Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae dwy brif ran i’r adroddiad hwn:

  • ‘Presgripsiynau Meddygon Teulu’ sy’n eitemau a ragnodir gan feddygon teulu yng Nghymru neu ar eu rhan, ac sy’n cael eu dosbarthu yn y gymuned yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.
  • ‘Cymariaethau’r DU’ sy’n defnyddio data ychydig yn wahanol o’r enw  ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’. Eitemau yw’r rhain a ragnodir gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol yn y DU sy’n rhoi presgripsiynau, ac sydd wedyn yn cael eu dosbarthu gymuned yng Nghymru.

Data presgripsiynau meddygon teulu yw prif ffocws yr adroddiad hwn oherwydd ei fod yn dangos pa feddyginiaethau a chyfarpar sy’n cael eu rhagnodi mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru. Felly, argymhellir y dylai’r rhan fwyaf o ddarllenwyr ddefnyddio data presgripsiynau meddygon teulu ar gyfer eu dadansoddiadau.

Mae presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned yn ddata eilaidd, ond dylid eu defnyddio wrth wneud cymariaethau ar draws gwledydd y DU.

Mae ‘eitemau’ yn cyfeirio at bob cyffur neu gyfarpar gwahanol sydd wedi'u rhestru ar bresgripsiwn, waeth beth fo’u maint neu eu cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu dosbarthu sy'n cael eu cyfrif.

Nid yw eitemau a ragnodir ac a ddosberthir mewn ysbytai yn cael eu cyfrif yn y naill set data na’r llall, ond os oedd presgripsiwn wedi’i ysgrifennu gan feddyg ysbyty ac yna wedi ei ddosbarthu mewn fferyllfa gymunedol (h.y. fferyllfa stryd fawr), byddai’n cael ei gyfrif yn y ffynhonnell eilaidd o bresgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned.

Ceir cymhariaeth rhwng y ffynonellau yn Nhabl 1 a cheir manylion pellach yn yr adran Pa ddata ddylwn i eu defnyddio?

Prif bwyntiau

  • Cafodd 82.8 miliwn o eitemau eu rhagnodi gan feddygon teulu, a’u dosbarthu yn y gymuned yn 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 1.7 miliwn (2.1%) o eitemau ers 2020-21.
  • Mae’r tueddiad tymor hir yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr eitemau a ragnodir ac a ddosberthir dros amser ond mae’r cynnydd wedi arafu yn ystod blynyddoedd diweddar. Yn y cyfnod pum mlynedd mwyaf diweddar, cynyddodd nifer yr eitemau 3.7% o gymharu â chynnydd o 4.8% yn y cyfnod pum mlynedd blaenorol (2013-14 i 2017-18).
  • Roedd nifer y eitemau a ragnodwyd fesul pen o’r boblogaeth a oedd wedi cofrestru â  meddyg teulu yn 25.5 yn 2021-22. Mae hyn 0.5 eitem yn fwy na'r flwyddyn flaenorol.
  • Mae penodau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) sydd â’r nifer uchaf o eitemau a ragnodir gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosberthir yn y gymuned wedi parhau’r un fath yn y tair blynedd ddiwethaf. Eitemau yw’r rhain ar gyfer y system gardiofasgwlaidd, y brif system nerfol a'r system endocrin, a gyda’i gilydd maent yn cyfrif am 60% o’r holl eitemau. 
  • Yn dilyn cynnydd o fwy na 5% ddwy flynedd yn olynol, cynyddodd cyfanswm  costau net cynhwysion fymryn (0.3%) yn 2021-22, i £626.7 miliwn.
  • Mae gwahaniaethau rhwng nifer yr eitemau a ragnodir ac a ddosberthir a’u cost ar lefel bwrdd iechyd. Mae llai o eitemau fesul uned ragnodi yn cael eu rhagnodi gan feddygon teulu yng Nghaerdydd a'r Fro a'u dosbarthu yn y gymuned o'i gymharu ag unrhyw fwrdd iechyd arall, ond mae cyfran uwch o eitemau drutach yn cael eu rhagnodi nag yn unrhyw fwrdd iechyd arall.
  • Cafodd pum eitem arall eu rhagnodi fesul uned ragnodi yng Nghwm Taf Morgannwg o'i gymharu â Chaerdydd a'r Fro; ond roedd y gost fesul eitem yng Nghwm Taf Morgannwg ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.
  • Er bod y gwahaniaethau yn nifer yr eitemau a ragnodir yn ôl cwintel amddifadedd yn fach, roedd mwy o eitemau fesul pen ar bresgripsiwn yn y ddau gwintel â’r ganran fwyaf o'u poblogaethau yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (cwintelau 1 a 2) na chyfartaledd Cymru.
  • Gan ddefnyddio data ategol ar gyfer presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned, cafodd mwy o eitemau eu rhagnodi yng Nghymru fesul pen o’r boblogaeth nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU. Ond roedd cost cyfran uwch o'r eitemau a ddosbarthwyd yng Nghymru yn gymharol isel, gan mai gan Gymru yr oedd y gost net cynhwysion isaf, fesul eitem bresgripsiwn a ddosbarthwyd, o blith y pedair gwlad.

