Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion cynradd: Medi 2024 i Awst 2025
Data ar absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig gan ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol ar gyfer Medi 2024 i Awst 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Data presenoldeb ac absenoldeb mewn ysgolion cynradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru ar gyfer disgyblion 5 i 10 oed yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24 (o Fedi 2024 i Awst 2025).
Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â phresenoldeb disgyblion o oedran ysgol gorfodol (5-10 oed) mewn ysgolion canol, cynradd ac arbennig a gynhelir. Mae'r data yn deillio o'r ffurflenni statudol a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn Dilyn diwedd y flwyddyn academaidd 2023/24. Cafodd y gwaith o gasglu'r data hwn ei atal ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 ac nid oes data ar gael ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22.
Ers mis Medi 2020 rydym wedi bod yn casglu ac yn cyhoeddi data presenoldeb dyddiol gan ysgolion. Caiff y data hwn ei dynnu'n uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion (MIS) unwaith yr wythnos. Cesglir y data hwn fel gwybodaeth reoli ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i gytuno gydag ysgolion neu awdurdodau lleol. Felly, nid oes ganddo'r un lefel o sicrwydd ansawdd â'r data presenoldeb blynyddol a gynhwysir yn y datganiad hwn. Mae data wythnosol a blynyddol y ddau ar gael ar gyfer blwyddyn ysgol 2024/25, ond am y rhesymau uchod nid oes modd cymharu'n llwyr er bod canlyniadau cyffredinol ar gyfer blwyddyn academaidd lawn ar lefel Cymru yn gyson.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ffynonellau swyddogol data presenoldeb a chyngor ar ba un dylid eu defnyddio a phryd, gweler yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.
Ysgolion arbennig a gynhelir
Cesglir data ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir ar lefel ysgolion cyfanredol ac nid yw'r rhan fwyaf o'r data ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion ar gael i ddisgyblion yn yr ysgolion hyn. Bydd unrhyw ddata a ffigurau isod sy'n cynnwys ysgolion arbennig yn cael eu nodi felly. Os nad oes nodyn ar y sylw, yna dim ond ysgolion canol a cynradd a gynhelir fydd y data.
Prif bwyntiau
Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion oed ysgol gynradd wedi gostwng i 7.4% yn 2024/25 o’i gymharu a 7.9% yn 2023/24.
Collodd disgyblion oed ysgol gynradd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) 11.8% o sesiynau hanner diwrnod yn 2024/25 tra bod disgyblion oedran ysgol gynradd nad ydynt yn gymwys i gael PYD wedi colli 6.1% o sesiynau hanner diwrnod. Mae'r ddau ffigur wedi gostwng ers 2023/24; collodd disgyblion sy'n gymwys ar gyfer PYD 12.1% o sesiynau hanner diwrnod, o'i gymharu â 6.6% ar gyfer disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael PYD
Gan ddefnyddio'r trothwy 10%, roedd canran y disgyblion oed ysgol gynradd a oedd yn absennol yn gyson wedi gostwng o 24.7% i 21.8% rhwng 2023/24 a 2024/25.
Gan ddefnyddio y trothwy 10% roedd 44.7% canran y disgyblion oed ysgol cynradd sy’n gymwys i PYD yn absennol yn gyson yn 2024/25, o’i gymharu a 46.9% yn 2023/24. Yn 2024/25 roedd 16.0% o ddisgyblion nad oeddent yn gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson o’i gymharu a 18.8% yn 2023/24. Mae hyn yn ostyngiad o 2023/24 ar gyfer y ddau grŵp o ddisgyblion.
Absenoldeb cyffredinol
Ffigur 1: Canran y sesiynau hanner diwrnod yn absennol o'r ysgol gan ddisgyblion oed ysgol cynradd, 2013/14 i 2024/25
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos absenoldeb rhwng 2013/14 a 2024/25. Dangosir absenoldeb, absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb heb awdurdod. Bu cynnydd yn absenoldeb cyffredinol rhwng 2018/19 a 2022/23 yn dilyn pandemig COVID-19. Rhwng 2023/24 a 2024/25 bu gostyngiad ym mhob math o absenoldeb.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Cynradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion canol, cynradd ac arbennig)
[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22. Mae'r blynyddoedd lle mae data ar gael yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau.
Absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn
Ffigur 2: canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn yn 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25
Disgrifiad o Ffigur 2: Cyfres o fariau wedi'u pentyrru'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb ar draws pob grŵp blwyddyn yn dilyn pandemig COVID-19, gyda gostyngiad bach yn 2023/24. Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 1 yr absenoldeb uchaf yn 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25. Cawsant hefyd y cynnydd mwyaf mewn absenoldeb rhwng 2018/19 a 2022/23.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion canol a chynradd a gynhelir).
Absenoldeb yn ôl Prydau Ysgol am Ddim (PYD)
Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth
Bu newidiadau sylweddol yn ddiweddar yn y ddarpariaeth PYD yng Nghymru fel rhan o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg.
Ffigur 3: canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl cymhwysedd PYD yn 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25
Disgrifiad o Ffigur 3: Cyfres o fariau wedi'u pentyrru'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb i ddisgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys i gael PYD yn dilyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae'r absenoldeb cyffredinol ar gyfer y ddau grŵp wedi cynyddu rhwng 2018/19 a 2022/23. Fodd bynnag, mae hyn wedi gostwng ychydig rhwng 2022/23 a 2024/25.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Cynradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion cynradd a chanol)
Mae disgyblion sy'n gymwys ac nid yn gymwys ar gyfer PYD wedi gweld cynnydd mewn absenoldeb anawdurdodedig fel cyfran o'u habsenoldeb cyffredinol rhwng 2023/24 a 2024/25:
- 23.4% i 25.9% o'r holl absenoldebau i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD
- 35.8% i 37.9% o'r holl absenoldebau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD
Cymwys am PYD a grŵp blwyddyn
Ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd, dangosodd data a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2025 nad oedd y bwlch pwynt canran rhwng disgyblion cymwys ac anghymwys ar gyfer FSM yr un fath ar draws grwpiau blwyddyn. Nid oes ffigurau ysgolion uwchradd yn y cyhoeddiad hwn.
Ar gyfer disgyblion oed ysgol gynradd, nid yw'n ymddangos bod patrwm amlwg yn y bwlch pwynt canran rhwng disgyblion sy'n gymwys ac and ydynt yn gymwys ar draws grwpiau blwyddyn.
Ffigur 4: bwlch pwynt canran rhwng canrannau’r sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb disgyblion sy’n gymwys ac nad ydynt yn gymwys am PYD yn ôl grŵp blwyddyn yn 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25
Disgrifiad o ffigur 4: siart bar heb unrhyw berthynas rhwng y bwlch mewn absenoldeb rhwng disgyblion sy'n gymwys ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer PYD a grŵp blwyddyn yn 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol a chynradd a gynhelir)
Bu o gwmpas dyblu yn y bwlch rhwng disgyblion cymwys a ddim yn gymwys ar gyfer PYD ar draws pob grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2022/23. Rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y bwlch yn gyson rhwng 2.4 a 3.3 pwynt canran. Yn 2024/25 mae'r bwlch rhwng 5.5 a 6.0.
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r wybodaeth hon. Nid yw o reidrwydd yn wir, ar gyfer grŵp o ddisgyblion sy'n symud ymlaen trwy grwpiau blwyddyn yn y dyfodol, y bydd eu bwlch PYD yn ehangu i'r radd uchod. Mae'n bosibl bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar grwpiau blwyddyn yn wahanol.
Absenoldeb yn ôl nodweddion pellach
Absenoldeb yn ôl rhyw
Yn 2024/25 collodd disgyblion benywaidd 7.2% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd a chollodd disgyblion gwrywaidd 7.6% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd. Mae'r ddau ryw wedi gweld gostyngiad mewn absenoldeb rhwng 2023/24 a 2024/25.
