023/24. Fodd bynnag, mae'r tarfu yn sgil COVID-19 wedi arwain at fwlch yn y data ar gyfer 2019/20, sef y flwyddyn yr oedd y pandemig wedi amharu fwyaf ar weinyddu'r asesiadau. Er bod rhai asesiadau personol wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod hwn, nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn oherwydd nad oes digon o ddata ar gael.

Patrymau cyrhaeddiad dros amser, yn ôl pwnc yr asesiad a grŵp blwyddyn

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn cymharu cyrhaeddiad dysgwyr mewn grŵp blwyddyn penodol dros sawl blwyddyn academaidd. Er enghraifft, mae'n cymharu cyrhaeddiad dysgwyr Blwyddyn 3 yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2018/19, 2020/21, 2022/23 a 2023/24. Felly, ar gyfer grŵp blwyddyn benodol, mae gwahanol garfannau o blant yn cael eu cynnwys yn y set ddata ar adegau gwahanol. 

At ddibenion yr adroddiad hwn rydym yn cyfleu cyrhaeddiad cyfartalog uwch neu is yn ôl misoedd, er mwyn inni wneud cymariaethau ar lefel genedlaethol. Rydym yn gwneud hynny fel ei bod yn haws deall y patrymau, ac oherwydd natur yr asesiadau - gan nad oes gan yr asesiadau ddull graddio ar raddfa gyffredin sy'n debyg i'r math o ddull a ddefnyddir ar gyfer arholiadau, er enghraifft.  Sylwch ein bod yn crynhoi'r holl ddata i'r mis agosaf ac mewn rhai achosion bydd hyn yn golygu efallai na fydd cyfanswm a ddangosir yn cyfateb i swm y ffigurau sy'n ffurfio'r cyfanswm hwnnw. Wrth ddehongli’r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae’n bwysig cofio bod gan ddysgwyr iau gyfradd uwch o gynnydd o flwyddyn i flwyddyn, mewn termau absoliwt, na dysgwyr hŷn (ceir rhagor o wybodaeth yn yr atodiad technegol).

Yn natganiad Mehefin 2024 - Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2023 - rydym yn defnyddio 2022/23 fel blwyddyn gyfeirio gyson ar draws pob pwnc. Rhoddodd hyn bwynt cyfeirio cyffredin inni i gyfrifo cynnydd mis ac archwilio gwahaniaethau demograffig yn ôl pwnc, sy'n ffactor pwysig o ystyried cyflwyno'r asesiadau gwahanol cyn/ar ôl y pandemig. Yn yr adroddiad hwn rydym yn parhau â’r dull gweithredu hwn ac yn defnyddio 2022/23 fel y flwyddyn gyfeirio ar gyfer cyfrifiadau cynnydd misoedd a hefyd fel meincnod o’r gwahaniaeth rhwng blynyddoedd. Gan y bydd siartiau yn ymddangos yn debyg i’r rhai yn adroddiad Mehefin 2024, mae cadw’r flwyddyn gyfeirio yn gyson yn gwneud cymharu rhwng adroddiadau yn haws ac yn caniatáu inni weld newidiadau yn gliriach.

Mae’r adroddiad hwn yn wahanol i ddatganiadau blaenorol o ran ei fod yn seiliedig ar raddfa anhawster wedi ei diweddaru ar gyfer cwestiynau asesu. Cyflwynwyd y raddfa newydd hon yn 2023/24 ar gyfer yr holl asesiadau i sicrhau bod amcan yr anhawster ar gyfer pob cwestiwn mor gyfredol â phosibl ac yn cynrychioli’r boblogaeth ddysgwyr yng Nghymru hyd y gellir gan ddefnyddio data sydd yn awr ar gael ar sut mae dysgwyr yn ymateb i’r cwestiynau hyn. Yn flaenorol roedd lefel anhawster yn cael ei neilltuo i eitemau wedi ei chyfrifo neu ei graddnodi yn seiliedig ar ymatebion i’r eitem gan ddysgwyr ac ar adeg cyflwyno pob asesiad unigol, a oedd yn digwydd dros gyfnod o rai blynyddoedd. Roedd y diweddariad hwn yn hanfodol i sicrhau bod athrawon, dysgwyr a rhieni yn parhau i gael gwybodaeth o’r ansawdd uchaf o’r asesiadau hyn i lywio addysgu a dysgu.

Mae gweithredu’r newid hwn wedi effeithio ar y data yn y datganiad hwn. I ganiatáu cymharu tecach rhwng 2023/24, sy’n defnyddio’r raddfa anhawster newydd, a blynyddoedd eraill, mae’r data cynnydd a ddangosir yn y datganiad hwn o ansawdd uwch na’r data mewn datganiadau blaenorol. Mae’r dull gweithredu hwn yn golygu ein bod yn gweld rhai newidiadau yn y siartiau cynnydd misoedd neu, mewn rhai achosion, newid mewn cyfeiriad i rai bariau yn y graff. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran isod am ansawdd a methodoleg.

Mae'r effaith ar ddysgu yn ystod ac ar ôl y pandemig wedi bod yn destun sawl astudiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol – gweler adran dystiolaeth y ddogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r patrymau a welir yng Nghymru yn debyg i ganfyddiadau'r ymchwil mewn gwledydd eraill.

Mae nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adran hon i'w gweld yn yr atodiad technegol y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r ffigurau'n dangos patrymau mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y daenlen ategol.