Presgripsiynau Meddygon Teulu

Image
Siart colofn a llinell yn dangos cost net cynhwysion (llinell) a chost y pen (colofn), ers 1973.

Presgripsiynu (StatsCymru)

Yn 2021-22 cafodd 82.8 miliwn (81,097,939) o eitemau eu rhagnodi gan feddygon teulu yng Nghymru a’u dosbarthu yn y gymuned, yr  uchaf a gofnodwyd erioed. Mae hyn yn cyfateb i 25.5 o eitemau fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cafodd ychydig dros 1.7 miliwn o eitemau yn fwy eu rhagnodi a'u dosbarthu yn y gymuned yn 2021-22 o'i gymharu â 2020-21, cynnydd o 2.1%. Mae hyn yn gynnydd o 0.5 o eitemau ( 25.0%) fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Mae tueddiad ar i fyny wedi bod dros y pum mlynedd diwethaf gyda 2.9 miliwn yn fwy o eitemau wedi'u rhagnodi a'u dosbarthu yn y gymuned yn 2021-22 nag yn 2017-18, cynnydd o 3.7%. Mae hyn yn gynnydd o 0.6 o eitemau ( 25.0%) fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Yn y cyfnod o 15 mlynedd ers cyflwyno presgripsiynau am ddim, cafodd bron i 21 miliwn o eitemau ychwanegol eu rhagnodi a'u dosbarthu yn y gymuned, cynnydd o 33.6%. Mae hyn yn gynnydd o 5.5 o eitemau (25.0%) fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Mae’r cynnydd ers i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno yn is na’r cynnydd o 27.7 miliwn (neu 80.8%) o eitemau a ragnodwyd yn y cyfnod blaenorol o 15 mlynedd (rhwng 1993-94 a 2007-08).

Image
Siart colofn a llinell yn dangos cost net cynhwysion (llinell) a chost y pen (colofn), ers 1973.

Presgripsiynu (StatsCymru)

Noder: Nid yw ffigurau a ddyfynnir ar gyfer cost net cynhwysion ar gyfer pob blwyddyn yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant. Ni ystyrir bod addasiadau safonol ar gyfer chwyddiant yn briodol gan fod prisiau cyffuriau’n amodol ar reolaethau dan y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol a rheolaethau canolog eraill.

Yn 2021-22, roedd cyfanswm cost net cynhwysion yr holl eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned bron yn £627 miliwn sy’n cyfateb i £193.12 fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cynyddodd cyfanswm costau net cynhwysion fwy na £2 miliwn neu 0.3% yn 2021-22 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru £0.09.

Bu tueddiad ar i fyny dros y pum mlynedd diwethaf wrth i gyfanswm costau net cynhwysion gynyddu ychydig dros £48 miliwn neu 8.3% yn 2021-22 o'i gymharu â 2017-18. Mae’r gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru wedi cynyddu £11.64.

Mae cyfanswm cost net cynhwysion wedi cynyddu ychydig dros £42 miliwn, neu 7.2% yn y cyfnod o 15 mlynedd ers i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno yng Nghymru. Mae’r gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru wedi cynyddu £4.25.

Mae'r cynnydd ers i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno yn llawer llai na'r cynnydd o ran cost net cynhwysion yn y cyfnod blaenorol o 15 mlynedd. Roedd y gost yn 2007-08 yn £352.7 miliwn (neu 152.2%) yn fwy na'r gost yn 1993-94.

Image
Siart yn dangos costau cymedrig a chanolrifol pob eitem bresgripsiwn a ragnodwyd (ac a weinyddwyd) yng Nghymru, y flwyddyn ddiweddaraf.