Absenoldeb yn ôl cefndir ethnig
Mae pob grŵp ethnig wedi gweld gostyngiad mewn absenoldeb rhwng 2022/23 a 2024/25 yn dilyn y cynydd rhwng 2018/19 a 2022/23.
Yn 2024/25 disgyblion sy'n uniaethu fel Teithwyr oedd â'r gyfradd uchaf o absenoldeb (23.8%, i lawr o 26.3% yn 2023/24) tra bod gan ddisgyblion sy'n nodi eu bod yn Affricanaidd y gyfradd isaf o absenoldeb (3.9%, i lawr o 4.4% yn 2023/24).
Absenoldeb yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Yn 2024/25 cafodd 11.1% o sesiynau hanner diwrnod eu colli gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY o'i gymharu ag 6.9% heb ddarpariaeth AAA/ADY.
Absennol yn gyson
Nid yw'n ofynnol i bob disgybl fod yn yr ysgol ar gyfer yr un nifer o sesiynau. Cau ysgolion, symud ysgol, diwrnodau HMS, ac ati... yn achosion lle nad oes angen i ddisgybl fynychu'r ysgol o bosibl, tra bod disgyblion eraill yn dal i fod yn bresennol.
Yn hanesyddol, diffinnir absenoldeb cyson fel absenoldeb am 20% o'r nifer fwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Felly, os yw'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion fod yn yr ysgol am 378 sesiwn hanner diwrnod yn y flwyddyn, y trothwy ar gyfer absenoldeb cyson yw 76 sesiwn. Nid oes angen i'r sesiynau hyn fod yn barhaus er mwyn i ddisgybl gael ei ystyried yn absennol yn gyson.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi newid y trothwy swyddogol ar gyfer absenoldeb cyson i 10% o’r nifer mwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol.
Y trothwy 10% ar gyfer absenoldeb cyson ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn 2024/25 yw 38 sesiwn.
Mae'r ffigurau absenoldeb cyson yn y datganiad hwn yn defnyddio'r trothwy o 10% oni nodir yn benodol.
Ffigur 5: canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, 2013/14 i 2024/25 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5: siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion oedran ysgol gynradd sy'n absennol yn gyson wedi aros rhwng 11.8% a 13.0% rhwng 2013/14 a 2018/19. Yn dilyn pandemig y Coronafeirws, mae absenoldeb cyson (trothwy 10%) wedi bron dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 cyn disgyn ychydig rhwng 2022/23 a 2024/25 i 21.8%.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Cynradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion canol a chynradd a gynhelir)
[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22.Mae'r blynyddoedd lle mae data yn cael eu nodi gan y marcwyr cylchol ar y llinellau. Dangosir y cyfnod pandemig fel ardal lwyd yn y siart.
Absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn
Ffigur 6: canran y disgyblion yn absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25
Disgrifiad o ffigur 6: mae siart bar sy'n dangos canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25. Mae absenoldeb cyson wedi mwy na dyblu yn y rhan fwyaf o achosion rhwng 2018/19 a 2022/23, a wedi gostwng ychydig ar gyfer pob grwp blwyddyn rhwng 2022/23 a 2024/25.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Cynradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion canol a chanol a gynhelir)
Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 1 y cyfraddau uchaf o absenoldeb cyson, gyda 23.2% o ddisgyblion yn absennol yn gyson yn ystod 2024/25. Ar 2.3 gwaith ei ganran yn 2018/19, Blwyddyn 3 oedd â'r cynnydd cymharol uchaf mewn absenoldeb cyson yn dilyn pandemig COVID-19. Blwyddyn 3 sydd â'r gyfradd isaf o absenoldeb cyson dros 2024/25, gyda 20.5% o ddisgyblion yn absennol yn gyson.