Yn yr adrannau canlynol, rhestrir yr asesiadau yn y drefn y cawsant eu cyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru. Dylid nodi bod yr adroddiad hwn yn dangos patrymau dros gyfnod cymharol fyr ers cyflwyno'r asesiadau personol, ac y bydd angen data rhagor o flynyddoedd i lunio barn ar dueddiadau tymor hwy. Roedd nifer llai o ddysgwyr wedi gwneud asesiadau yn ystod 2020/21, yn sgil y tarfu parhaus ar addysg oherwydd y pandemig y flwyddyn honno. Felly, gallai honno fod yn ffactor i'w hystyried ymhellach unwaith y bydd data rhagor o flynyddoedd ar gael ar dueddiadau.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Mae'r asesiad Rhifedd yn cael ei gyflawni mewn dwy ran. Mae asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol – sef yr 'adnoddau' rhifyddol sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'n cael ei gyflawni bob blwyddyn gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cyflwynwyd yr asesiad hwn ym mlwyddyn academaidd 2018/19 a hwn yw'r unig asesiad y mae data ar gael ar ei gyfer cyn ac ar ôl y tarfu a achosir gan COVID-19.

Ffigur 1: Rhifedd (Gweithdrefnol): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19, 2020/21, 2021/22 a 2023/24 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2018/19, 2020/21, 2021/22 a 2023/24. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23.

[Nodyn 1] Dynodir perfformiad yn 2022/23 gan y llinell sero ar y graff. Nid yw 2019/20 wedi'i chynnwys yn y siart oherwydd nad oes digon o ddata yn y flwyddyn yr effeithiwyd arni fwyaf gan bandemig COVID-19.

Prif bwyntiau

  • Ar gyfer Blwyddyn 3 a Blwyddyn 6 roedd gwelliant mewn cyrhaeddiad yn 2023/24, yn cyfateb i 5 a 7 mis yn y drefn honno, o gymharu â 2022/23.
  • Ar gyfer Blwyddyn 9, nid oedd unrhyw welliant amlwg yn 2023/24 ac mae gwerthoedd cyrhaeddiad yn parhau ar lefelau tebyg i 2020/21, 2021/22 a 2022/23.
  • Ar y cyfan, ar gyfer yr asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) roedd cyrhaeddiad is yn 2020/21, 2021/22 a 2022/23 o gymharu â 2018/19, y tair blynedd yn dilyn dechrau pandemig COVID-19 yn gynnar yn 2020, ar draws grwpiau blwyddyn (Blwyddyn 3, Blwyddyn 6 a Blwyddyn 9).
  • O gymharu â 2022/23, roedd cyrhaeddiad yn 2018/19 wyth mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 3, 14 mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 6 a saith mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 9.

Crynodeb

Yn 2023/24 mae rhywfaint o adferiad o ran cyrhaeddiad mewn Rhifedd (Gweithdrefnol) yn dilyn dirywiad yn y blynyddoedd academaidd yn union ar ôl dechrau pandemig COVID-19. Blwyddyn 3 a Blwyddyn 6 sydd wedi dangos y graddau mwyaf o adferiad yn 2023/24, gyda Blwyddyn 9 yn dangos yr adferiad lleiaf i lefelau cyrhaeddiad 2018/19.

Darllen (Cymraeg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen (Cymraeg) yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae dysgwyr yn deall testun yn Gymraeg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen (Cymraeg) yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynwyd yr asesiad ym mlwyddyn academaidd 2019/20. Ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer y flwyddyn honno oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig COVID-19. Felly nid yw 2019/20 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Ffigur 2: Darllen (Cymraeg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21, 2021/22 a 2023/24 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Cymraeg) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020/21, 2021/22 a 2023/24. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23

[Nodyn 1] Dynodir perfformiad 2022/23 gan y llinell sero ar y graff. Nid yw 2019/20 wedi ei chynnwys yn y siart gan nad oes digon o ddata ar gyfer y flwyddyn yr effeithiwyd fwyaf arni gan bandemig COVID-19.

Prif bwyntiau

  • Mae adferiad i’w weld ar draws grwpiau blwyddyn 3 i 9 yn 2023/24. Roedd cyrhaeddiad yn 2023/24 yn cyfateb i dri mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 3, pedwar mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 6 a deufis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 9 o’i gymharu â 2022/23.
  • Mae pob grŵp blwyddyn yn dangos gostyngiad mewn cyrhaeddiad yn dilyn dechrau pandemig COVID-19. Mae’r grwpiau blwyddyn hŷn yn cael eu heffeithio yn benodol, gyda chyrhaeddiad 2020/21 saith mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 3, deuddeg mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 6 a 24 mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 9, o’i gymharu â 2022/23.

Crynodeb

Mae adferiad bach o ran cyrhaeddiad mewn Darllen (Cymraeg) yn 2023/24 yn dilyn dirywiad rhwng 2020/21 a 2022/23. Nid yw cyrhaeddiad wedi cyrraedd lefelau 2020/21 eto mewn unrhyw grwpiau blwyddyn.

Darllen (Saesneg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen (Saesneg) yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae dysgwyr yn deall testun yn Saesneg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen (Saesneg) yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 sy'n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. I ddysgwyr sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r asesiad personol Darllen (Saesneg) yn ddewisol ym Mlynyddoedd 2 a 3 ac yn orfodol ym Mlynyddoedd 4 i 9. Cafodd yr asesiad ar-lein Darllen (Saesneg) ei gyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2019/20, ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer eleni oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Ffigur 3: Darllen (Saesneg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21, 2021/22 a 2023/24 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Saesneg) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020/21, 2021/22 a 2023/24. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23.

[Nodyn 1] Dynodir perfformiad 2022/23 gan y llinell sero ar y graff. Sylwch, er bod yr asesiadau Darllen wedi'u cyflwyno yn 2019/20, nid oes digon o ddata ar gyfer y flwyddyn gyntaf honno, sef y cyfnod yr effeithiwyd arno fwyaf gan y tarfu oherwydd COVID-19; felly, dim ond data ar gyfer y tair blynedd ddilynol sy'n cael eu defnyddio.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyrhaeddiad yn uwch ar gyfer pob grŵp oedran mewn Darllen (Saesneg) yn 2023/24 o'i gymharu â 2022/23 ac yn fwy felly ar gyfer grwpiau blwyddyn iau nag ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Roedd cyrhaeddiad yn 2023/24 yn cyfateb i bedwar mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 3, dri mis yn uwch ar gyfer Blwyddyn 6 ac un mis yn uwch ym Mlwyddyn 9 o'i gymharu â 2022/23.
  • Yn 2023/24, roedd cyrhaeddiad Blwyddyn 3 yn uwch nag a oedd yn 2020/21 ac yn 2021/22, gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad sydd heb ei weld mewn asesiadau na grwpiau blwyddyn eraill.
  • Dangosodd Darllen (Saesneg) ddirywiad mewn cyrhaeddiad rhwng 2020/21 a 2022/23 gyda grwpiau blwyddyn hŷn yn cael eu heffeithio'n arbennig. Ar gyfer Blwyddyn 9, roedd lefelau cyrhaeddiad 2020/21 un ar ddeg mis yn uwch nag yn 2022/23.