Gostyngodd y gost cymedrig fesul eitem bob blwyddyn rhwng 2003-04 a 2014-15, ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog ers hynny, gydag amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Yn 2021-22 roedd cost net gymedrig cynhwysion fesul eitem yn £7.57. Mae hyn yn £0.14 (neu 1.8%) yn is nag yn 2020-21 ac yn £1.86 (neu 19.7%) yn is nag yn 2007-08, pan gyflwynwyd presgripsiynau am ddim.

Roedd cost ganolfrifol yr eitem wedi bod ar i lawr ers Mawrth 2004, cyn cynyddu bob blwyddyn rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2021. Mae'r gostyngiad ym mis Mawrth 2022 gyda'r mwyaf ers cyflwyno presgripsiynau am ddim.

Cost ganolrifol yr eitem ym mis Mawrth 2022 oedd £1.64. Mae hyn yn £0.66 (neu 28.7%) yn is nag ym mis Mawrth 2021 a £0.99 (neu 37.6%) yn is nag ym mis Mawrth 2007, y mis olaf cyn i bresgripsiynau am ddim gael eu cyflwyno.

Sylwer bod y cymedr yn cael ei ddiffinio fel hyn: cyfanswm y gost net fesul eitem, wedi’i rannu â chyfanswm nifer yr eitemau presgripsiwn ar gyfer y flwyddyn galendr gyfan.

Diffinnir y canolrif fel: y swm canol pan fydd yr holl gostau fesul eitem yn cael eu rhestru o’r rhataf i'r drutaf; mae hanner yr holl gostau'n llai na neu'n hafal i'r swm hwn, ac mae'r hanner arall yn fwy na neu'n hafal i'r swm hwn.

Mae'r canolrif yn llawer llai na'r cymedr gan fod nifer cymharol isel o eitemau â chost net cynhwysion uchel iawn. Bydd yr eitemau cost uchel hyn yn cael mwy o effaith ar y cymedr na'r canolrif. Mae'r canolrif yn fwy priodol i'w ddefnyddio ar gyfer cost eitemau presgripsiwn mwy 'cyffredin’.

Dosbarthiadau therapiwtig

Image
Siart cylch yn dangos cyfran yr eitemau a ragnodwyd yn y 6 pennod BNF fwyaf.

Presgripsiynu (StatsCymru)

Roedd hanner yr holl eitemau a ragnodwyd yng Nghymru i drin cyflyrau’r system gardiofasgwlaidd neu’r brif system nerfol.

Cafodd 23.7 miliwn o eitemau eu rhagnodi i drin y system gardiofasgwlaidd, sy’n cyfateb i 7.8 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cafodd 17.4 miliwn o eitemau eu rhagnodi i drin y brif system nerfol, sy’n cyfateb i 5.4 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Image
Siart cylch yn dangos cyfran cost yr eitemau a ragnodwyd yn y 6 pennod BNF fwyaf.

Presgripsiynu (StatsCymru)

Er bod nifer yr eitemau a ragnodwyd i drin y system gardiofasgwlaidd a’r brif system nerfol yn cyfrif am hanner yr holl eitemau a ragnodwyd (Siart 4), roedd cost net cynhwysion (CNC) ar gyfer yr un dosbarthiadau yn cyfrif am draean (32.0%) yn unig o’r cyfanswm (Siart 5).

Dadansoddiad yn ôl bwrdd iechyd lleol

Mae Siart 6 yn dangos sut roedd nifer yr eitemau a ragnodwyd a chost net cynhwysion (CNC) yr eitemau hynny yn wahanol rhwng byrddau iechyd. I gyfrif am wahanol broffiliau oedran pob bwrdd iechyd, mae'r siart yn dangos eitemau a CNC fesul uned ragnodi. Cyfrifir unedau rhagnodi drwy roi mwy o bwysoliad (o ffactor o dri) i’r boblogaeth gofrestredig 65 oed neu hŷn. Gwneir hyn er mwyn ystyried anghenion uwch cleifion oedrannus am feddyginiaeth ac fel y gellir gwneud cymariaethau mwy ystyrlon rhwng byrddau iechyd. Efallai bod y gwahaniaethau sy’n weddill yn gysylltiedig â’r angen cymharol a’r diwylliant a’r arferion lleol.

