Neidio i'r prif gynnwy

Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at fasnach ryngwladol yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, mae’r DU wedi cychwyn ar drafodaethau ar nifer o’r Cytundeb Masnach Rydd (FTA) â’r UE, UDA, Japan, Awstralia a Seland Newydd. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu diogelu a’u hyrwyddo yn y trafodaethau hyn.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Y Senedd (ar SENEDD.CYMRU) yn craffu ar faterion masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru, ac mae’r Gweinidog yn aml yn bresennol i roi tystiolaeth.

Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

Mae’r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach, gan gyfeirio’n benodol at drafodaethau masnach Llywodraeth y DU wedi Brexit.

Rhwymedïau Masnach a Sefydliad Masnach y Byd (WTO)

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio â’r DU i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu hyrwyddo yn WTO, gan gynnwys y Pwyllgor Amaeth, Glanweithiol a Ffytolanweithiol (SPS) a’r Pwyllgor Rhwystrau Technegol Masnachu (TBT) dylanwadol, y bydd y DU nawr yn aelodau ohonyn nhw. Byddwn yn gweithio hefyd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n barod i ysgwyddo’r cyfrifoldebau adrodd, hysbysu ac eraill a ddaw gyda bod yn aelod o’r WTO.

Yn dilyn y cyfnod pontio, bydd y cyfrifoldeb am rwymedïau masnach h.y. taclo arferion masnachu rhyngwladol annheg, yn dychwelyd i’r DU.  Mae Llywodraeth y DU wrthi’n sefydlu Awdurdod Rhwymedïau Masnach (TRA) i wneud y gwaith hwn yn y dyfodol. Bydd gan Lywodraeth Cymru ei rhan o ran nodi a delio ag arferion masnachu annheg yng Nghymru.

Os oes gennych gwestiynau am berthynas newydd Llywodraeth Cymru â’r WTO neu am Rwymedïau Masnach, cysylltwch â tradepolicy@gov.wales.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch perthynas newydd Llywodraeth Cymru gyda’r WTO neu am y Rhwymedïau Masnach cysylltwch â contact@traderemedies.gov.uk.

Helpu busnesau Cymru i fasnachu

Mae Busnes Cymru’n gallu helpu busnesau Cymru i ddeall ac ehangu eu cyfleoedd i fasnachu dramor.

Ffôn: 03000 6 03000

Blaenoriaethau masnach Llywodraeth Cymru

Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y polisi masnach yw I’r DU drafod Cytundeb Masnach Rydd gyda’r UE, fydd yn sicrhau nad oes tariffau ac I leihau rhwystrau heblaw am dariffau ar fasnach gyda’n partner masnachu pwysicaf.

Rydym yn cefnogi ymdrechion I drafod Cytundebau Masnach Rydd gyda gwledydd eraill y tu hwnt I’r UE, ond yn credu na ddylai’r rhain danseilio ein safonau uchel presennol o ran yr amgylchedd a’r farchnad lafur (gan gynnwys safonau bwyd a safonau lles anifeiliaid) na’n hymrwymiad I fynd I’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn gweld na fydd manteision cael mwy o fasnach rydd gyda gweddill y byd yn gwneud yn iawn am y niwed I economi Cymru o lai o fynediad at farchnad yr UE.

Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau polisi masnach Llywodraeth Cymru I’w gweld yn y dogfennau canlynol:

Datganiad Ysgrifenedig: Trafodaethau Masnach gyda Japan, Awstralia a Seland Newydd
18 Mehefin 2020 Datganiad Cabinet Rhyngwladol a'r UE

Datganiad ysgrifenedig: Trafodaethau masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau
4 Mawrth 2020 Datganiad Cabinet Rhyngwladol a’r UE

Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o fandad negodi Llywodraeth y DU ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol 
28 Chwefror 2020 Datganiad Cabinet Rhyngwladol a'r UE

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru
20 Ionawr 2020 Polisi a strategaeth