Crynodeb

Mae adferiad mewn cyrhaeddiad ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn 2023/24 yn dilyn dirywiad rhwng 2020/21 a 2022/23. Mae cyrhaeddiad ym Mlwyddyn 3 bellach yn uwch nag yn 2020/21 a 2021/22, tuedd sydd heb ei gweld mewn grwpiau blwyddyn eraill ar asesiadau personol. Mae cyrhaeddiad ym Mlwyddyn 6 a 9 yn parhau i fod yn is yn 2023/24 nag yn 2020/21.

Rhifedd (Rhesymu)

Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn canolbwyntio ar ba mor dda y gall dysgwyr ddefnyddio a chymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau rhifyddol. Mae'n cael ei gyflawni yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Hwn oedd yr asesiad olaf i'w roi ar waith fel rhan o'r dull fesul cam o gyflwyno'r asesiadau, ac mae'r data ar gael ar gyfer tair blynedd yn unig: 2021/22, 2022/23 a 2023/24.

Ffigur 4: Rhifedd (Rhesymu): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Rhesymu) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2021/22. Dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022/23.

[Nodyn 1] Dynodir perfformiad yn 2022/23 gan y llinell sero ar y graff.

Prif bwyntiau

  • Yn 2023/24 ar gyfer Blwyddyn 3 a Blwyddyn 6 cafwyd gwelliant mewn cyrhaeddiad mewn Rhifedd (Rhesymu) sy'n cyfateb i ddau a thri mis, yn y drefn honno, o'i gymharu â 2022/23.
  • Ar gyfer Blwyddyn 9 bu dirywiad bach mewn cyrhaeddiad o un mis yn 2023/24, o'i gymharu â 2022/23, er bod y cyrhaeddiad wedi bod yn gymharol sefydlog rhwng 2021/22 a 2023/24.

Crynodeb

Mae cyrhaeddiad ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) wedi bod yn gymharol sefydlog rhwng 2021/22 a 2023/24. Mae'n anos rhoi barn ar dueddiadau tymor hwy ar gyfer yr asesiad hwn gan fod llai o ddata ar gael.

Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl rhyw

Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn yr adran uchod yn ôl rhyw. Diffinnir rhyw yn y cyd-destun hwn fel rhyw biolegol adeg geni. Mae'n cymharu'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad, sy'n cael ei ddynodi mewn 'misoedd', a gyflawnir gan wrywod a benywod ym mhob blwyddyn academaidd, ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol. Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansoddi yma mewn dogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn.

Mae'r ffigurau isod yn dangos patrymau ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 mewn perthynas â phob un o'r pynciau; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y set ddata ategol.  Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith, ac eithrio blwyddyn 2019/20 am nad oedd digon o ddata ar ei chyfer oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 5: Rhifedd (Gweithdrefnol): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad gwrywod yn uwch na chyrhaeddiad benywod.
  • Mae'r bwlch rhwng gwrywod a benywod yn ehangu ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Yn 2023/24 lleihaodd y bwlch ychydig i bedwar mis ar gyfer Blwyddyn 3, wyth mis ar gyfer Blwyddyn 6, a deg mis ar gyfer Blwyddyn 9.
  • Roedd y bwlch wedi ehangu dros amser rhwng 2018/19 a 2022/23, o ddau i bum mis ym Mlwyddyn 3, pedwar i naw mis ym Mlwyddyn 6, a phum i un ar ddeg mis ym Mlwyddyn 9.

Crynodeb

Yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol), mae’r cyrhaeddiad cyfartalog yn yr asesiad ar gyfer gwrywod yn uwch nag ar gyfer benywod, gyda maint y bwlch yn cynyddu ar gyfer y grwpiau oedran hŷn. Mae'r bwlch rhwng gwrywod a benywod wedi culhau yn 2023/24 ar ôl ehangu yn ystod ac ar ôl pandemig COVID-19.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 6: Darllen (Cymraeg): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2023/24 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng benywod a gwrywod mewn Darllen (Cymraeg), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog benywod yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog gwrywod ar gyfer Cymraeg (Darllen).
  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu'n fwy ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Lleihaodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod ychydig ar gyfer grwpiau Blwyddyn 3 a 6 rhwng 2020/21 a 2023/24, o naw i saith mis ym Mlwyddyn 3, ac o ddeuddeg i un ar ddeg mis ym Mlwyddyn 6.
  • Yn 2023/24 lleihaodd y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer Blwyddyn 9 o bwynt uchel yn 2022/23 o 26 mis i 19 mis. Mae hyn yn dangos dychwelyd i lefel debyg o 18 mis o wahaniaeth a welwyd yn 2020/21.

Crynodeb

Mae benywod yn parhau i gyflawni cyrhaeddiad uwch na gwrywod yn 2023/24, gyda bylchau mwy ymhlith dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 7: Darllen (Saesneg): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2023/24 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Darllen (Saesneg), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Pprif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog benywod yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog gwrywod ar gyfer Saesneg (Darllen).
  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu'n fwy ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Ar gyfer Blwyddyn 3, caeodd y bwlch ychydig rhwng 2020/21 a 2023/24, o bum mis i bedwar mis.
  • Ar gyfer Blwyddyn 6, caeodd y bwlch ychydig i naw mis yn 2021/22 ac yn 2022/23 o'i gymharu â deg mis yn 2020/21 cyn ehangu eto yn 2023/24 yn ôl i ddeg mis.