Mae data cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn meddygfeydd yng Nghymru (StatsCymru) ar gyfer Hydref 2021 yn dangos bod 21% o'r cleifion yng Nghymru yn 65 oed neu'n hŷn. Roedd hyn yn amrywio rhwng y byrddau iechyd, gyda chanran cymharol uwch o bobl hŷn ym Mhowys (27%), Hywel Dda (25%), a Betsi Cadwaladr (23%); yr un ganran ym Mae Abertawe (21%); a chanran gymharol lai Aneurin Bevan (20%), Cwm Taf Morgannwg (20%) a Chaerdydd a'r Fro (16%).

Image
Siart bar yn dangos nifer yr eitemau fesul Bwrdd Iechyd Lleol a Chymru.
Image
Siart bar yn dangos cost net cynhwysion fesul eitem fesul Bwrdd Iechyd Lleol a Chymru.
Image
Siart bar yn dangos chost gymedrig yr eitem yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol a Chymru.

Yn 2021-20, cafodd 18.0 eitem eu rhagnodi am bob uned ragnodi yng Nghymru, gyda chost net cynhwysion gysylltiedig o £136.11 a chost fesul eitem o £7.57.

Roedd amrywiadau mawr rhwng byrddau iechyd, gyda 25% yn llai o eitemau wedi'u rhagnodi ar gyfer pob uned ragnodi yng Nghaerdydd a'r Fro o'i gymharu â Chwm Taf Morgannwg. Roedd y gost net cynhwysion hefyd £26.60 yn is fesul uned ragnodi yng Nghaerdydd a'r Fro o'i gymharu â Chwm Taf Morgannwg; ond Caerdydd a'r Fro oedd â'r gost uchaf am bob eitem, fesul uned ragnodi, o’r holl fyrddau iechyd, tra bod y gost fesul eitem yng Nghwm Taf Morgannwg ychydig yn is na ffigur Cymru.

Mae'r data hyn yn adlewyrchu'r gwahanol fathau o eitemau, a faint ohonynt a ragnodir mewn gwahanol ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru.

Rhagnodi yn ôl amddifadedd clwstwr

Gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a data poblogaeth practisau meddygon teulu (StatsCymru) mae modd cyfrifo mesur bras o amddifadedd ar lefel practis cyffredinol a chlwstwr/cydweithrediad meddygon teulu.

Mae siartiau 9 a 10 yn crynhoi data presgripsiynau yn ôl amddifadedd clwstwr, gan ddefnyddio'r mesur amddifadedd ar gyfer canran y cleifion sydd wedi'u cofrestru â phractisau ac sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o ardaloedd MALlC 2019. Mae'r 64 clwstwr yn cael eu rhestru o'r rhai sydd â’r amdifadedd mwyaf i’r rhai sydd â’r amddifadedd lleiaf ac maent wedi’u rhannu’n gwintelau o faint cyfartal. Mae'r cwintel (cwintel 1) â’r amddifadedd mwyaf yn cynnwys y 13 clwstwr y mae’r ganran uchaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r cwintel â’r amddifadedd lleiaf yn cynnwys y 13 clwstwry mae’r ganran isaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae manylion llawn y fethodoleg a ddefnyddir ar gael yn yr erthygl ystadegol Poblogaeth a gweithlu clwstwr practisau cyffredinol a gofal sylfaenol yn ôl amddifadedd: ar 31 Rhagfyr 2021.

Image
Mae siart 9 yn dangos y nifer cyfartalog o eitemau a ragnodir fesul person sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu ar gyfer pob un o'r cwintilau amddifadedd clwstwr yn 2021-22. Cafodd bron i 2 yn fwy o eitemau presgripsiwn y pen o'r boblogaeth eu rhagnodi yn y cwintelau mwyaf difreintiedig nag yn y cwintelau lleiaf difreintiedig.

Crynodeb o eitemau presgripiswn a chost net cynhwysion yn ôl cwintel amddifadedd clystyrau (StatsCymru)

Image
Mae siart 10 yn dangos y gost gyfartalog fesul eitem a ragnodir fesul person sydd wedi'i gofrestru gyda meddyg teulu ar gyfer pob un o'r cwintilau amddifadedd clwstwr yn 2021-22. Dim ond ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y gost net cynhwysion fesul eitem rhwng y cwintelau amddifadedd.