Absennol yn gyson yn ôl Prydau Ysgol am Ddim
Yn 2024/25 mae canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys i gael PYD wedi disgyn o’r uchafbwynt yn 2022/23 ers i’r casgliad yma ddechrau. Yn 2024/25 mae'r bwlch rhwng absenoldeb cyson disgyblion sy'n gymwys i
Ffigur 7: Canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl cymhwysedd PYD, 2018/19, 2022/23, 2023/24 a 2024/25
Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar yn dangos bod canran yr absenoldeb cyson bron wedi dyblu ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD a mwy na dyblu ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys rhwng 2018/19 a 2022/23. Mae wedi gostwng ychydig rhwng 2022/23 a 2024/25.
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Cynradd 2024/25 (yn cynnwys ysgolion canol a chynradd a gynhelir)
Absennol yn gyson yn ôl nodweddion pellach
Absennol yn gyson yn ôl rhyw
Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion y ddau ryw ers pandemig COVID-19.
Rhwng 2023/24 a 2024/25, mae canran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson wedi gostwng o:
- 24.09% i 21.2% ar gyfer disgyblion oed ysgol gynradd fenywaidd
- 25.3% i 22.4% ar gyfer disgyblion oedran ysgol gynradd wrywaidd
Absennol yn gyson yn ôl cefndir ethnig
Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion o bob cefndir ethnig rhwng 2023/24 a 2024/25.
Yn 2024/25 y cefndir ethnig gyda'r canran isaf o absenoldeb cyson oedd Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd (ar 8.4%). Y cefndir ethnig â'r ganran uchaf o absenoldeb cyson oedd Teithwyr (ar 75.1%).
Absennol yn gyson yn ôl AAA/ADY
Roedd gostyngiad mewn absenoldeb cyson rhwng 2023/24 a 2024/25 ar gyfer disgyblion â phob lefel wahanol o ddarpariaeth AAA/ADY. Yn 2024/25 roedd 36.4% o ddisgyblion oed ysgol gynradd â darpariaeth AAA/ADY yn absennol yn gyson o'i gymharu â 20.4% heb ddarpariaeth AAA/ADY.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Diffiniadau
Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol
Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.
Ysgolion canol
3/4 i 16/18 oed.
Ysgolion uwchradd
11 i 16/18 oed.
Ysgolion arbennig
Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anghenion addysgol arbennig (AAA)
Mae gan berson ADY/AAA os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu ddarpariaeth addysgol arbennig. Bydd anghenion dysgwyr ag ADY yn cael eu nodi mewn cynlluniau datblygu unigol (CDU) sy'n gynlluniau statudol a grëwyd o dan y Ddeddf ADY. Efallai y bydd gan ddysgwyr ag AAA Gweithredu gan yr Ysgol, Gweithredu and yr Ysgol a Mwy neu Ddatganiad, a fydd yn dod i ben ym mis Awst 2025 pan fydd y system ADY wedi'i chwblhau.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion.
Ers mis Medi 2025, y system ADY yw’r unig fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY yng Nghymru. Bydd dysgwyr ag ADY yn cael eu hanghenion eu hadnabod mewn CDU a gynhelir naill ai gan ysgol neu awdurdod lleol.
Roedd gweithredu’r system ADY yn parhau o fis Medi 2021 hyd at fis Awst 2025. Gan fod y cyhoeddiad hwn yn cwmpasu’r flwyddyn academaidd 2024/25 (yn ogystal â blynyddoedd yn ôl i’r flwyddyn academaidd 2013/14), mae’n cynnwys gwybodaeth am ddysgwyr ag ADY neu AAA.