Ar gyfer Blwyddyn 9, ehangodd y bwlch ychydig rhwng 2020/21 a 2023/24, o 13 i 15 mis.

Crynodeb

Culhaodd y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod yn 2023/24 ar gyfer y grwpiau blwyddyn iau. Fodd bynnag, mae'r bwlch wedi cynyddu yn 2023/24 ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 8: Rhifedd (Rhesymu): Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 i 2023/24 rhwng benywod a gwrywod, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad benywod llai cyrhaeddiad gwrywod (a dynodir y gwahaniaeth mewn misoedd). Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod y benywod yn perfformio'n well na'r gwrywod, a'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod y gwrywod yn perfformio'n well na'r benywod.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog gwrywod yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog benywod ar gyfer Rhifedd (Rhesymu).
  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu'n fwy ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Ar gyfer Blwyddyn 3, mae'r bwlch cyrhaeddiad wedi cynyddu ychydig rhwng 2021/22 a 2023/24, o dri mis i bedwar mis.
  • Ar gyfer Blwyddyn 6, arhosodd y bwlch cyrhaeddiad ar 6 mis yn gyson ar gyfer yr holl flynyddoedd academaidd sydd ar gael.
  • Ar gyfer Blwyddyn 9, tyfodd y bwlch cyrhaeddiad ac yna lleihaodd ychydig dros amser. Yn y flwyddyn 2021/22 roedd y bwlch yn wyth mis, erbyn 2022/23 roedd wedi codi i naw mis ac erbyn 2023/24 roedd wedi lleihau ychydig i saith mis.

Crynodeb

Roedd y gwahaniaeth cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2021/22 a 2023/24.

Crynodeb: Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 rhwng benywod a gwrywod

Roedd y gwahaniaethau nodweddiadol mewn deilliannau rhwng y rhywiau sydd wedi’u gweld yn eang ar draws llawer o astudiaethau ac asesiadau o fenywod yn perfformio'n well na gwrywod ar asesiadau Darllen, a gwrywod yn perfformio'n well na benywod ar asesiadau Rhifedd, hefyd i’w gweld yma ar yr Asesiadau Personol Cenedlaethol yng Nghymru. Amlygodd y bylchau hyn ym Mlwyddyn 3 a thyfu ar draws yr holl asesiadau yn y blynyddoedd hyd at Flwyddyn 9.

Ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol), gwelsom fod y bwlch cyrhaeddiad wedi tyfu rhwng gwrywod a benywod yn dilyn dechrau pandemig COVID-19 gan leihau rhywfaint eto yn 2023/24.

Y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Mae'r rhan hon o'r datganiad yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn y rhan gyntaf yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac yn adrodd ar ffurf 'misoedd' y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sy'n gymwys a dysgwyr nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gwneir hyn ym mhob blwyddyn academaidd, ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol. Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansoddi mewn dogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn.

Gall dysgwyr ar hyn o bryd fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn taliadau cymorth neu fudd-daliadau prawf modd penodol, neu drwy’r cynllun amddiffyniad wrth bontio, neu'r polisi prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Ar gyfer y datganiad hwn rydym yn cynnwys dim ond dysgwyr sy’n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn taliadau cymorth neu fudd-daliadau prawf modd penodol.

Mae'r ffigurau isod yn dangos patrymau yn y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9 ym mhob pwnc; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y set ddata ategol. Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith, ac eithrio blwyddyn 2019/20 am nad oedd digon o ddata ar ei chyfer oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 9: Rhifedd (Gweithdrefnol): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 rhwng dysgwyr sy'n gymwys (eFSM) ac nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim (nFSM) mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad dysgwyr nFSM llai cyrhaeddiad dysgwyr eFSM, mewn misoedd. Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod dysgwyr nFSM yn perfformio'n well na dysgwyr eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod dysgwyr eFSM yn perfformio'n well na dysgwyr nFSM.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn gyson yn dangos bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Ar gyfer dysgwyr hŷn, ehangodd y bwlch FSM yn y blynyddoedd ar ôl dechrau pandemig COVID-19 cyn lleihau eto. Yn 2018/19 roedd y bwlch yn 21 mis ar gyfer Blwyddyn 6, a 23 mis ar gyfer Blwyddyn 9. Erbyn 2021/22 roedd wedi cyrraedd 25 mis ar gyfer Blwyddyn 6 a 9, ac yna erbyn 2023/24 roedd yn 23 mis ar gyfer Blwyddyn 6 a 9.
  • Ar draws pob blwyddyn academaidd, mae'r bwlch cyrhaeddiad yn cynyddu'n sylweddol ym Mlwyddyn 6 ac yna'n setlo i lefel debyg neu ychydig yn uwch ym Mlwyddyn 9.
  • Yn 2023/24, ehangodd y bwlch cyrhaeddiad rywfaint ym Mlwyddyn 3 i 13 mis, o 11 mis yn 2022/23.

Crynodeb

Yn 2023/24 ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) roedd y bwlch cyrhaeddiad ar gyfer cymhwystra am brydau ysgol am ddim wedi dychwelyd i'w faint yn 2018/19 ar gyfer y mwyafrif o grwpiau blwyddyn o 2 i 9, ar ôl tyfu mewn maint yn y blynyddoedd yn dilyn dechrau pandemig COVID-19. Yn 2023/24 mae'r bwlch mewn cyrhaeddiad dros 12 mis ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac yn cynyddu wrth i ddysgwyr fynd yn hŷn.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 10: Darllen (Cymraeg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2023/24 rhwng dysgwyr sy'n gymwys (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Darllen (Cymraeg), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad dysgwyr nFSM llai cyrhaeddiad dysgwyr eFSM, mewn misoedd. Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod dysgwyr nFSM yn perfformio'n well na dysgwyr eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod dysgwyr eFSM yn perfformio'n well na dysgwyr nFSM.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Mae'r bwlch yn ehangu ar gyfer y grwpiau blwyddyn hŷn; yn 2023/24 mae'n 25 mis ar gyfer Blwyddyn 3, ar gyfer Blwyddyn 6 mae'n 29 mis ac mae’n 37 mis ar gyfer Blwyddyn 9.