Crynodeb o eitemau presgripiswn a chost net cynhwysion yn ôl cwintel amddifadedd clystyrau (StatsCymru)

Roedd gwahaniaethau bach yn nifer yr eitemau a ragnodir a'u cost wrth gymharu cwintelau amddifadedd clystyrau.

Cafodd 1.8 (neu 7.2%) yn fwy o eitemau presgripsiwn fesul pen o'r boblogaeth eu rhagnodi yn y cwintel mwyaf difreintiedig nag yn y cwintel lleiaf difreintiedig.

Nid yw'r data'n dangos perthynas gwbl linellol rhwng amddifadedd a nifer yr eitemau a ragnodir fesul pen o'r boblogaeth. Fodd bynnag, roedd mwy o eitemau y pen wedi eu rhagnodi yn y ddau gwintel y mae’r ganran fwyaf o'u poblogaethau yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (cwintelau 1 a 2) na chyfartaledd Cymru. Mae'r data hefyd yn dangos nifer ychydig yn is o eitemau yn cael eu rhagnodi fesul pen yn y ddau gwintel y mae’r  ganran leiaf o'u poblogaethau yn byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru (cwintelau 4 a 5) na chyfartaledd Cymru.

Dim ond ychydig o wahaniaeth oedd rhwng y gost net cynhwysion fesul eitem rhwng y cwintelau amddifadedd ac roedd yn £0.16 (neu 2.2%) yn is yn y cwintel mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r cwintel lleiaf difreintiedig.

Er bod y gwahaniaethau rhwng grwpiau amddifadedd yn fach, roedd cost net cynhwysion fesul eitem yn codi wrth i lefel yr amddifadedd ostwng rhwng cwintelau 1 a 4.

Y 25 eitem fwyaf cyffredin a ragnodir

Image
Siart bar yn dangos y 25 eitem uchaf a ragnodwyd yng Nghymru yn 2021-22 (mewn trefn ddisgynnol).

Atorvastatin (cyffur sy’n rheoli lipidau) oedd yr eitem a ragnodwyd fwyaf yn 2021-22, a chafodd ei ragnodi fwy na 3.2 miliwn o weithiau (200,000), sef cynnydd o 6.6 (neu 5.1%) ers 2019-20.

Roedd naw o'r deg eitem a ragnodwyd fwyaf yn 2021-22 hefyd yn y deg eitem a ragnodwyd amlaf yn 2020-21. 

Mae data ar gyfer cyffuriau neu offer unigol a ragnodir yn chwiliadwy drwy ein dangosfwrdd data rhyngweithiol.

Cymariaethau â'r DU

Mae Siartiau 8 i 10 yn cymharu nifer yr eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd, fesul pen o’r boblogaeth, y CNC fesul pen o’r boblogaeth a’r gost fesul eitem bresgripsiwn ar draws pedair gwlad y DU.

Mae’r data presgripsiwn ar gyfer y siartiau hyn yn seiliedig ar bresgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned, yn hytrach na phresgripsiynau a roddwyd gan feddygon teulu sy’n golygu y bydd ffigurau ar gyfer Cymru yn wahanol i’r rhai a gyflwynwyd yn siartiau eraill y datganiad. Er bod polisïau rhagnodi yn wahanol ar draws gwledydd, gellir defnyddio data am bresgripsiynau a ddosbarthwyd i wneud cymariaethau eang ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Er mwyn cael cysondeb mewn data poblogaethau ar draws pob gwlad, defnyddir amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr adran hon, yn hytrach na nifer y bobl sydd wedi cofrestru â phractis meddygon teulu. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y nodyn ansawdd am amcangyfrifon canol blwyddyn.

Nodwch fod y data diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr yn cyfeirio at 2021-22, ar gyfer yr Alban mae’n cyfeirio at 2020-21 ac ar gyfer Gogledd Iwerddon mae’n cyfeirio at flwyddyn galendr 2021.

Image
Siart colofn yn dangos yr eitemau a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Image
Siart colofn yn dangos cost cynhwysion net eitemau a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Image
Siart colofn yn dangos cost net cynhwysion am bob eitem a weinyddwyd am bob pen o'r boblogaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cafodd mwy o eitemau presgripsiwn fesul pen o'r boblogaeth eu dosbarthu yng Nghymru nag yn unhyw un o wledydd eraill y DU. Fodd bynnag, y gost net cynhwysion oedd yr ail isaf o’r holl wledydd a'r gost fesul eitem presgripsiwn oedd yr isaf o'r holl wledydd.