Mae dadansoddiad o'r data, ynghyd ag adborth gan awdurdodau lleol, yn awgrymu bod y gostyngiad mewn dysgwyr ADY/AAA dros y pedair blynedd diwethaf oherwydd adolygiad systematig gan ysgolion o'u cofrestrau a'u data ADY/AAA, yn barod ar gyfer ac wrth weithredu'r system ADY. Mae hyn yn cynnwys asesu anghenion unigol yn erbyn prawf ADY i bennu a oes ganddynt anhawster dysgu sylweddol sy’n gofyn am ddarpariaeth sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer pob dysgwr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro nifer y dysgwyr ag ADY ac yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y data’n adlewyrchiad cywir o’r niferoedd a’r categorïau o ddysgwyr ag ADY yng Nghymru. I gefnogi’r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r data a gasglwn am ddysgwyr ag ADY er mwyn gallu cefnogi dysgwyr ag ADY yn well a monitro a gwella’r system ADY.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021. Gall fod gan ddysgwr naill ai CDU a gynhelir gan ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.
Disgyblion â datganiad
Disgyblion y mae'r awdurdod yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer o dan Ran iv o Ddeddf Addysg 1996. Gall yr awdurdod lleol gyhoeddi datganiad ar ôl asesu anghenion plentyn.
Gweithredu gan yr Ysgol
Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.
Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.
Prydau ysgol am ddim
Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.
Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim
Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.
Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.
Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.
Mae'r dadansoddiad PYD yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.
Mathau o Absenoldeb
Mae pob absenoldeb (neu absenoldebau 'cyffredinol') yn cynnwys y rheini sydd wedi'u hawdurdodi a'r rheini sydd heb eu hawdurdodi:
- absenoldeb a ganiatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig arall o'r ysgol yw absenoldeb a awdurdodwyd; mae hyn yn cynnwys absenoldebau y rhoddwyd esboniad boddhaol drosto (ee salwch, profedigaeth deuluol neu achlysur crefyddol)
- absenoldeb na chaniatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig o'r ysgol yw absenoldeb anawdurdodedig; mae hyn yn cynnwys pob absenoldeb na roddwyd esboniad neu gyfiawnhad drosto
Lle bydd disgyblion yn dilyn gweithgareddau addysgol sydd wedi'u cymeradwyo ac sy'n cael eu goruchwylio ar safle arall (ee profiad gwaith neu ymweliadau addysgol), ystyrir eu bod yn bresennol yn yr ysgol.
Ffynonellau data swyddogol ar bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru
Cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19) gwnaethom gasglu a chyhoeddi data presenoldeb yn flynyddol. Casglwyd y set ddata flynyddol hon yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) ac fe'i dynodir yn Ystadegau Swyddogol Achrededig. Fel arfer cyhoeddwyd absenoldebau o ysgolion uwchradd ym mis Awst, absenoldeb o ysgolion cynradd ym mis Rhagfyr a dilynodd bwletin ychwanegol ar absenoldeb gan ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion ym mis Chwefror.
Cafodd y casgliadau data sy'n sail i'r datganiadau hyn eu hatal ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020. Nid oes data o'r casgliadau hyn ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 na 2021/22. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno'r canlyniadau o ailddechrau'r casgliadau blynyddol hyn o flwyddyn ysgol 2023/24 ymlaen.
Er mwyn llywio ein hymateb polisi i'r pandemig coronafeirws (COVID-19), dechreuom gasglu gwybodaeth reoli ddyddiol am bresenoldeb mewn ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen. Mae'r data hwn yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd gyda'r ysgolion ac nid yw'r data bob amser ar gael ar gyfer pob ysgol bob dydd. Nid yw'n Ystadegau Swyddogol Achrededig ac mae o ansawdd is na'r data blynyddol a gyflwynir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol edrych ar lefelau cyffredinol o absenoldeb a thueddiadau ar lefel Cymru ac edrych ar batrymau rhwng disgyblion â nodweddion gwahanol e.e. prydau ysgol am ddim. Mae presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir wedi cael ei gyhoeddi'n aml ers mis Medi 2020.
Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar bresenoldeb ysgol cyn ac yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd datganiad cryno ar bresenoldeb cyn ac yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn edrych ar y gwahaniaethau allweddol rhwng y casgliadau data blynyddol ac wythnosol ac mae gwybodaeth fanwl am y gwahaniaethau hynny i’w gweld yn y datganiad hwnnw.