Crynodeb

Yn 2023/24 ar gyfer Darllen (Cymraeg) roedd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer FSM oddeutu y lefelau a welwyd yn 2020/21. Roedd y bwlch o leiaf 24 mis ar gyfer pob grŵp oedran yn 2023/24.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 11: Darllen (Saesneg): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21 i 2023/24 rhwng dysgwyr cymwys (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Darllen (Saesneg), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad dysgwyr nFSM llai cyrhaeddiad dysgwyr eFSM mewn misoedd. Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod dysgwyr nFSM yn perfformio'n well na dysgwyr eFSM, ac mae'r bariau i'r chwith o sero yn dangos bod dysgwyr eFSM yn perfformio'n well na dysgwyr nFSM.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad dysgwyr eFSM.
  • Mae'r bwlch yn tyfu'n fwy ar gyfer y grwpiau blwyddyn hŷn; yn 2023/24 mae'n 12 mis ym Mlwyddyn 3, 25 mis ym Mlwyddyn 6 a 32 mis ym Mlwyddyn 9. Mae'r bwlch yn cynyddu'n raddol rhwng blynyddoedd 2 a 7 ac yna'n lleihau ym mlynyddoedd 8 a 9, fel y dangosir yn y data sylfaenol ar gyfer Ffigur 11.

Crynodeb

Ar gyfer Darllen (Saesneg), mae'r bwlch FSM yn amrywiol ar draws blynyddoedd academaidd ar gyfer pob grŵp blwyddyn, heb unrhyw duedd glir ohono yn cynyddu nac yn gostwng dros amser. Mae'r bwlch yn parhau i fod yn uwch na 12 mis ar gyfer pob grŵp blwyddyn, gan godi i 32 mis ar gyfer Blwyddyn 9 yn 2023/24.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 12: Rhifedd (Rhesymu): y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22 i 2023/24 rhwng dysgwyr sy'n gymwys (eFSM) ac nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad rhwng dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 ym mhob blwyddyn academaidd. Dangosir y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog fel cyrhaeddiad dysgwyr nFSM llai cyrhaeddiad dysgwyr eFSM, mewn misoedd. Mae'r bariau i'r dde o sero yn dangos bod dysgwyr nFSM yn perfformio'n well na dysgwyr eFSM, ac mae bariau i'r chwith o sero yn dangos bod dysgwyr eFSM yn perfformio'n well na dysgwyr nFSM.

Prif bwyntiau

  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn tyfu'n fwy ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn; yn 2023/24 mae’n 14 mis ym Mlwyddyn 3, 27 mis ym Mlwyddyn 6 a 27 mis ym Mlwyddyn 9.

Crynodeb

Mewn Rhifedd (Rhesymu) mae'r bwlch wedi cynyddu ychydig trwy'r blynyddoedd academaidd olynol hyd at 2023/24 ar gyfer Blwyddyn 3, er ei fod wedi gostwng ychydig ar gyfer Blwyddyn 6 a 9. Mae'r bwlch yn parhau i fod yn uwch na 12 mis ar gyfer pob grŵp blwyddyn.

Crynodeb: Gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 rhwng dysgwyr sy'n gymwys (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys (nFSM) ar gyfer prydau ysgol am ddim

Mae'r gwahaniaethau nodweddiadol o ran y bwlch mantais sydd wedi'u gweld yn eang ar draws llawer o astudiaethau ac sy'n cael eu hadlewyrchu yma gyda chyrhaeddiad dysgwyr cymwys am brydau ysgol am ddim yn sylweddol is na dysgwyr nad ydynt yn gymwys ar eu cyfer. Mae'r bylchau hyn yn amlwg ym Mlwyddyn 3 ac wedi tyfu ar draws yr holl asesiadau yn y blynyddoedd hyd at Flwyddyn 9.

Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl ethnigrwydd

Er mwyn archwilio effeithiau ethnigrwydd ar gyrhaeddiad, mabwysiadwyd dull tebyg i'r dadansoddiadau eraill o newidynnau demograffig mewn adrannau blaenorol o'r adroddiad hwn drwy gymharu grwpiau ethnig unigol yn erbyn grŵp ethnig cyfeirio. Ar gyfer dadansoddiad Ethnigrwydd dewiswyd Gwyn – Prydeinig 2022/23 fel y grŵp cyfeirio a'r flwyddyn. Roedd hyn oherwydd mai Gwyn – Prydeinig yw'r grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu llinell sylfaen sefydlog i gymharu grwpiau eraill. Dewiswyd blwyddyn academaidd 2022/23 gan mai hon oedd yr un a ddewiswyd ar gyfer dadansoddiadau eraill. Oherwydd mai nifer bach o ddysgwyr sydd mewn rhai grwpiau ethnig, mae data yng Nghymru yn cael eu crynhoi ar gyfer 19 o brif grwpiau ethnig yng Nghymru. Er mwyn ffocysu’r adran hon rydym yn cyflwyno dim ond y rhai a ddangosodd wahaniaeth ystadegol arwyddocaol o gymharu a dysgwyr Gwyn – Prydeinig. Mae pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn cynrychioli dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23, ac rydym hefyd yn dangos cyrhaeddiad "Gwyn - Prydeinig" mewn blynyddoedd academaidd eraill mewn perthynas â hyn. Gellir dod o hyd i'r set gyflawn o ddeilliannau yn ôl ethnigrwydd yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn.