Mae hyn yn awgrymu bod cyfran uwch o eitemau am bris is yn cael eu dosbarthu yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd ategol.

Cyn 2019, roedd data presgripsiynau wedi’u cyhoeddi mewn dau ddatganiad ystadegol ar wahân, Presgripsiynau gan Feddygon Teulu a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2018 a Dosbarthu Presgripsiynau yn y Gymuned a gyhoeddwyd ddiwethaf ar 23 Mai 2018.

Nod cyfuno dwy set ddata mewn un datganiad a rhoi mwy o wybodaeth gyd-destunol yw rhoi dadansoddiad clir o bresgripsiynau yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG yn cyhoeddi data ar bresgripsiynau meddygon teulu bob mis hefyd, yn seiliedig ar yr un data a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn.

Cyhoeddir adnodd data rhyngweithiol sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am ddata ar benodau, adrannau ac is-baragraffau’r BNF, yn seiliedig ar bresgripsiynau meddygon teulu ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Cyhoeddwyd y data hyn yn flaenorol mewn ffeiliau Excel gan ddefnyddio data presgripsiynau a roddwyd yn y gymuned yn unig.

Cyhoeddir data ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar wefan y wlad berthnasol.

Data ar gyfer gwledydd eraill:

Dadansoddiad o Gostau Presgripsiwn: Lloegr 2021/22 (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG)

Taliadau gweinyddwyr a dadansoddiad costau presgripsiwn: Blwyddyn ariannol 2020/21 (Iechyd Cyhoeddus yr Alban)

Dadansoddiad Costau Presgripsiwn (Sefydliad Gwasanaethau Busnes, Gogledd Iwerddon)

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 ym mis Tachwedd 2022. Bydd y rhain wedi’u seilio ar ddata Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ailsylfaenu’r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 yn y gwanwyn yn 2023 felly bydd y data yn y tabl hwn yn cael eu diwygio pan fydd yr amcangyfrifon wedi’u hailsylfaenu ar gael. Dylid felly ymdrin â’r data gyda gofal a’u hystyried yn ddata dros dro.

Mae data ategol ar weithlu practisau cyffredinol, poblogaethau practisau cyffredinol, amddifadedd ar lefel practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cael eu cyhoeddi gan lywodraeth Cymru.

Pa ddata ddylwn i eu defnyddio?

Tabl 1: Cymharu eitemau sy'n cael eu rhagnodi gan feddygon teulu yng Nghymru a'u dosbarthu yn y gymuned; ac eitemau a ragnodir unrhyw le yn y DU a'u dosbarthu yn y gymuned yng Nghymru, 2021-22
  Eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu (miloedd) Eitemau a weinyddwyd yn y gymuned (miloedd) Gwahaniaeth (miloedd)
Y System Gastroberfeddol 7,683.3 7,716.7 -33.4
Y System Gardiofasgwlaidd 23,702.1 23,730.0 -27.9
Y System Anadlol 6,054.1 6,073.9 -19.8
Y System Nerfol Ganolog 17,389.0 17,666.9 -277.8
Heintiau 2,282.3 2,540.4 -258.1
Y System Endocrin 8,414.4 8,450.1 -35.7
Obstetreg, Gynaecoleg + Anhwylderau’r Llwybr Wrinol 2,109.6 2,121.4 -11.8
Clefydau Malaen a Gwrthimiwnedd 423.9 449.8 -25.8
Maeth a’r Gwaed 4,508.0 4,578.2 -70.3
Clefydau’r Cymalau a Chyhyrysgerbydol 2,323.6 2,349.7 -26.1
Y Llygad 1,160.5 1,202.7 -42.2
Y Clustiau, Y Trwyn a’r Oroffaryncs 955.7 990.2 -34.5
Y Croen 1,862.8 1,910.5 -47.8
Cynnyrch a Brechiadau Imiwnolegol 798.6 798.6 0.0
Anesthesia 95.6 97.8 -2.2
Cyffuriau a Pharatoadau Eraill 71.0 68.6 2.5
Gorchuddion 353.5 260.7 92.7
Cyfarpar  2,205.1 2,165.9 39.2
Cyfarpar anymataliaeth 98.8 53.0 45.8
Cyfarpar stoma 345.5 187.1 158.4
Cyfanswm 82,837.5 83,412.3 -574.8

