Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch beth i'w wneud os yw rhywun mewn perygl o briodas dan orfod.

Ystyr priodas dan orfod yw bod y dioddefwyr yn wynebu pwysau corfforol, emosiynol neu seicolegol i briodi. Er enghraifft, bygythiadau, trais corfforol neu drais rhywiol neu peri iddyn nhw deimlo eu bod yn dwyn gwarth ar eu teulu.

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu fod yr unigolyn mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd iddynt.

Mae trais ar sail anrhydedd a priodas dan orfod yn droseddau. Yn y DU mae'r canlynol yn erbyn y gyfraith:

  • rhoi pwysau ar rywun neu gorfodi rhywun i briodi
  • mynd â rhywun dramor i'w gorfodi nhw i briodi
  • priodi pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i gydsynio i briodas.

Yr Uned Priodasau dan Orfod

Mae'r Uned Priodasau dan Orfod (yr Uned) yn gweithredu llinell gymorth i'r cyhoedd i ddarparu cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr priodasau dan orfod yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol sy'n ymdrin ag achosion o'r fath. Mae'r cymorth a gynigir yn amrywio o gyngor syml ar ddiogelwch i helpu dioddefwr i rwystro eu priod dieisiau rhag symud i'r DU (achosion 'noddwr anfodlon') ac, mewn amgylchiadau eithafol, hyd at achub dioddefwyr sy'n cael eu cadw yn erbyn eu hewyllys dramor.

Mae'r Uned yn croesawu ymholiadau gan ymarferwyr rheng flaen sy'n ymdrin ag achosion o briodas dan orfod ar unrhyw gam mewn achos. Gall yr Uned gynnig gwybodaeth a chyngor ar yr offer amrywiol sydd ar gael i ymladd priodas dan orfod, gan gynnwys: rhwymedïau cyfreithiol, cymorth dramor a sut i ymdrin â dioddefwyr.

I gael cyngor a chymorth, os ydych chi neu rhywun yr ydych yn ei hadnabod mewn perygl o briodas dan orfod, ffoniwch Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu anfonwch e-bost i gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru.

Dioddefwyr a gludwyd dramor

I helpu'r rhai sydd eisoes wedi cael eu cludo dramor, gallwch alw Llysgenhadaeth neu Uchel Gomisiwn Prydain yn y wlad y cludwyd nhw iddi. Byddan nhw'n gweithio gyda'r Uned Priodasau dan Orfod i geisio dod â'r unigolyn adref yn ddiogel.

Ewch i GOV.UK i ganfod Llysgenhadaeth Brydeinig dramor.

Rhoi cyngor i ddioddefwyr

Mae'n bwysig fod pob gweithiwr proffesiynol yn gallu atgyfeirio dioddefwyr yn briodol a'u bod yn gallu cynnig cyngor am ddiogelwch ar unwaith i'w cleientiaid. Mae hyn yn sail i lunio cynllun diogelwch mwy manwl a allai gynnwys y canlynol:

  • Sicrhau bod y cleient yn gwybod y dylai ffonio 999 mewn argyfwng.
  • Cadw manylion gwasanaethau arbenigol lleol a llinell gymorth Byw Heb Ofn wrth law i'w rhannu â chleientiaid.
  • Cynghori cleientiaid i geisio cadw ei ffôn symudol wrth law bob amser.
  • Annog cleientiaid i gysylltu â gwasanaethau a all eu helpu nhw a'u plant.
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau amlasiantaethol fel y Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg lleol neu'r Ganolfan Diogelu Amlasiantaeth (MASH).

Hyfforddiant

Gall y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ddarparu hyfforddiant o ran:

  • dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr
  • cyfathrebu'n sensitif â dioddefwyr.