Mae gwahaniaethau sy’n seiliedig ar 10 neu lai o achosion wedi'u hatal i ddiogelu cyfrinachedd data am ddysgwyr unigol. Yn y graffiau isod nodir gwerthoedd wedi’u hatal gyda symbol "S", ond yn y tablau data maent yn cael eu nodi gyda gwerth "-". Mae'r graffiau isod ond yn cynnwys grwpiau ethnig pan fo gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol mewn deilliannau rhwng y grwpiau ethnig hynny a’r grŵp 'Gwyn – Prydeinig'. Felly, mae’n bosibl y bydd grwpiau ethnig gwahanol yn cael eu dangos ym mhob siart. Pan na fo grŵp ethnig yn cael ei ddangos, yna nid oedd ei ddeilliannau yn ystadegol wahanol i ddeilliannau dysgwyr 'Gwyn - Prydeinig'.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 13: Rhifedd (Gweithdrefnol): Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr “Gwyn – Prydeinig” yn 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 13. Siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23. Mae gwahaniaethau cadarnhaol uwchlaw y pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn dangos bod y grŵp ethnig yn perfformio'n well na dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23, tra bod gwahaniaeth negyddol yn dangos bod y grŵp o ddysgwyr yn perfformio’n is na lefel y grŵp cyfeirio hwn.

Prif bwyntiau

  • Canfuwyd bod dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yn perfformio'n sylweddol is na lefel carfan 2022/23 o ddysgwyr Gwyn - Prydeinig.
  • Mae dysgwyr o’r grwpiau Unrhyw gefndir Asiaidd arall, Unrhyw gefndir Cymysg arall, Unrhyw gefndir Gwyn arall, Unrhyw gefndir ethnig arall, Bangladeshaidd, Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig, Indiaidd, Pacistanaidd, Ethnigrwydd anhysbys neu heb ei nodi, a dysgwyr Gwyn ac Asiaidd wedi perfformio yn sylweddol uwch na charfan 2022/23 o ddysgwyr Gwyn - Prydeinig ar draws yr holl flynyddoedd academaidd a ddangosir.
  • Dysgwyr Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig a dysgwyr Indiaidd sydd gan y lefelau cyrhaeddiad uchaf a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr sydd â'r lefelau cyrhaeddiad isaf ar draws yr holl asesiadau o gymharu â dysgwyr Gwyn - Prydeinig 2022/23.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 14: Darllen (Cymraeg): Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr “Gwyn – Prydeinig” yn 2022/23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 14. Siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Darllen (Cymraeg) rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23. Mae gwahaniaethau cadarnhaol uwchlaw y pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn dangos bod y grŵp ethnig yn perfformio'n well na dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23, tra bod gwahaniaeth negyddol yn dangos bod y grŵp o ddysgwyr yn perfformio’n is na lefel y grŵp cyfeirio hwn.

[Nodyn 1] mae “[c]” yn golygu mae’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw’n ddigon cadarn i’w gyhoeddi.

Prif bwyntiau

  • Perfformiodd dysgwyr yn y grwpiau Unrhyw Gefndir Ethnig arall, Caribïaidd a Sipsiwn yn is na lefel carfan 2022/23 o ddysgwyr Gwyn – Prydeinig.
  • Perfformiodd dysgwyr yn y grwpiau Unrhyw gefndir Gwyn arall, Ethnigrwydd anhysbys neu heb ei nodi, Gwyn - Prydeinig a Gwyn ac Asiaidd uwchlaw lefel carfan 2022/23 o ddysgwyr Gwyn – Prydeinig.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 15: Darllen (Saesneg): Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr “Gwyn – Prydeinig” yn 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 15. Siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Darllen (Saesneg) rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23. Mae gwahaniaethau cadarnhaol uwchlaw y pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn dangos bod y grŵp ethnig yn perfformio'n well na dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23, tra bod gwahaniaeth negyddol yn dangos bod y grŵp o ddysgwyr yn perfformio’n is na lefel y grŵp cyfeirio hwn.

Prif bwyntiau

  • Mae dysgwyr o’r grwpiau Unrhyw gefndir ethnig arall, Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gyd yn perfformio’n is na lefel carfan 2022/23 o "Ddysgwyr Gwyn – Prydeinig".
  • Perfformiodd y dysgwyr o’r grwpiau Unrhyw gefndir Cymysg arall, Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig, Indiaidd, Ethnigrwydd anhysbys neu heb ei nodi, Gwyn ac Asiaidd a Gwyn a Du Affricanaidd i gyd yn uwch na charfan 2022/23 o "Ddysgwyr Gwyn - Prydeinig".
  • Yn gyffredinol, dysgwyr Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig ac Indiaidd sydd â'r lefelau cyrhaeddiad uchaf a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr sydd â'r lefelau cyrhaeddiad isaf ar draws yr holl asesiad o gymharu â dysgwyr Gwyn - Prydeinig 2022/23.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 16: Rhifedd (Rhesymu): Gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19 i 2023/24 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr “Gwyn – Prydeinig” yn 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigur 16. Siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr "Gwyn - Prydeinig" yn 2022/23. Mae gwahaniaethau cadarnhaol uwchlaw y pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn dangos bod y grŵp ethnig yn perfformio'n well na dysgwyr "Gwyn – Prydeinig" yn 2022/23, tra bod gwahaniaeth negyddol yn dangos bod y grŵp o ddysgwyr yn perfformio’n is na lefel y grŵp cyfeirio hwn.

Prif bwyntiau

  • Mae dysgwyr o grwpiau Affricanaidd, Unrhyw Gefndir Ethnig Arall, Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Gwyn a Du Caribïaidd i gyd yn perfformio’n is na lefel carfan 2022/23 o "Ddysgwyr Gwyn - Prydeinig".
  • Mae dysgwyr o grwpiau Unrhyw gefndir Cymysg arall, Unrhyw gefndir Gwyn arall, Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig, Indiaidd a Gwyn ac Asiaidd i gyd yn perfformio uwchlaw lefel carfan 2022/23 o "Ddysgwyr Gwyn - Prydeinig".
Crynodeb o'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl ethnigrwydd
  • Yn gyffredinol, dysgwyr Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig a dysgwyr Indiaidd sydd â'r lefelau cyrhaeddiad uchaf a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr sydd â'r lefelau cyrhaeddiad isaf ar draws yr holl asesiadau o gymharu â dysgwyr Gwyn - Prydeinig 2022/23.