Mae Tabl 1 yn dangos cymhariaeth rhwng y ddwy ffynhonnell o ddata presgripsiynau. Yn gyffredinol, wrth ddadansoddi data presgripsiynau ar gyfer Cymru, dylid defnyddio presgripsiynau meddygon teulu fel y brif ffynhonnell. Y rheswm am hyn yw bod y data’n dangos beth sy’n cael ei ragnodi i bobl sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru a chaiff y gweithgarwch hwn ei fonitro a’i lywio gan fyrddau iechyd. Mae’r data hyn yn cynnwys eitemau sy’n cael eu rhagnodi yng Nghymru gan feddygon teulu a rhagnodwyr anfeddygol sydd wedi rhagnodi ar ran y practis meddyg teulu.

Dylid defnyddio ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ at ddibenion mwy penodol lle mae gan ddefnyddwyr ddiddordeb dim ond yn yr eitemau a ddosberthir yng Nghymru yn benodol, ac os yw cymariaethau uniongyrchol yn cael eu gwneud rhwng gwahanol wledydd y DU. Er bod nifer yr eitemau a ragnodir gan feddygon teulu yn agos at nifer yr eitemau a ragnodir ac a ddosberthir yng Nghymru yn gyffredinol, nid yw’r nifer yn cyfateb yn llwyr am nifer o resymau gan gynnwys:

  • mae presgripsiynau sy’n cael eu hysgrifennu yng Nghymru ond sy’n cael eu dosbarthu mewn man arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) yn cael eu cyfrif mewn presgripsiynau meddygon teulu ond nid mewn ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ . Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer eitemau arbenigol fel stomas a chyfarpar anymataliaeth a ddosberthir yn aml gan gontractwyr offer yn hytrach na fferyllfeydd, ac mae llawer ohonynt y tu allan i Gymru.
  • nid yw presgripsiynau sy’n cael eu hysgrifennu mewn gwlad arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) ond sy’n cael eu dosbarthu yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn presgripsiynau meddygon teulu, ond maent yn cael eu cynnwys mewn ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’
  • ni fydd pobl sydd wedi cael apwyntiad ysbyty ac y mae eu heitemau presgripsiwn yn cael eu dosbarthu yn eu fferyllfa gymunedol leol yn hytrach na fferyllfa’r ysbyty yn cael eu cynnwys mewn presgripsiynau meddygon teulu, ond byddant yn cael eu cynnwys mewn ‘presgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’

Nodwch fod ‘presgripsiynau meddygon teulu’ a ‘phresgripsiynau a ddosberthir yn y gymuned’ yn cynnwys presgripsiynau a roddir gan feddygon, contractwyr cyfarpar a fferyllfeydd cymunedol (stryd fawr). Nid yw’r naill ffynhonnell na’r llall yn cynnwys data ar gyfer eitemau a ragnodir ac a ddosberthir mewn ysbytai. Nodwch hefyd nad yw costau net cynhwysion yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant.

Effaith COVID-19

Mae’r data diweddaraf ar gyfer Cymru yn cynnwys y flwyddyn ariannol yn cychwyn ym mis Ebrill 2021 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2022, sy’n cyd-fynd yn llawn â phandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw'r pandemig yn cael fawr o effaith ar y ffordd y casglwyd data gan nad oedd y broses weinyddol o ragnodi a dosbarthu eitemau yn newid. Efallai bod rhywfaint o effaith oherwydd bod cleifion yn rhyngweithio â meddygon teulu mewn ffordd wahanol ers y pandemig, gyda mwy o ymgynghori dros y ffôn ac yn rhithwir, ond mae’r data ar gyfer nifer yr eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu ac a ddosbarthwyd yn y gymuned yng Nghymru yn 2021-22, yn cyd-fynd â thueddiadau diweddar.

Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth

Mae data a ddefnyddir ar gyfer cymariaethau'r DU yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Bydd yr ONS yn cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yn Nhachwedd 2022, a bydd y rhain yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021. Bydd yr ONS yn ail-leoli amcangyfrifon canol y flwyddyn ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 yng ngwanwyn 2023, felly bydd effaith ar y y data yn y siartiau hyn pan fydd yr amcangyfrifon ar yr ail sail ar gael. Felly, dylid trin y data'n ofalus a'u hystyried yn rhai dros dro.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â’r naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr adroddiad ar Lesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 190/2022