Data presenoldeb ar gyfer blwyddyn ysgol 2024/25
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data presenoldeb sicr o ansawdd llawn i safonau Ystadegau Swyddogol Achrededig ar gyfer ysgolion cynradd ar gyfer blwyddyn ysgol 2024/25.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad wythnosol o'r wybodaeth reoli yn ystod blwyddyn ysgol 2024/25 gan arwain at orgyffwrdd yn y cyfnod amser a gwmpesir gan y ddau gasgliad. Ein cyngor yw y dylai defnyddwyr ddefnyddio'r data yn y datganiad hwn cyn belled ag y bo modd a dim ond cyfeirio at y data yn y datganiad wythnosol os na ellir dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen neu ei chynhyrchu o'r set ddata flynyddol hon.
| Grŵp blwyddyn | Data blynyddol | Gwybodaeth reoli wythnosol [nodyn 1] | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| 1 | 92.3 | 92.2 | 0.1 |
| 2 | 92.8 | 92.7 | 0.0 |
| 3 | 93 | 92.9 | 0.1 |
| 4 | 92.9 | 92.9 | 0.0 |
| 5 | 92.7 | 92.6 | 0.1 |
Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2024/25, Data Presenoldeb - Gwybodaeth Reoli
[Nodyn 1] Data o’r cyhoeddiad ar 5 Awst 2025.
Mae'r tabl yn dangos presenoldeb cyffredinol ar gyfer ysgolion uwchradd fesul grŵp blwyddyn rhwng Medi 2024 ac Awst 2025. Mae'n dangos bod y casgliadau blynyddol ac wythnosol yn cynhyrchu canlyniadau cyson dros bob grŵp blwyddyn.
Mae'r tabl uchod yn cadarnhau, ar lefel Cymru, bod y ddau gasgliad ar gyfer 2024/25 yn cynhyrchu canlyniadau cyson a rhesymol. Fodd bynnag, mae'n debygol, oherwydd y ffordd y mae'r data wythnosol yn cael eu casglu a'r diffyg dilysiad y byddai gwahaniaethau mwy a mwy arwyddocaol o dan lefel Cymru.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU).
Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.
Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Hygrededd
Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â phresenoldeb disgyblion o oedran ysgol orfodol (5 i 10 oed) mewn ysgolion canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir. Mae'r data yn deillio o'r ffurflenni statudol a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae'r ffurflenni wedi'u hawdurdodi a'u dilysu gan awdurdodau lleol.
Cafodd y gwaith o gasglu a dilysu data eu cynnal rhwng mis Medi a mis Tachwedd, gyda’r data fel arfer yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.
Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad i'r data yn ystod y prosesu wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau wedi'i gyfyngu i dderbynwyr cymwys yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegol y DU).
Ansawdd
Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) ac egwyddorion ansawdd ansawdd ar gyfer allbynnau ystadegol.
Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Caiff data ei gasglu gan awdurdodau lleol i ffurflen electronig a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrau yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata.
Mae pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.
Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â blwyddyn ysgol 2024/25 sy'n dechrau ddydd Gwener 1 Medi 2025 ac yn gorffen ar dydd Llun 22 o Orffennaf 2025.
Roedd DEWi ar gael i'w lanlwytho ffeiliau o 30 Mai 2025. Yna gofynnwyd i awdurdodau lleol ddilysu eu data o fewn cyfnod dilysu penodedig.
Gwerth
Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:
- cyngor i weinidogion
- i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru
- i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
- maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
- i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol
Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manwl ar StatsCymru hefyd yn cyd-fynd ag ef, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.
Mae data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, gyda'r daenlen hefyd yn cynnwys dalen clawr yn rhestru pob tabl. Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. At hynny, cyhoeddir ein holl allbynnau ystadegau ysgolion yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cymharedd
Lloegr
Statistics: school and pupil numbers (Yr Adran Addysg)
Yr Alban
Statistics and research (Llywodraeth yr Alban)
Gogledd Iwerddon
Education statistics (Yr Adran Addysg)
Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