Rhagor o wybodaeth

Dyma'r trydydd datganiad ar ddarllen a rhifedd sy'n seiliedig ar ddata ar lefel genedlaethol o asesiadau personol. Y bwriad yw y bydd datganiadau pellach yn defnyddio data asesiadau personol yn cael eu gwneud.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Graddfeydd wedi’u diweddaru ar gyfer anhawster cwestiynau

Mae'r adroddiad hwn yn wahanol i ddatganiadau blaenorol gan ei fod yn seiliedig ar raddfa anhawster cwestiynau wedi'i diweddaru. Mae graddfeydd anhawster cwestiynau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i roi'r wybodaeth fwyaf cywir sydd ar gael i athrawon a dysgwyr. Wrth inni gasglu mwy o wybodaeth o'r asesiadau personol, bydd ein dealltwriaeth o allu grwpiau blwyddyn yn tyfu a gellir diweddaru anhawster eitemau i adlewyrchu'r wybodaeth newydd hon. Cyflwynwyd graddfa anhawster newydd yn 2023/24 i sicrhau bod yr amcangyfrifon anhawster ar gyfer pob cwestiwn asesu mor gyfredol ac mor gynrychioliadol â phosibl o'r boblogaeth o ddysgwyr yng Nghymru. Yn flaenorol, roedd eitemau yn cael eu graddnodi ar adeg cyflwyno pob asesiad, a oedd yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Er mwyn caniatáu cymhariaeth deg rhwng 2023/24, sy'n defnyddio'r raddfa newydd, a blynyddoedd eraill, rhaid cymhwyso'r raddfa newydd yn ôl-weithredol i'r holl flynyddoedd blaenorol. O ganlyniad, byddwn yn gweld rhai newidiadau yn y data cynnydd misoedd a ddangosir yn y siartiau ac mewn ychydig o achosion newid cyfeiriad i rai bariau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol yn yr adran Diweddaru'r raddfa anhawster eitemau yn yr atodiad technegol.

Isod mae crynodeb o'r newidiadau sy'n amlwg yn wahanol i ddatganiad Mehefin 2024 - Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2023 - o ganlyniad i gymhwyso graddfa anhawster wedi'i diweddaru. Mae'r daenlen gysylltiedig yn cynnwys graddfa'r newidiadau ar gyfer pob grŵp blwyddyn a'r newidiadau mewn bylchau rhwng gwrywod a benywod a dysgwyr FSM a nFSM. Mae'n werth nodi y bydd dysgwyr hŷn yn gyffredinol yn gwneud llai o gynnydd mewn termau absoliwt na dysgwyr iau. Felly, pan fydd y raddfa anhawster wedi'i diweddaru, bydd newidiadau i gynnydd misoedd a wnaed ar gyfer dysgwyr hŷn yn ymddangos yn fwy:

  • Rhifedd (Gweithdrefnol): gwelsom newid o gynnydd 9 mis ar gyfer Blwyddyn 9 rhwng y raddfa flaenorol a graddfa gyfredol 2023/24. Symudodd cyrhaeddiad yn 2018/19 o'i gymharu â 2022/23 o 2 fis yn is i 7 mis yn uwch.
  • Darllen (Cymraeg): Ar gyfer Blwyddyn 9, newidiodd cyrhaeddiad yn 2020/21 o'i gymharu â 2022/23 o 17 mis i 24 mis ar y raddfa newydd.
  • Darllen (Saesneg): Ar gyfer Blwyddyn 9, newidiodd cyrhaeddiad yn 2020/21 o'i gymharu â 2022/23 o 6 mis i 11 mis ar y raddfa newydd.
  • Rhifedd (Rhesymu): Ar gyfer Blwyddyn 6, newidiodd cyrhaeddiad yn 2020/21 o'i gymharu â 2022/23 o 10 mis yn is i 1 mis yn is o dan y raddfa newydd.

Mae'r tablau isod yn dangos y newidiadau i'r gwerthoedd cyrhaeddiad yn y datganiad hwn o gymharu â'r datganiad a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024.

Tabl 1: Gwahaniaeth o ran Cynnydd mewn Misoedd, Rhifedd (Gweithdrefnol), Pob Disgybl
Grŵp blwyddynBlwyddyn academaiddData cyhoeddwyd ym Mehefin 2024Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025Gwahaniaeth
32018/196.2 7.6 1.4 
62018/193.6 13.9 10.4 
92018/19-2.3 6.6 8.9 
32020/21-0.1 0.1 0.2 
62020/211.2 1.3 0.1 
92020/212.2 0.6 -1.6 
32021/22-0.2 -2.1 -1.9 
62021/220.7 -1.2 -2.0 
92021/221.3 -1.4 -2.7 
Tabl 2: Gwahaniaeth o ran Cynnydd mewn Misoedd, Darllen (Cymraeg), Pob Disgybl
Grŵp blwyddynBlwyddyn academaiddData cyhoeddwyd ym Mehefin 2024Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025Gwahaniaeth
32020/216.9 7.1 0.3 
62020/2110.5 12.5 1.9 
92020/2117.2 24.2 7.0 
32021/222.5 4.3 1.8 
62021/226.9 7.9 1.0 
92021/2212.4 11.9 -0.5 
Tabl 3: Gwahaniaeth o ran Cynnydd mewn Misoedd, Darllen (Saesneg), Pob Disgybl
Grŵp blwyddynBlwyddyn academaiddData cyhoeddwyd ym Mehefin 2024Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025Gwahaniaeth
32020/213.6 3.2 -0.5 
62020/212.0 5.6 3.6 
92020/215.6 11.1 5.5 
32021/223.3 3.0 -0.4 
62021/221.7 1.6 -0.1 
92021/224.7 4.2 -0.4 
Tabl 4: Gwahaniaeth o ran Cynnydd mewn Misoedd, Rhifedd (Rhesymu), Pob Disgybl
Grŵp blwyddynBlwyddyn academaiddData cyhoeddwyd ym Mehefin 2024Data cyhoeddwyd ym Mehefin 2025Gwahaniaeth
32021/22-2.0 -0.2 1.8 
62021/22-10.0 -1.1 8.9 
92021/22-4.3 0.6 5.0 

Datganiad am gymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod y gwaith o'u llunio.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u datblygu'n gyflym ac wedi’u cyhoeddi cyn gynted â
phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a
rhifedd ein dysgwyr iau, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws
(COVID-19). Nid yw wedi bod yn bosibl bodloni'r gofynion canlynol ar gyfer ystadegau swyddogol eto:

  • Ni fu cyfle eto i ymgysylltu â defnyddwyr nag ydynt yn gweithio yn y sector addysg i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o'r ystadegau hyn.

Ers cyhoeddi’r ystadegau hyn - Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2023 - ym mis Mehefin 2024 rydym wedi:

  • Ymgysylltu â defnyddwyr allweddol yn y sector addysg i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o'u hystadegau ac i sicrhau bod y cyflwyniad a'r sylwebaeth yn gwneud yr ystadegau'n ddefnyddiol ac yn hygyrch.
  • Ychwanegu dadansoddiad o gynnydd yn ôl cefndir ethnig yn unol a’n hymrwymiadau yn ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Rydym felly wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau yn y DU) yn wirfoddol fel a ganlyn:

Hygrededd

Mae'r data wedi cael eu tynnu o systemau gweithredol a'u rhoi mewn tablau gan gontractwyr allanol sydd â phrofiad helaeth o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth o'r fath, ac maent yn cynnwys ystadegwyr proffesiynol. Cafodd y datganiad ei gynhyrchu ar sail cyngor gan ystadegwyr sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Er nad yw cyhoeddi'r tablau hyn wedi'i gyhoeddi ymlaen llaw yn yr un modd ag ystadegau swyddogol, maent wedi cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi sefydlu proses lywodraethu drylwyr gyda'r contractwr i sicrhau bod y data'n cael eu rheoli a'u hadolygu'n ddiogel cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn deillio o'r asesiadau personol addasol ar lein a gyflawnir yn flynyddol gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Mae hyn wedi'i baru â data demograffig am ddysgwyr o'n cyfrifiad ysgolion blynyddol. Mae'r ddwy ffynhonnell yn deillio o ysgolion, ac yn cael eu dilysu'n helaeth yn yr ysgolion unigol a phan fyddwn yn derbyn y data. Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn. Cefnogir pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn gan ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r contractwr a'r ystadegwyr o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth.

Mae ein hoffer a'n prosesau casglu data wedi'u teilwra a'u mireinio i ddiwallu gofynion yr asesiadau hyn. Defnyddiwyd technegau a phecynnau ystadegol sefydledig a phrofedig i sicrhau bod y dadansoddiad yn un cadarn.

Sicrhawyd ansawdd yr holl ddata cyn eu cyhoeddi.  Mae'r dadansoddiad wedi'i wirio gan ddadansoddwyr annibynnol, ac mae'r holl allbynnau wedi mynd trwy sawl cam adolygu.

Gwerth

Erbyn haf 2024 aseswyd dysgwyr yng Nghymru am y drydedd blwyddyn mewn Rhifedd (Rhesymu), gan nodi'r pwynt lle roedd o leiaf tair blynedd o ddata ar gyfer pob un o'r pedwar maes sy'n cael eu hasesu. Roedd hyn yn darparu digon o ddata i allu cyflwyno darlun cenedlaethol cadarn. Rydym wedi cyhoeddi'r datganiad hwn cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19), yn enwedig ymhlith ein dysgwyr ieuengaf.

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet" hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae’r data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, ac mae’r daenlen hefyd yn cynnwys dalen eglurhaol sy’n rhestru pob tabl. Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn cael eu tynnu'n uniongyrchol o wybodaeth sydd ar gael i ysgolion, dysgwyr ac athrawon ar ôl cwblhau'r asesiadau ar-lein. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ddysgwyr, athrawon, ysgolion nac awdurdodau lleol.

Dyma'r trydydd datganiad o gyfres o ddatganiadau blynyddol ar ystadegau swyddogol sydd ar y gweill. Yn dilyn y datganiad hwn, byddwn yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol ar gynnwys, amseriad a hygyrchedd y datganiad hwn. Byddwn yn defnyddio'r adborth hwnnw i wella datganiadau dilynol.

Ansawdd

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum agwedd ar ansawdd, sef: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb.

Perthnasedd

Pwrpas asesiadau personol yw cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn darllen a rhifedd trwy roi adborth i ddysgwyr, ysgolion, rhieni a gofalwyr ar sgiliau a chynnydd. Ar lefel genedlaethol, gall data dienw o asesiadau personol hefyd ddarparu gwybodaeth am batrymau cyrhaeddiad a gwahaniaethau demograffig a allai helpu i gefnogi dealltwriaeth o dueddiadau addysgol yng Nghymru dros amser.

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r asesiadau personol ar-lein er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae'r broses yn cynnwys sawl cam awtomatig lle caiff y data eu dilysu a'u gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.

Mae rhagor o wybodaeth am natur a gweinyddiaeth yr asesiadau personol i'w gweld ar dudalennau asesiadau personol Cymru (Hwb) gwefan Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r canlyniadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd yr asesiadau a drafodir yn y datganiad hwn eu gwneud hyd at ddiwedd tymor haf 2024.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff gwybodaeth am y Datganiad Ystadegol hwn ei rhyddhau cyn i’r datganiad gael ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef.

Cymaroldeb

Mae'r asesiadau personol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr ac athrawon yng Nghymru ac ni ellir eu cymharu â data asesu ar gyfer gwledydd eraill e.e. Tasgau Asesu Safonol (TASau) yn Lloegr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron
y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
 
Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 50/2025